Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

RHAGLEN RYDDFRYDIG Y ! DYFODOL.

News
Cite
Share

RHAGLEN RYDDFRYDIG Y DYFODOL. YR ydym, yr wythnos hon, ar ben tri mis llawn er pan orphenwyd gwaith yr etholiad cyffredinol diweddaf. Yn y frwydr fyth- gofiadwy hon, rhaid i bawb addef ddarfod i Ryddfrydiaeth Prydain Fawr gael y gurfa dostaf, ar lawer ystyr, a ddioddefodd ar hyd y ganrif bresennol. Yrydym, erbyn hyn, yn dechreu ymddadebru, fel Rhyddfrydwyr, oddi wrth effeithiau y syfrdandod llesmeir- iol a pha un y tarawyd ni gan y gorthrech- iad llethol ac annisgwyliadwy hwnw. Y mae y Toriaid, weithian, ycbydig yn llai eu trwst nag y buont. Yn awr, gan hyny, pan y mae effeithiau cyntaf ein gorchfygiad wedi graddol weithio eu hunain ymaitb, diau ei bod yn bryd i ninnau ddechreu meddwl am y dyfodol, a pha gynlluniau a allant fod y rhai mwyaf effeithiol i am- ddiffyn egwyddorion Rhyddfrydig yn y sen- edd nesaf, a'u gwthio yn mlaen, yn gystal ag i adferu yr oruchwyliaeth Ryddfrydig yn ei hoi. Mae yn bryd i ni ddechreu meddwl am ad-drefnu ein cattrodau, a gosod ein byddin ar hwyl i wynebu y gelyn yn y senedd nesaf, hyd yn oed pan nad oes dim yn yr argoelion i ddangos y bydd etholiad cyffred- inol am rai blynyddoodd, o leiaf. Allan o reswm, bid a fyno, a fyddai i ni blethu ein dwylaw mewn anobaith. Gwallgofrwydd gwleidyddol yn neb o honom fyddai myned i gredu fod y byd yn llwyr ar ben arnom, yn unig am y digwydd fod gan Arglwydd SALISBURY, ar hyn o bryd, dros gant a hanner o fwyafrif wrth ei gefn, yn barod i weithio yn ffyddlawn er dwyn ei amcanion a'i fympwyon ef i weithrediad. Ie, byddem yn ddiffygiol mewn dynoliaeth pe byddem mor anwrol a thori ein calonau. Ac hyd yr ydym ni yn gallu darllen arwyddion yr amserau,' yn mhob cyfeiriad, nid oes yr argoel lleiaf o ddim o'r fath yn un man. Mae Rhyddfrydwyr Lloegr, yn lie digaloni, yn ymddeffro, ac eisoes yn dechreu tori eu cynlluniau allan, gyda'r amcan o gael' ystori' dra gwahanol i'w hadrodd ar derfyn y frwydr nesaf. Y mae Gwyddelod yr Ynys Werdd hefyd, yn amlwg, mor ben- derfynol ag erioed i fynu cael rheoleiddiad eu hamgylchiadau o ddwylaw estroniaid i'w dwylaw eu hunain—yr hyn y dylai pob cenedl, yn gyfiawn, ei gael. Yn Ysgotland, drachefn, nid oes ond bywyd a gweithgar- wch effro i'w ganfod yn mhedwar bin y wlad, Ac wrth gwrs, am danom ninnau yn y Dywysogaetb, y mae yr oil o'r pethau hyn yn berffaith wir. Y mae set Cymru mor angerddol ag erioed am Ddadaefydliad; ac ni phaid ei haiddgarwch am dano a chyn- nyddu mewn nerth hyd nes y cawn derfyn bythol ar yr ormes anghyfiawn yr ydys yn dioddef dani. Y mae ysbryd Cymru mor fyw ag un amser i ymladd a'r gelynion ar y pwngc hwn, ac am iawnderau mawrion eraill yr ydym yn disgwyl am danynt. Ac fel yna trwy holl ranau y Deyrnas Gyfunol-yn Lloegr, yr Iwerddon, ac Ysgotland, ac yn enwedig yn Nghymru-nid plaid am I orwedd i lawr yn dawel dan ei llethiant ydyw y Rhyddfrydwyr. Yn hytrach, plaid fyw, wrol, a phenderfynol ydyw. Os felly, y cwestiwn mwyaf dyddorol, yn gystal a'r cwestiwn pwysicaf, i ni ynawr yw —Beth fydd ein rhaglen at y dyfodol I A yw yr hen raglen i gael ei mabwysiadu etto, fel o'r blaen 7 Ai ar Raglen Newcastle' y gweithiwn y blynyddoedd nesaf, fel yn y blynyddoedd diweddaf Neu, a ydyw can- lyniad yr ymdrechfa ganol yr haf wedi peri y bydd yn angenrheidiol gwneyd rhai cyf- newidiadau ynddi < Yna, os bernir fod angen, pa gyfnewidiadau yw y rhai y dylid eu gwneyd ? Oydoebydd pawb yn rhwydd fod yr hen raglen yn cynnwys y rhan fwyaf -os nad yr oil—o'r diwygiadau y mae y blaid yn hiraethu am danynt. Ond, a oes rhywbeth ynddi ag y mae yr amgylchiadau, erbyn hyn, yn dangos yn eglur y dylid ei dynu allan o honi ? Os oes, pa beth, neu bethau ? Neu ynte, ar y llaw arall, a ydyw yr amgylchiadau presennol yn ein dysgu y dylem chwanegu ati, a gosod rhyw bethau newyddion ar ein Human 1 I ni, ymddeng- ys y cwestiynau hyn, a'u cyffelyb, yn mysg y rhai priodol i'w gofyn, a'u cymmeryd i ystyriaeth ar adeg neillduol fel yr un bre- sennol. Mae yr amser wedi dyfod pan yr ydys o dan aBgenfheidrwydd i gymmeryd ein hachos yn y wedd yma arno, i sylw. Ysywaeth, nid ydys hyd yma yn cael y gronyn lleiaf o gymmhorth gan y rhai yr edrychwn arnynt fel arweinwyr cyffredinol y blaid i atteb y math hwn o gwestiynau. 0 herwydd rhesymau sydd yn anhysbys i bawb, ond iddynt hwy eu hunain, naill ai nid ydynt wedi gweled yn dda siarad o gwbl; neu, os wedi siarad, y maent wedi gofalu am fod yn ammwys, ac heb ddadguddio unrhyw wladweiniaeth bendant, gan ddilyn arferiad hen arweinydd y blaid-Afr. GLADSTONE- i siarad llawer, a dyweyd dim, pan y byddai hyny yn atteb ei bwrpas. Pan ddaeth Ar- glwydd ROSEBERY i Scarborough i draddodi yr araeth a feirniadwyd genym yr wythnos ddiweddaf, disgwylid y cawsid ganddo ef ryw udgorn-floedd fuasai yn codi yr holl wersyll ar ei draed. Ond er siomedigaeth i filoedd, ni chaed ganddo ddim, fel y gwel- som, y gellirirhoddi yr enw 'gwladweiniaeth' arno o gwbl—dim dadganiad—dim mani- ffesto' i'r blaid sydd wedi ei anrhydeddu ef trwy ei wneyd yn arweinydd iddi. Yr oedd yn ddorus iawn, ac yn ddoniol ei wala, fel arfer. Cadwai y gynnulleidfa enfawr oedd o'i flaen yn ddifyrus am dros awr; ond, ni thorodd unrhyw lwybr newydd i'r blaid a arweinir ganddo. Pa ham 1 Efe ei hun a tfyr hyny oreu. Gan Syr WILLIAM HARCOURT, nid ydym wedi cael un banner gair o gynghor, cyfar- wyddyd, nac amnaid, ar hyd y tri mis di- weddaf. Y mae yn awr yn yr Almaen, yn cael triniaeth feddygol i'w lygaid; ac yn ol y newyddion yn derbyn lies dan yr oruch- wyliaeth. Pan ddychwel efe, wedi derbyn adnewyddiad, byddwn yn sicr yn disgwyl yn hyderus wrtho. Y mae cyhoeddiad Mr. ASQUITH i fod yn rhywle am araeth fawr yn fuan: ac hwyrach y cawn rywbeth ganddo yntau. Disgwyliwn ni yn Nghymru am gael gwybod pa beth sydd ganddo ef i'w ddyweyd ar bwngc yr Eglwys erbyn hyn. Modd bynag, yr ydym yn rhwym o gael rhyw ddadganiad pendant, a hwnw yn un swyddol, ar gyfer y blaid yn gyffredinol. A rhaid ei gael yn fuan, hefyd. Nis gellir gadael i bethau aros yn hwy fel y maent. Yn y dyddiau presennol, Ilenwir y gwynt 4 sibrydon fod y blaid Ryddfrydig i gael ei hadgyfansoddi o'r pen i'r gwaelod, a Rhag- len fawr Newcastle i gael ei thaflu i'r wadd a'r ystlumod-neu, i'r tp,n. Dywedir fod yn rhaid i ni gael rhaglen newydd; a chwan- egir fod hono yn cael ei gwneyd gan rywun, yn rhywle, ac i weled goleu dydd rywbryd! Myn rhai mai ar Fesur y Dewisiad Lleol yr oedd y bai am golli yr etholiad. Ond myn eraill mai Pwngc yr Estrones oedd y drwg ar faner y Rhyddfrydwyr. Nage: Ymreol- aeth i'r Iwerddon, ac ofn Ymreolaeth i bob man, wnaeth y drwg i gyd, medd eraill. Ac wrth gwrs, mynant dynu y naill, neu yr oil, o'r pethau hyn oddi ar y Rhaglen; ac wrth gwrs etto, myn eu pleidwyr eu cadw ynddi, gan nad pa beth arall a dynir allan o honi. Yn y sefyllfa hon ar bethau, cydnebydd pawb y dylai y goleuni ddyfod o rywle yn ebrwydd, onid ê awn ninnau fel y Toriaid— yn bobl heb wladweiniaeth o gwbl. Wrth ein harweinwyr yr ydys yn disgwyl mewn mater o fath hwn. Mor bell ag y mae a fyno hyn & Chymru, fe allai y disgwylir dadganiad eglur ein harweinwyr Rhyddfrydig! Ond, a fethem pe y dywedem eu bod hwytbau yn disgwyl wrth y wlad ? Yn niffyg gwybod eu hunain beth y byddai yn ddiogel ei ddyweyd, ai aros y maent hwy hyd nes y bydd y bobl yn gwneyd yn hysbys pa beth a garent iddynt ei ddyweyd ? Ac fe allai y disgwylia y Cymry i ryw gyfarfod perthynol i Gyng- hrair Cymru Fydd ystyried hyn, a chyttuno ar Raglen, o ddeutu yr hon yr ymgasgla Rhyddfrydwyr y Dywysogaetb. Mor bell ag y mae Cymru yn myned, af- reidiol yw dyweyd mai ofer fydd cynnyg unrhyw Raglen heb Ddadsefydliad a Dad- waddoliad mewn lIe amlwg ynddi, a Mesur Tir trwyadl dda a ehy fiawn i'n hamaethwyr! Yr ydym wedi gwneyd ein meddyliau i.fyny ar hyn, a dyweyd y Ileiaf, gan nad pa faint a wahaniaethwn ar faterion eraill. Y mae Mr. LLOYD-GEOBGE wedi cyhoeddi ei syniadau, a bwriadwn sylwi arnynt yr wythnos nesaf.

CRISTIONOGION Y DWYRAINI MEWN…

ILIVERPOOL. I

[No title]

Jtetogbtoit Iramor.

ITIROEDD Y GORON YN !NGOGLEDD…

i CONWY.

T R A M 0 R .