Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. Bwriada Bedyddwyr y Groes, Rhiwabon, godl capel newydd a dau annedd,d, ar draul o I,OOOp. Mabwysiadwyd amcangyfrifon yn gosod y dreth yn 1 Jc. y bunt gan Fwrdd Ysgol Caernarfon ddydd LInn. Caed 112]1. o clw oddi wrtb Arddangosfa Amaethyddol Meirion, a gynnaliwyd yn Nhowyn, yr haf diweddaf. Bydd yn dda gan gyfeillion y Cadben Stewart, o Y stad y Faenol, ddeall ei fod yn awr yn gwella, ar ol ei hir gystudd. Ymddiswydda y Parch. Alan Peskett o fugeil- iaeth eglwys A Iiiiibynwvl- l'enybryn, G wrecsam, ar ol gweinyddu yno am saitli nilynedd. Bydd Cymdeithasfa Chwarterol nesaf y Method- istiaid Callinaidd yn Ngngledd Cymru yn cael ei chynnal yn Nghaergybi, Ebrill 11 eg hyd y 13eg, Hysbysir am farwolaeth Mrs. Hughes, gweddw y diweddar Eseob Hughes, yr hyn a gymmerodd le yn ei chartief, yn Malvern, yr wythnos ddi weddaf. Y mae eglwys v Methodistiaid Calfinaidd yn Brynaerau, ger Caernarfon, wedi anfon galwad I r Parch. J. D. Evans, eglwys Falinc-iiti Road, Llundain. Cynnaliwyd cyngherdd blynyddol Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol Beaumaris yn y dref hono, nos Fawrth. Llywyddid gan Syr R. H, Williams Bulkelcy, Bar. Golchwyd coiph merch i'r lan yn Llandiillo yn Rhos, ddydd lau. Nid oedd unrhyw olion If yr. nigrwydd ar y corph. Nid oes neb yn awr yn gwybod pwy ydyw y wraig. Rhoddodd Cymdeithas y Beibhu i fyny yn y Bala dabl i nodi y t yn yr hwn yr cedd Mr. Charles yn byw yr adeg y sefydlwyd y gymdeith- as. Mae yr argraph arno yn Gymraeg a Saes neg. Bu y Parch. John Williams, Prince's Road, Liverpool, yn traddodi dwlith yn nghapel y Methodistiaid Caltinaidd yn Rehoboth, Llandud. no, nos Fercher, ar 'Y diweddar Barch. Dr. John Hughes, Caernarfon.' Penderfynodd Cynghor Dosbarth Dinesig Aber maw wneyd cais at Gwmni Ffordd Haiarn y Cambrian i gario allan y gwelliantau oedd wedi cael en haddaw ganddynt yn ngorsaf y ffordd haiarn yn y dref hoiio. Llwyddodd brodyr, neu yn hytrach, chwiorydd Gorphwyefa (W.), Tregarth, gyda'r sale of work. Ennillasant tros ddeugain pnnt o clw clir. Y mae yr eglwys uchod yn bwriadn adeiladu ty i weinidog, neu gael ystafell newydd yngtyn a'r capel, gan ei fod yn ddi ddyled. Bu y Parch. Robert Jones, Patagonia (gynt o'r Tryddyn, Fflint), am fisoedd yn analiuog i ddilyn ei waith fel gweinidog o horwydd afiechyd. Yn 01 yjnewyddion diweddaf o'r Wladfa, yr oedd yn gwella yn rhagorol, ac wedi ail ddechreu ymaflyd yn ei waith. Yn llys yr ynadon yn Nghonwy, ddydd Mer- cher, cyhuddid dyn o'r enw Thomas Hankey, Prescot, gan y Gymdeithas er Attal Creulondeb at Blant, o esgeuluso ei wraig, a'i bum plentyn, y rhai oedd yn byw yn y Gyffin, ger Conwy a dedfrydwyd ef i ddau fis ogarchariad, gyda llafur caled. Cyrhaeddodd y newydd i Gaernarfon, yr wyth- nos ddiwc-ddaf, am farwolaeth William Williams, ts-lywydd yr ysgwner Catherine, o Gaernarfon. Yr oedd y Uestr yn Kingstown ddydd Llun, pan y syrthiodd Williams o lien yr hwylbren a. der- byniorld niweidian a duVld yn aogeuol iddo cyn pen ychydig amser. Ennillodd C. Watmough, ysgolor yn Ysgol Sirol Penarlag, ysgoloriaeth yn ysgol yr Amwyth jg, gwerth 30p. yn flynyddol. Watmough oedd y cyntaf o'r cystadleawyr mewn mesuroniaeth. Dyma y drydedd ysgoloriaeth sydd wedi cael ei hennill gan fechgyn o'r yagol hon yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Y mae aelodau Gorscid y Beirdd wedi bod yn ystyried y cynnygion a ddygid yn mlaen i gael diwygiad yn yr ammodau cyssylltiedig a thestyn y gadair.. Pleidleisiodd 14 dros gyfyngu testyn y gadair i awdl dros yr awdl neu bryddest, 5 a thros i'r beirdd gael caniatud i fabwysiadu un, rhyw fesur barddonol, 3 Bu pwyllgor o Dy yr Arglwyddi yn y»tyried mesur a gefnog'd gan Gynghor Sirol Fflint, ddydd lau, a'r hwn oedd yn rhoddi gallu i'r cynghor hwnw godi chwaneg o arian i gwblhau Pont Queen's Ferry. Pasiwyd y mesur trwy bwyllgor; a gorchymynwyd iddo gael ei adrodd i'r Ty i'w ddarllen y drydedd waith. Mabwysiadwyd penderfyniad gan Fwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, ddydd Mercher, yn cwyno o herwydd y driniaeth oedd tystion o Gymru yn ei gael yn ami trwy nas gallent roddi eu tystiolaeth yn Saesneg, ac yn galw sylw yr Arghvydd Ganghellydd at yr angenrheidrwydd i bennodi bnrnwyr i Gymru oedd yn gyfarwydd Ag iaith y wlad. Cynnaliwyd trengholiad yn Wyddgrug, ddydd lau, ar gorph baban saith mis oed, merch i Mrs. Sarah Jones, gwraig weddw, sydd yn byw yn River View, Wyddgrug. Daugosai y dystiolaeth fod plentyn hynach, yn ddiarwybod, wedi rhoddi dogn fechan o laudanum i'r baban yn absennol- deb y fani ac felly, wedi achosi ei marwolaeth. Dycliwelodd y rheithwyr reithfarn o Farwolaeth trwy anffawd. Dygwyd enciliwr o'r fyddio, v Preitat William Richard Owen, o gatrawd y 23ain o'r Fusiliers Cymreig, o flaen yr ynadon yn Oolwyn Bay, boreu ddydd Mercher, ar y cyhuddiad o encilio o'r fyddin a gohiriwyd ei achos, hyd nes y deuai gosgorddlu i'w gyrchu yn ol, yr hon a wnaeth ei hymddangosiad yn ddiweddarach ar y dydd. Dyfarnwyd 5s i'r lloddgeidwad Thomas, Colwyn Bay, am ei fedrusrwydd ynglyn a'r achos. Dydd Llun, cynnaliwyd cyfarfod o Eglwys- wyr Deoniaeth Gwrecsam-Canon Fletcher yn y 'g- i r. Cymmhellai y Ganghellydd Parkins utaiiodiad cynghor plwyfol o Eglwyswyr yn lie yr hen festri, yr hon, meddai, oedd yn ddiallu. Yr oedd hefyd o blaid rhoddi mwy o reolaeth blwyfol yn nwylaw lleygwyr. Nid oedd yr Archddiacon Wynne Jones o blaid hyn, a mynegodd y farn mai Dadgyssylltiad yw y trychineb mwyaf a ddi chon ddigwydd i'r Eglwys a'r genedl. Dydd Mawrth, wedi ychydig ddyddiauoafiech- yd, bu farw y Parch. Edward W. J. Banks, ficer St, Augustine, Victoria Park, Hackney. Yr oedd Mr- Banks yn ail fab i'r diweddar Mr. John Scott Bankci, Sovighton Hall, Llineurgain, yr hwn a fu am bum mlynedd ar htigain yn gadeir. ydd brawdlys chwarterol sir Fflint Yr oedd y Parch. E. W. J. Banks wedi bod yn llafuno fel ciwrad a ficer St. Augustine, Hackney, er y flwyddyn 1883. Cymmerodd ei gladdedigaeth le yn mynwenteglwye Llaneurgain, ddydd 8adwrn. Yn mysg vr amrvwiol achosion a wrandawyd gan y Barnwr Syr Hcratio Lloyd yn llys y mlin- ddyledion yn Nghaernarfon, ddydd Mercher, yr oedd un oedd wedi cael ei anfon i lawr o'r Uehel Lys, mewn cysgylltiad <1 gwerthiant cyfranddal- iadau yn Nghwmni Hysbysiadol Caernarfon a'r gymmydogaeth. Yr erlynydd oedd Mr. J. R. Hughes, a r diffynydd, Mr. R. E. Owen, arwerth- wr Wedi gwrandawiad mai t,h, penderfynodd y barnwr y cymmerai amser i ystyried ei ddyfarn- iad. Y mae y Parch. J. W. Williams, Maesteg, wedi cvdsynio ft galwad a dderbyniodd oddi wrth eglwys Bethel (B.), Caergybi. Bwriada eglwys Annibynol y Bala wneyd cais am i Undeb yr Annibynwyr Cymreig gael ei gyn- nal yn y dref hono yn y flwyddyn 1900. Un o ardal Ffestiniog ydyw Mr. Gwilym Row- lands sydd wedi ei bennodi yn athraw i ddysgu chwareu y berdoneg a rhoddi gwersi mewn cyng- hanedd yn Ysgol Gerddorol Llundain. Penderfynodd Cynghor Dosbarth Porthmadog ddeisebu yn erbyn cynllun cynnygiedig Mr. RUB, sell i gael ffordd haiarn ysgafn o Rhyd ddn i Beddgelert, ac yn ffafr cynllun o linell trwodd o Borthmadog i Rhyd-ddu. Cynnaliwyd cyfarfod ordeiniad Mr. J. Hugh Edwards, gnlvgydd Younj <Wales, i fod yn wein. idog eglwys Annibynol Siesnig y Drofnewydd ddydd Gwener. Cymmerwyd rhan yn y gwasan- aeth gan y Proffeswr, Lowis, Aberhonddu, a'r Parch. J. Ossian Davies, Llundain. Ymddengys fod Cynghor Sirol sir Gaernarfon wedi sicrhau gwasanaeth Syr Benjamin Baker, y peiriannydd enwog, i arolygu y brif ffordd rhwng Llanfairfechan a Phenmaenmawr, yr hon sydd mewn sefyllfa ddifrifol trwy orlifiad y mor, ac i ddarparu adroddiad ar y modd goreu i'w diogelu. Mewn cyfarfod arbenig o Bwyllgor Unol sir Ddinbych, ddydd Gwener, er pennodi ysgrifeuydd yr heddwcb yn lie y diweddar Mr. Llewelyn Adams, cafodd Mr. W. R. Evans, Gwrecsam, ei ddewis i'r awydd. Yr oedd naw yn ymgeisio. Rhoddwyd enwau dau i'r bleidlais, a dyma fel y safai y ddau Mr. W. R. Evans, Gwrecsam, 12; a Mr. R. Humphreys Roberts, Dinbych, 11. Cymmerodd dadl le yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Undeb Bangor a Beaumaris, yn ngljD a'r ffaith fod chwech o blant, y rhan fwyaf o ba rai oedd yn YmneiUduwyr, yn cael en han- fon i Gartrefi Eglwys Loegr yn Llundain. Gwrthdystiai amryw o'r gwarcheidwaid yn erbyn hyn. Dywedai y cadeirydd nad oedd Cattrefi Ymneillduol i'w hanfon iddynt. Ai ni ddylai Ymneillduwyr godi y cyfryw adeiladau sydd gwestiwn a ddylai gael yatyriaeth. Yn llys y mdn ddytedion yn Nghaergybi, ddydd Mawrth, darfu i'r Cynghorwr W. Jones, Wings- land, wysio BenTy Russell, o Gwmni Agerlongau Ffordd Haiain Llundain a'r Gogledd-Orllewin, am ei daraw ar lawr gyda'i feisycl, a'i niweidio yn drwm. Niweidiwyd yr achwynydd ar amryw ranau o'i gorph a methai ddilyn ei alwedigaeth am fis. Hawliai 6p. 10s. o iawn. Rhoddwyd tystiolaeth fod y diffynydd yn gyru yn ffyrnig, ac na ddarfu iddo ganu ei gloch. Rhoddodd y Barnwr Syr Horatio Lloyd ei ddyfarniad i'yr aahwynydd am 3p. 3s, Oddi wrth ymchwiliad a wnaed yn ddiweddar i rif yr ymgeiswyr am y weinldogaeth, neu bregeth. wyr ieuaingo perthynol i'r Methodistiaid.'sydd dan addysg mewn gwahanol sefydliadau, yr wyf yn gwneyd y rhestr ddilynol,-Atbrofa Barotoawl y Bala, 41 Athrofa Dduwinyddol Trefecca, 38; Prifathrob Aberystwyth, 35; Prifathrofa Bangor, 23 Prifathrofa Caerdydd, 21 Athrofa Dduwin. yddol y Bala, 20; Yegol Barotoawl Clyncog 20; Prifathrofa Rhydychain, 9; Caergrawnt. 6 Edinburgh, 4: Glasgow 3—cyfanswm 220 Prif- athrofa Llundain, Ysgol Rammadegol Gwilym, Ysgol Rammadegol Pontypridd, Yagol Llandys. sul, Ysgolion Sirol, o ddeutu 20. Yr oil, 240.

IY D E H E U

LLANDUDNO.-I

I_LLYS Y MAN-DDYLEDION. I

CAERNARFON. -I

[No title]

CONWY.

llANGOn.

! WYDDGRCG., J 1

[No title]