Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth,

News
Cite
Share

Bwrdd GwarchaidwaSd Penrhyndeudraeth, Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mri Owen Jones (cadeirvdd) W. Jones, (is-gadeirydd); Dr R. D. Evans, Cadben Morgan Jones, R. 0. Williams, Mrs Casson, Dr S. Griffith, John Roberts, Talsar- nau; John Roberts, Trawsfvnydd; Owen Evans, E. Liewelyh, Owen H. Lewis, Mor- gan Roberts, Robert Richards, E. M. Owen, Richard Roberts, L. Foster Edwards, J. R. Jones (Gerallt), John Williams, William Williams, G. Parry Jones, Thomas Roberts, clerc David Jones, clerc cynorthwyol; D. J. Jones, meistr a'r tri swyddog elusenol, -Richard Parry, William Thomas, a J. Ben- nett Jones. Elusenol ac Arianol. Adroddwyd i Mr Richard Parry dalu 71p Is yn yslod y bythefnos diwedrhtf rhwng 240 o dlodion ar gyfer 81p 14s oc 1 wng 282 yr un amser y llynedd yn nosbarth Fiestiniog talodd William Thomas, 102p 18s 6c. rhwng 327, ar gyfer 91p 13s 2c rhwng 303; yn nosbarth Deu. draeth, talodd Mr J. Bennett Jones, 78p 14s 2c rhwng 305 ar gyfer 80p 3s 2c rhwng 314. Cyfanswm y taliadau 252p 13s 8c rhwng 872, ar gyfer 252p 10s lOc rhwng 898. Yn yr Ariandy Mawrth 2, 1,951 Is 3c. Yr oedd 3,779p 17s 3c yn ddyledus gan y Cynghor- au Sirol, yn gadael 1,828p 16s, mewn llaw. Y Tlodty. I Adroddodd y Meistr am y Ty yr oedd 170 i mewn ar gyfer 142 yr un amser y llynedd.— Daeth Jane Williams, gynt o'r Gelli,'Blaenau, i mewn ar Chwefror 27. Heb le yr oedd, a bu. yn y Ty amryw weithiau yn,flacnorol.-Aeth Susanah Thomas o'r Ty i wasanaethu yn Garn, Dolbenmaen.—Mawrth 3 daeth Mary Catherine Owen, 28 oed i mewn trwy Mr. Bennett Jones. Drwg ei chyflwr ydoedd, a bu i mewn lawer gwaith. Mawrth 6, aeth Richard Owen, (Glaslyn) allan. Cafodd lety yn Penybwlch. Pasiwyd iddo 5s yr wythnos o elusen fel yr arferai gael o'r blaen.-Anfonwyd .J ane Mary Lloyd, chwech oed, i'r Garn i'w mhagu yn unol a phenderfyniad blaenorol y Bwrdd.—Mawrth 8, aeth Mary Hughes Llandanwg a'i phlentyn allan o'r Ty. Mawrth 10, aeth Tommy Carrol at Mr. Owen Roberts, Saron House. Festiniog. Daeth Henry Brasendale, crwydryn i mewn yn wael, a Ellin Williams, 14oed, Tasarnau. Heb le i fyned yr oedd, ac felly daeth i'r Ty. Yr oeddid wedi cael sleepers at goed tan, a rhoddodd Mrs Williams, Cae Ednyfed, ganiatad earedig i ddadlwytho y cyfryw ar ei chae gyferbyn a'r Ty, ac felly arbed llawer iawn o lafur. Pasiwyd i ddiolch i Mrs Williams am ei charedigrwydd. Yr oedd 74 o grwydriaid wedi galw yn ystod y bythefnos ddiweddaf. Ei gwr wedi ei gadael. I Ymddangosodd gwraig ieuangc o Porthmadoc gyda. plentyn bychan ar ei braich, o flaen y Bwrdd. Dywedai fod ei gwr wedi ei gadael. Carcharwyd ef, ac ni chlywyd gair oddiwrtho ar ol iddo ddod allan, yr oe 1,1 hi wedi ysgrif- enu at ei frawd a'i chwaer yn Lerpwl, ond nid atebasant ei llythyr. Gyda mam y gwr yr oedd hi yn gwneyd ei chartref.—Tueddai y Bwrdd i farnn fod ei deula yn gwybod lle'r oedd, a phasiwyd i'r wraig ddod i'r Ty, fel y gallai y Bwrdd gymeryd y mater mewn llaw, a dal y gwr am esgeuluso ei wraig. Beth oedd yr Ewyllys? I Mr J. Bennett Jones a ddaeth ag achos hen ferch o Talsarnau o flaen y Bwrdd. Ni byddai eisiau elusen eto gan fod ei dau frawd wedi gwneyd cytundeb i gyfranu deg swllt at ei chynhaliaeth.- Y Cadeirydd Sut y mae hyn wedi dod o amgylch ?"—Y Swyddog a eglurodd fod perthynas iddynt wedi marw.—Cadeirydd, "A oedd yno ewyllys? Ac os oedd, pa le y mae ?" Mr. John Roberts mewn atebiad i apeliad ato gan y Cadeirydd a ddywedodd fod ewyllys, a bod hono yn gadael yr eiddo rhwng yr hen ferch a'i dau frawd.—Cadeirydd, "Fe wna y Clerc edrych am yr ewyllys, ac edrych i mewn i'r holl achos fel na chaiff hi ddyoddef o gwbl. Y ni yw ei Hymddiriedalwyr yn awr.' Dodrefn ei Fam. Pasiodd y Bwrdd i William Griffith Williams yn awr yn Llanrwst, gael y dodrefn oedd ar ol ei fam yn y Blaenau. Yr oedd wedi cadw cartref i'w fam hyd y diwedd yn unol a dymun- iad ei dad wrth farw, a thalodd am weini arni am ddwy flynedd. Rhoddwyd gair nodedig o uehel iddo am ei aberth mawr dros ei fam Achos y Llechwedd, Blaenau. Rhoddodd y Swyddog alroddiad manwl ar achos Sara,h Francis a David Francis y ddau wedi bod Jto cwyno, a S. Francis yn da] yn wae) etc. trafodaeth hir ar yr achos hwn, a tal geid am lanhau y Swyddfeydd a'r pCi.niavvdy.—Ar gynygiad R. 0. Williams pas- lwyd i ohirio yr achos hyd y tro nesaf er mwyn cael rhagor o fanylion. -M.cnos y ddiweddar Ann Powell, Tanygrisiau Terrace. Y Swyddog a hysbysodd fod y wraig weddw hon wedi marw, a'i mhab a'i merch o'r Llan wedi dwyn y gost claddu. Gofynent srn y dodrefn oedd yn eiddo ei diweddar dad. Yr oedd y Swyddog wedi en prisio, yr oedd swm mawr o ardreth yn ddyledus.—Y Cadeirydd a ddywedoml fod blynyddoedd o ardreth yn j^fyl], oac^ gallent fod yn dawel y gwnelai Cwmni yr Oakeleys bobpeth rhesymol gyda'r plant, ynglyn a'r dodrefn.—Ar gynygiad Cadben Morgan Jones pasiwyd i adael rhwng y plant a pherchenogion y ty yn nglyn a'r ardreth a'r dodrefn. Achos Hugh Owen, Mills Row, Blaenau. Wedi peth siarad ar yr achos hwn, gohiriwjd ef hyd y Bwrdd nesaf. Achos Torealonus. Galwyd sylw at achos gwraig Thos. Hughes, Crydd, Blaenau.-Cyd-olygai y Cadeirydd a Dr R. D. Evans, mai achos i'r heddlu ydoedd, I gan y dywedid ei bod allan neithiwr ddau o'r gloch y boreu. I Arian Blwydd-dal. Darllenwyd gohebiaeth oedd wedi pasio a Bwrdd y Llywodraeth Leol yn nglyn a dych- welyd yr hyn oedd Robert Stoddart wedi ei dalu at ei flwydd-dal pan oedd yn Swyddog Gorfodol o dan y Bwrdd.-Cafwyd awdurdod i dalu yn ol iddo y 96 14s 8c oedd ef wedi ei gyfranu i'r drysorfa. Yr oedd yn awr yn cael elusen yn fenthyg, a thelid o'r swm uchod y benthyg yn ol. Y Galwadau. Dywedodd y Cadeirydd fod yr amcan- gyfrifon am yr haner blwyddyn nesaf yn 13,920p, ar gyfer 13,293p. yr haner blwyddyn diweddaf. Er fod cynydd yn y galwadau yr oeddynt am wneyd ac yr un swm o dreth, sef 11 Jc a- 3c at y drysorfa wrth gefn, &c. Swm y dreth at yr holl alwadau fyddai Is 2c. Y r oedd treth sirol Arfon yn 9c, a Meirion yn Is 3c. Gwetth trethianol yr Undeb, 100,001p llai o 21,000p, na'r llynedd ar gyfrif y gwneuthuriad yn y chwareli. Dvledus. Yr oedd dros dair mil o bunau yn ddyledus ar y plwyfi, a phasiwyd i bwyso am gael yr arian i mewn yn ddiymdroi. Cyflenwi y Ty a Nwyddau. Fel y canlyn y pasiwyd gyda'r prif nwyddau (yr Esgidiau a'r Dillad y tro nesaf) Bara a Blawd, &c., Mr illiam Evans, New Square, Blaenau; Tea, Jam, Coffee, &c., Mri T. W. Jones, Penrhyn Siwgr, Halen, Sebon, Blawd Ceirch, Starch a Gwinegr, Mri E. B. Jones, Blaenau; Myglys, Extract. of Meat, &c., Miss Brymer, Blaenau; Oil^Lamp, Mr T. Roberts, Maentwrog Cig, Mr Evan Humpnreys, Porth- madoc Glo Ty, Mr J. E. Williams, Penrhyn Glo Agerdd, Mr Evan Jones, Penrhyn Llaeth a Llefrith, Mrs Williams, Cae Ednyfed, Pen- rhyn Eirch, Mr J. Parry Jones, Penrhyn.

Cynghor Dinesig LlanrwstI

Ystormydd a Gwlaw yn Eryri.…

I Maentwrog.

IBwrdd Rheolwyr Ysgol Sirol…

Cwmni Yswiriol y Prudential.

-Portmadog.

Advertising