Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

.Y METHODISTIAID.--"I

News
Cite
Share

Y METHODISTIAID. "I SIR GAERFYRDDIN. CtNNALIWYD y cyfarfod misol hwn yn Llanlluan, Hydref 15fed a'r 16g. Llywyddwyd gan Mr. William Eynon, Nazareth. Rhoddwyd llythyroymmeradwyaeth i'r Parch. Samuel E. Prytherch, Cross Into, ar ei fyned- lad i ymsefydlu fel bugail yn eglwys Stepney, Llnn- dain, ac i'r Parcb. R. Towy Rees, yr hwn sydd wedi ei sefydlu yn cglwys yr ynys, Ystradgynlais; yr ydym yn teimlo yn ddwys wrth ymadael A brodyr anwyl a defn- yddiol fel hyn, gan fawr ddymuno eu llwyddiant gyda'r gwaith mawr yn eu lleobdd newydd. Darllenwyd llythyr cymmcradwyaeth i'r Parch. James Evans o gyfarfod misol Oorllcwin Itiotganwg y mae ef, ar gals eglwys Libanus, Pontarddulais, yn dyfod yno i gym. meryd gofal yr Eglwys yn y lie. Enwyd y Parch. Daniel Williams a Mr. William Eynon, Nazareth, i gynnrychioli y cyfarfod misol yn nghyfarfod ei sefydl- iad yr oedd ef yn bresennol yn y cyfarfod misol, a chafodd dderbyniad croesawgar gan y frawdoliaeth, gan hyderu y bydd yn ddefnyddiol gyda'r achos yn y lie, ac yo y elr. Pennodwyd y Parch. Thomas Phillips, Siloh, a Mr. Jones, Llwyn Meredith, i fyned I Llan. ddeusaint i holi gwr ieningc sydd yno yn ymgeisydd am y weinidogaeth. llhoddwyd annogaeth daer i'r eglwysi hyny sydd heb dalu at y drysorfa sirol eleni i gofio am dalu o hyn i'r cyfarfod misol nesaf, yr hwn a gynnelir yn Trinity, Llanelli, Rhagfyr 17eg a'r 18fed; y cyfeisteddfod arianol i gyfarfod am un-ar-ddeg o'r gloch boreu ddydd Mawrth, yr 17eg, a'r seiat am ddau o'r gloch yn y prydnawn. Enwyd y Parch. John Davies, Llandeilo, a Mr. Thomas, y Bangc, i fyned i'r Cross Inn, Llangathen, i gynnorthwyo yr eglwys i ddewis swyddogion. Darllenwyd cyfrifon arholiad sirol yr Ysgol Sabbothol gan y Parch. J. L. Thomas, Llangyndeyrn, a rhoddwyd diolchgarwch iddo am ei ffyddlondeb a'i fedr fel ysgrifenydd yr arholiad. Rhodd. wyd diolchgarwch i eglwys Llangadog am dderbyn y gymmanfa, a'i chynnal mor anrhydeddus. Cawsom ymweliad yn y cyfarfod hwn gan y Parch, Lewis Ellis, Rhyl, ar ran y Forward Movement, a chafwyd ganddo araeth danllyd a neithol ar y mudiad daionus hwn, a rhoddwyd iddo ddiolobgarwch am ei ymweliad, gan annog boll eglwysi y sir i gyfranu yn haelionus at yr achos teilwng hwn. Yr ydym, fel cyfarfod misol, yn dymuno am i gyfeisteddfod y Forward Movement gym- meryd etto I ystyriaeth yr achos yn Tumble. Adrodd- iad pwyllgor y rheolau sefydlog i fod o dan ystyriaeth yn y oyfarfod misol nesaf. Pasiwyd i anfon llythyr o gydymdeimlad o'r cyfarfod hwn ft'r Parch. Richard Hughes, Iowa, America, yn ei gystudd a'i alar ar ol ei anwyl fab, yr hwn, yn ddiweddar, a laddwyd trwy ddamwain, a gosedwyd ar y Parch. Thomas Job i ysgrifenu y llythyr ato, gan eu bod eill dau, fel Dafydd a Jonathan, yn hen gyfeillion or's mwy na hanner cant o flynyddoedd. Enwyd gweinidog a blaenor o bob dosbarth yn y sir i fod yn gyfeisteddfod dirwestol, er gwneyd rhywbeth yn effeithiol gyda'r achos hwn, a'r Parch. John Oliver I alw y cyfeisteddfod ynghyd yn fnan. Dymunir ar i gyfarfod pob dosbarth yn y sir enwi dau frawd i fod ar Gyfeisteddfod y Dadgyssyllt- iad yn y sir hon, a dwyn eu henwau i mewn i'r cyfarfod misol nesaf; ao enwyd y Parch. W. D. Williams, Gowerton, i gynnrychioli y sir hon at y cyfeisteddfod oyffredlnol gyda'r aohos yma. Pennodwyd y Parch. David Lewis, Ferry Side, i fod yn oruchwyliwr y ddwy Drysorfa am y flwyddyn ddyfodol etto. Gosod- wyd ar yr ysgrifenydd i anfon llythyr o gydymdeimlad o'r cyfarfod hwn ft brodyr cystudiliol; sef, y Pareh. Rees Jones, Ammanford, a'r pregethwr ieuango anwyl, mab i'r Parch. John Griffiths, Peatwyn, yr hwn sydd yn gystuddiol er's migoedd a'r hen flaenoriaid anwyl, y Mri. James, Salem a'r Rhandir, a George Griffiths, Gosen; gwelsom yr hen frodyr ymn, er's blynyddoedd yn ol, yn ffyddlawn gyda'r achos yn eu cartref, ao yn y air. Hefyd, bu coffbid parolius am frodyr ymadawedig; sef, y lIIri. Thomas Davies, Nantgwenlliw, Cross Inn, a Daniel Davies a David Lewis, o'r lie hwn; a'r wyth- nos ddiweddaf y cafodd Daniel Davies ei gladdu; ao y mae yn Llanlluan alar mawr ar eu hol ond er eu colled a'u galar yma, yr oeddynt yn hynod o ewyllys- gar a chalonog gyda dwyn yn mlaen yr achos yn y cyfarfod misol, ao arwyddion amlwg o bresennoldeb yr Arglwydd gyda'r gwaith yn ei holl ranau, a obaredig- rwydd pobl y lie i'r dyeithriaid yn fawr. Cafwyd hanes yr achos gan y blaenoriaid; y mae gwedd lewyrchus ar yr aohos yn y lie hwn; ac o le mewn gwlad, y mae yma eglwys a cbynnulleidfa liosog, Ysgol Sabbothol flodeuog, ac undeb a chyd-weithrediad gyda dwyn yr aohos yn mlaen. Cafwyd oyfarfod da wrth ymddiddan A'r blaenoriaid, a rhoddwyd iddynt amryw o gynghorion pwysig gRn y gweinidogion oedd yn bres- enno]. Pregethwyd gan y Parchn. Thomas Job, Conwil; Lewis Ellis, Rhyl; Thomas Thomas, Llanym. ddyfri; John Ffoulkes Thomas James, Llanelli; W. P. Jones, Cydweli; D. Evans, Merthyr Tydfil; John Owens, Burry Port; Picton Evans, Cilyowm Thomas Phillips, Siloh; a W. D. Williams, Gowerton.

DYFFRYN CLWYD. I

TREFALDWYN ISAF. I

I MR. LLOYD GEORGE, A. S,I…

CYNGHRAIR DIRWESTOL YI GYMDEITHAS…

DIRWEST YN NGHYMRU. I

I CLADDEDIGAETH MR. DANIEL…

L LAN Y S T U M DW y.