Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.

News
Cite
Share

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST. Cyfarfu y Cyngor ddydd Mawrth pryd yr oedd yn bresenol, y Parch. H. Rawson Williams (Cadeirydd), John Davies (Gwytherin), Ed- ward Edwards, John Roberts, David Owen, David Lewis, Rowland Hughes, Meredith Owen, R. R. Owen (Clerc), Maurice Roberts (Arolygydd). Yr oedd cwyn nad oedd tai Pendrawllan, Egiwysbach, mewn cyflwr iechydol priodol, ond yr oedd y perchenog wedi dechreu ar y gwaith o wneyd yr hyn a ofynid. Eglurodd yr Arolygydd mai hyny oedd y rheswm paham na fuasai yn gwysio y perchenog yn unol a phen- derfyniad y cyfarfod diweddaf o'r Cyngor.— Cymeradwyodd y Cyngor yr hyn a wnaeth yr Arolygydd yn y mater, gan obeithio y gorphen- id y gwaith yn ddiymdroi i'wfoddlonrwydd heb oedi. Oddiar gofnodion y cyfarfod blaenorol cod- odd y cwestiwn o benodi Arolygydd Iechydol i'r Cyngor fel olynydd i Dr. Peter Frazer. Yr oedd y cyfnodion yn hysbysu y byddai y cyfiog yn £ 35 y flwyddyn.-Mr. John Roberts (cyn- Gadeirydd y Cyngor) a ofynodd beth oedd yn cyfrif am y gwahaniaeth rhwng y swm a ofynid o dan y trefniant newydd rhagor yr hen, gan mai £ 29 a arferid dalu i Dr. Frazer ? Yr oedd Aethwy a'r Dwyrain wedi tori eu cysylltiad a'r cyd-bwyllgor Iechydol. A allai y Cyngorau hyny ymwahanu, ar ol i'r holl Gyngorau syrth- io i mewn i'r trefniant ?-Y Clerc a ddywedodd ei fod ef o'r farn nad allai neb ddadgysylltu oedd mewn undeb yn flaenorol hyd nes y deuai yr amser i fyny (1910). Yr oedd ef wedi cael o Fwrdd y Llywodraeth Leol air yn erbyu ychwanegu at y cyd-bwyllgor presenol ond y gallai y Cyngorau cyfagos ofyn am wasanaeth Swyddog Meddygol y Cylch. Ystyriai ef (y Clerc) os oedd anhawsder gydag uno, yr oedd yn debygol y byddai anhawsder gyda lleihau. —Mr. J. Roberts a ddywedodd eu bod hwy a Llansantffraid wedi gwrthwynebu y cynllun hyd y gallent, am nad oeddynt yn ei ystyried yn deg i Sir Ddinbych dalu am Arolygydd Meddygol i Ysgolion Sir Gaernarfon, a hwyth- au yn gorfod talu am swyddog felly yn eu Sir eu hunain.-Y Clerc a eglurodd y gwahaniaeth oedd in ngwaith Swyddog Meddygol y Cyn- gorau, ac Arolygydd Meddygol yr Ysgolion. Hysbyswyd ef fod Sir Ddinbych wedi penodi Arolygydd Iechydol i'r Ysgolion. Deallai mai y wedd a gymerai y Cyngor ar y mater oedd eu bod yn gorfod talu ddwywaith am yr un gwaith megis: talu dros eu hysgolion eu hun- ain, a thalu dros Ysgolion Sir arall (Caernar- fon).—Y Cadeirydd a deimlai mai penu dau neu dri, gyda'r Clerc. i fyned i mewn i'r mater a fyddai oreu.—Clerc, Oni fyddai yn well i mi anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol i ddywedyd eich teimlad fel Cyngor ar y mater ? — Mr. J. Roberts, Yr ydym yn ymyl y penod- iad, ac y mae gwirionedd yn aros yn wirionedd o hyd.Cadeirydd, "Yr ydych yn iawn, ond beth yw gwirionedd ar y cwestiwn hwn yw y pwngc ? Dylid cael gwybod hyny i ddechreu." —- Cierc, Yr wyf wedi anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol ac y maent wedi ateb fel y dywedais." Mr. John Roberts a ddywedodd fod y Cyd-bwyllgor yn ystyried mai mantais ydoedd cadw yr Undeb er y talu y ddwy bunt ychwanegol.-Y Cadeirydd, "Y pwngc ydyw, A allwn ni ymryddhau oddiwrth y Cyd-bwyllgor? Nid yw y ddwy bunt yn fater i'w ystyried yn awr: chwe' phunt yw gwahaniaeth, a bod yn fanwl.tdr. John Roberts a ddywedodd fod y mater yn aneglur iawn iddo ef.—Clerc a ofynodd a'i ni ellid trefnu Ilai -i'r Cyd-bwyllgor o'r swm ychwaneg- ol oeddid yn awr yn ei olygu dalu oherwydd y gost o Arolygu Ysgolion Sir Gaernarfon ?—Mr. J. Roberts a ofynodd a wnai hyny ddwyn rhyw fantais iddyut hwy fel Dosbarth ?— Cadeirydd, "Yr wyf yn cynyg iod dau yn cael eu penodi i edrych i mewn i'r mater gyda'r Cierc." Cefnogodd Mr. David Owen, a phenodwyd y Cadeirydd a Mr. John Roberts, at y Clerc i chwilio i mewn i'r mater. Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol wedi anfon am gael adroddiad y Swyddog Meddygol ar y gwyn ddaeth oddiwrth Mr. David Hughes, Llythyrdy, Talycafn, am flieidd-dod honedig yn tarddu o garthffos y Gwesty gerllaw.—Yn 01 y Swyddog Meddygol, a'r Arolygydd, nid oedd sail i'r gwyn.—Pasiwyd i anfon adrodd- iad y Swyddog Meddygol yn unol a'r cais Daeth llythyr oddiwrth Mr. Aneurin O. Evans, ar ran David Hughes, ar yr un mater, yn dywedyd yr ymddangosai a flaen y Cyngor i drafod y mater, ond ni ddaeth. Hysbysodd Dr. Frazer i 11 o enedigaethau gael ei cofrestru yn ystod Gorphenaf, a 7 marwolaeth. Yr oedd dau achos o'r Twymyn coch wedi tori allan yn ystod y mis. Cwynid fod y Milwriad Higson, Plas Madog, wedi cau nifer o Iwybrau yn mhlwyf Llan ddoged. Wedi trafodaeth faith ar y mater, dywedodd Mr. David Owen pe buasai ef wedi cau y llwybr buasai yn cael ei orfodi i'w agor yn ddiymdroi. Paham yr oeddynt fel Cyngor yn gwneyd gwahaniaeth gyda dyn cyfoethog.— Clerc Y mae y ilwybrau ydynt yn gyhoeddus yn hoUol eglur ar y map.Mr. John Roberts a sylwodd nad oedd ef o blaid gwneyd dim i gyfreithio yn ei gylch.—Cadeirydd, Gadewch i'r sawl fyn gyfreithio wneyd hyny, ondnis gall wneyd niwed i ni gan mai amddiffyn eiddo y cyhoedd yr ydym."—Pasiwyd i anfon at y Milwriad Higson i ofyn iddo adfer yn ol yr holllwybrau cyhoeddus oeddynt mewn dadl ar ei dir yn mhlwyf Llanddoged. Mr. W. B. Halhed, Pendyffryn, a anfonodd lythyr yn gofyn i'r Cyngor osod rhybuddion i fyny wrth ei dy i rhybuddio modurwyr i beidio goryru eu moduriau wrth basio. Siarad yr oedd er mwyn ei ddiogelwch personol ei hun. —Y Clerc a ddywedodd mai mater i'r Cyngor Sirol oedd rheoli cyflymdra y moduriau ar y prif-ffyrdd. Rhoddodd y Clerc gynhodeb dyddorol o ffigyrau Iechydol am y Sir allan 6 adroddiad Dr. R. Stenhouse Williams. Ar fater yx poblogi, yr oedd pedwar yn mhob ty yn Llan- rwst ar gyfartaledd, tra yr oedd 6 yn mhob ty yn Colwyn Bay ar gyfartaledd. Felly nid ellid cwyno fod dim gor-lenwi yn nhai y Dos- barth. Ganwyd 105 yn y Dosbarth yn ystod y flwyddyn, ac yr oedd 7 o'r plant yn anghyf- reithlon. Yn hyn eto safai y Dosbarth allan yn bur dda o'i gydmaru a Dosbeirth eraill, megis Uwchaled, lie yr oedd 7 o'r 44 plant a anwyd yno yn anghyfreithlon. Rhagorai Dosbarth Chirk, lie y ganwyd 116 o blant, ac nid oedd ond tri o honynt yn angbyfreithlon.- Diolchwyd i'r Clerc an ei grynhodeb, a'i syl- wadau buddiol ar yr Adroddiad.

-.-LLANRWST.

VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…

Dyngarwch Cymro Seuangc o…

BETTWSYCOED. I

'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…

- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…

r BLAENAU IFFESTINIOG.

Family Notices