Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I

AT EIN DERBYNWYR. I

INODIADAU WYTHNOSOL.

Pwysig I Uudebau Llafur.

Masnachu ar y Sut. [

News
Cite
Share

Masnachu ar y Sut. [ Galwodd Arglwudd Arebury (y gwr a adwaenom gynt fel Syr John Lubbock) sylw Ty yr Arglwyddi at y mater hwn dydd Gwener. Dywedodd-a gwyddom ei fod wedi dywedyd ylgwir-fod y drwgsyn myned ar gynydd, ac yn effeithio yn niweidiol ar iechyd, cysur, a chymeriad y wlad. Mae masnachu.ar y Sul yn drosedd o'r gyfraith wladol yn awr, ond nid yw y dirwy am droseddu yn ddigon trwm i'w gwneyd yn effeithiol i atal y drwg. O'r rhai a gymeras- ant ran yn y ddadl ni chafwyd un i geisio amddiffyn neu gyfiawnhau yr arferiad; dywedodd yr oil o honynt yn ei erbyn. Drwg genym weled mai y wanaf o'r areithiau oedd eiddo gwr eglwysig, Archesgob Caer- gaint. Tra y cytunai ag eraill fod gwir angen am wneyd rhywbeth, daliai gyda phwyslais trwm ar amlder yr anhawsderau a amgylchant y cwestiwn. Dywedodd yn erbyn gwneyd dim yn frysiog, heb wneyd ymchwiliad trylwyr a phwyllog i'r mater yn ei holl gysylltiadau. Dyma arfer Dr Randall Davidson. Anmhosibl iddo, dybygwn, deimlo yn frwdfrydig yn mhlaid yr achos goreu, ac y mae yr un mor an- mhosibl iddo danio gan ddigofaint yn erbyn y drwg gwaethaf. Dichon fod hyn yn rhagoriaeth mewn Archesgob cyfrifwn ei fod yn ddiffyg pwysig yn mhawb eraill. Ar gynygiad Arglwydd Tweedmouth pender- fynwyd dewis cyd-bwyllgor o aelodau Ty'r Arglwyddi a Thy'r Cyffredin i edrych i fewn i'r mater. Gobeithiwn na bydd yn hir gyda'r gwaith.

I Y Darllaw-wyr mewn caledi.I

Nos LAM yn Nky y CyVredHa.-I…

Mr. Phillip Snowden.

I Mwyafrif Mawr.

IY DIWEDDAR BARCH. DAYID -ROBERTS,…

Advertising