Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

II'R BAILIFF. I

DYHUDDIANT- I'R BAILI. I

AR FARWOLAETH

CAN AR GAREG FEDD.

Family Notices

PENILLION TELYN.

IY GOEDWIG.

FFESTINIOG.TTTTTI

News
Cite
Share

FFESTINIOG. T T T T T I YR ARDDANGOSFA ARDDWROL.-Cofied pawb y bydd yr Entries gogyfer a'r Arddangos- fa uchod yn cau dydd Sadwrn nesaf, Awst 15. Wn i ddim, Mr. Golygydd, a ydych chwi yn talu'r sylw dyladwy i'r Llan yma. Yr wyf yn sicrhau i chwi pe baech yn dod am dro yma weithiau y caech ddefnyddiau ilawer penod ddyddorus i'ch newyddiadur clodus. Mae yma gymeriadau mor wreiddiol a'r bryniau sy'n gwarchodi'r pentref—cymeriadau gwerth sylwi arnynt, a'i hastudio. Gwneir amryw droion smala hefyd ar brydiau fyddai'n iechyd i galon eu clywed. Yn ystod y dyddiau diweddaf yma y mae rhyw glefyd melus rhyfedd wedi ymweled ar Llan-y mae pawb bron yn chwilio am wenyn, rhyw awydd am fel wedi gafael ar gastric organs rhyw lu mawr o'r trigolion. Yn wyneb y ffaith hon cyfansoddodd rhyw wag o brydydd y gânfarddonllyd ganlynol:— EVAN A'R CACWN. Yn Llan Ffestiniog dro 'rol tro Bu cymeriadan rhyfedd; Ond erys y rhyfeddaf oil Hyd heddyw, trwy drugaredd. Mae llawer penod ddoniol iawn Yn mywyd pawb, mi dybiwn, Ond y ddoniolaf glywais i Yw'r benod ar y caqwn. Daeth clef yd melus rhyfedd iawn I'r ardal hon o rywle A'i sympton ydyw blys am fel. A gwenyn meirch, fel tase' Tarawyd Evan, druan gwr, Yn hynod drwm o'r clefyd, A chwilio bu am ddyddiau lu Am haid o wenyn diwyd. O'r diwedd cafodd baid fawr iawn Yn g'lwm mewn tomen ludw, A rhedeg bu bron colli'i wynt Am help, a chwch i'w cadw. Ymwibiai o'r naill dy i'r Ilall Gan geisio dyn i'w cychu, Ond rywfodd croeso oeraidd braidd Ga'dd Evan gyda'i stori. Beth bynag, wedi hir berswad Aeth dyn o'r Llan i'w ganlyn, A'i ddilyn hyd y domen wnaeth Er mwyn cael cychu'r gwenyn. Fe irwyd cwch a thruog du, A siwgr coch, mi dybiwn, Ond yn y domen ludw 'doedd Dim byd on J chwech o gacwn. CEUNANT GYNFAL.

Advertising