Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
I- HYSBYSIAD. YSCOL Y CWYNFRYN AMMANFORD. Sejydlwyd 1880 PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W.Williams SCo. JEWELLERS, &e.. 29 Castle St., Swansea. Speoia/ttfes l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Oymro Oa am beirdd fodrwyau aur, Oriaduron ac awrleisiau, Gemau a chadwynaa claer. Yspectol gelfydd, bin-fynegyad, owres-fesuryda, cwmfawd mor Geir gan Williams, Heol y Oastell Trowch i mewn i wel'd ei ster.
Y CYNNWYS.I
Y CYNNWYS. I Colofn y Llyfrau Tud. 1 Llith Dewi Aur 1 Colofn Llafur 1 0 Ysbyty Abertawe 1 Cyfarfodydd Taleithol y Wesley- aid 1 Y Stori: Nanno 2 Llyncu Polyn, gan Sion Sana. 2 Colofn y Plant. 3 0 Wy i Dywi 3 Undeb Cymdeithasau Cymraeg 3 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 3 Nodiadau'r Golygydd 4 0 Dir y Gogledd. 4 Gwlad a Sennedd 5 Cerddoriaeth ym Mountain Ash. 5 Colofn o Ohebiaethau 5 Mabinogion Abertawe 6 .Cymdeithas Dafydd Ap Gwilym 6 Cyfarfod Ymadawol yng Nghwm- aman 6 Requiem Verdi yng Nghapel y Cwm 6 Arholiad Ysgolion Sul (A.), Gogledd Morgannw,(-, 7 Cymanfa Gerddorol Caerdydd 7 Tipyn o Bopeth o Bontardawy. 7 Colofn y Beirdd Newyddion LIeoI 8
COLOFN LLAFUR.I
COLOFN LLAFUR. I GAN I-ERE D U E. I Adeiladwyt y Rhondda. I Calonogol ydyw gweled fod Mr Sidney Hall, swyddog y "Workers' Union," wedi bod yn llwyddiannus yn ei ym- drechion i gael gan y Meistri Adeiladu yn y Rhondda i gytuno i roddi codiad o ddimai yr awr i tua 500 o weithwyr, y rhai sydd yn gynwysedig o scaffoldwyr a labrwyr. Rhydd hyn i'r cyntaf a ,enwyd 7 ceiniog yr awr, ac i'r dosparth olaf e. yr awr, oadiar y cyntaf o Fai. Newyddion Da. j Gwelwn fod cyfarod neillduol wedi ei gynnal dydd Iau diweddaf yng Nghaer- dydd, yn Swyddfa Undeb y Glowyr, i hyrwyddo sefydliad baddonau ar ben- nau y pyllau. Yr oedd yn bresennol wragedd amryw o arweinwyr y glowyr, ynghyda'r bonwyr D. Watts Morgan, Evan Thomas, a Henry Davis (swyddog y sir ynglyn ag addysg fwnyddol). Pen- derfynwyd yn unfrydol i drefnu cyfarfod cyffredinol i'w gynnal ar y 13 o Fehefin yng Nghaerdydd, a. Maeres y dre i lywyddu. I'r cyfarfod hwn gwahoddir gwragedd y gweinidogion crefyddol, gwragedd meddygon. athrawesau, cyn- rychiolwyr menywaidd y Byrddau Cy- hoeddus, goruchwylwyr y gweithwyr, prawf-bwyswyr, goruchwylwyr glofaol, David Davies, A.S., Arglwydd Faer Caerdydd, Maer Abertawy, J. Lleufer Thomas, a gwragedd yr Aelodau Sen- ,eddol. Penderfynwyd hefyd wahodd pwyllgorau gweithiol yr holl lofeydd i anfon tair o fenywod i'w cynrychioli yn y cyfarfod. Cam yn yr lawn Gyfeiriad. I Oddiar ein hadnabyddiaeth o Mr Henry Davies fel trefnydd yr ydym yn sicr, gan ei fod ef a'i law yn y mater, y bydd yr yindrech yn llwyddic.nnus. Gwelwn obaith cryf y daw yr olchfa ddwfr ar bennau'r pyllau yn drefniant sylweddol heb fod yn hir. Bydd hyn yn gam effeithiol iawn tuag at ryddhau ein merched a'n gwragedd o lawer iawn o'r caethiwed a'r bryntwaith sydd yn .gysylltiedig a chartref y glowr. Dyma Gyne Neilltuol I i ennyn diddordeb y gwragedd a'r merched yn y Ffederashwn a'u gosod dan ddyled iddi. Dyma achos y gellir disgwyl iddynt roddi eu sel a'u brwd- frydedd yn galonnog o'i du. Credwn na ddylid aros hyd y cyfarfod mawr uchod heb wneuthur dim. Dylai pojb pwyllgor glofa drefnu cyfarfod, a gwa- hodd y gwragedd a'r merched ieuainc iddo, a cheisio gan y prawf-bwyswr, neu ryw frawd galluog arall, i baratoi papur neu anerchiad ar y mater. Sicr yw pe ceid tua haner dwsin o aelodau pob pwyllgor i gymeryd dyddordeb yn y peth, taw gwaith cymharol rhwydd fyddai cael cyfarfod o'r fath. Newydd Drwg. I Blin gennym glywed fod ein hen gymydog a'n ffrind, Mr P. D. Rees, prawf-bwyswr, Gorseinon, ar fedr cael ei erlyn, a pherchenogion y lofa yn ceis- io cael awdurdod i'w wahardd i wasan- aethu y gweithwyr wrth y pwysdy. Ei Ei barodrwydd a'i sel dros iawnderau y gweithwyr sydd yn achos o hyn. Go- beithiwn y safant yn wrol ac anrhyd- ;eddus o'i blaid yn y cyfwng hwn. Dosparth o Ddynion Pwysig iawn mewn cymdeithas y dyddiau hyn ydyw'r "Life Insurance Agents." Drwy eu dyddiol ymweliadau a chartrefi y bobl, dylanwadant ar y gwragedd i gofleidio golygiadau politicaidd, cref- yddol, neu gymdeithasol y dydd. Fel rheol, y maent yn ddigon rhinweddol a da, ac yn ddefnyddiol mewn cymdeithas. Gellir dweyd yn ddibetrus, mai teilyng- dod a gweithgarwch y dynion hyn sicr- haodd lwyddiant y gwahanol gwmni- oedd sydd heddyw yn y wlad. Ymddygiad Annheilwng Cwmnioedd. Wrth ddweyd hyn, nid ydym yn cyd nabod ein bod yn fafriol i'r gyfundrefn bresennol. Ein hamcan yw galw sylw y darllenwyr at fygythion annheilwng y cwmnioedd i'r agents mewn gwahanol rannau o'r wlad. Er mwyn lleihau y gost ac ychwanegu elw gwnant i ffwrdd a nifer o agents gan fabwysiadu system a elwir yn Block System," sef gofyn i agents dewisedig gymeryd rhan o lyfr y truan a ddiswyddir, a thrwy hynny ychwanegu werth llyfrau rhai ar draul gyrru eraill i segurdod a newyn. Lie Nad Oes Undeb. Y mae hyn yn cael ei wthio ar yr agents lie nad oes undeb. i mae yn dda gennym weled i Agents Aberdar wrthryfela yn erbyn y fath drais ac anghyfiawnder. Mewn cyfarfod c. Undeb Celf a Llafur Aberdar nos Iau diweddaf, penderfynwyd gofyn i weith- wyr ymhob cangen o lafur yn y dosbarth i wrthod gwneud dim ag agents nad ydynt yn aelodau o Undeb yr Insurance Agents." Berffeithied yw yr Undefo yn Aberdar fel y metha'r cwmnioedd dan II sylw gael y cynllun i weithrediad yma. Plaid Cyfalaf. I Y mae yr amgylchiadau cysylltiedig a'r drafodaeth hon yn danjafos yn egForr I nas gellir ymddiried i gyfalafwyr, yn t Geidwadwyr neu Ryddfrydwyr. Os edrychir ar res enwau rhanberchenog- ion y cwmnioedd gwelir y cyfansoddir hwy bron yn gyfartal o'r ddwy blaid boliticaidd. Nid yw y cyfalafwr Rhydd- frydol fymryn yn llai ei wane am ddivi- dends na'r un gradd yn fwy awyddus am lesiant y gweithiwr sydd yn cyn- I hyrchu y dividends iddo, na'i frawd y Ceidwadwr. Feallai yr egyr y "block system" lygaid y deillion politicaidd hynny ymhlith yr insurance agents sydd hyd hyn heb weled gwerth annibyn- iaeth plaid llafur. Mawr lwc i Agents Aberdar. Gobeithio y gwelir agents holl ardaloedd Cymru yn dilyn ell hesiampl ac yn uno mewn undeb cryf a chadarn i wrthwynebu yr anghyfiawn- der hwn o osodir arnyllt. I
— 1 ■ - J - Ysbyty Abertawe.|…
— ■ J Ysbyty Abertawe. | m 11 ira ar ymweliad yma a bachgen leu- j anc o'r Glais, gwelem mewn gwely yn ] ymyl y Parch. J. R. Evans, gweinidog y ] Methodistiaid yn Sciwen. Aethom ato a chawsom ymgom ddifyr ar lawer o bethau. Blin gan bawb o garedigion Mr Evans am yr anffawd ddaeth i'w ran ef, ond da yw gwybod ei fod ef ei hun yn ( galonnog ac yn siriol ac diolch nad yw pethau'n waeth nag ydynt. Gwelem ei •, fod wedi bod yn defnyddio'i bensil, ac j o blith pethau eraill cawsom ganddo ] roddi i ni yr emyn a ganlyn o'i waith i'w 4 gyhoeddi yn y Darian." Deallwn fod j ton hoblogaIda eisioes wedi ei chyfan- ( soddi arno. Esbonia'r emyn dangnef- edd meddwl a sirioldeb y Parch. J. R. Evans yn ei gystudd. Doed allan yn <: bl' ( fuan at ei bobl.' i <: Pwy welaf ar ei liniau | Ar laswellt oer yr ardd, A nos euogrwydd oesau j 0 gylch ei Berson hardd; j Yn nyfnder glyn ei ofid, 5 Heb neb i leddfu'i loes, Yn chwysu'r dafnau gwaedlyd j 1 Dan gvsgod angeu'r groes I j 1 Fy enaid, clyw ei ruddfan € Dan bwys anwiredd byd, t Gwel yn ei law y cwpan t Yn llawn o ddwyfol lid ( Gwel Iesu'n dihysbyddu j Holl wae y cwpan mawr— Anobaith byd sy'n trengii, A'i faich yn syrthio i lawr. Dan gymyl duon adfyd 1J A'r stormydd garwa'u gwodd, j v Dioddefaint fy Anwylyd I A ddwg i'm henaid hedd; I Mae cofio'i ingoedd chwerwon j I Yn Gethemane brudd, I J A'i goncwest dan yr hoelion C Yn troi y nos yn ddydd. < e a (Parch.) J. R. EVANS. i' Yr Ysbyty. a
Cyfarfodydd Taleithol Wesleyaid…
Cyfarfodydd Taleithol Wesleyaid Deheudir Cymru. Cynhaliwyd yr uchod eleni yn Nhc Pentre, Cwm Rhondda, Mai 3-i. Ar y Saboth pregethwyd yn holl eglwysi y gylchdaith gan weinidogbn dieithr o wahanol rannau o Ddeheudir Cymru. Nos Lun cyfarfu yr oil o'r gweini- dogion yn Festri Bethesda (A.) Ctf- wyd fod un o'r gweinidogion wedi marw yn ystod y flwyddyn, sef y di- ) weddar Barch. Peter Jones (B.), i Caerdydd. Siaradodd amryw o'r brodyr am y golled fawr gawsom fel Talaith wrth golli cymeriad mor gryf ag cf.-Cydymffurfiwyd a chais y Parch. Llewelyn Morgan, Tredegar, i gael trosglwyddo ei hun i'r gwaith j Seisnig.-Ar ol ymdrafodaeth ar ys- tadegaeth y Dalaith gohiriwyd yr Eis- teddiad hyd fore dydd Mawrth. Dechreuwyd yr Eisteddiad dydd Mawrth am 9.30. Pasiwyd fod y Parch. Richard Owen, Tirydail, i fod yn arholydd mewn Cymraeg i'r ym- geiswyr am y weinidogaeth., -Dar- llenwyd adroddiad y gweinidogion ar brawf gan y Parch. W. J. Arter, Caerdydd, a chafwyd fod yr oil o'r brodyr wedi pasio yn anrhydeddus. Datganodd y cyfarfod foddlonrwydd cyffredinol ar eu gwaith. Mae eu henwau fel y canlyn :—Parchn. S. Whilding, Aberayron; W. T. Ro- berts, Rhymney; D. J. Williams, B A., Tvddewi; D. Lewis-Jones, Caerau; H. R. Owen, Llandyssul; J. H. Williams, Caerfyrddin; J. Hop- kin Morgan, Ebbw Vale; T. Gabriel Hughes, B.A., Pontrhydygroes. Mae y ddau olaf i'w hordeinio eleni. Yn yr Eisteddiad cymysg o weini- dogion a ileygwyr bore dydd Mercher, croesawyd y Parch. John Hugh Mor- gan fel ymwelydd.-Pasiwyd pleid- lais o gydymd.Úmlad a theuluøedd Parch. C. Silvester Home, M.P a'r Parch. Richard Morgan, Tonyrefail, ac hefyd a pherthynasau nifer o frodyr a berthynent i'r Synod. Yr oedd yn llawenydd mawr i ni i ddeall fod cynnydd sylweddol yn y casgliadau at y Genhadaeth Dramor yn y Dalaith eleni. Yr oedd cynnydd clir o dros ^300 yn y Dalaith yn ystod y flwyddyn. Daethai chwech o gapelau y Dalaith yn rhydd o ddyled yn ystod y flwyddyn. Prynhawn dydd Mercher daeth cyn- rychiolaeth o eglwysi rhyddion y aylch i'n croesawu i'r lie. Siaradwyd yn hyawdl ac yn ddoeth gan y Parchn. M. H. Jones, B.A., ac E. \V. Davies, ac atebwyd yn briodol an y Parch. Richard Morgan. Rhoddodd y cyfarfodydd cyhoeddus Ejynhaliwyd ynglyn a'r wyl foddlon- -\vydd cyffredinol drwy yr ardal. Nos Lun, yng Nghapel Caersalem, pre- gethwyd gan y Parch. J. Fisher Griffiths, Hirwaun. Yn yr un lie nos Fawrth pregethwyd gan y Parch. Richard Morgan, Aberystwyth. Nos Fercher cynhaliwyd cyfarfod cenhadol > dan lywyddiaeth Mr. William Jones, Siloh. Siaradwyd gan Mr. Edward [ones, Ponterwyd, a'r Parchn. G. Bedford Roberts, R. W. Jones, ac A. D. Pearce. Dydd Iau, am 9 a.m., yng Nghapel [erusalem (M.C.), cynhaliwyd y Seiat awr o dan lywyddiaeth y Parch. ( Robert Lewis, Pontypridd. Cafwyd Seiat a gofir yn hir. Am 10.30 pre- ?ethwyd gan y Parch. T. J. Prichard, ^adeirydd y Dalaith. Am 2 p.m. pre- gethwyd gan y Parchn. R. H. Prich- ird, Trerddol, a W. J. Arter, Caer- ivdd. Yng ngwasanaeth olaf yr wyl, im 6 p.m., pregethwyd gan y Parchn. Evan Roberts, Caersws, ac Evan 3avy Thomas, Abercynon. Yn y gwasanaeth olaf cyflwynodd y Darch. T. J. Prichard ddiolch cynnes 1 cyfarfod Taleithiol i bawb yn ^honn Pentre a wnaethent rhywbeth I wneyd y cyfarfod yn llwyddiant. Y arn gyffredinol yw ein bod wedi cael in o'r cyfarfodydd Taleithiol goreu ( leni. Cafodd y cynrychiolwyr sym- )yliad newydd i fynd yn ol i'w gwa- lanol gylchdeithiau a sel adnewyddol ) blaid y gwaith mawr. T" Y T < ;w U.L.J.
[No title]
Y Sul diweddaf dadorchuddiwyd cof- Colofn yn N inas Glandwr i'r diweddar veinidog, y Parch. W. P. Willirms, ).I). Cadeirydd y cyfarfod oedd y )arch. D. B. Richards, Brynhyfryd. )isgynnodd i ran Syr D. Brynmor ones, A.S., i ddadorchuddio'r golofn. I yfeiriodd at fywyd, cymeriad a gwaith nfawr y Dr. Williams, ac yn arbennig d t ei safle fel pregethwr a'i wasanaeth e r genedl fel Golygydd "Seren Cymru" m ugain mlynedd.
Pontypridd a'r Cylch.
Pontypridd a'r Cylch. Ysgrifau hawdd i'w darllen o'r dechreu i'r diwedd yw eiddo Brynfab. Nis gellir eu gadael ar ol dechreu arnynt nes eu gorffen. Capel Rhondda.—Sul a Llun, Mai 3ydd a'r 4ydd, cynhaliodd yr eglwys hon ei gwyl bregethu, a gwasanaeth- odd y Parchn. Hermas Evans, Cwm- bwrla, a J. R. Evans, Llwynhendy. Methasai y Parch. J. Gomer Lewis, D.D., Abertawe, a dod oherwydd cystudd. Ar yr un 'dyddiau cynhali- wyd gwyl Bethlehem, Rhydfelen, a'r Parchn. D. Davies, Llysfaen gynt, a'r Dr. Morris, Treorci, yn gwasanaethu. Mr. David Williams, ysgrifennydd y Tabernacl, Pontypridd, sydd wedi ei ethol yn ysgrifennydd y cylch ynglyn a'r mudiad i gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Gwr cymwys yw'r Ehedydd" i fod yn ysgrifennydd. Carem gael ei gynhyrchion barddonol yn y "Darian." Blin gennym am gystudd y bon- eddwr James Roberts, Y.H., Taff Vale House. Mae wedi treulio ei fywyd yma ac yn Aberdar. Adna- byddid ef fel James Roberts y Mana- ger. Bu yn y swydd hon am tua hanner canrif gydag anrhydedd a pharch, a'i law gyda phob mudiad daionus i wella y lie a chymdeithas ymhob modd, a theimlir yn fawr oherwydd ei gystudd gan ddymuno iddo adferiad buan. Cwrdd Ordeinio. — Dydd Iau, Mai y 7fed, ordeiniwyd Mr. James Jones yn Ainon, Trealaw. Am 2.30 llyw- yddwyd gan Mr. William Roberts. Rhoddwyd y gofyniadau gan Dr. Edwards, Coleg Caerdydd. Atebwyd yn fyr a phwrpasol gan Mr. Jones. Yna cawd "y ddyledswydd" gan y Dr. Edwards, a'r alwad gan Mr. Arthur Thomas, ac atebodd Mr. Jones. Offrymodd Dr. Davjes, Clyd- ach Vale, yr urdd weddi. Cawsom ychydig eiriau gan y Parchn. Ellis] (M.C.), Trealaw; Richards (A.), Tonypandy; Dr. Davies, Clydach Vale; T. T. Jones, Blaenclydach; J. E. Dennis, Llwynypia; Daniel Jones, Tonyrefail; Evans, Pencader; D. D. Hopkins, Pontygwaith, a Mr. Nicholas, myfyriwr. Diweddwyd gan y Cyfaill John. Pregthwyd nos Fercher gan y Parch. W. S. Jones, Llwynypia, a nos Iau gan y Parchn. Evans, Pencader, a D. C. Jones, j Penygraig. Gwelsom yno: Mri. ] Richards, Llwynypia; T. Jones, ac A. Meredith, Caersalem; Phillips, Siloam, Gelli; Parchn, J. I. Jones, < J. Nicholas, Tonypandy; C. Jones, 1 Wattstown; J. Frimston, Hafod; ] Evans, Tyntyla; Phillips, Penrhiw- j fer, etc.I -( (
-_.3 I Colofn y Llyfrau. ?…
3 I Colofn y Llyfrau. ? ] -— 1 DAN OFAL;YDDONWY. I ( Anwyl Syr,—Mewn atebiad i ofyn- j iad Edmygydd yn y golofn uchod, dymunaf ei hysbysu y gellir cael G D. c "Gwymon y Mor, a rmgo r Andes" (Eluned) diwrth Llewelyn Davies & Co., Merthyr Tydfil; y blaenaf am is. 6c. a'r olaf am is. SC. t Hefyd gall D.O.D. (4) gael "Llysieu- ) lyfr Price Cwmllynfell (a gyhoeddir yn awr am 4s. 6c. net) am 4s. gc.- Yr eiddoch, yn gywir, v LL. DAVIES. j AMRYW. c Syr,—Mewn atebiad i, holiad yn y ( rhifyn diweddaf o'r "Darian," dym- unaf ddweyd y meddaf ar gyfol fechan 1 o "Amryw" yn cynnwys y pethau f canlynol (1) Llais A wen Gwent a Mor- gannwg. (2) Difyrrwch diniwaid, etc., gan Sion Llywelyn o Goed-y-cymmer. 11 (3) Y Fronfraith. { (4) Y Gog (Merthyr, 1825). a (5) Y Gog (Caerfyrddin, 1838). a (6) Y Fel Gafod. e (7) Blwch Llawenydd. I d (8) Gwentwyson. y (9) Blwch o Bleser. f1 (10) Dysglaid o Law Awen, gan p Eurglawdd, Caerffili. ir Boddlon wyf i werthu y gyfrol os nl lymuna rhywun ei chael. Yr pi riddoch, etc., hi ri JOHN D. LEWIS. fl
Abertridwr.
Abertridwr. Nawn Iau, Ebrill y 3oain, bu gorymdaith ac wedi'n gyfarfod cy- hoeddus yn Neuadd Gweithwyr yr Aber. Caed gwasanaeth seindorf y lie. Stori gwynol oedd gan Mr. D. McKerrell, un o'r naw arweinwyr all- tudiwyd o Ddehau Affrica gan Botha, oherwydd y rhan gymerasent yn y streic a fu yno. Diau i Botha wneud tro annoeth yn ol pob ymddangosiad. Eto gwelir o droion chwith ddaioni mawr yn dyfod wedi i olwyn fawr Rhagluniaeth gael ei thro. Hwyrach y bydd yr helynt yno wers i'r byd gweithfaol yn feistri a gweithwyr. Diau nad oedd pethau yn lawn yn Affrica. Gwlad ieuanc gyfoethog ei meteloedd yn dechreu yn dechreu ymagor ydyw. Y mae yno fel y bu yng Nghymru unwaith pan oedd y glowr a'i anadl yn fyr ymhell cyn 50 oed. Cyffelyb oedd darluniad McKerrell o South Africa. Con- demniai'r saethu o du y Llywodraeth, id ar yr un anadl dywedai y dylai holl weithwyr Prydain Fawr fod o dan arfau fel y gellid hawlio iawn- derau oddiar y meistri. Os dyma'r .ysbryd sydd i ddyfod a'r byd i'w le, mae'r Testament Newydd yn un o'r llyfrau mwyaf difudd a chamarwein- iol. Ei ddysgeidiaeth ef yw: Os pecha dy frawd i'th erbyn dos ac ar- gyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun, a'r neb a fyno ymgyfreithio a thi a dwyn dy bais gad iddo dy gochl hefyd." Dyna ysbryd pregeth y myn- ydd, onite? Ond dant am ddant- drwg am ddrwg yw dysgeidiaeth y mwyafrif mawr heddyw. Oni byddai yn well ceisio fod yn fwy cyson ? Os Os gwahardd saethu dylesid ei wa- hardd o'r ddeutu a hyrwyddo dylan- wad daionus, gan gofio'r gorchymyn, "Car dy gymydog fel ti dy hun." Mr. Go' am dro, nid drwg fydd cael gair gan "J ago gwasanacthwr Duw a'r Arglwydd lesa Grist, pt y deu- ddeg llwyth sydd ar wasgar." Dyma ddywed, "Na fyddwch feistriaid lawer fy mrodyr, canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro a'r air, gwr perffaith yw hwnw, yn gallu ffrwyno yr holl gorff. Fel yr ydym yn ffrwyno y rr.eirch i'w gwneud yn ufudd, ac yn rhoddi llyw bychan tu 01 i longau i'w llywio i'r man v mynnom, felly mae'r tafod wedi ei osod fel y galler ei ddefnyddio er da, ond oni feistroler ef yn llwyr fe esgyd droell naturiaeth yn fflam. Yr ydym yn dofi adar ac ymlusgiad a gwyllt- filod tir a mor. Ond y tafod Sosial- aidd, drwg aflywodraethus ydyw, yn lladd ar bawb ond efe ei hun. Byd o anghyfiawnder ydyw. Da fyddai i feistri a gweithwyr ddysgu ar gof y irydedd bennod yn Epistol lago. Wele adnod fach eto: "A ddichon v i pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifiaid leu winwydden ffigys." Mewn man irall o'r Ysgrythyr fe ddywed, "Nid ) xldiar ddrain y cesglir ffigys na nyrawnwin oddiar ysgall." Na, mae latur pethau yn gysonach na hynny. Dealla pawb ond Bedlamiaid a Sosial- aid yr uchod. Os ydym am i arall ar- er boneddigeiddrwydd tuag atom, Mem ymddwyn felly ein hunain. Os am reswm yn arall, bvddwn res- ,'mol ein hunain yn gyntaf. Air. Gol., yr un gwyn sydd gennyf heddyw ag jedd yn fy llith dair wythnos yn ol, am yr hwn y cwynwyd gan frawd na ( idylai wisgo'r cap. Dosbarth mwy li-reswm a dilywodraeth oedd o flaen y meddwl pan yn ysgrifennu'r tro lwnnw, ac eto o ran hynny, "Pwy ;ydd wr doeth a deallus yn eich plith," nedd Iago wrthym. Mi garwn i fod, g 1 thybiaf felly am Mr. Edwin Lewis. A Dyma r nodweddion a ofynnir, 'Dangosed trwy ymarweddiad da ei veithredoedd mewn mwyneidd-dra loethineb "Canys y doethineb sydd B )ddiuchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi aynny heddychlawn, boneddigaidd, T lawdd ei thrin, llawn trugaredd a frwythau da, diduedd, a diragrith." « DEWI AUR. 1 1
[No title]
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng ghaerdydd, ddydd Gwener diweddaf, hyrwyddo'r ddrama Gymraeg, y siar- Ldwyr oeddynt yr Arglwydd de Walden l Mr George Moore, yr awdur Gwydd- :lig. Cyfeiriodd yr Arglwydd de Wal- 11 len at y rhagfarn sydd yn Nghymru nglyn a'r chwareufa. Barnai mai'r chos nad ymunai'r Cymry yn y gel- I ^ddyd ddramayddol oedd am na ddar- of erid cyfleusderau i berfformio'u dra- rodau ganddynt. Os oedd y symudiad ewydd a hyrwyddai i fyw rhaid fyddai S. erfformio gweithiau newydd yn bar- aus. Gobeithiai weled yr Eisteddfod enedlaethol yn darparu drama fawr vnyddol. 11
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID c0F^}y,N AM V MM?' HVN. Esgeulutdod 0 uiirkyw alwad I rhai hyn drwy ddalllw.i. sltfyd iM Blood Poisoning a Marwolaeth. Maddveiniastk Cfltitliial. Er mwynyagol pgrygl al ymarlar intwn pryd. -DOES DIM MOR LLWYDDIANUS A 8ICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn ti gydnahaj gan filoedd fel y tooddyglin III. tier a diogel a ddargonlyddwvd erioed of Ingham Clwyfau, Avohollion, Tardd- lantau y Cnawd, Craoh a t Nedd yn A Mhenlu Plant, Liosgiad. au, Y Sial. danau, Sou r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a i V Babanod, i Tarwden, Cout, Cymalau Rheumat- las, Poon Yr oedd pea ty min. Cain f Plies tyn mewn @tat ec1.jcø. eJ • Gw,llh»odd Gom.r'. B.I. enaHhto! hi yn b?ar tu?. at CL WYFAU ar COESAU. Mlloedd yn tystSo i'w Effe/thfau fthyfeddoi. RHODDWCH BRAWF ARNO Gwel I had sydd sfor Ar werth gan bob Chemilt a Store. a. It/li. Gofyner am Cemer « Balni. Mys. wch weled enw Jacob Hughes ar bolt hlwch. Heb hyn Bidyw gywir. Now danfoner ei gwertb (P.O. neu Stamps) at Jacob Hughes, Manufacturing Chow. tst, M.P.S., L.D.B., Ponarth, Cardlil. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. f. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND auts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. !22 HIGH STREET, SWANSEA. Leturn Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. 'elir Pris Treo prynwyr yma ac yn ol on iddynt enwi Tabian y Qwkithiwr. iN AWR YN BAROD. Social Problems in Wales.' 13 Pages. 1/- net; Post Free 1/3. ddresses delivered at the United Schoo Social Service for Wales." A book every Patriot should read. md without delay to the Publishers— MORGAN & MIGGS, Publishers* Printers, Ao., I Heathfleld Street, Swansea.