Hide Articles List

8 articles on this Page

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

News
Cite
Share

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri. I Cafwyd Darlith ddyddorol iawn yn Nghapel Horeb, Llanrwst, nos Wener, gan Mr. J. Gethin Jones, Deganwy, ar Ystormydd a Gwlawogydd ar Fynyddoedd Eryri a'u cysyllt- iad a Diwydianau LleoJ." Llywyddwyd gan y Parch. Phillip Price. Cyfeiriodd y Darlithydd i ddeohreu at cychwyniad ystormydd yn Mor y Canoldir, a dosbarthodd nodweddion y tywydd i gylchdrofegau a gwrth-drofegau gyda symud- iadau cyffredinol eraill, ac effaith ar hinsawdd y wlad. Eglurwyd y rhai hyn gyda parthlen awyrfynegol o for y canoldir yn dangos eu awrs ar draws yr Ynysoedd Prydeinig. Oyfeiriodd Mr. Jones yn y fan hon, at y rhagfynegiadau am y tywydd yn y newyddiaduron y diwrnod hwnw, yn addaw gwrth-drofeg neu dywydd braf yn teithio o gyfeiriad Iceland, a phrofodd y tywydd yn braf yn ystod y tri diwrnod, ac ymddengys fod 85 y cant o'r rhagfynegiadau hyn yn profi eu hunain yn rhanol gywir, ac yn y dyfodol agos gyda chymorth y pellebyr di- wifrau wedi ei osod ar 10Ijgau yn y mor, bydd i'r rhagfynegiadau hyn am ansawdd y tywydd gynyddu mewn cywirdeb. Dangoswyd eroes-ddosran o fynyddoedd Eryri wedi eu tynu i raddfa gyfleus, er egluro y cyflwr ffafriol i gynyrchu gwlawogydd trym- ion, a chrybwyllwyd un ffaith ddyddorol a chysurol 1 drigolion Blaenau Ffestiniog, sef, nas gall yn awr fedau yr anrhydedd o fod y lie glybaf yn Nghymru, canys yr oedd y Darlith- ydd wedi cymeryd gwlaw fesuriad ar y Wydd- fa, a phrofodd hwn yn ddwbl y gwlaw geir yn y Blaenau, gan ei fod yn cyraedd 190 modfedd vn y He gwlybaf. Mor bell ag y gwyddai ef, hwn oedd y cofnodiad mwyat am ddisgyniad gwlaw, nid yn unig yn Nghymru, Lloegr, a Llanrwst, ond yn Ewrcp. Ar y safon hwn gall Cwmni Trydanol Gogledd Cymru, y rhai a godasant waith trydan eang yn Llyn Llydaw, ddibynu ar gyfrol ddigonol o ddwfr i weithio eu gorsaf, er nad ydyw y tir dal gwlaw yn mesur rhagor na mil o erwau. Y mae y Cwmni yn cyflenwi Chwareli Llanberis, Nantlle, a'r Oakeleys a gallu trydanol, heblaw ei gymeryd i weithio eu Reilffyrdd eu hunain, oherwydd y gwlawogydd trymion, cronfa eang a disgynfa fawI. Mae y gallu dynir o'r gronfa hon y mwyaf yn y byd ag ystyried maint y gronfa. Dangosodd Mr. Jones amryw barthleni dos- ranol o'r Eryri, gan nodi y lleithder a'r gwlaw- ddisgyniadau yn y gwahanol gymydogaethau yn y Cylch. Dyma ei wlaw-fesuriadau, Bedd- gelert, 100 modfedd Y Wyddfa o M0 i 190; Ogwen 120 Cwm Eigiau 115 Llam Nat 45, ac ar lechwedd Talycafn, yr hwn sydd yn fynydd lied uchel, nid oedd y gwlaw-ddisgyniad ond 50 rhodfedd, yr hyn a ddefnyddiwyd i ddangos nad yw uchder yn sicrhau gwlaw bob amser, ond sydd yn cael effeithio arno gan safleoedd cyffredin y gwlawogydd, a'r gwyntoedd. Eglurodd y Darlithydd y cynllun bwriadedig i ddefnyddio y gallu dwfr yn Dolgarog mae'r lie hwn wedi ei sicrhau gan yr un Cwmni. Mae y gronfa ddwfr yn y fan hon yn mesur deg milltir ysgwar, gyda gallu o chwe' mil nerth march (neu dair gwaith mwy nag a gynyrchir yn y Wyddfa). Eglurodd y gallai tua tri ugain a deg miliwn o dunelli o ddwfr yn disgyn dros fil o droedfeddi gael ei ddefnyddio i gynyrchu y nerth hwn, a chan y bydd y cynyrch yn mhell uwchlaw y gofynion, golygir ei ddefn- yddio ar y lIe i wneyd Aluminum, yr hyn a olygai roddi gwaith parhaus i nifer faw bobl yn vr ardal (cymeradwyaeth hirfaith). Talwyd diolch cynes i'r Darlithydd am ei sylwadau dyddorol.

I Maentwrog.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Cwmni Yswiriol y Prudential.

-Portmadog.

Advertising