Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

IlultODIADAU WYTHNOSOLI

Ewyllys -Pendefig.-1

News
Cite
Share

Ewyllys Pendefig. -1 Yr wythnos ddiweddaf profwyd Ewyllys Iarll Derby, yr hwn a fu farw ddau fis yn ol, a phrisiwyd yr eiddo a adawodd yn R3,777, 139. Gan ei fod yn arferiad i brisio yn isel iawn pan y prisir er mwyn jprofi ewyllys, gellir bwrw fod yr eiddo yn werth, o'r hyn lleiaf, £ 4,000,000. Rhaid fydd i'r cymun- weinyddwyr (diolch i'r diweddar Syr Wil- liam Harcourt) dalu toll o P,500,000 i'r LIywodraeth, ond bydd gwerth y gweddill yn dair milliwn a haner o bunau. Veddill arferthol ymatelir ychydig gymunroddion i rai oec'dynt yn ngwasanaeth yr Iarll, a rhenir y gweddill rhwng ei berthynasau. Cofier fod y gwr a adawodd y swm yma ar ei ol wedi etifeddu rhan ohono ac wedi cael y gweddill yn ffurf rhenti ffermydd, seil-renti, &c. Ni enillodd ond ychydig iawn o filoedd o bunau y rhai a dalwyd iddo fel cyflog. Ni farnodd yn briodol adael cymaint a cheiniog i Gym- deithas grefyddol, na chymdeithas elusengar. na chymdeithas ddyngarol; gadawadd y cwbl i ychydig bersonau er mwyn rhyddhau y ffordd iddynt gael byd da yn helaethrwydd beunydd, a. threulio eu hamser i ymddifyru. Ni ddylai peth fel hyn fod yn bosibl. Nid yw'n rhesymol ei fod yn bosibl i un dyn ben- tyru cymaint o gyfoeth, hyd y nod pe buasai ganddo ewyllys i'w ddefnyddio yn y modd mwyaf manteisitil i gymdeithas a chan ych- ydig iawn o gyfoethogion y mae ewyllys i wneyd hyny. Mae un ffaith fel hon yn dra effeithiol i barotoi ffordd Sosialaeth, a chofier fod Sosialaeth yn dyfod. Pan y daw gwna beth fel hyn yn 4nmhosibl, a goreu po gyn- taf y gwna hyny. Mae yn ein gwlad ormod o gyfoeth yn nwylaw ychydig bersonol a gormod o dlodi yn agos atynt. Confucius (os ydym yn cofio yn iawn) a ddywedodd mai un o'r arwyddion sicraf o gamlywodraeth mewn gwtad yw fod ynddi gyfoeth mawr a thlodni mawr. Mae y ddau beth yma yn agos iawn at eu gilydd yn ein gwlad ni, a goreu po gyntaf i'n gwladweinwyr edrych yn ngwyneb y ffaith a'i hystyried yn ddwys. Trwy ddiwygiad mewn pryd yn unig y gellir rhwystro chwildroad.

I Ewyllys A rail.-----1----.-…

'Tlodi. 'I

Codi Bwganod.I

Y Fasnach Lechi.-1

Toriad gwawr yn Twrci.

GwastrafF Ofnadwy.

-.-;- . Ymfudwyr.

Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-