Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

Llys Ynadol Bettwsycoed.

I I __Llys Ynadol Llanrwst.

News
Cite
Share

Llys Ynadol Llanrwst. I Y Tafarnwyr law yn lIaw a'r Oir- I westwyr yn erbyn Caniatau Trwydded. Dydd LIun, o flaen y Milwriad Johnson, y Milwriad Higson Major Priddle, J. W. Jelf Petit, H. J. W. Watling, W. J. Williams, a John Blackball, Ysweiniaid. Trwydded i Werthu Gwinoedd. Mr. Arthur Parry, Fferyllydd, Llanrwst (dros yr hwn yr ymddanghosai Mr J. E. Humphreys), a wnaeth gais am drwydded llawn i werthu gwinoedd. Yr oedd pedwar o feddygon y dref wedi rhoddi tystiolaeth ei fod yn berson cymwys i gael y cyfryw. Yr oedd yn llwyr ymwrthodwr ei hun, a'i unig amcan oedd cadw gwmoedd at alwadau y claf. Yr oedd yn gorfod myned i gyrchu gwinoedd yn ami i wneyd i fyny yr arcbebion dderbyniai. Mr A. Lloyd Griffith a wrthwynebai ar ran Tafarnwyr y dref. Nid oedd vn deg i Mr Parry gael trwydded am L2 10s y flwyddyn, tra hwy yn gorfod talu rhenti a chostau uchel eraill. Yr oedd trwydded o'r fath yn gyfle i fenywod i ymyfed. Mr E. Davies Jones dros Gymdeithas Pdirwestol y Dref, a wrthwynebai. Yr oedd yn dda ganddo weled y Tafarnwyr law yn llaw a'r Gymdeithas Ddirwestol yn gwrth- wynebu agos cyfleusdra ychwanegol i fen- ywod. Yr oedd ef, (Mr. Jones) wedi clywed y boreu hwn nad oedd o un diben gwrth- wynebu gan fod aelodau y Faingc wedi eu canvassio ar ran caniatau y drwydded. Y CadeiryddâY mae y sylw yn hollol anheg, ni fu neb yn canvassio. Yr Arolygydd Wo'lam a wrthwynebai ganiatau trwydded llawn. Ymneillduodd y Faingc, a dywedodd y Cadeirydd fod mwyafrif y Faingc yn gwrthod y .drwydded, ond pe buasai Mr Parry yn gofya am Medicated Wine Licence yn nnig y cawsai un. Arfej Iaith Aflan yn y Tren. Mr. Fenna, ar ran Cwmni y L. & North Western a gyhuddai un James Haigb, teiliwr, 14, Marine Cresent, Deganwy, o'r trosedd uchod. Vmddengyslfod Mrs Jenkins, Eirianfa, Llanrwst, yn dychwelyd o Llandudno Junct- ion gyda'r tren 2-10 Rhagfyr SOain, 1905, ac i'r diffynydd ddod i'r un cerbyd a hi, gan ddyweyd Credaf y gallwn deithio, heb syrthio allan a'n gilydd." Gan nad oedd yn hoffi yr ymadrodd aeth allan i gerbyd arall. Yn ngorsaf Glan Conwy daeth y diffynydd ati gan arfer iaith rhy aflan i'w rhoddi yn ein colofnau. Rhoddwyd yr hysbvsrwydd yn ngorsaf Llanrwst, Galwyd amryw dystion, Amddiffynwyd Haigh gan Mr. Wheeler, Llandudno. Yr oedd yn gwadu y cwbl, ac na welodd y foneddiges erioed, ond barnodd y Fainc yn wahanol, a chafodd dalu 2p a'r costau. Clafr ar Ddefaid. Yr Arolygydd Woollam a gyhuddai un Griffith Roberts, Talybont, Llanrwst, o fod a defaid yn ei feddiant a clafr arnynt. Yr amddiffynistd oedd nad ei eiddo ef oeddynt gan iddo eu gwerthu i Mr. Robert Williams, ond eu bod ar ei dir. Efe oedd perchenog y myharen, a thystiai yr Arolygydd a thyst- ysrif y ffarier mae hwnw oedd yn dioddef fwyaf. Dirwy 5s a'r costau. I Meddw ae Afreolus. Yr heddgeidwad Evans aigyhuddai Han- nah Thomas, Scotland Street, o'r trosedd I uchod. Dirwy 2s 6c a'r costau. Gweithio Merlen a Briw arni. Arolygydd Hakins dros Cymdeitras er atal creulondeb at Anifeiliaid a gyhuddai Thomas Owen, Henblas, Llanrwst, o weithio merlen ar yr 20fed o Chwefror tra yr oedd briw o dan y golar, a chyhuddwyd William Williams, ei feistr, o ganiatau iddi weithio. Dadleuai Thomas Owen fod pob gofal yn cael ei gymeryd. Dirwywyd y gwas i Is a'r costau, a'r Meistr i lp a'r costau.

I Glanau'r Fachno.I

I JOHN ELWYN !

I OWEN A. ROBERTS.

I_____ENGLYNION CYFARCHIADOL

ER SERCHOG GOFF ADWRIAETH

RHINWEDDAU CRIST.