Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.

-.-LLANRWST.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.-10, Parch. D. C. Davies, B.A. 6, Parch. J. Morgan, B.A. St. Mary.—10, Parch. J. Morgan, B.A. 6, Parch. D. C. Davies, B.A. Y Methodistiaid. Seion.Parchn. Morris Morgan, Abertawe, a J. Wilson Roberts, Llundain. Heol Scotland.—Parch. Edward Davies, Llan- rwst. Yr Annibynw-yr. Tabernacl.—10, Cyfarfod Gweddio. 6, Parch. Aeronydd Enoch. Ebenezer.-Parch. J. Arfon Davies. Y Wesleyaid, Floreb.-OeAfaon. St. James (English Chapel).-Rev. M. Luther Mudd, Llandudno. Y Bedyddwyr. Penuel.—Parch. E. Cefni Jones, Blaenas Ffes- tiniog. TRWYDDEDOL.—Bu i'r ynadon yn Llys Trwyddedol Chwefror basio i beidio adnewyddu trwyddedau y Glanconwy Hotel, Cambrian Vaults, a'r Coach and Horses. Eisteddodd y Pwyllgor lawnyddu yn Colwyn Baydro yn ol, a phasiwyd i ganiatau trwydded i'r Cambrian Vaults, ond fod y ddau dy arall i gael lawn. Mewn cyfarfod dilynol o'r Pwyllgor gofynodd Mr. J. E. Humphreys, ar ran Mri. Soames, Wrecsam am £ 1,472 o lawn, a chynygiodd y Pwyllgor £ 500. Wrbyniwyd y cynyg.—Ar ran Mri. Ind, Coope, pSrchenogion y Glanconwy Hotel, gofynai Mri. Chamberlain a Johnson am am il .621 fel lawn, a bod £ 100 o'r swm i fyned i'r tecant, Mr. Thomns Chambers. Cynygiodd, y Pwyllgor £ 850 ar y deall fod y tenant yn cael £ 100 o honynt. tJofynodd y perchenogion am amser i ystyried a allent dderbyn y cynyg. Dydd Iau, eisteddodd y Pwyllgor draehefn, a darllenwyd llythyr oddi- wrth gyfreithwyr y perchenogion yn cydsynio i dderbyn £ 850. Bydd y ddau dy yn cael eu cau y diwrnod y telir yr arian. YR ARDDANGOSFA.—Cynhaliwyd Pwyllgor Gweithiol yr Arddangosfa prydnawn ddydd Mawrth, o dan lywyddiaeth Mr. Roberts, Cae'r Melwr, yr Is-gadeirydd. Gorphenwyd yr holl drefniadau at y dydd. Hysbysodd Mr. Watliag, yr Ysgrifenydd diwyd a difiino, fod y rhagolygon yn eithriadol o foddhaol, a bod yr entries yn dylifo i mewn. Nid oedd arnynt eisiau dim:ond tywydd ffafriol na byddai hon yn Arddangosfa na bu ei thebyg o ran llwydd- iant yn mhob ystyr. Teimlai y Pwyllgor yn galonog iawn wrth glywed y newyddion hyn gan yr Ysgrifenydd, Cynhelir yr Arddangosfa ddydd Iau nesaf ar Bare Gwydyr, a gwasan- aethir gan Seindorf ertwog Oakeley. Cafodd Mr. Hugh Pierce, cynhebrwng lluosog nodedig ddydd Iau diweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Edward Davies; Peter Jones Roberts, Cadeirydd yr Ail Dalaeth Weeleyaid Cymreig; a John Gower, Rheithor Trefriw. Wrth y bedd gan y Parchn. John Morgan a D. C. Davies. Yr oedd yn hawdd gweled fod gwr mawr ac amlwg wedi ei dori i lawr yn y dref, a bod galar mawr am dano yn mhlith y trigolion. Heddwch i'w lwch yn mynwent St. Mary hyd ganiad yr udgorn. YMGYRCH ADLONOL.—Dydd Iau, ar Gae Careg Ednyfed, roddwyd yn fenthyg gan Mr. William Jones, The Hand, cynhaliwyd Ym- gyrch Addlonol (Fete) lwyddianus er budd Trysorfa Organ Capel Seion. Cafwyd tywydd nodedig o ffafriol, a chymerodd tua chwe' chant ran yn y gweithrediadau. Yn mhlith y rhai oedd yn bresenol, yr oedd y Milwriad Higson, Mrs. Priddle, Sir John Herbert Roberts, ac Arglwyddes Roberts. Yr oedd Seindorf Arian Oakeley yno yn dyddori y dorf fawr gyda'u chwareu chwaethus a choeth trwy y prydnawn, a rhoddasant foddhad cyffredinol. Y Milwriad Higson wrth ddatgan yr Ymgyrch yn agored, a alwodd sylw at y pwysigrwydd o gael undeb rhwng yr holl Eglwysi Protestanaidd a'u gilydd, a'r boddhad oedd iddo ef roddi ychydig gynorthwy at wneyd y mudiad yn llwvddianus. Rhoddodd Syr John air uchel i'r Milwriad, a datganodd ei foddhid ei hun ac Arglwyddes Roberts i fod yn bresenol.-Ar gynygiad Mr. William Hughes, U.H., a chefnogiad Mr. D. J. Wil- iams, pasiwyd pleidlais o ddiolch cynes i'r Milwriad, Syr "John ac Arglwyddes Roberts, am eu presenoldeb a'u cefnogaeth. Wedi i nifer o enethod ddatganu, a'r Seindorf chwareu, agorwyd y gweithrediadau o ddifrif. Deallwn i'r Boneddigion Anrhydeddus gyfranu yn syl- weddol at y drysorfa, a chafwyd cryn garedig- rwydd gyda rhoddion o Flodau at y Stall. Gweithiodd Mr. W. Lloyd Roberts, yr ysgrif- enydd, yn ddiwyd iawn er dwyn pobpeth i derfyniad llwyddianus, ac y mae dod mawr yn ddyledus iddo am hyny. Cymerodd y rhai canlynol ofal o'r Stalls:- REFRESHMENT STALL,—Mrs. Thomas, Frondeg (Llywyddes); Mrs. Rogers Jones (Trysoryddes) Mrs. Owen, Greenwich House, a Mrs. Williams. Gwynfryn (Ysgrifen- yddion); Mrs. Pierce, Dyffryn Aur; Mrs. Roberts, Fron; Mrs. W. H. Williams; Mrs. T. R. Jones; Mrs. Mosses Evans Mrs. Wil- liams, Preswylfa; Mrs. Hughes, Cambrian Vaults; Mrs. Roberts, Eagles Hotel; Mrs. D. J, Williams; Mrs. W. Hughes, Gwernfor; Mrs. H. Hughes, Dolwar; Mrs. Jones, The Hand; a Mrs. Jenkins, George Street. t Flower Stall. Mrs. Owen, Bodynyr (Llywyddes); Mrs. J. Hughes (Ysgrifenydd- es) Mrs. Evans, George Street; Mrs. Jenkins, Eirianfa; Mrs. Roberts, Cartrefle; Mrs. Dr. Lloyd Williams; Mrs. Chambers, Minafan; a Mrs. D. Jones, Watling Street. Flower Girls,—Misses Gwydeth Roberts, Madge a Florie Jenkins, Menai Williams, Madge Chambers, Jennie Evans, Mona Wil- liams, Kate Hughes, Doris Roberts, Mary Owen, a Maggie Jones. Shooting Gallery,—Mri. R. G. Owen, a J. Williams, Gwynfryn. Field Stewards,-Mri. D. J. Williams, E. Hughes, Evan Pughe, Tudor Williams, a John Hughes. Troes y Cyngerdd gynhaliwyd yn yr awyr agored yn llwyddiant mawr, a threfnwyd ef gan Mr. Lloyd Roberts. Cyfeiliwyd gan Mr. D. D. Parry. Datganwyd gan Mr. Fred Roberts, Lerpwl; Miss Jones, y gantores aur- dlysog o Ty Newydd, Llanfaelog, Mon; Miss Louisa Roberts, Caergybi; a Mr. Watkin Williams, Caernarfon. Chwareuwyd y Man- doline gan Mr. Banks, Porthmadoc; a chymerodd parti o Nantlle ran yn y Cyngerdd. Cafwyd hwyl neillduol gyda'r chwareuon oeddynt o dan ofal Mri. O. Isgoed Jones, J. Jenkins, Ll. Humphreys, Dennis Jones, a J. R. Chambers (Ysgrifenydd), a chafwyd achos mawr i chwerthin gyda'r ymladdfa glustogau. Enilliwyd fel y canlyn: —Neidio uchel (bechgyn), Dyfed Roberts. Eto (agored), Norman R. Jones. Can' Hath o redeg (i fechgyn), Frank Lloyd. Rhedeg gyda llwy ac wy (i fercbed), Miss Leta Rogers Jones. Manx Race (i fecbgyn) Owen Parry a D. Pritchard. Eto (agored), Arthur Richards, ac A. Jones. Ymladd gyda chlustogau, A. Richards. Cloch a chlustog, Dyfed Roberts. Manx Race (i ferched), Nora a Nancy Jones. HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen y Milwriad Johnstone, Dr. Jones, L. W. Jelf Petit, Wil- liam Hughes, Edward Mills, W. J. Williams a J. R. Williams, Ysweiniaid. Mary Knowles, Pentai, Glanconwy, a Jane Knowles, Bryn Rhys, Glanconwy, a gyhudd- wyd o fod yn feddw ac afreolus. Yr oedd y ddwy yn hen ffrindiau, ac wedi bod yn Llan- dudno gyda'u gilydd. Pan ddycbwelasant yr oeddynt yn bur gwerylgar.—Dirwywyd Mary i swllt a'r costau a Jane i haner coron a'r costau. Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd Ellen Mullens, Scotland Street, Llanrwst, o arfer iaith aflan, a'i gwr Richard Mullens, o fod yn feddw ac afreolus.—Tystioddy swyddog fod Ellen yn tyngu a rhegi am awr heb ymatal, a chyfranai Richard ran helaeth o iaith aflan.- Dirwy haner coron yr un a'r costau. Boreu ddydd Mawrth, o flaen Mri. Isgoed Jones a William Hughes, cyhuddwyd Mary Walls, heb gartref sefydlog, o fod yn feddw ac afreolus, a thori ffenestr y gell.—Anfonwyd hi i garchar am fia.

VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…

Dyngarwch Cymro Seuangc o…

BETTWSYCOED. I

'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…

- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…

r BLAENAU IFFESTINIOG.

Family Notices