Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Beddgelert a'r Amgylchoedd.

- YNMALDWYN. - - I LLOFRUDDIAETH…

I NODION O'R CYLCH. I

News
Cite
Share

I NODION O'R CYLCH. Pwngc teilwng o sylw trethdalwyr yw y pwys o fod y Wasg yn cael bod yn bresenol yn mhob cyfarfod o eiddo ein cyrph cyhoedd- us. Diau fod ein darllenwyr wedi sylwi ar y duedd sydd yn y cyrph hyny yn Mlaenau Ffestiniog i gau y Wasg allan, a hyny pan y I dylai fod i mewn ar bob cyfnf, Yn Mwrdd Hywodraethwr yr Ysgolion Elfenol, bu i gorph y gwaith gael ei wneyd mewn pwyll- gor, a diflasdod perffaith yw clywed o'r Gadair, Vr ydym am droi yn bwyllgor yn awr." Cystal a dywedyd, Yr ydym am fyned yn Chwil-lys, a chadwn ein gweithredoedd o olwg y bobl a'n gcsododd mewn swydd. Camgymeriad dybryd yw meddwl fod y Wasg yn rhwym o fyned allan dim ond troi Bwrdd yn Bwyllgor. Y mae y Wasg yn bresenol yn Mhwyllgorau y Senedd a sicr yw y dylai fod yn bresenol yn Mhwyll- gorau ein Byrddau Cyhoeddus. Paham na chaiff yr holl weithrediadau gyfle i weled goleu dydd 1 Trowyd y Cynghor Dinesig rheol- aidd diweddaf yn Bwyllgor, a'r un modd Bwrdd Llywodraqjfchwyr yr Ysgol Ganol- raddol. Nid oedd dim yn cyfiawnhau yr Awdurdod diweddaf dros gynal eisteddiad dirgelaidd, ond yr oedd pob rheswm dros weithredu yn wahanol. Rheswm Mr. D. G. Jones, Clasgow House, dros gau y wasg allan oedd "gael i'r rhai sydd wedi anfon tenders i mewn gael chwareu teg. Tenders am godi Ty newydd i'r Ysgolfeistr oedd i ddod dan sylw, a rhyfedd genym feddwl fod presenoldeb v Wasg, yn ol syniad Mr. Jones, ydebyg o wneyd cam ag unrhyw un o't saith gynygient am y gwaith. Onid y perygl o*dd i'r Bwrdd wneyd cam gan nad oedd eu dull o wneyd y dewisiad i fod yn un yn Ingoleu dydd ? Gyda Raw, dyma y tro cyn- taf, yn ystod ein profrad yn nglyn a'r Wasg am y 35 mlynedd diweddaf, i beth o'r fath gael ei wneyd pan oedd gwaith yn cael ei osod, a gdbeithiwn y tro olaf. Cam a'r cynygwyr oil ond yr un gaiff y gwaith yw cau y Wasg allan a mwy, cam dybryd a'r trethdalvryr ydoedd hyny, gan mai hwy fydd rafd taluy gost. Yn ol yr adroddiad cy- htieddedlg at gyfarfod y Cyngor Sitoll gyn- helir heddyw (dydd Iau) yn Noigellau, gwelwn fod penderfyniad wedi ei basio i ofyn am ganiatad i fenthyca tair mil a haner o buoau at godi teai i Ysgolfeistri; dwy fil at dy yn Abermaw, a phymtheg cant o bunau at dy yn Blaensu Ffestiniog. A dywedir yn mhellach fod yr arian hyn i'w talu yn ol yn gyfangwbl gan yr Abermaw a'r Blaenau. Paham ynte cadw pethau yn nghmdd rhag y trethdalwyr. Yn Mangor y dydd o'r blaen arholwyd A. C. Downs, casglwr treth yr incwm, &c. Priodola fel rhan o achos ei fethdaliad ei fod wedi talu symiau o dreth yr incwm dros amryw bersonau o'i logeH ei hunan,yn hytrach nag atafaelu am y trethi. Pwysodd y Cefrestrydd arno i enwi y rhai yr honai ef oedd heb dalu, ac enyfdd amryw bersonau yn Mangor. Dywedai hefyd ei fod wedi cattl benthyg swm o arian yn y flwyddyn 1895 gan arian-fenthyewyr ac nad oedd yn ddim gwell na methdalwr ar ol hyny er y gabeithiai allu dod i'r lan. Teimlwn fod gan achosion fel yr u'chod eu gwersi i ni, ac y dylai pawb fod yn ochelgar pa le i fenthyca arian mewn achos o wendid, fod benthyca o bob man yn well na chan arian fenthycwyr. Gwell o lawer fyddai i ddyn wneyd ar werthiant ar ei eiddo ei hunan, a myned i wlad newydd i ail ddechreu byw. Hwyrach nad yw pawb yn gwybod chwaith fod gan bob Casglydd y Dreth Incwm Warrant i godi yr holl dreth ymherodrol, y dreth Dirol &c., gyda'r costau, heb fyned trwy lys gwladol. Dywedai Mr. Downs ei fod wedt talu dros bersonau rhag rhoddi costau ychwanegol arnynt; ac nad oedd wedi atafaelu, ond mewn dau amgylchiad. Yr oedd y Derbynydd Swyddogol yn amheu hyny yn fawr. Mae'n well bod ar delerau da gyda'r dynion yma, a thalu yr hyn sydd ddyledus i'w dalu; ac os bydd i rywun datu, ac heb fod yn gyfrifol i dalu, bydd i'r Llywodraeth neu Fwrdd y dreth Incwm eu dychwelyd. Yn ol ein hadnabyddiaeth o bentref a thrigolion Yspvtty Ifan, yr ydym yn hwyr- frydig i gredu fod ymddygiad ieuengctyd y lie yr hyn ddesgrifid yn Llys Ynadol y Bett- ws ddydd Sadwrn diweddaf. Ond os yw, y mae yn amser i rywun edrych ar ol moesau bechgyn ieuangc y pentref hwn. Ond i ni credwn fod llawer o ddrwg deimlad yn bodoli cawsom le cryf i ffurfio y farn hon pan yn clywed un wraig yn dymuno gweled pedwar plentyn gyhuddwyd yn cael eu hanfon i gar- char. Nid ydym o'r un farn a hi, ond cred- wn y dylent gael cosb am chwareu gyda'r craen ar ddydd yr Arglwydd-a chostiodd yn ddrud iddynt. Nis gallwn weled i'r Ustus- iaid wneyd unrhyw gam a hwy yn ngwyneb y fath groes-dystiolaethau. Hyderwn y bydd hyn yn wers bythol, ac na roddir cyfle i neb achwyn mwy.

rLlanrwst.

Boddi mewn Bwced.

IBlaenau Ffestinlog.