Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Y LLYWODRAETH A'R WLAD.

[No title]

ARDAL GLANYMOR.

!LLYFR MORMON. --

ICLYWEDION O'R TUMBLE. i__

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL.

News
Cite
Share

ETHOLIAD Y CYNGHOR TREFOL. MR. GOL.Drwy fod yr etholiad uchod wrth y drws, ac y bydd wedi ei rhifo yn mklith y pethau a fu cyti y gwel rhifyn arall o'r Mercury oleu dydd, crefaf am ychydig o'ch gofod i draethu fy lien ar y mater yr wythnos hon. Yn Rhan barth Rhif 1, y mae Meistri John Griffiths a Tom Hughes yn dyfod o'n blaen i geisio am adnewyddiad o'n hymddiriedaeth â¢Â» "t « /-i T':1 "1.1- 1 n i â¢Â» I ynaaynt, ac y mae iiir. u.,v. idiaiie, agent ocaa y Stradey, yn bur awyddus am sedd un o honynt. Nid wyf fi, yn bersonol, yn medru gweled fod un rheswm dros newid pethau o'r modd yr oeddent, ac yn neillduol felly er mwyn gosod Mr. Blake i fewn, nid, cofier, am fod genyf ddim i'w ddweyd yn erbyn Mr. Blake yn bersonol, ond am ei fod yn agent Stad y Stradey. Yr ydym, fel trethdalwyr, wedi cael prawf o gysylltiad ein haelodau ar y Bwrdd lechyd Lleol a Stad y Stepney, pan yr oedd y diweddar Mr. Rosser yn fyw. Cynrychioli Syr John Stepney yr oedd Mr. Rosser ar y Bwrdd, ac nid y trethdalwyr. Y canlyniad naturiol oedd fod y trethdalwyr wedi gorfod talu miloedd o bunau er dreinio, gwneuthur heolydd, a pharotoi Stad y Stepney er adeiladu. Dylasai y Bwrdd lechyd Lleol fed wedi gorfodi perchenog y tir i wneuthur hyny cyn fod y tai wedi eu hadeiladu. Yr ydym wedi taflu Mr. Wilson, agent Syr Arthur Stepney, dros y bwrdd, a hyderef y byddwn yn ddigon call i beidio cymeryd Mr. Blake ar y Bwrdd yn ei le. Dywed Mr. Blake yn ei anerchiad ei fod yn barod i fyned i fewn dros gwblhau yn hollol drainage y Forge, ac nid wyf yn ei amheu, o herwydd, os bydd iddo godi am yr hyn sydd heb ei gwblhau yn ol fel yr ydym wedi gorfod talu am ganiatad i fyned a'r pibellau drwy y tir eisoes, golyga gryn lawer o arian. Yr ydym eisoes wedi gorfod talu kl50 am ganiatad i fyned a'r pibellau trwy dir, ie, yr ysmotyn tir, a berthyn i'r Stradey. Heblaw hyny, y mae pob peth ellir ei wneud wedi ei wneud. A yw Mr. Blake yn anwybodus o'r ffaith hon,tybed F neu a ydyw efe wedi cael ychydig flas ar y £ 150, ac yn ymawyddu am ragor ? Carwn gael gwybod hefyd aill yr ymdrafodaeth o barthed y tir angenrheidiol i'r reservoir newydd-y canoedd lawer godwyd gan Mr. Blake am dir nad oedd yn werth pedwar swllt yr erw yn flynyddol. Nid yw pethau o'r natur hwn yn myned i ffafrio ymgeisyddiaeth Mr. Blake. Os etholir efy Meistr yn gyntaf, trethdalwyr wedi hyny," fydd yr egwyddor a'i llywodraetha ar y Cynghor. Rhaid i ninau, fel trethdalwyr, gael dynion i'n cynrychioli ni ar y Cynghor, ac nid y tirfeddianwyr. Dywed Mr. Blake hefyd yn ei anerchiad y bydd iddo roddi ei lais dros reilffyrdd newydd- ion. Carwn gael gwybod pa fodd y medr gysoni hyn a'i awydd i fyned i Lundain i wrth- wynebu y North Pembrokeshire Railway.. Efallai y cawn wybod eto. Credaf, er hyny, ei bod yn anhebgorol angen- rbeidiol i ni gadw Mr. Blake allan o'r Oynghorr o herwydd bydd genym ein gwaith wedi ei dori allan i ni er cael gafael ar yr hyn y mae Mr. Tom Hughes wedi ymladd mor rhagorol drosto yn y gorphenol, sef y traetb. Mor fuan ag y cwblheir y doc newydd sydd yn awr ar waith, byddwn yn sicr o adenill darn mawr o dir rhwng Llanelli a Phenbre. Y mae Mr. Hughes, Mr. Griffiths, ac ereill wedi brwydro dros ei gael yn eiddo i'r dref, ac ar yr ochr arall, y mae Mr. Blake yn honi hawl y Stradey iddo. Os gosodir ef ar y Cynghor, byddwn yn rhoddi un bleidlais dros roddi i Yswain y Stradey werth miloedd o bunau o dir sydd yn eiddo i ni, fel trethdalwyr, cyllid yr hwn ddylai gael ei ddefnyddio er ysgafnhau ein beichiau, a phaham y rhoddir i un yr hyn a berthyn i'r lluaws ? Pa beth yw'r ysfa sydd ar Mr. Blake am fod yn aelod o'r Cynghor os nad pethau fel hyn sydd wrth y gwraidd ? Y mae yn aelod ar y Bwrdd Ysgol yn awr, a dylai ymfoddloni ar hyny, ganganiatau i ereill gael yr anrhydedd o fod yn aelod ar y Cynghor Trefol.âYr eiddoch, &c., JOHN JONES. MR. GOL.Erfyniaf am ychydig o'ch gofod i ddweyd gair o berthynas i'r uchod, ac yn neillduol felly mewn cysylltiad a'r etholiad yn Rhanbarth yr Ail (Ward II.). Y mae tri ym- geisydd am y ddwy sedd sydd yn wag yn y rhanbarth hon, sef Meistri W. W. Brodie, Arthur E. Davies, a W. Knoyle. Y mae Mr. Brodie yn hen aelod, bellach, ac yn gofyn am adnewyddiad o'n hymddiriedaeth fel pleidleis- wyr, ond cyn ein bod yn penderfynu hyny, carwn yn fawr pe b'ai fy nghyd-bleidleiswyr yn ystyried y pethau canlynol:âOddiar y cafodd Mr. Brodie ei ethol fel un o'n cynrychiolwyr, y mae wedi ei ethol yn Gyfreithiwr i Stad y Stepney, yr hyn sydd, yn ol fy marn i, yn ei hollol anghytnwyso i fod yn gynrychiolydd drosom, o berwydd rhaid iddo, fel Cyfreithiwr y Stad, i ofalu am les Syr Arthur yn gyntaf oil, a'r trethdalwyr wedi hyny. Cawsom brawf di- ymwad o hyn pan yr oedd Mr. Rosser yn aelod o'r Bwrdd lechyd Lleol. Cof genyf fod y diweddar Mr. David Williams (Williams y Guardian), wedi ei ethol yn aelod o'r Bwrdd lechyd Lleol, ac wedi agor llygaid y trethdal- wyr i'r ffaith fod miloedd o arian y trethdalwyr yn cael eu gwario ar Stad y Stepney. Yr oedd y peth mor blaen ac eglur, fel y gorfododd Mr. Rosser, yr hwn oedd ar y pryd yn agent o dan Syr John, i Mr. Williams i roddi i fyny ei sedd, neuybuasaiyn ei erlyn am dderbyn arian am waith argraffu o dan y Bwrdd tra yr oedd yn aelod o'r Bwrdd. Y mae Mi*. Wilson, am ei fod yn agent, wedi cael ei wrthod genym, fel trethdalwyr, i'n cynrychioli; ac yn awr, dylem ymddwyn yn yr un modd tuag at Mr. Brodie, fel Cyfreithiwr y Stad. Yr wyf wedi clywed mai Cyfreithiwr Lleol yn unig yw, ac am hyny nad yw mewn sefyllfa i wneud llawer. Ai nid a phethau Ileol y Stad y mae genym ni, fel treth- dalwyr Llanelli, i ymwneud a hwy ? Nid oes genym ni, yn Llanelli, ddim i wneud a Stad Syr Arthur yn yr Iwerddon, ond yn unig a'r rhanau hyny o feddianau Syr Arthur sydd yn Llanelli, ac am hyny, dylem, ar bob cyfrif, gadw y Cyfreithiwr Lleol allan o'r Cynghor. Yr wyf yn cael ar ddeall mai Mr. Brodie yw cadeirydd Estate Committee y Cynghor, felly, nid rhyfedd ein bod yn cael cymaint trafferth i gael gan berchenogion y tiroedd i godi y gwrth- glawdd morawl ta hwnt i'r Morfa. Credaf mai Syr Arthur Stepney syddyn perchenogi y rhan fwyaf o'r tir, ae am hyny, nid oes modd yn y byd i gael y gwrthglawdd wedi ei adgyweirio. Er nad wyf yn byw ar y Doc Newydd, eto i gyd, yr wyf yn teimlo dros fy nghyd-drethdal- wyr sydd yn preswylio yno, ac nid wyf yn credu y dylasentgael eu gadael yn ddiamddiflyn ac yn agored i orlifiad eto. Y mae yr olaf wedi costio miloedd o bunau iddynt, ac yn fwy na'r cyfan, wedi costio eu bywydau i rai. Nid oes ganddynt hwy un llais yn etholiad aelod dros Ward II., neu, ynsicr, ni fuasentyn rhoddi help i neb i fyned i'r Cynghor onl y rhaifyddai yn ea hiawn gynrychioli yno. Bydded r ni, felly, roi ein cynorthwy i drethdalwyr Glauau y Mor, drwy gadw Mr. Brodie allan o'r Cynghor. Gwelais fynegiad ar y MERCURY ychydig wythnosau yn ol, tod cynrychiolwyr rstacl y Stepney wedi tori y rhwydau a pholion y pys- gotwyr, ac yn Llys y Mau-ddyledioo, fod Mr. Brodie yn gwneuthur ymdrech i brorfi fod gan Syr Arthur hawl i wely yr afon, ac am hyny, nad oedd caniatad i neb i bysgota yn yr afon heb dalu toU iddo ef yn gyntaf. Yn y llys hwnw methodd Mr. Brodie brofi yr hawl, ac am hyny, y mae yr achos heb ei benderfynu hyd yn hyn. Dengys hyn ei bod yn Hawn bryd i ni, fel trethdalwyr, i dori cysylltiad rhwng perchen- og y Stad a'r Cynghor Trefol, yr hyn a fedrwn wneuthur yn rhwydd wrth bleidleisio dros Mri Arthur Davies a W. Knoyle. Hyderaf y bydd- wn yn ddoeth yn ein cenedlaeth y tro hwn, leeth bynag.âYr eiddoch. JOHN DAVIES.