Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

V GOGLEDD. I

News
Cite
Share

V GOGLEDD. I Cynnyddu y mae clybiau y bel droed yn Meth- esda a'r oylchoedd. Buwyd yn gorssddu swyddogion cyfrinfa leol y Rhyddfaswniaid yn Rhyl, ddydd Linn diweddaf. Ymddengys fod y Parch. Hugh Jones, I regarth, am ysgrifenu hanes Wesleyaeth yn Ngogledd Cymru. Cafodd pedwar o ddynion ieuaingc eu hattal weithio am lis yn nghymmydogaeth Ballgor am herwhela. Cynnaliwyd dydd Llun, Hydref 21ain, yn ddydd o ddiotchgarwch am y cynhauaf yn Llan- beris a'r cylchoedd. Y mae eglwysi Dinorwig a'r Fachwen, Llan- beris, wedi gwahodd y Parch. J. Poleston Jones, Bangor, i'w bugeilio. Deallwn fod y Parch. Griffith Owen, Bethania, Beddgelert, wedi cael galwad gan eglwysi Llan. gwm a Llanfihangel. Deallwn fod Mr. H. Jones (Garmonydd), yn ymddiswyddo o fod yn brif athraw yn yagol Frytanaidd Caergybi. Dydd Llun diweddaf, bu Esgob Wakefield yn pregethu yn ngwasanaeth agorEglwys St. Oswallt, Croesoswallt. Bu yr esgob gynt yn rheithor Whittington, ger Croesoswallt. Wrth gwrs, dad- sefydliad oedd pwngo rhan fawr o'r bregeth. Ger bron y Barnwyr Day a Grantham, ddydd Ian, ceisiai Joseph Fisher, perohen y Black Horse Ilin, Rhostyllen, orchymyn am i'w gais am adnew- yddiad ei drwydded ger bron ynadon dosbarth Bromfield gael ei ail wrandaw. Caniatawyd y cais. Yn nghyfarfod Cynghor Dosbarth Trefol Tre- flynnon, ddydd Lion, bu rhagor a drafod ar deler- au gosod Ffynnon y Santee Wenffrewi i'r Tad Beauclere. Cynnygiai y Tad dderbyn telerau y bwrdd os cai brydles am bum mlynsdd. Gohir- wyd y mater. Y mae awdardodau y llythyrdy ar fedr codi gwifrau telegraph o Fflint i Helygain, ac fe allai i Laneurgain. Ar hyn o bryd, y mae yr oil o'r dosbartb poblog hwn heb gymmundeb gwefrebol, gan mai Fflint yw y swyddfa agosaf ar un llaw a'r Wyddgrog ar y llaw arall, Yn Llys Methdaliad Llundain, ddydd Iau, can- iatawyd archeb dderbyniadol yn erbyn Mr. F. S. A. Hanbury-Tracy, brawd Arglwydd Sudeley, a gynt A.S. droa fwrdeisdrefi Maldwyn. Y gofynwr a wnai y cais ydyw Mr. Samuel Lewis, Llundain, i'r hwn y mae y swm o 3,772p. yn ddyledus oddi ar Mr. Tracy. Yn Maagor, yr wythnos ddiweddaf, dirwywyd pnmp o fechgyn, o'r enwan Llewelyn Bromley, Llewelyn Rowlands, John Evans, William Pairy Jones, a J. G. Lewis, yr oil o Carnarfon Road, Glanadda, am ladrata dan ffesant a phedair o wningod, eiddo Mr. G. W. Duff Assheton-Smith, Vaenol. Ysgrifena y Paroh. D. A. Nares, ficer Cerri, i'r Montgomeryshire Express, i alw sylwat gyn nygiad Cvnghor Sir Llundain i ysbeilio dwfr Cymrn. Dywed Mr. Nareg I fod yr hyn y prof- wyd ei fod yn werth miliynau i Loegr yn sicr o fod yn werth rbyw beth i Gymru heb law pwr- cas buddiannao personal a phreifat yn unig.' Y mae Ilythyr Mr. Nares yn un gwir amserol. Dydd Sadwrn diweddaf, tra yr oedd Mr. E. Hollis, Gwreosani, yn treio ceffyl newydd, de. chreuodd yr anifail gioio, a rhedodd ymaith. Taflwyd Mr. Hollis, a dau gyfaill iddo oedd gydag ef, allan o'r oerbyd, ond ni niweidiwyd llawer arnynt. Daliodd y ceffyl i redeg am beth pellder cyn y medrwyd ei attal, a ohafodd amryw bersonau ddiangfeydd cyfyng ar y ffordd hyd yr hon y rhedai y ceffyl. Yn Rhyl, ddydd Llun diweddaf, o dan lyw- yddiaeth Mr. Hugh Roberts, y derbynydd swydd- ogol cynnorthwyol, cynnaliwyd cyfarfod o ofyn- wyr y diweddar J. Edwards, adeiladydd, Rhyl, yr hwn a gyflawnodd hunan-laddiad dro yn ol. Yr oedd y dyledion yn 3,759p. 15s. lc., a'r diffyg yn 34p. 5s. 3c. Pennodwyd Mr. T. C. Amos, ar- wertliydd, yn ymddiriedolwr i ddirwyn yr ystâd i fyoy, gyda phwyllgor ymchwiliadol. Dywed gohsbydd o Dreffynnon fod y Cynghor Dosbarth Lleol wedi gwneyd tro flol wrth nacau rboddi prydles ar ffynnon y Santas Wenffrewi i'r Tad Beauclere, gan fod y pererinion yn gwario llawer o arian yn y dref. Dethlir gwledd y sautes gyda mawr rwysg ac addurn y Sabbath nesaf. Yn y boreu, dethlir gwasanaeth yr offeren can yr esgob Pabaidd newydd; ac yn yr hwyr, fe gyflwyna'r Pabyddion lleol iddo lestri gwerth- fawr at weini'r eaeiniad olaf. Yn nghyfarfod pythefnosol Undeb Bangor a Biwmarts, ddydd Gwener diweddaf, hysbyeodd y clerc (Mr. R. B. Evans) fod yno weddill o l,913p. 14s. 10c. yn ffair yr undeb. Dywedwyd fod y lie ar gyfer crwydriaid yn brin ar adegan, ao awgrym- wyd amrywfiyrdd i gyfarfod a'r anhawsder; megys en llettya allao, neu eu rhoi yn ward y cleifion. Wedi peth trafodaetb, gorchymynwyd i'r meiefcr roddi adroddiad am y prydiau y byddai y lie brinaf, fel rheol. Pennodwyd Alice Ellis, Bangor Uchaf, yn gogyddee. Hysbvsodd y meistr fod yno 80ain yn y ty, a 33ain o grwydriaid wedi eu cyncorthwyo yn ystod y pythefnos. Dywedb y bydd yr etholiad bwrdeisiol agosha- ol yn Ngbaernarfon yn un gal6d anarferol. Yr aelodan sydd yn ymneiUdco ydynt:-W&rd y D'v' ra ldr. John Davies (Gwyneddon), b dIfr id n? r, a Mr. H. Lloyd Carter (0.), Ward ?G 'llwi. MriW. J. Williams, R. 0. Ro berts, a J. T. Roberts, Rhyddfrydwyr; a Mr. J. Issard Davies (C.). Y mae yr oil yn ymgynnyg am ail etholiad; ac y mae dyn o'r enw Mr. Parry Jones, Tori, yn ceisio dallu yr etbolwyrdrwy ddyfod allan dan yr enw ymgeisydd Llafnr Annibynol.' Gwna y Toriaid bob ymdrech i adennill v safle a gollasahtyn Nghynghory Dref. Hyd yn hyn, deallwn nad oes sicrwydd a gym- mer etholiad bwrdeisiolle yn Mangor ai peidio, er y sonir am wythwynebu ail etholiad rhai or aelodau sydd yn ymneillduo. Y cynghorwyr svddynymneillduoydyntGwardy'gogledd, Mr. W. P. Matthews (R.); a Mr. P. S. Gregory (C.) gward y gorllewin, Mr. R. Davies (R.), a Mr. E. Jonea (C.); gward y Deheu, Mr. Hugh Hughes (R.); gward y Dwyrain, Mr. R. Hughes (R.), a Mr. D. Williams. Yr heriaduriaid sydd yn ym. neillduo yw y Mri. T. C. Lewis, Thomas Lewis, a Donald Cameron, yr oil yn Rhyddfrydwyr. Nid yw Mr. T. C. Lewis, a Mr. D. Williams ddim yn agored i'w hail ethol, am eu bod yn awr yn byw y tu allan i'r fwrdeisdref. Daeth achos John Lewis, eyfreithiwr, yn mlaen drachefn yn Llyo y Man Ddyledion, Gwrecsam, ddydd Gwener, ger bron Syr Horatio Lloyd. Ceisiai y derbynydd swyddogol (Mr. LI. Hugh- Jones) am i'r dyledwr gael ei farnu yn fethdalwr, am y byddai i'r cynllun a gynnygid gan y meth- dalwr, ac a dderbynid gan y mwyafrif o'r gofyn- wyr, yn aaghyfiawnder, ac yr achofeai oediad di- achos yn sylweddoliad yr Y8tâd. Daliai Mr. Wynn Evans (yr bwn a ymddangoeai yn lie Mr. Hopley Pierce, dros y dyledwr) nad oedd y ewrs hwn ddim yn rlieolaidd; ond aeth Mr. Jones rhagddo i ddarUen mynegiadau a phapnran, y rhai, ebai ef, a brofai fod y dyledwr yn euog o feddiannu arian ymddiried, ac ymddygladau er- aill a dorai ei bawl i gael gan y llys gadarnhau ei ffordd o dalu i'w ofynwyr. Gohiriwyd yr achos am wythnos. Cyrhaeddodd y Parch. 0. G. Owen (Alafon) adref o'r America ddydd Sadwrn diweddaf. Ba Dyfed yn darlithio ar 'Wlad y Pyramid- iau,' yn y Guild Hall, Caernarfon, yr wythnos ddiweddaf. Y mae y Parch. Owen Jones. M A., gynt o'r Drefnewydd, yn awr o'r America, yn bwrladu ymweled fl Chymru yn fnan. Cynnaliodd Annibynwyr Llandudno wledd dê, nodachfa, a chyngherdd yr wythnos ddiweddaf; yr elw i fyued at helaethu un o'r capelau. Yn ngwasanaeth diolchgarwch am y cynhauaf yn eglwys Annibynwyr Cymreig Pwllheli, yr wytbnos o'r blaen, casglwyd y swm anrhydeddns o 62p. Y mae y Parch. W. Williams, Criccieth, Llan- beris gynt, wedi ei wahodd i fyned yn olynydd i'r Parch. T. Gwynedd Roberts, i Rostryfan, ger Caernarfon. Cyfarfa cangen Gogledd Cymrn o Gymdeithas Gorphoredig v Cerddorion yn Nghroesoswallt, ddydd Gwener, pryd y pennodwyd amryw swydd- ogion newydd. Y mae eglwys Annibynol Pendref, Caernarfon, wedi penderfynu na ohydnebydd hi unrhyw bei- son a fyddo yn dal trwydded i werthu jiiodydd meddwol yn aelod eglwysig mwyaeh. Deallwn fod Mr. Owen Owen, Liverpool, wedi derbyn galwad i fyned yn olynydd i'r Parcb. W. M. Williams, Birkenbead, yn weinidog ar eglwys Bresbyteraidd Saesnig Penmaenmawr. Cynnaliwyd oyfarfod cyhoeddus o drethdalwyr Rhyl yr wythnos ddiweddaf, i ystyried y owest- iwn o wneyd tramffordd yn y dref, a pcenderfyn- wyd yn erbyn y cynllnn drwy fwyafrif mawr. Y mae eglwys Bresbyteraidd Saesnig Pwllheli wedi rhoi galwad i'r Parch. D. Morgan Richards, brodor o Bwllheli, i'w bugeilio yn lle y Parch. R. J. Rees, Caerdydd. Addysgwyd Mr. Richards yn Aberystwyth. Y mae cynghor Cymdeithas Chwareuwyr Pêl. droed Uymru wedi attal dan aelod am ddeufis am ymladd pan oedd clybian y Rhos a Wellington St. George yn cicio am y gwpan. Ceryddwyd Clwb y Rhos, hefyd, am adael i r edrychwyr gam. ymddwyn yn ystod yr uu chwareu. Y mae y boneddigion caolyool wedi eu dewis yn ddiwrthwynebiad yn aelodau o Fwrdd Yegol Llanfair CaereinionY Meistri A. Davies, Ty n. y-fawnog; Cadwaladr Humphreys, Ty Elisa; John C. Jones, Graig; J. Lloyd Peate, High Street: a Henry Theodore, Glan Garn. Yn ngwyneb y ffaith fod gwlftn yn beth mor bwysig yn mhlith nwyddau amaethwyr Meirion- vdd, a bod mor anhawdd cael gwybodaeth gywir am ei bris, awgryma Mr. C. R. Williams, Dol- melvnllyn, mai da a fyddai cynnal ffair wlftn yn flynyddol yn Nolgellan, lie y gallai yr amaethwyr gyfarfod, a gwneyd busnes ar bris marchnad an. ffurf. Yn Llys Maingo y Frenhines, ddydd Gwener, ceisid gorchymyn i orfodi ynadon i ail wran- daw y cais am adnewyddiad trwydded y Trefadog Ferry Inn, Mdn, yr hon a wrthodwyd yn y brawd- lvs trwyddedol diweddar. Dywedodd y Barnwr Hawkins fod yr ynadon wedi gweithredu yn rheolaidd, a gwrthododd eu gorchymyn i ail wrandaw yr aohos; y coscau i ddisgyn ar y neb a wnai y cais. Yn Llandndno, nos Fawrtb, yr wythnos ddi- weddaf, cynnaliwyd cyfarfod o gynnrychiolwyr pennodedig gan Eglwysi Rhyddion Llandudno a'r cylch, i ystyried y cwestiwn o ffurfio cynghor o Eglwysi Rbyddion Gogledd Cymru. Cyflwynwyd a chadarnhawyd awgrymiadau y pwyllgor dar- pariadol a bennodasid eisoes, a threfnwyd ar gyfer ymweliad Cynnadledd yr Eglwysi Rhydd, ion a'r dret y mio, nesaf. Cynnaliwyd cyfarfod o lywiawdwyr Yegol Alun, Wyddgrug, ddydd Sadwrn, dan lywydd iseth Mr. W. H. R. M. Johnson. Cyflwynodd y clerc (Mr. G. H. Simon) dafleni amser y dosbarth- iadau celfyddydol, y rhai a dderbyniwyd. Ar- wyddwyd y cyttundeb o berthynas i'r cir ger Haw Grosvenor Street, lie y bwriedir adeiladn yr ysgol sirol newydd, ar y dealltwriaeth fod corph y llywiawdwyr lleol i gael meddiant o'r He ar yr 20fed o Fehefin nesaf. Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol Undeb Athr- awon Ysgolion Dyddiol Rhyl a Threffynnon yn Rhyl ddydd Sadwrn, o dan lywyddiaeth Mr. Jones, Newmarket. Hysbysodd yr ysgrifenydd ei fod wedi ysgrifenu at Swyddfa Addysg yn nghylch rhyddhau ysgolion oddi wrth arholiad blynyddol; ond ni chawsai attebiad Ihyd yma, Pennodwyd Mr. Tilby, Rhyl, yn Ilywydd ac adbennodwyd Mr. T. Jones, Ffynnongroew, yn ysgrifenydd a thrysorydd. Penderfynodd y gym- deithas enwi Mr. T. John, Llwyopïa, fel aelod o bwyllgor gweithiol yr Undeb Cenedlaethol. Prydnawn ddydd Gwener diweddaf, bnwyd yn enwi ymgeiawyr ar gyfer etholiad tair-blynyddol Bwrdd Ysgo! Treffynnon. Y mae saith sedd, a deg yn ymgeisio am danynt; sef, y Meistri E. Bryan T. Humphreys, Bagillt; J. Jones; S. Jones; T. A. Lambert; R. Foulkes, Bagillt; Freeman; H. Vaughan Lloyd; J. Petrie; aT.G. Thomas, Bagiilt. Yr oedd y pump blaenaf yn aelodan o'r hen fwrdd. Y mae Mr. H. T. Barker, yr hwn a fn yn gadeirydd y bwrdd ar hyd y chwe blynedd diweddaf, wedi ymddiswyddo. Cymmer yr etholiad le ar y 6ed dydd o Dachwedd. Nos Wener diweddaf, agorodd Cymdeithas Cymru Fydd Oldham ei cbyfres o gyfarfodydd am dymmor y gauaf. Llywyddai Mr. James Davies. Y prit siaradwyr oeddynt Mr. J. E. Frimston a Mr. John Phillips, Manchester. Dy- wedodd Mr. Frimston, yn ei anerchiad, mai can- lyniad naturiol adfywiad y symmudiad cenedl. aethol yn Ngbymru ydoedd achos Cymru Fydd. Barnai Mr. Phillips mai canlyniad anooheladwy y gymmudiad a fyddai ffurfio plaid genedlaethol Gymreig annibynol yn Nb £ y Cyffredin. Cafwyd cychwyniad Uewyrchus ar y gymdeithas. Y mae yr hen aelodan a ganlyn 0 Gynghor Trefol Bangor wedi en dychwelyd yn ddiwrth- wynebiad :-Y ward ogleddol, Mr. W. P. Mat- thews (R.), a Mr. P. S. Gregory (C.). Y ward orllewinol, Mr. R. Davies (R.), a Mr. E. Jones (0.). Y ward ddeheuol, Mr. Hngh Hnghes (R.). Y ward ddwyreiniol, Mr. R. Hughes (R ). Bydd etholiad aehlyourol yn ngward y dwyrain, 6 her. wydd anghymmhwysiad Mr. D. Williams (C.). Ar gyfer y eedd wag hon, enwir Mr. W. A. Foster (C.); ac enwir Mr. J. Wickens (R.) ar gyfer y sedd a wagheir yn y ward ogleddol, yr hyn a achosir drwy ddyrchafiad y Milwriad Savage ary faingc henadnrol.

, Y UEHEU.

TIE LY G AIN.

[No title]