Hide Articles List

5 articles on this Page

Cyfarfod Undeb y Chwarelwyr…

News
Cite
Share

Cyfarfod Undeb y Chwarelwyr yn Blaenau Fesiiniog. Nos lau diweddaf, yn y Neuadd Gyhoedd- us, cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd Undeb y Chwarelwyr. Yr oedd yn noson ddrycinog, a chyfarfod arbenig yn nglyn a chladdedig- aeth y Parch. David Roberts yn cael ei gynal, er hyny daeth torf dda. ynghyd, ac yr oedd y cyfarfod trwyddo yn un hynod o gryf a brwdfrydig. Mr. Hugh Lloyd, y Llvwydd, a ddywed- odd fod cvtarfodydd o'r fath yn bwysig iawn iddynt fel gvveithwyr. Credai ef yn fawr mewn undeb gan mai trwvddo yr oedd gobaith y gweithiwr am hvyddiant. Yr oedd gan y Meistri adnoddau wrth eu cefn, tra mai undeb y naill weithiwr a'r Hail oedd eu hunig amddiffynfa hwy. Gwnaeth y gweith- wyr lawer at wella eu sefylifa trwy ddeddfau seneddo!, a gailent ddysgwyl liawer mwy yn awr wedi cael plaid Liafur yn y Ty. Eto dyiid cofio mai U naeo er amddiffyo, ac jinid i ymosod oedd eu Hundeb hwy. Gall Un- debau cryfion wneyd gwaith mawr eto, fel y gwaethant eisoes. Yr oedd mantais dda gan y chwarelwyr i uno am nad oedd pob! eraiil i'w caei allasent wneyd eu gwaith. Mr. Henry Cuiiiiington a gynygiodd y penderfyniad canlynol :â Ein bod fel Chwarelwyr yn llawenhau ffrr tifflr~ aa sydd Yn cynrychion yn Pl?u- (le??rn- umongyrcho! tudd¡anaU !!at?!'w?? ? ?-? as; a thra yn dyheu arn ?e)ed nifer dda. o ddeddfau er diogelu a rhyddhau g weith- wyr yn cael eu gosod a'r gof-!yfrau y Wladwriaetn, eto, yn gobeithio y ceir y deddfau sydd e^sioes mewn bod, i weith- rediad mwy ymarferol a chyfnedinol, ac y gorfodir gan y Llywodraeth, y swydd- feydd a swyddogion sydd yn gyfrifol iddi am ei gweithrediad allan i wneyd eu dyledswydd iddi, a thrwy hyny ddi- ogelu bywyd, iecbyd. a chysur y gweith- wyr." Ychydig a wnaeth y Rhyddfrydvvyr erioed dros y gwei'chvvyr, ond crafangu tir ac eiddo iddynt eu hunain. Clywodd ei fod yn dros- edd cosbadwy i ddyn sefyil yn hir hyd yn nod i ddim ond edrych ar eu tir oddiar y ffordd fawr. Dylid cenedlaethoii y tir, a chael blwydd-dal i hen bob!, Eiai y wlad hon fel Rwsia yn ferw o orii wnai y Llywcdr&eth symud yn m!aen yn fuan. Mr. D. R. Daniel a gafodd dderbyniad crcesawus. With gefnogi y penderfyniad dadleuai mai materion llafura* 1 oeddynt y rhai pwysicaf iddynt fel g weithwyr. Yr oeddynt oil yn Hawenhau am y kuddngol- iaethau gafwyd yn yr etholiad diweddaf, a bellach bydd ganddynt lais a dylanwad yn Senedd y wlad. Collwyd liawer yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ac er i gyngaws y Taff Vale fyned yn eu herbyn, troes y fudd- ugoliaeth hono yn un golledfawr i'r Toriaid, gan iddynt golli liawer o'u seddau o achos y dyfarniad. Yr oeddid yn synu at y buddug- oliaethau, ac at y cynrychiolwyr yn y Senedd. Mae y Blaid yno mewn perygl i gael eu hudo, ond y maent hefyd mewn mantais i wneyd gwaith mawr. Gwnelai Mr. Parnell bob cwesliwn o fiaen y Ty yn un Gwyddelig, a dylai plaid llafur wneyd pob cwestiwn yn un llafurawl, Amcan Socialaeth oedd cyn- orthwyo a chyfarfod y wasgfa, ac unai pawb yn hyny ond y chwarelwyr. Credai y dylid cael Dadgysylltiad er mwyn symud y cwest- iwn oddiar y ffordd. Ofnai fod gormod o amser yn cael ei golli gyda man gwestiynau yn nglyn ag addysg. Dadleuid yn nghylch y catecism ceiniog a'r prawf-lw, ac eto gos- odid rheidrwydd ar yr athraw i ddarllen rhanau penodol o'r Beibl i'r plant. Tynu y Beibl o'r Ysgol ddylid, ac nid ei adael fel pel dreed i'r Person a'r Gweinidog i'w gicio. Dylent uno i gael iawnderau, a chofio mai felly yr oedd eu gobaith am lwyddiant (cym- eradwyaeth maith). Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Mr R. T. Jones, Tan'rallt, a gynygiodd, Fod y cyfarfod hwn yn dymuno datgan ei werrhfawrogiad o Undeb cryf fel cyfrwng mwyaf effeithiol i weithwyr i sicrhau eu hawl- iau teg a chyfreithlon." Yr anhawsder oedd cael y gweitnwyr i gredu fod eu buddiant yn un. Rhaid ydoedd meithrin cydymdeimlad pan fyddai cyd-gamwri yn cymeryd lie. Gallai dyn pabwr daflu y chwarelwr i lawr. Y chwarelwr oedd y creadur tywyllaf am ei amgylchiadau ei hun, o'r un yn y deyrnas. Mr. Ellis W. Davies, cyfreithisvr, Caer- narfon, a gafodd dderbyniad brwdfrydig. Llawenhai we led y bobl ieuaingc yn y cyfar- fod. Yr oedd yn arferol a chysylltu tri pheth a Ffestiniog capeli heirdd, cyfun- drein addysg ardderchog, a gwiaw tragwydd- ol. Gwelodd beth o'r gwlaw heddyw (chwerthin mawr). Synai na fuasa i y capeli wedi dysgu hunan-abetth, a'r ysgolion ddysgu y pwys o uno er mwyn llwyddiant rnasnachol. Hanes yr hol! fyd ydoedd uno er mwyu llwyddiant, ond yr oedd syniad y chwarelwyr yn wahanol. Pwy oedd yn iawn ?-Y chwarelxvyr, ynte yr boll fyd ? Dyben yr Undeb ydoedd cael cyd-ddeall- twriaeth am yr angen a sut i'w gyfarfod. Dylai angen yr holl deulu ddod i mewn i'r cytundeb am gyflog, ac nid angen y dvn ei hun. Yr oedd cvtundeb teg '-n fanteisiol i grefydd. Meddylier am sefylifa yr hen a'r methedig gwaith yr Undeb oedd gofalu am y rhai hyn. Yr oedd ymddygiad Cymru at ei benafgwyr yn sarhad ar ei chrefydd. Yr oedd arferiad yn mhlith yr Indiaid i'r hen wr ffarwelio a'r teulu, a myned i unigrwydd y goedwig i farw yn ei henaint a'i iesgedd ond yn y wlad holo yr oedd yr hen a'r methedig yn marw o ddydd i ddydd yn nghanol cyfoeth a gloddest pobl o'i gwmpas. Darperid ar gyfer yr hen yn Denmarc, Ffraingc, a'r Trefedigaethau, ond beth a wnelent hwy gyda hyn. "0 b'le daw yr arian ?" oedd y gofyniad tra y dylid gofyn, I ba le y mae'r arian yn myn'd ?" Gwas- traffwyd haner can' miliwn ar y Llynges, a miliwnau ar dwyll gyda nwyddau yn Neheu- dir Affrica, ond dim i'r hen bob!. Y gweith- wyr oedd yn talu tair miliwn a'r ddeg y flwyddyn trwy y doll a'r de a siwgr. Talodd y bendefigaeth swm cyffelyb ar ol eu perth- ynasau cyfoethog fuont feirw. Ceid syKv trwy Undebau y Gweithwyr ar drethi y wlad, a gosodid hwy ar ysgwyddau y cyfoethog fel ag f wneyd ei allu i otthrymu y tlawd yn llai. Anwadalwch, diffyg cyd- weithrediad, a diffyg cyd-ddealltwriaeth oeddynt wendid y chwarelwyr. Yr oedd gormod o ganu yn eu crefydd, a rhy fychan o weithio. Pa les canu- Llwybrau ceimion, culion, caled, Sydd i'w teithio yn y byd." oni wneir ymdrech i'w uniawni! Beth oedd- ynt am ei wneyd at y dyfodol ? Yr oedd gwerin ddigrefydd LIaegr yn gweithio lie'r oeddynt hwy ? Elsii yr ymdrech yn mlaen, a oeddynt hwy arli wneyd eu rhan, ynte gorphwys fel Isaacha-f a'i hysgwydd o dan y baich ? (cymeradwyaeth mawr). Wedi pasio y penderfyniad a thalu y diolchiadau arferol, ymwahanwyd.

- Bd Llywodraeihwyp Ysgolioni…

" Y SARPH BRES." -I

I Y CHWARELWR A'I DDYFODOL.…

LLYS ,MANBDYLEBiCmI BLAENAU…