Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
TELERAU AM Y 'PANER.'
News
Cite
Share
TELERAU AM Y 'PANER.' Pais argraphiad dydd Mercher ydyw fcj. El pbria am chwarter, yn jhad drwy'r post, os cymmerir 2, neu nnrhyw nifer mwy dan yr un amies, yw yn ol 28. 2g. yr un, ond tain yn mlaen; neu 2s. 6c. os na wneir hyny. Et phris wedi el atampio yw 2!g. neu 28. 9o. y chwarter, ond talu yn mlaen; a 3s. os na wneir hyny. PKIS argmphiad dydd SaA? ydyw I' y' un ond el phri> am chwaiter, yn rhad drwy Y po&t aw 18. ?, ond talu yn mlaen, neu 28. o wneir hyny. Anfenu 2 gopl l?wy y post am 28. 9e. y chwarter, ond talu yn mlaen, nen 38. os na wneir hyny. Hefyd, anfonir 4, 6, nen únrhyw gyfnifei yn ddldriul drwy y post gan y Cyboeddwr yn ollg. yr un. Y MAE y chwarterl yn terfynu ddlwedd Mawrth, Mehefln, Medi, a Rliagfyr. Yn mhob smgylchlad, anfonir hi yn mlaen hyd nea y celr rhybudd I attal. BARDDONIAETH.—Y mae ami un o'r beirdd, wrth anfon hoddt 3, y cyfanaoddiadau i nl, yn pwyao -.0' rirdd rtb -fo" wythnoa n..f., Dymunwn by'. y cyfryw fod yn <un mhOMtbI i 1==u g?. o.,1 1. yb..di, 03 "ydd "by' nd yn dymnno :1°t6en:blífnf M farwolaethau, prlodasau, nen enedigaetbau, &c., dealler, os bydd yn mgirhaidiol Iddynt mfon 8c. am bob lune? a gynnwysa c ;,socidisdau. C&nt felly ymddangoa yn y n?..f., ao ni byddwn yn gyfrlfol am eu rhagoroldeb fel cyfanaoddladan. 0.' "'n% h,. bydd,. -g,,rh"d i.1 i i nfon y yf.??8oddiadpu at olygydd y ?p..Id: onlaath. a chymmer f'lly ral wythnosau cyn ymddangos, yn OISWIn y farddoniaeth fvdd mewn llaw. UNOL DALAETHAU YR AMERICA.- Anfonir y ddwy FANER am y pn.iau canlynol yn ddi-draul 1'r Unol Dal- aethauBASSE dydd Mercher yn 01 8s. 8c. y chwarter, a B- dydd Sadwrn yn ol 28. 2?. y chwarter:—ondyn mhob amgylchiad, y mae yn rhald taln yn mlaen, ae teli' p" y dd jrr w' treulio. Gellir :tfr rrwauddl'd Yfaae .r ;;wtldråsn I parchuB dlogel araU yn Lloegr; a gwell hyn na thalu trwy bapur? dollars yr Unol Da ?, "t h au, gan od eu g.gy hwy yn gyfnewldiol yn y wlad bon, G?yr p-b, hefyd pa bryd y terfyna.
TELERAU AM HYSBYSIADAU.
News
Cite
Share
TELERAU AM HYSBYSIADAU. Y.P?is am Hysby.ladau Masnwhol, Yagolion, Eisteddfod? Oyfarfodydd Cyboeddua, Llvfrau, &c„ fydd yn ol 38. y fod- fedd g_ f.,i. 11&- y golofn. AM Hyabyaiadan o Yn Kisievt,'he., yn cynnwys o r:a I Am Mys? codir ?,. ,so yn ol lc. am bob tri ,2 d b oa telir yn mlaenllaw; neu, 4c. Y llinell, o« n. wneir hyny.
OARTREFOL.I
News
Cite
Share
OARTREFOL. CLERIG yn Eglwys Loegr ydyw y Parchedig HERBERT WILLIAMS, sydd newydd fod yn traethu ei len am weinidogion Ymneillduol. Amcan rhai o'r clerigion hyn ydyw dyweyd y pethau mwyaf bustlaidd a allant am ddos- barth nas gellir eu cymmharu hwy iddynt am dduwioldeb na dawn pregethwrol, er mwyn tynu sylw atynt eu hunain, a chael eu gweled gan y bobl sydd yn meddu hawl i ddyrchafu, meddai hwn' Gwir a ddywed- odd un o'r siaradwyr yn y Gynghres EgI. wysig, y byddai yn gywilydd genym ni, yr offeiriaid, gael ein camgymmeryd am wein- idogion Ymneillduol. Byddai, yn y modd mwyaf pendant. Rhaid i ni gofio, os cam- gymmerir ni am yr uchod, neu hyd yn oed am swyddogion yn nghatrodau y gwfr meirch, y bydd gan DDUW ei hunan gywil- ydd o honom.' Yr ydym yn gobeithio na roddir y parchedig' hwn yn y brofedigaeth y sonia efe am dani. O'r bron nad ydym yn barod i ddyfalu y byddai yn radd o gywil- ydd gan y gweinidogion Ymneillduol gael eu camgymmeryd gan neb byth am y Parch- edig' HERBERT WILLIAMS. Ai tybed nad yw y clerig trahaus hwn yn ddigon o dduw- inydd i wybod mai yr hyn a bftr i DDUW gywilyddio mwyaf o ddim o'i herwydd yn ngweinidogion ei gyssegr ef ydyw ysbryd,tra- hausfalch, a chroes i'r efengyl y proflesant ei phregethu. Hyn, ac nid cael ei gamgym- meryd am weinidog Ymneillduol, ydyw per- ygl mwyaf yr ofl'eiriad' hwn. Enghraifft arall o'r ysbryd sydd yn llywodraethu nifer fawr o'r glerigaeth egl- wysig yw yr un ganlynol :-Mewn treflan fechau yn nwyreinbarth Lloegr y digwydd. odd, Daeth chwaer grefyddol iawn, mewn amgylchiadau da, i edrych am lerch fach o bedair i bum mlwydd oed, oedd yn glaf, ac i weini yn hael i'w rheidiau. Daeth yno amryw, weithiau, ac nid yn waglaw un tro. A da hyny, am fod y teulu yn dlawd. Ond Annibynwraig oedd hi. Y tro diweddaf y bu hi yno, sylwai fod mam yr eneth yn edrych yn bryderus trwy y ffenestr ar hyd yr amsor, fel pe yn ofni i rhywun na ddyoiimai ddyfod i'r golwg, a throi i mewn. A pliaii oodd y wraig garedig a haelionus yn myned allan, esboniodd y fam ei phryder, trwy ddyweyd wrthi:—' Mae yn rhaid i mi ofyn i chwi beidio dyfod yma etto, am fod y parson yn dra digofus eich bod chwi yn galw o gwbl.' Y parson hwn oedd y g*r fu yn dyweyd, pan ofynwyd iddo ddyfod i gyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeithas yn ei ardnl Na ddof. Pe deuwn, hwyrach y byddai yno ryw weinidog bach yn perthyn i'r Bedyddwyr yn eistedd ar yr un llwyfan a mi, ac yn fy ngalw yn frawd.' Druan o'r creaduryn oul Yr Anrhydeddus Mr. FIELDING, brawd larll DINBYCH, a ddirwywyd i bum swllt, wythnos i heddyw, yn niffyg talu, carcherid ef am dridiau. Gyru ei feisycl' yn yr hwyr heb oleuni oedd ei drosedd. Yn Ysgotland y bu hyn. Gwrthodai y g*r arianog dalu y ddirwy, am fod ganddo eisieu cael cyfleusdra i weled y tu mewn i garchar Ysgotaidd. Cafodd ei ddymuniad yn ol un adroddiad. Adroddiad arall a ddywed iddo dalu wedi cyrhaedd y lie. Un olwg arno ydoedd ddigon iddo, debygid. Gwasgodau sidan amryliw fydd gan Dywysog Cymru am dano gyda'r nos bell- ach. Daeth rhyw bobl ato yn ddiwediar, gan ei argyhoeddi mai yr unig ffordd i roddi bywyd newydd yn masnach y sidan ydoedd ei gael ef i ddechreu gwisgo gwasgodau sidan. Yr un diwrnod, yr wythnos ddiwsddaf, bu dwy hen chwaer feirw yr un oed, nid amgen cant a phum mlwydd. Yn Llanelli y bu un farw Mrs. MORRIS ydoedd ei henw hi. Pan yn cyrhaedd pen ei btwydd ddi- weddaf, hi a gafodd *n a gwlanen gan Dy. wysoges Cymru. Cadwai ei synwyrau a'i chynneddfau yn gryfion bron hyd y diwedd. Ychydig ddyddiau y bu hi yn glaf. Amryw flynyddoedd yn ol, nis gallai weled dim. Cynimerodd meddyg ei llygad mewn llaw, a thynodd ymaith, yn llwyddiannus, y lien a dyfasai drosto, a daeth hithau i weled yn dda. Bu iddi bed war ar ddeg o blant; ond, un o honynt yn unig sydd ynfyw. Yn Rhiwabon y bu farw y Hall Mrs. NORTH oedd hi dan ei henw. Hithau, hefyd, a gad- wai ei galluoedd yn glir i'r diwedd. Pan aed i dynu ei dillad i ymgeleddu ei phabell bridd, daethpwyd o hyd i swm da o arian wedi eu cuddio gan di. Hi a fuasai yn ofalus am ei cheiniog ar hyd ei hoes faith. Dodwyd dyn o flaen ynadon Coventry, ychydig ddyddiau yn ol, am feddwi yr hwn a ddywedai mai ei dri chanfed ymddangosiad ar ryw gyhuddiad neu gilydd, ydoedd hwnw. Hefyd, bu mewn dalfa yn mhob carchar yn Lloegr. Mae dau o heddweision sir Faesyfed li'w cadw yn ngharchar am naw mis o lafur caled am ymddwyn fel bwystfilod tuag at ryw grwydryu anffodus a syrthiodd i'w dwylaw mileinig. Ar gyfrwysder lladron nid oes derfyn. Mae yr hyn a ddigwyddodd yn Ilfracambe, yn Ngwlad yr Haf, yr wythnos ddiweddaf, cystal enghraifft a'r un y clywsom ei hanes er's talm. I un o'r Ilettydai yn y dref hono, daeth] dyn a dwy ddynes. Eu hymddang- osiad ydoedd foneddigaidd, Eisieu Ilogi dwy neu dair o ystafelloedd oedd ganddynt am ychydig wythnosau; ac yr oeddynt yn barod i dalu yn dda am danynt. Am mai ar lettya dyeithriaid yr oedd hi yn byw, aeth gwraig y tty a hwy i fyny i'r Uofftydd i ddangos yr ystafelloedd iddynt. A'r druanes ddiniwed a dybiai ei bod, yn sicr, yn awr wedi 'taraw ar bobol neis iawn.' Nid mor 'neis.' irnsydyn, wele y dyn yn taraw ei law yn dyn ar ei genau hi a rhyngddo ef a'r ddwy fenyw, maent yn ei rhwymo yn ddi- ogel wrth y gwely oedd yn yr ystafell, fel I nad allai na gwaeddi na symmud; ac yn cipio y blwch Y11 tnha un y cadwai hi ei holl arian, gan fyned ymaith, a gadael y dref. Yn mhen amser maith y darganfyddwyd adfyd gwraig y ty gan un o'r cymmydoges- au. Nid yw heddgeidwaid Ilfracombe etto wedi dal cyflawnwyr y weithred anfad. Disgwyliwn na fyddant yn hir heb wneyd. Nid yw yr Esgob SHEEPSHANKS o Norwich yn D. D. Buasai y teitl yn costio iddo 70p. Barnodd yntau y byddai yn well iddo wano yr arian ar bethau mwy angenrheidiol ynglyn a'i esgobaeth. Campus, yn wir Nid yw y Ilywodraeth yn debyg o flino ei hun gyda mesur ar yr Ysgolion Eglwysig y flwydayn nesaf. Dywedir nad yw Mr. CHAMBERLAIN, ac eraill o'r Undebwyr sydd yn dilyn ei arweinyddiaeth ef, yn foddlawn i werthu cymmaint ar eu hegwyddorion fel ag i bleidio roesur o'r fath yma. Yr oil a wneir i leddfu teimladau y parsoniaid y flwyddyn nesaf fydd gwneyd ymchwiliadau rhagarweiniol i ddeddfwriaeth. Yn marwolaeth Mr. DANIEL Owen, Wydd- grug, collodd Cymru ei nofelydd dihafal. Pan yn arfer pregethu yn mnulpudau y Methodistiaid, chwarter canrif yn ol, nid oedd neb a edmygid ac a iwynheid yn fwy nag ef gan y craff a'r raeddylgar. Er hyny ammheuwn a osodasai efe ei n6d ar y genedl fel pregethwr, fel y gwnaeth, yn marn pawb fel nofelydd. Creodd Y Dreflan, Rhys Lewis yn enwedig, Enoc Huws, a Gwen Tomos, gyfnod newydd yn Ilenyddiaeth Cymru. Profwyd fod yn ein mysg un a fedrai gyfansoddi chwedl wir Gymreig. Ceir ei hanes yn fanwl mewn colofn arall yn y rhifyn, ac adroddiad am ei gladdedigaeth. Chwith genym ystyried fod yr athrylith- lawn DANIEL OWEN yn ei fedd. Tybed fod ei fantell wedi disgyn ar rywun ? Rhoddir ar ddeall fod amryw Doriaid ac Undebwyr wedi cael rhaghysbysiad dymunol gan y prifweinidog y bydd efe yn cynnwys eu henwau hwy yn rhestr y rhai fydd yn cael eu hanrhydeddu â. theitlau tua'r Calan nesaf. Nis gwyddom ni, wrth gwrs, pa enwau fydd ynddi. Ai tybed y bydd eiddo y ddau ymgeisydd Toriaidd Cymreig sydd wedi ymladd cynnifer o frwydrau aflwydd- iannus y blaid-y Mri. P. P. PENNANT o sir Fflint, ac ELLIS NANNEY o Arfon 1 Sibrydir er's wythnosau eu bod hwy i gael rhyw beth yn ad-daliad am eu pybyrwch a'u ffydd. londeb. A chan mai nid cydnabod gwasan- aeth i'r wlad, ond i w blaid, y bydd Argl- wydd SALISBURY yn wastad wrth ranu teitlau, addefwn yn rhwydd nas gwyddom am ddau mwy haeddiannol o'r wobr na hwy. Y mae Mr. CORNWALLIS WEST, o Gastell Rhuthyn, hefyd, yn disgwyl am rywbeth er's blynyddoedd. Nid oes yr un o'r cynnadleddau Eglwysig sydd wedi eu cynnal o fewn yr wythnosau diweddaf wedi gallu myned heibio i'r cwest- iwn ynghylch cael cymmhorth y llywodr- aeth at gynnal yr ysgolion dyddiol eglwysig, ac yr un pryd, cadw eu rheolaeth yn nwylaw y parsoniaid. Yr ydym, mewn rhifynau blaenorol, wedi galw sylw at y drafodaeth mewn amryw o honynt. Bu y pwngc dan sylw mewn tair yn chwaneg yr wythnos ddiweddaf—St. Albans, Llandaf, a Henffordd Yn ei anerchiad agoriadol, llefarai esgob St. Albans yn erbyn 'cynnorthwyo ysgolion gwirfoddol allan o'r trethiond, awgrymai yn hytrach fod yr athrawon yn cael cyfran o'u cyflogau yn uniongyrchol trwy rodd gan y llywodraeth.' Uno ganlyniadau anochel- adwy rhoddi y cynnygiad hwn mewn gweithrediad fyddai fod gan yr athraw, pan yn cael ei droi ymaith gan y par- son, neu y pwyllgor arolygiadol, hawl i appelio at y Swyddfa Addysg. Yn naturiol, nid oedd cynnadledd o barsoniaid ac yswein- iaid yn foddlawn gollwng yr awenau allan o'u dwylaw i'r graddau hyn; ac am hyny yn groes i ewyllys y prelad, y penderfyniad a basiwyd ydoedd, 'eu bod yn gofyn am chwaneg o gymmhorth arianol at yr adeil. adau, cyflogau yr athrawon, a llyfrau ac wrth gwrs, y rheolaeth yn aros o hyd yn eu dwylaw eu hunain. Yn nghynnadledd esgobaeth Llandaf, y penderfyniad a basiwyd yn chwyrn ac unfrydol ydoedd eu bod yn gofyn am chwaneg o gymmhorth arianol, a'i fod i ddy fod yn uniongyrchol o'r trethi cyffredinol, neu o'r drysorfa ymherodrol, ac nid o'r trethi Ileol. Yr ydym, mewn erthygl arwein- iol, wythnos yn ol, wedi egluro pa fantais a ddisgwyliai y parsoniaid wrth osod eu hys- golion ar bwra y wlad, ac nid ar drethi yr ardaloedd. Yr un diwrnod, yr oedd cyng- hor AnghydflFnrfiol' Dosbarth iRhydycham yn pasio penderfyniad ar yr ochr arall i'r pwngc, ac yn rhoddi dadganiad clir a diam- mwys i'r egwyddor' y dYlai gwario arian y cyhoedd ar addysg, fel i bob amcan arall, fod yn ddarostyngedig i reolaeth y bobl.' Ymddengys fod Dr. PBBOIVAL, esgob Rhyddfrydig Henffordd, i fesur, os nad yn hollol o'r un farn a hyn. Yn ei anerchiad wrth agor cynnadledd ei esgobaeth ddydd lau, efe a wrthwynebai bob trefniant 0 lroadu, dioh chwanegol o'r dry?orfa ymherodr- ol fel gwastraff a pheth peryglusi; ac aw- grymai mai yr hyn y dylid el gael ydoedd darpariaeth leol gyda rheolaeth leol. Yr anhawsder mwyaf ar y ffordd, medd efe, ydyw fod telerau Cymdeithas yr Ysgolion Cenedlaethol mor gulion fel y maent yn attal Anghydffurfwyr ae Eglwyswyr i gyd- weithio ft'u gilydd, feI y dymunent wneyd yn esgobaeth Henffordd. Dydd Mercher, dewiswyd Arglwydd REN- DEL f) Hatchlands (Mr. STUART RENDEL) yn Ilywydd Coleg Prifysgol Aberystwyth, yn lie y diweddar Arglwydd ABERDAR. Dealla Arglwydd ROSEBERY ei ddyled- swyddau fel tirfeddiannwr yn drwyadl. Mae efe newydd osod un o'i ffermyad yn Midlothian i w-r o'r enw Mr. JOHN BAILLIB. Cynnygiai amryw amaethwyr chwaneg o ardreth am dam ond, gan ddilyn ei arfer gyffredin, derbyniodd ei arglwyddiaeth gyn- nyg y gtvr hwn, am ei fod yn barod i roddi rhent deg am dani, a'i fod yn d..byddu. fel ffermwr ymarferol trwyadl dda. Rhai o dirfeddiannwyr Cymru a'i rhoddasent Pr uchaf ei gynnyg eraill, i Eglwyswr, am lai o bris nag i Ymneilldiiwr, a hwnw wedi ei chael yn ei 'rhedeg' am ychydig flynydd- oedd ac y mae yma rhai yn ddiau a fuasai yn ymddwyn ar gynllun Argl. ROSEBERY. Yn Nghynghor Sirol ddydd Gwener, penderfynwyd pennodi jswyllgor i ymweled ft thirfeddiannwyr yr ynys, gyda'r amcan o gael gwybod ganddynt a fyddent hwy yn barod i roddi tir, ar delerau esmwyth, i wneyd llinellau o ffyrdd haiarn ysgeifn trwy wahanol ranau o'r sir. Hefyd, penderfyn- wyd appelio at y llywodraeth am gym- mhorth arianol i wneyd porthladdoedd i bysgodwyr yn Moelfre a'r Traeth Coch. Yn ystod y pythefnos diweddaf, dygwyd deugain mil o 'dybiau' ymenyn 'hufen' (I creamery' butter) drosodd o Unol Dalaeth- au yr America i'r wlad hon. Hyd yn hyn, Ilkenyn 'ffactri' (,factory I butur) a arferid ei anfon drosodd a dim ond rhyw ddwy fil o dybiau' yr wythnos o hwnw. Disgwyl- iwn glywed rhai Toriaid yn union bellacb, yn dechreu dadwrdd ynghylch 'cau y m6r Dechreuodd treial JABEZ BALFOUR, yn Llundain, ddydd Gwener. Gydag ef profid pedwar eraill oil yn dal cyssylltiad ft Chym- deithas Adeiladu y Liberator. Y Barnwr BRUCE a eisteddai ar y faingc. Yr erlynydd ydoedd Syr RICHARD W EBOTICE, y Cyfreithiwr Cyffredinol dros y llywodraeth. Parhft y prawf am ddyddiau lawer, yn ol pob golwg canys dywed Mr. JOHN O'CONNOR, y dadleu- ydd amddiffynol, yr hwn a gynnorthwyir gan Mr. SWANTON, y gwna efe yr oil o fewn ei allu i'w cael yn rhyddion. Ymddangosai JABEZ yn siriol ei wala, ac yn dra hyderus y bydd i'w ddieuogrwydd ef gael ei brofi uwch law pob ammheuaeth. Ychydig ddyddordeb a gymmerir yn manylion y prawf. Y cwbl y teimla y cyhoedd yn awyddus iawn am ei weled ydyw, canlyniad yprawf-beth fydd y ddedfryd. Wedi y cwbl, cyflawni hunanladdiad mewn cyflwr o wallgofrwydd amserol a wnaeth Ardalydd W ATERFORD, yn ol dedfryd y rheithwyr ar y trengholiad a fu ar ei gorph. Tybiwyd unwaith y rhoddasai Arglwydd DUFFERIN ei swydd fel llyggenadwr, ac y dychwelasai o Paris, cyn diwedd y flwyddyn hon. Yn ol yr adroddiadau sydd ar led yn awr, nid yw efe yn debyg o ddyfod oddi yno cyn diwedd yr haf nesaf. Erbyn hyny, gellir hyderu y bydd pob peth wedi tawefu yn Nghaer Cystenyn ac yna, y gellir rhoddi dyrchafiad haeddiannol i Syr PHILLIPS CUR- RIE, trwy ei symmud i Paris, a'i wneyd yn bendefig. Modd bynag, mae hi, yn ol pob tebyg, ar ben i Ardalydd LONDONDERRY gael ei wneyd yn llysgenadwr yn y ddinas yr arferir cadw y goreu a'r mwyaf profiadol yn y gwasanaeth. Byddai yn chwith iawn genym orfod credu fod rhithyn o wirionedd mewn un sibrwd sydd ar led yn y dyddiau hyn. Y s. tyr hwnw ydyw, fod Arglwydd WOLSELEY i gael ei gadw yn gadlyw y fyddin Brydeinig am bum mlynedd, ac yna i gilio o'r neilldu, er mwyn gwneyd He i'r Due o CONNAUGHT, trydydd mab y frenhines. Mae un peth yn eglur, gan nad faint o wir sydd yn y sibrwd slf, fod y Due yn gweithio yn galed i gym- mhwyso ei hun ar gyfer y swydd. Ei nai ymherawdwr yr Almaen, a goledda feddwi uchel iawn am dano yn barod fel milwr rhagorol. Dydd Llun, cyn y diweddaf, rhoddodd gwraig i saer maen yn Kent-road, Llundain, enedigaeth i bump o fabanod (genethod); tair o ba rai a anwyd yn fyw, ond a fuont feirw yn ddioed. Y ddwy arall a anwyd yn feirw. Trwy anhawader mawr y Uwyddodd y meddyg i gadw y fam yn fyw. Ond, y mae hi yn awr yn dyfod yn mlaen yn rhag- orol. Dynes gref o ddeutu pymtheg ar orol' Dynes ce a Tdyw hi, a hugain mlwydd oed, ydyw hi, a bu iddi dri o blant yn flaenorol; ond ganwyd y rhai hyny yn y drefn gyffredin. Yn y flwyddyn 1889, daeth geneth ieuangc, ddwy flwydd a r bymtheg oed o'r enw ELLA LOUISE CLARKE, i mewn i egiwys t, Santes Fair Abades, yn Kensington, lundain. Daeth yno mewn cerbyd gyda'i mam. Aeth trwy y seremoni briodaso gyda dyn o'r enw WILLIAM DOUGLAS SOMERSET STIER. Nid oedd wedi bod yn rhag-gyfeillachu dim Ilg ef yn ftaenorol i ac yn ei diniweidrwydd hi a dybiodd mai cael ei dyweddio, ac nid ei phriodi, yr oedd hi. Yr un diwrnod, cy- chwynodd ei g*r am Natal, yn Nehoubarth Affnca. Yn y flwyddyn 1894 hi a briododd ddyn o'r enw Mr. FORD. Ond, yn ddilynol i hyny, daeth STIER yn ei ol, ac hawliodd hi fel ei wraig gyfreithlawn ef. Yn nrws yr eglwys, ar ol gorphen y seremoni, ta flodd: enethig ei modrwy bnodasol ymaith. Ni ddywedodd wrth neb am yr hyn a gymmer- asai le, am fod ei mam (yr hon sydd wedi marw) wedi gorchymyn iddi ei gadw yn ddistaw. Ni wyddai ei thad ddim am y peth. Mao yr achoa yn awr o flaen Llys yr Ysgariaeth, ond heb ei benderfynu etto gwraig i ba un o'r ddau-os i un o honynt— yw hi.
T R A M 0 R .
News
Cite
Share
T R A M 0 R CYRHAEDDODD y Windward, llestr ymgyrch JACKSON a HARMSWORTH i Fdr y Gogledd, yn ddiogel, er nad yn ddianaf, i Gravesend, Llundain, ddydd Mawrth a dranoeth, dyg- wyd hi i fyny gyferbyn a'r TWr. Dygai gyda hi lonaid ei chaban o arsylliadau gwyddoregol, o dan sel;' a gobeithir a chred ir y bydd rhywbeth yn cael ei ddyweyd pan ddattodir y seliau, gwerth gwrandaw arno ynghylch gwlad anghysbell Franz Josef. Nid oes dan y seliau ddim— o'r hyn lleiaf, ddim o natur arbenigol-am Begwn y Gogl- edd. Nid aeth Mr. JACKSON allan i geisio darganfod y Pegwn o gwbl, ond yn hytrach i archwilio yr hyn a gredir sydd yn gyfan- dir mawr, wedi ei alw ar enw ymherawdwr Awstria. Pe deuai gwybodaeth am y Pegwn yn ei ffordd, wrth gwrs, talai efe sylw iddo, fel i bob peth arall ond anifeUiaid a Mys- ieuaeth Franz Josef oeddynt wrthddrychau arbenig ei archwiliadau i fod. Yno y mae Mr. JACKSON o hyd, efe a'i.fintai mewn ty clyd, a chanddynt bob cyflenwad angen- rheidiol ac yn mis Mehefin nesaf, a y Windward yn ei hoi, gyda chwaneg o ystor- feydd iddynt. Boed llwyddiant mawr iddo ef a'i fintai. Y n ninas Naples, y dydd o'r blaen ie, yn un o'i heolydd mwyaf poblog, lladratawyd ei phwrs o logell boneddiges o'r Almaen. Hi a waeddodd a chyn i'r lieidr allu diangc, hi a lwyddodd i gipio ei heiddo yn ol oddi ar yr ysbeilydd; ac yntau, mewn dychryn, a ffodd ymaith. Ger Haw, yn edrych arno yn diangc, yr oedd heddgeidwad, i'r hwn y gof- ynodd boneddwr a ddigwyddai basiopa ham na fuasai efe yn rhedeg ar ol y lleidr. I beth y rhedaswn i ar ei ol, ac yntau wedi methu cael y pwrs?' attebai yr heddwas Ond, am ei fod yn lleidr,' meddai y bonedd- wr. Hym ebai g*r y g6t las' 'mae y Sbrdd yma faint fynoch chwi o'r dosbarth yna t* Y cwestiwn sydd eisoes yn dechreu cael ei godi yn Ffraingc ydyw, pa beth a wneir o Madagascar. Pa un ai ei gwneyd yn dal- aeth, a rhoddi iddi gynnrychiolaeth senedd- ol; ai yntau ei gosod o dan amddiffyniad y weriniaeth 1 Nid yw y llywodraeth etto wedi cael hamdden 1 feddwl am y mater. Am ddwy ganrif y bu y Montenegriaid a ganmolir mor fawr gan Mr. GLADSTONE yn ymladd cyn ennill eu hannibyniaeth-yr ymdrechfa hwyaf y gwyddis am dani mewn hanesiaeth. Eu gwlad ydoedd dlawd a di- ffseth, a'u nifer hwythau o'i mewn yn ddim mwy na dau can mil, neu ddegwm poblog- aeth Groeg. Etto, maent yn llwyddo i gil- gwthio ymosodiadau parhaus ymherodraeth lwrol nerthol &'i phoblogaeth, pan yn eu hanterth, yn rhifo deugain miliwn, o ba rai y gellid galw rhai miliynau ynghyd i was- anaethu yn y fyddin. Yn sicr, nid rhyfedd genym fod pob gwr o Montenegro yn teimlo dan rwymau moesau da i fyned allan o'i dt, hyd yn oed am dro am eijiechyd, wedi ymarf- ogi hyd yr ên, er ei fod wedi ennill ei anni- byniaeth er's blynyddau, ac yn cael ei gyd- nabod felly gan Twrci ei hun. A phan yr ystyriom fod pobl y Mynydd Du, nid yn unig wedi ymladd am eu hannibyniaeth eu hunain ond, oeddynt bob amser yn barod i estyn Haw o gymmhorth i'w brodyr Cristion- ogol gorthrymedig dros eu terfynau, nis gallwn lai nag edmygu y genedl fechan y mae iddi hanes mor ardderchog; ond, yr hon y myn mftn Doriaid yn Mhrydain geisio ei gwaradwyddo yn y dyddiau hyn, yn unig am fod Mr. GLADSTONE wedi ei chanmawl. Nid oes dim ymladd am arian i gael ei ganiatau yn Nhalaeth Arkansas. Mae awd- urdod uchaf y dalaeth wedi penderfynu ei fod yn anghyfreithlawn. Canlyniad y dded- fryd bon ydyw, fod CORBET, un o'r'ddau her- ymladdwr y cododd y ddadl yn eu cylch, wedi ei gymmeryd i'r ddalfa, ac wedi ei rwymo dan feichiafon i gadw vr heddweh. Gwneir yr un peth ft FITZSIMMONS, yr ym- laddwr arall, os daw efe i mewn i'r dalaetb. Gwaharddiad cyffelyb i hferymladdfeydd a roddir yn mhob talaeth o'r undeb. Tybia y diplomyddion eu bod wedi ewbl. hau eu holl waith mewn perthynas Ag Ar. menia. Ymddiriedant yn addewidion y Sultan, gan eu galw yn 1, ymrwymiadau.' Ni byddai yn syn genym eu gweled wedi cael achos gofidus i newid eu meddyliau cyn pen ychydig fisoedd. Rhai o'r Armeniaid eu hunain, hefyd, a dybiant fod cyfnod newydd yn hanes eu gwlad wedi ei ddechreu. 0.. J, y rhai mwyaf craf f yn eu mysg a ofnant y gwaethaf. Nid oes ymddiried i'w roddi yn y Twrc. ■ Yn Macedonia, parhft yr amgylchiadau yn dra chythryblus. Y dydd o'r blaen, dywed- ai un o brif flaenoriaid y gwrthryfel ei fod ef am roddi ei arfau i lawr am ddau fis, gan ddisgwyl y gwneir rhywbeth, yn y cYfam- ser i ysgafnhau yr ormes. Ond, os na wet efe argoel o hyny erbyn y Nadolig, tynga yn ei lid y cymmer hwy i fyny drachefn, ac y casgl ei ganlynwyr ynghyd i ymladd brwydr iawnder ei wlad allan hyd yr eithaf. Yr hanes diweddaf oddi yno ydyw fod gwrthryfelwyr eraill yn mhell o fod wedi rhoddi eu harfau i lawr. Ar bentref Tyrc- aidd o'r enw Katunitza, ymosododd mintai o honynt, yn rhifo tua deg a thrigain, y dydd o'r blaen. Daethant arno yn gwbl annis- gwyliadwy. Tra yr oeddynt ar ganol y gwaith o'i anrheithio, daeth mintai o filwyr Twrci ar eu gwarthaf, gan danio arnynt, a pheri iddynt ffoi. Erlidiodd y milwyr ar eu holau. Yn gyfrwys, ffddd y gwrthryfelwyr yn nghyfeiriad gtyn neu nant gul yn y mynyddoedd; a phan gawsant eu gelynion i'w ganol, dechreuasant droi arnynt, gan ollwng cawodydd didrugaredd o ergydion i'w canol, nes lladd pump ar hugain o hon- ynt, a chlwyfo llawer yn chwaneg. Encil- iodd y gwrthryfelwyr, yn hamddenol, i'r mynyddoedd ac yno, ni feiddiai y Tyrciaid erlyn ar eu holau. Ysywaeth, bydd raid i wragedd a phlant diniwed ddioddef am y lladafa hon. Myn y Tyrciaid ddial ar ryw rai. Nid yw yr Eidal i gael myned drwy ei rhyfelgyrch yn erbyn Abyssinia n.or fuan ag y meddyliodd hi, yn ol yr argoelion pres- ennoi. Nid yw y Brenin MENELIK am gym- meryd ei.lethu yn rhwydd, mae yn amlwgl os o gwbl. Mae efe wedi casglu ynghyd fyddin sydd yn rhifo can mil a banner o wtr. O'r rhai hyn ylmae wedi anfonltrieain mil i Magdala, ei brifddinas, gan ddisgwyl y byddant yn alluog i'w chadw rhag syrthio i ddwyiaw yr Eidaliaid, fel y syrthiodd i ddwylaw y 7; ydeiniaid saith mlynedd ar hugain yn ol. Na nid ydyw y Pab etto ar ei wely ang- eu, er cynnifer yr adroddiadau am hyny. Yn hytrach, mae yn gallu derbyn rhai i ym. gynghori a hwy bob dydd. Ar yr un pryd, mae yn amlwg ei ,fod ef yn gwaelu. Prin y disgwylir iddo fyw trwy y gauaf hwn. Dyma yr olwg a gymmerir ar ei gyflwr gan bobl sydd yn gwybod yn dda am dano. Nid oes unrhyw ammhariaeth ar ei alluoedd meddyliol. Mae ei allu bywydol (vitality) yn ei ymenydd yn benaf. A hyn sydd yn peri i lawer gamgymmeryd yn ei gylch. Wrth ei weled mor alluog o fe dwl, tybiant ei fod ef felly o gorph hefyd. Ond y di- rywiad cyffredinol yn' y babell bridd I ydyw y peth amlycaf i'r rhai sydd yn byw yn agos ato. O'r diwedd, y mae galluoedd ymyrgar Ewrop wedi gorphen dyfod i delerau ft Japan gyda golwg ar y cyfnewidiadau y mynent hwy iddi hi eu gwneyd yn ei chyttundeb heddweh i Chin. Mae pob un o honynt yn cael rhyw fantais iddo ei hun. Mae China ei hun yn mysg y rhai sydd yn manteisio, Nid yn unig caiff gadw Gorynys Liao Tung, ond gostyngir cryn lawer, hefyd, yn yr iawn rhyfel y gofynai Japan ar y cyntaf iddi ei dalu. 0 du Japan ei hun gwell ganddi fuasai galw ei milwyr adref o China ar yr ammod ei bod htyn caeI gwneyd cyttundeb masnachol Wr 'Ymherodraeth Nefol.' Ond hyn a waharddwyd iddi yn bendant. Cael hyn ydoedd un o brif amcanion y rhyfel gan y Japaniaid. Ond, maent yn awr yn ei golli yn llwyr; ac ymddengys mai yr Almaen,lyn benaf, sydd wedi sefyll ar yffordd. Gellir tybio mai Ffraingo a awgrymodd yr adran nad ydyw Formosa a'r Pescadores (nifer o fftn ynysoedd) i gael eu rhoddi i fyny fan lywodraeth Japan i unrhyw allu tramor. Pe yn lie 'unrhyw allu trampr' y dar- llenem un gallu neillduol na ddewisir ei enwi,' hwyrach y deuem yn agosach at fedd- wl y diplomydd a dynodd yr adran hon allan. Prydain, wrth gwrs, ydyw hwnw. Mae gwotr Yspaen yn gymmesur a'r rhan fech- an a gymmeredd hi yn y drafodaeth; aef, cael deffiniad mwy clir ar y terfyn rhwng Formosa ac Ynysoedd y Philippiaid. Ceir gwobr Rwssia yn y rhan hono o'r cyttundeb sydd yn cadw Japan rhag meddiannu dim ar gyfandir Asia ei hun. Am fod yr am- modau hyn yn amddifadu Japan o rai o'i phrif amcanion yn myned i ryfel, gallon fod yn sicr nad ydys wedi clywed y gair olaf am y cyttundeb newydd. Modd bynag, gallwn deimlo yn falch nad oedd gan ein llywodr- aeth ni na rhan na chyfran mewn gwthio yr ammodau caledion hyn ar yr unig allu Dwyreiniol sydd yn meddu bywyd, ac am hyny yn debyg o fyned ar gynnydd. Gellir bod yn sicr y myn llywodraeth Japan gym. meryd mantais ar y cyfleusdra cyntaf a gaiff hi i ennill amgenach manteision o'i hym- drech fawr ddiweddaf. Y fyddin Chineaidd sydd yn ceisio duios- twng gwrthryfel y Mahometaniaid yn Mon- golia a amgylchir ei hunan gan anhawsder, ac mewn llawer mwy o berygl gorthrechiad na'r gwrthryfelwyr. Trigain mil o wr yw eu rhif, tra y rhifa y gelynion wyth can mil. Un o benderfyniadau diweddaf llywodr. aeth Ffraingc ydyw fod yn rhaid i'r offeir- iaid Pabaidd gymmeryd eu rhan, fel dynion eraill, yn ngwasanaeth milwro eu gwlad. Gorchymyna y gyfraith newydd i bob dines- ydd Ffiengig roddi ei gymmhorth yn am- ddiffyniad y weriniaeth. Sylfaenir y gyf- raith' newydd ar y syniad, neu yn hytrach yr egwyddor, fod pob dyn yn gydradd yn ei berthynas a deddfau ei wlad. Nis gall y Pabyddion rwgnach yn erbyn i'w hoffeiriaid gael eu gwneyd yn filwyr am dymmor, a bod yn gysson a hwy eu hunain, pan y maent yn cynnal cyfarfodydd diolchgarwch arbenig am fuddugoliaethau milwraidd. Y peth cyntaf a wnaeth archesgob Paris pan glywodd am gwymp Antananarivo, prifddin- as Madagascar, ydoedd gorchymyn canu yr anthem Te Deurn (' Ti DDUW a folwn ni') yn y brif eglwys gadeiriol-Notre Dame. Pe gelwid ar yr offeiriaid-filwyr hyn allan i faes y rhyfel, nid yw y gorchymyn newydd yn golygu iddynt ymladd, ond yn hytrach bod;yn ymgeleddwyr ar; y clwyfedigion, a bod at wasanaeth a galwad y meddygon. Myn rhai mai am fod llywodraeth Ffraingc a'r senedd yn cael eu gwneyd i fyny u benaf o Ryddfeddylwyr y pasiwyd y dued?df hon. Digon o atteb i hyn ydyw, fod deddf gyffelyb mewn grym yn yr Almaen Brotest- anaidd. Yno, rhaid i ymgeiswyr am y wein- idogaeth fyned trwy gwrs o ddysgyblaeth filwrol. fel pobl eraill. Yn Ffraingc, cyn i'r ddeddr newydd gael ei phasio, byddai mil- oedd o ddynion ieuaingc yn myned i'r offeir- iadaeth, heb unrhyw gymmhwysderau i'r swydd, yn unig er mwyn bod allan o gylch yr orfodaeth filwrol. Nid ydyw Camlas Fordwyol yr Ymher- awdwr WILLIAM o'r Llychlyn i'r M6r Gogl- eddol yn troi allan cystal, mewn ystyr fas- nachol, ag y disgwylid iddo. Yn wir, mae yn fwy siomedig nag yr ofnai llawer. Ac ni raid myned yn bellI chwilio am y rheffwm- Nis gellir disgwyl i'w lwyddiant fod yn fawr tra y byddo y tollau uchel presennol yn cael eu codi ar y llongau fydd yn myned drwyddo. Rhaid i'r Ymherawdwr WILLIAM ostwng ei bris. Telir sylw arbenig, yn y dyddiau hyn, ga? yr awdurdodau milwrol yn Ffraingc (f>*n ni ddechreu s6n am danynt) i'r modaio goreu i estyn cymmhorth ac ymgeleaa i'r clwyfedigion ar faes y gwaed yn y now. Gwnaed arbrawfiadau gyda goleuadau try-