Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
OUR. A SPECIAL SUIT I TO MEASURE FOR 23/6 What a man wears is of as much impor- tance as what he eats. Our 23/6 Suit will give him a smart appearance, latest style, fit guaranteed, a variety of patterns to choose from. Transactions in Brief. Pattern Order Delivery Cheque — Satisfaction Another Order, &c., &c. •> SHOP r YR ERYR, CHURCH STREET. ———l^BaE3BBS>i^Bapg,03HMami mi in B
AT BIN GOHEBWYR.I
AT BIN GOHEBWYR. MEWN LLAW.—" Ystormydd a Gwlawogydd yn Penillion Coffa Mr. R. E. Morris, Maentwrog. !\mryw ysgriian wedi en cwtogi, eraill allan oher- wydd prinder p-ofod. AT Y BEIRDD.— Bu raid i ni adael cynyrchion Uu o Foirdd allan o MiSyg lie.
-O-I *, Nesur Addysg Rhif…
-O- Nesur Addysg Rhif 1. 11 1 Achubodd Mr W. T. Wilson, yr aelod dros Westhcughtoh, y blaen ar y Llywodr- aeth, trwy ddwyn i Dy y Cyffredin fesur addysg neillduol iawn. Nos Wener, cynyg- icid ddarllemad cyntaf mesur sydd yn galw ar Awdardodau Lleol Addysg i ddarparu ymborth i blant-yn yr ysgoIion-sydd. heb g&el digon o ymborth, ac yn eu hawdurdodi i • Kv ar "ieni y plant hyny-mewn achosion yn y rhai y barnant yn briodol i atw arnynt —i ddwyn yr holl draul neu ran o honi." Gwnaeth Mr Wilson ei waith yn dda; tradd- ododd araeth synwyrlawn, rhesymol, a chlir. Cododd aelod ar ol aelod i gymeradwyo y mesur, ac ni chafwyd ond dau-Mr Harold Cox (Rhyddfrydwr), a Syr H. Craik (Un- debwr) i ddyweyd dim yn ei erbyn. Cyn- ygiodd Mr Cox welliant, ond nid oedd neb yn barod i'w gefnogi. Rhoddodd, hyd yn nod, Syr William Anson, diweddar Islywydd Bwrdd Addysg, gefnogaeth i'r mesur, er ei fod yn wir nad oedd yn frwdfrydig iawn. Gwnaed i fyny am ddifiyg ei frwdfrydedd ef gan Mr Birrell yr hwn a draddododd araeth gref yn mhlaid y mesur. Yn wir, pe buasai wedi ei lunio a'i ddwyn gerbron y Senedd ganddo ef ei hun, o'r braidd y gallasai fod yn fwy aiddgar o'i blaid. Awgrymodd ei fod yn cael ei gyfhvyno i Bwyllgor Detholed- ig i'w ystyried ac i'w berffeithio; a phan ddywedodd Mr Fenwick ei fod yn ofni mai canlyniad hyny fyddai i'r mesur syrthio i'r ddaear," atebodd Mr John Burns ef mewn modd a lwyr foddlonodd Mr Fenwick ac eraill a ddygant sel drosto. Dywedodd ei fod yn credu na fyddai anhawsder o gwbl i gael y mesur trwy'r Senedd eleni, ac y bydd- j ai y Llywodraeth yn barod i'w gymeryd i fyny fel pe bai fesur o'r eiddo hi, os mynai y Ty. Brysiodd Mr Fenwick a Mr Keir Har- die i ddywedyd fod datganiad Mr John Burns yn ehwalu eu hofnau i gyd, ac yn un- frydol cytunwyd i anfon y mesur i BwXIl- gor Detholedig. Yn anfynych y gwnaed cystal gwaith mewn cyn lleied o amser.
Esiampl Dda y Llywodraeth.…
Esiampl Dda y Llywodraeth. Da genym weled fod gan y Llywodraeth ewyllys i weithredu tuag at y rhai sydd yn ei gwasanaethu mewn gwahanol gylchoedd mewn yspryd m\vy mawrfrydig nag y gweith- redwyd tuag atynt hyd yn hyn. Cofir fod y diweddar Bostfastr Cyffredinol, Arglwydd Stanley, wedi dangos yn ddigon eglur nad oedd yn ei galon ddim cariad at Undeb Gwasanaethyddion y Llythyrdy. Bu gan hyny, dybygwn, gryn lawer i'w wneyd a'i orchfygiad gan Mr Wilson (Aelod Llafur) yn yr etholiad diweddar. Da genym oedd gweied hysbysiad tua thair wythnos yn ol fod ei olynydd, Mr Sydney Buxton, wedi amlygu yn hollol wirfoddol, (cyn i gais gael ei wneyd a to) ei barodrwydd i drafod materion o ddyddordeb a phwys'grwydd i'r rhai a was- anaethant yn y Llythyrdy a swyddogion a phwyllgor yr Undeb. Ychydig ddyddiau yn 01 dilynwyd ei esiampl gan Mr E. Robertson o Swyddfa'r Morlys. Dywedodd yn Nhy y CySredin ei fod yn bwriadu ymweled o bryd i bryd a gweithfeydd-Hongau y Llywodraeth, a rhoddi cyfle i gynrychiolwyr y gweithwyr draethu iddo unrhyw gwynion a ddichon fod ganddynt, a thrafod materion ynghylch y rhai y dylai fod cyd-ddealltwriaeth llawn rhyr gddynt hwy a Swyddfa'r Morlys. Aeth yn mhellach na hyn. Pan alwyd ei sylw at y ffaith fod cyflogau y llafurwyr cyffredin yn y gweithfeydd a enwyd yn afresymol o isel, ac y cynygiwyd gan Mr Jenkins benderfyn- iad i'r perwyl y dylai y gweithwyr gael cyflog heb fod yn is na chyflog safonol Undebau Llafur, dywedodd ei fod yn cytuno yn h«llol. Gan fod y penderfyniad yn cael ei gynyg fel gwelliant ar gynygiad ffurfiol ag yr oedd yn rhaid ei basio, nis gallai ei dderbyn yn ffurfiol, ond sicrhaodd y cynygydd ei fod yn derbyn ysbryd y gwelliant. Nid rhyfedd oedd gweled Mr Keir Hardie yn codi ac yn tystio gyda phwyslais cryf ac mewn ton foddhaus y parai geiriau Mr Robertson law- enydd mawr i holl weithwyr y Llywodraeth. Prin y mae yn rhaid dywedyd fod y gwelliant wedi ei dynu yn ol gyda'r parodrwydd mwyaf. Mae'n amlwg oddiwrth y pethau hyn fod ysbryd gwir Ryddfrydol yn llywodr- aethu'r Weinyddiaeth. Bydd hyn yn fodd- ion i gadarnau ei nerth hi, bydd yn fantais uniongyrchol i weithwyr y wlad yn gyffred- inol.
Treuliau Llyngesoedd.
Treuliau Llyngesoedd. Yn yr araeth y cyfeiriwyd ati uchod, eg- lurai Mr Edmund Robertson gyniluniai y Morlys ar gyfer y flwyddyn sydd yn awr yn dechreu cyn belled ag y mae a wnelont ag adeiladu cadlongau o wahanol fathau. Dy- wedodd fod y cynlluniau wedi eu tynu allan ac amcan-gyfrif o'r draul wedi ei pharotoi gan ei rag-flaenorydd, fel nad oedd ganddo ef, yn ymarferol, ddim i'w wneyd ond eu mabwysiadu a gweithredu yn gyson a hwynt. Y draul o gynal a chwanegu at y Llynges, fel yr ymddengys y draul ar bapyr, ydyw E31,869,000; ond mynai Mr. Robertson i'r ty ddeall fod y draul wirioneddol yn zC,33,57,3, 000. Cyfeiriodd at y cynydd aruthrol sydd wedi cymeryd lie er 1894 yn nhreuliau Llynesol y Prif Alluoedd. Yn y flwyddyn hono,f gwariodd Ewrob a'r L'noi Dalaethau S48,500,000 ar eu llyngesoedd. Erbyn 1899 yr oedd y swm yn P,68,500,000, a chynhal- iwyd Cynhadledd Heddwch yr Hague mewn gobaith y gellid, yn mhlith pethau eraill, ddyfod i gytundeb i roddi atalfa ar y draul a'r gwastraff ofnadwy yma. Y llyn- edd-yn mhen pum mlynedd wedi cynhaliad y Gynhadledd hono-yr oedd y swm yn £ 100,500,000. Felly, dyblwyd y draul, a mwy, mewn ugain mlynedd. Pa ryfedd fod Syr Henry Campbell Bannerman wedi dywedyd yn y cyfarfod mawr hwnw yn Llundain fod peth fel hyn yn beryglus i heddwch y byd, ac wedi "gofyn beth yn fwy ardderchog allai Prydain Fawr ei wneyd na chymeryd y flaenoriaeth yn y gwaith o ffurfio Cyngrair Heddwch Cyffredinol ? Os gwel ei ffordd yn glir i arwain yn y gwaith da hwnw, bendithir ei enw yn mhob gwlad gan genhedlaethau lawer ar ol hyn.
Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…
Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd. I Ymwelodd Mr. Lloyd George a Chaer- dydd ddydd Sadwrn, a thraddododd araeth sydd yn hawlio sylw ac ystyriaeth oreu Pwyllgorau Addysg Cymru. Cyfeiriodd at yr ymgais a wnaed yn ddiweddar i gael Cyngor Addysg Cenhedlaethol i Gymru, a gwnaeth yn hollol eglur fod methiant yr ymgais i'w briodoli nid i anewyllysgarwch Llywodraeth Mr. Balfour, ond i anallu neu hwyrfrydigrwydd arweinwyr Cymru mewn materion Adcysgol i gytuno a'u gilydd. Bydd y mesur y mae Mr. Birrell yn ei dynu allan yn awr yn darparu ar gyfer ffurfiad Cyngor Cenhedlaethol felly, ac y mae Mr. Lloyd George yn naturiol yn teimlo yn bryderus rhag i'r ddarpariaeth fyn'd yn ofer o herwydd anghytundebtebyg eto. Gwnaeth apel daer iawn at y rhai a elwir ynghyd i ymgynghori a'u gilydd, ac i drafod y mater, i wneyd hyny nid mewn vspryd enwadol, nac mewn yspryd politicaidd chwaith, ond mewn yspryd gwir genhedlaethol. Byddai Cynghor o'r fath yn gaffaeliad gwerthfawr iawn i'n gwlad, oblegid byddai ein holl sefydliadau addysgoI-ein hysgolion elfenol, a'n hysgolion canolraddol, a'n colegau hyfforcMiadol (neu Normalaidd) dan ei arolygiaeth ef fel y maent yn awr dan arol- ygiaeth Bwrdd Addysg y Llywodraeth. Cynygir i ni ymreolaeth yngtyn ag Addysg, a chywilydd fydd i ni os cyfyd rhwystr o'n plith ni ein hunain ar ein ffordd i w gael. Rhoddodd Mr. Lloyd George bwyslais neill- duol iawn ar yr angen am iddo fod yn wir genhedlaethol, ac yr ydym yn ddiolchgar iddo am wneyd hyny. Gobeithiwn ei fod ef a Mr. Birrell wedi gwneyd cyfrif o'r ffaith nas gall fod yn wir genhedlaethol heb fod yn wir gynrychioliadol, ac nas gall^fod yn wir gynrychioladol oni thelir treuliau y rhai a ddewisir yn aelodau o hono. Nis gall dyn- ion o bob rhan o Gymru, o Gaergybi i Gaer- dydd, gyfarfod mewn un lie, bedair gwaith mewn blwyddyn, heb gryn dipyn o draul-, traul nas gall ond cydmarol ychydig fforddio myn'd iddi. Oni thelir eu treuliau, gwneir y Cyngor i fyny, nid o'n gwyr cymhwysaf, nid o'n haddysgyddion (educationists) goreu, ond o bobl mewn amgylchiadau clyd. Bydd yn rhaid gofyn wrth ddewis aelodau o'r Cyngor, nid Pwy ydyw y rhai cymhwysaf ? ond Gan bwy mae'r llogellau llawnaf ? Gobeithiwn, fodd bynag, nad fel hyn y bydd.
I Dedfryd Ankygoel. I
Dedfryd Ankygoel. Mewn adroddiad a ddarllenasom yn y Liverpool Daily Post & Mercury am ddydd Sadwrn diweddaf, dywedir fod ys- gubwr Simneiau wedi cael ei ddwyn ger- bron Brawdlys Chwarterol yr Amwythig ar y cyhuddiad o ladrata plwm oddiar do ty lie yr oedd yn dilyn ei orchwyl. Cyhoeddodd y Cofnodydd (Recorder) ef yn ddieuog, a gollyngwyd ef yn rhydd. Fel rheswm (?) dros y fath ddedfryd ryfedd, dywedodd y Cofnodydd fod y plwm yn rhan o adeilad oedd wedi ei godi ar eiddo rhydd-ddaliadol, mai tir oedd yr eiddo rhydd-ddaliadol hwnw-fod y plwm yn rhan o'r ty, a'r ty yn rhan o'r tir, ac na ellir lladrata tir. Diau fod yr ymresymiad yn gywrain iawn, ac yn gyfreithiol dros ben, ond ni welsom erioed ymresymiad mor hollol ynfyd. Yn ol ym- resymiad a dedfryd Cofnodydd yn,Amwyth- ig, gallai y neb a welai yn dda symud ty yn ei grynswth, ac ni allai perchenog y ty roddi cyfraith arno oblegid ni fyddai yn euog o drosedd. 'Does bosibl y gadewir i dded- fryd fel hon sefyll. Os ydyw yr adroddiad yn wir, mae yn profi tu hwnt i bob dadl fod y barnwr hwn yn hollol anghymwys i'r swydd a <ldeil, a dylid ei symud o honi cyn iddo gael eyfle i wneyd ffolineb fel hyn eto. Gellir dywedyd hyny am ambell un arall na fyddai yn ddiogel i ni ei enwi.
I Mr. Austin Taylor, A.S.
Mr. Austin Taylor, A.S. Yr wythnos cyn y ddiweddaf, sylwasom ar waith y boneddwr hwn yn gadael ei le yn mhlith y Toriaid yn Nhy y Cyffredin, ac yn myn'd i eistedd yn mysg y Rhyddfrydwyr. Mae Cymdeithas Doriaidd Dwyrain Tox- teth (Lerpwl) wedi ei chythruddo yn ddir- fawr, ac wedi pasio penderfyniad yn galw arno i ymddiswyddo, gan ei hysbysu mai dyna yr unig beth y gall ei wneyd yn an- rhydeddus. Pe buasai y Gymdeithas hono wedi ei fabwysiadu fel ymgeisydd, neu wedi cefnogi ei ymgeisiaeth, buasai ganddi achos i gwyno yn erbyn Mr. Taylor, a rhywbeth tebyg i hawl i alw arno i ymddiswyddo. Ond ni wnaeth y naill na'r llall o'r pethau hyn. Pan gynygiwyd gan un o'i haelodau, cyn yr etholiad, ei bod yn ei fabwysiadu fel ymgeisydd, gwrthodwyd y cynygiad trwy fwyafrif mawr iawn. Mewn canlyniad safodd Mr. Taylor fel ymgeisydd anibynol, a gwnaeth ei olygiadau ar brif gwestiynau y dydd yn hollol hysbys i'r etholwyr. Enweb- wyd ef gan Ryddfrydwyr a Thoriaid gyda'u gilydd. Felly, mae yn rhydd i eistedd lie y myno yn Nhy y Cyffredin, ac yr ydym yn gobeithio na fydd iddo wneyd sylw o ben- derfyniad haerllug a sarhaus y Gymdeithas Doriaidd. Pe gwrandawai ami, a phed ym- ddiswyddai, yr ydym yn teimlo yn lied sicr yr ail-etholid ef trwy fwyafrif- mawr, ond nid ydym yn gweled fod anrhydedd na synwyr cyffrediu chwaith yn galw arno i gymeryd y fath drafferth ac i fyn'd i'r fath draul yn ofer.
Deddf Estroniaid, I
Deddf Estroniaid, I Bu gweinyddiad y ddeddf hon dan sylw yn Nhy y Cyffredin nos Lun. I ran Mr. Herbert Gladstone mae'r gwaith anhyfryd o'i gweinyddu wedi syrthio, a'r amcan mewn golwg wrth ddwyn y mater i sylw, dybygwn, oedd rhwyddhau y ffordd iddo ei gweithio allan mewn yspryd mawfrydig. Ni ddywed neb nad cedd angen am wneyd rhywbeth i reoli ymfudiad tramorwyr i'r wlad hon fel y gallesid rhwystro rhai o gymeriad drwg rhag dyfod i ymgartrefu yn ein plith a myn'd yn bla ac yn faich arnom. Ond nid yw y wlad yn foddlon i gau drws noddfa yn erbyn rhai yn ffoi rhag erledigaeth o'u gwledydd eu hunam er iddynt fod yn dlodion iawn a chyrhaedd iddi heb gymaint a dimai yn eu meddiant. Ar hyn o bryd mae llawer o Rwssiaid yn gadael eu gwlad mewn am- gylchiadau felly, ac ofna rhai fod rhai o honynt yn cael eu troi yn ol ac felly yn syrthio i ddwylaw eu gorthrymwyr. Wedi'r siarad a fu nos Lun gall Mr. Herbert Gladstone deimlo'n berffaith sicr na fynai Ty y Cyffredin er dim i hyny gymeryd He yn achos cynifer ag un ffoadur, ac y byddai yn well ganddo i lawer o rhai anheilwng gael dyfod i'r wlad nag i un teilwng gael ei gau allan o honi. Cryfha hyn ei ddwylaw i weinyddu deddf yn yr hon y mae nid ych- ydig o bethau na ddylasent fod yn yr yspryd mwyaf mawfrydig. Mae'n ddiameu genym fod ei galon yn llawn ynddo i'w gweinyddu felly.
Costau Etholiadol Seneddol.…
Costau Etholiadol Seneddol. Nos Fawrth, cafwyd dadl ddyddorol yn Nhy y Cyffredin ar gynygiad a ddygwyd ymlaen gan Mr. Rowlands. Cynygiodd fod costau y Swyddog Dychweliadol mewn etholiadau seneddol i gael eu talu o bwrs y wlad, ac nid o logellau'r ymgeiswyr fel y gwneir yn awr; heblaw hyny cynwysai'r cynygiad ddatganiad fod y costau hyny yn uwch nag y dylent fod. Cyfrifir fod costau'r swyddogion hyn trwy'r wlad (mewn etholiad cyffredinol) yn cyraedd y swm anferth o E200,000. Mae hwn yn swm llawer mwy nag y dylid galw ar yr ymgeiswyr na'r Trysorlys chwaith i'w dalu. Rhoddwyd cymeradwyaeth gyffredinol iawn i'r cynyg- iad, a dywedodd y Twrne Cyffredinol nas gallai ef feddwl am ddim i'w ddywedyd yn ei erbyn, a bod y Llywodraeth vn ei dder- byn. Gofynwyd iddo a ddygid ymlaen fesur i roddi grym cyfraith yn y penderfyn- iad yflwyddyn hon. Ei atebiad oedd fod yn anmhoslbl gwneyd pob peth eleni, ac nad oedd brys o gwbl am wneyd y peth yma. Yr hyn oedd ganddo yn ei feddwl, pan yn dywedyd hyn (wrth reswm) oedd nad yw yn debygol y cymer etholiad cyffredinol le yn fuan. Gobeithiwn y dygir ymlaen yn y man fesur a fydd yn darparu fod holl dreuliau etholiadol ymgeiswyr i'w talu o bwrs y wlad. Prin y mae yn rhaid dywedyd y bydd yn angenrheidiol gwneyd hyny ar amodau a rwystrant ymgeiswyr na fydd cysgod o obaith am iddynt lwyddo rhag amlhau. Nid ydym yn tybied y bydd tynu allan amodau felly yn waith anhawdd o gwbl.
IO—I ILlys y Manddyledion.…
O — Llys y Manddyledion. j Gwelwn i ni gael ein llawn g/hawnhau am ein sylwadau ar y gwysiau carcharol wran- dawyd o flaen ei Anrhydedd, y Barnwr William Evans, dydd Iau. Darllener ein hadroddiad o'r gweithrediadau. Y mae yn hen bryd rhoddi terfyn ar y dull creulawn ac anynol hwn o wysio dynion gonest, ond dod- ion o flaen y Llys i geisio'i gorfodi i dalu dy- ledion wthiwyd arno gan dramps y dillad a'r Iuddewon," hyn (fel y galwyd hwy gan Mr J. Jones Morris). O'r tro cyntaf yr agorwyd Llys yn Blaenau Ffestiniog hyd y Llys diweddaf y mae yr un personau wrthi gyda'r gwysiau hyn, ac ystyriant ei bod yn hanfodol i'r Llys eu cael hwy yno i ddangos eithafon bryntwch a diffyg tynherwch. Pa reswm sydd fod neb yn gofyn am anfon gwyr i garchar pan nad yw eu henillion ond prin ddigon i gadw newyn o'r ty. Mewn un achos nid oedd y dyn yn cael ond deg swllt yr wythnos am gadw ei wraig a'i dy Aw- grymodd ei Anrhydedd gryn amser yn ol na byddai iddo anfon neb i garchar oni byddai ei enillion wythnosol dros bunt, ac er hyny parheir i'w feichio a'r achosion hyn. Mae i'r peth ei addysg, a dylai yr ardal ddysgu y wers oddiwrtho, fel ag i roddi terfyn ar y cyfleusderau i'r bcbl hyn wasgu arnynt.
Y Barnwr Cymroaidd. I
Y Barnwr Cymroaidd. Dydd lau, yn Llys y Manddyledion, yr oedd arwyddion digamsyniol o deimladau gwladgarol a chenedlgarol. Gwisgai holl Swyddogion y Llys a'r Barnwr Anrhydeddus y Geninen. Gwelwn fod ysgolfeistr o Dre- ffynon yn dadleu yn fympwyol mai Cenin Pedr (Daffodil) yw yr arwydd cenhed!aetho! ac nid y Geninen (Leek), a hyny, meddai ef, am mai "cenin y gelwir y ddau lysieuyn. Os felly, dalai cyngrair y Brielli wisgo Brielli yr ardd (Polianthus) ac nid Brielli y Clawdd (Primrose), am eu bod yn cael eu galw yn Frielli. Y Geninen yw yr un ddaeth i lawr i ni fel ein harwydd Cymreig, ac nid Cenin Petr; a'r Geninen oedd gan y Barnwr Evans ddydd Iau yn ei got. Y fath wahan- iaeth sydd yn awr yn y Llys hwn a'r hyn ydoedd yn amser y Barnwr Homersham Cox. Yr oedd hwnw yn camddeall achos- ion oherwydd nad oedd yn hyddysg yn ein hiaith a'n harferion; ond yn awr y mae genym Farnwr sydd yn teimlo dros ei gyd- genedl a'u hanesion torcalonus adroddir o'i flaen, ac y mae caniatau i'r achosion gael eu trafod yn Gymraeg, a sieryd yntau Gymraeg a'r, Cymry uniaith ddeuant i'w Lys. Mae'n amhosibl peidio edmygu ei ddull tawel a ddeg a'r drafferth anferth a gymer i geisio cael allan y gwirionedd yn mhob achos ger ei fron.
I Corwen. I
Corwen. Marwolaethau.—Mewn wythnos i'w gilydd bu farw dwy o wragedd mwy parchus yr ardal, sef priod Mr David Jones, Saer- maen, Melin Rug a Mrs Jones, priod Mr Henry Jones, Brynrug. Cafodd y ddwy gryn lawer o gystudd, pa un a ddioddasant yn hynod o amyneddgar a gostyngedig i ewyllys yr Arglwydd. Yr oedd Mrs Jones, Brynrug, yn ferch i Lydia Jones, y Ddwyryd yr hon oedd yn edrych ar ol capel Treddol, a bu hithau yn hynod o ffyddlon hyd y diwedd Claddwyd hi yn mynwent Llawr y Bettws. Ei hoedran oedd 59.—Heddwch fyddo i lwch y ddwy.—R.H. j
Advertising
??S???  /l?? ?? f MYNED. A T 0 IP Y. f ° '?Y- 6WAED. Y Gwaed yw'r Bywyd. Y Gwaed yw'r Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Y mae pawb-y chwi yn eu mysg—yn agored i nifer fawr 0 glefydan, Paham felly ? Am fod Anmhurdeb 1r Awyr Aamhurdeb 1 Dwfr, Anmhurdeb Bwy dydd, ac A..?.d.b pethan amgylchynol yn creu Anmhnrdeb y G-TTABD. A phan. bydd y GWAED yn cael ei lygru a'i weawymo, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SOURTIR, ECZEMA, TARDDIAWTAU Y CROEN, LLYGRIADAU, RASH, COESAU CLWYtfEDIG PENDDYNOD. RHEUMA ;~VI, CORNWTDON, NEURALu. A llu o Glefydau eraill y Corff a'r Ymenydd, i ruthro at wahanol ranau o'r oyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydan ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GWAED yn BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN EI GADW YN BUR. tarlUynwch Heb weled Hun hyny y Galon Twyll ar bob box ydyw. Os byddwch yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL GORFFItWYMEDD, POEN Y CEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWYLDERAU Y GWYNT, CYLLA A'R ARENAU. ISEL YSBRYD, Cofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod yn rhaid myned at y GWAED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrchol ar y GWAED, ae ar yr hoU gyfaneoddiad. Rhoddweh brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerthwyr Patent Medicine am Is lie, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. O. at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. Rhoddwch brawf ar I' ^ef Gomer's J: AxT/C rbj ailm « ™b——™—i MAE "GOMEUS BALM YN ELI AT BOB CLWYF, AC YN IIYNOD AC ANFFAELEDI? AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALL?NOL Y OOFFR. A oes genych Goes Ddrwg. Y mae GOMER 8 BALM yn iachan y Clwy braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion, Llosgiadau, Tarddiantan y Cnawd, Exzema Cedwir Jlawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachaa Orach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanaa, PUt; Llygriadau Plant a Benywod, Malaethau, Tarwdeis* Traed Chwysedig, Gout, Gwynegon, Scurvy. Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, CerriiJ Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, Crefftwyr 0 bob math, ni ellir cael dim mor effeithiol a sicr a Govur's Balm at bub Archoll a Damwain i'r Cnawd, a sicrkad Bioo Poison marwol. d SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.—Mae eich Eli, sef Gomers B-ilm, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaHana yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balvy ei roddi arno mor fuan ag oedd yu bosibl, yn mhen yr wythnos yr oedd yn abl I'w gael 01 whgo, acynburfuai2 yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad llym iawn ean y Blastg(nen T?t:vsipeL"s) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythno.^j ic-th o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawrs^adrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefayddiodd Gomer's Balm I yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddiau. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity nad yw pawb ddiro, yn gwybod am dano.—H. LEWIS, Brixliam^Devon. CLWYF GYMAINT A SAUCER. Syr.—Ni allaf byth ddiolch digon am eich Gomer's Balm, y mae yn iachan fy nglun yn gyflym iawn. Mac- fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am bum' mlynedd. el»vy £ mawr cymaint a s(titecr, ac yn boenna iawn, pawb ya rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwythau y poen yn rhytedd. Yr wyf wedi gwario punoedd lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Dalarston Rhodder Prawf arno. Gofyiier am Gomer's Balm. Na thwyller chwi, mynweh weled enw "JACOB HUGHES ar bob blwch. Ar werth gan bob Chemist ueu werthwr Patent Metl-ciue am Is lie., neu danfoner eu gwerth mewn Stamps] neu P, 0. i'r gwteutnurwr, JACOB HUGHES, M.P.S,L.D.S MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF.