Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
HYSBVSIAD. YSCOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlityd 1880. PRIF ATHRO: J.Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a.'r Rhaglen a banes Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W.WilliamscCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. SDOOia/itiQS: I Set. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hofl, dewch at y Cymro Os am beirdd fodrwyao aor, Oriaduron ao awrleisian, Geman a chadwynaa olaer: Yspectol gellydd, btn-tynegydd, Gwres-fesnrydd, cwmpawd mor Geir gan Williams, Heol y Gastell Trowoh i mewn i wel'd ei stdr. 4
Y CYNHWYSIAD. I
Y CYNHWYSIAD. I Ar y Twr yn Aberdar 1 Colofn Llafur 1 Hwnt ac Yma. 1 Y Stori 2 Undeb y Cymdeithasau Cymraeg 2 Colofn y Plant 3 Ymgyrch Purdeb a Moes yn Moun- tain Ash 3 Gwyl Gerddorol Soar, Llwynhendy 3 Galw i'r Gad 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Ar Lannau Tawe 4 Cymrodorion y Barri 4 Cellan, Ceredigion 5 0 Wy i Dywi 5 Aberteifi a'r Cylch 5 Y Briodas yng Nglyn Nedd 5 Cyfarfod Misol y Methodistiaid 6 Beirniadaeth Ifano 6 Eisteddfod Cymdeithasau Cymraeg Caerdydd 7 Cyngor Plwy Llansamlet 7 Emrys ap Iwan 7 o Dir y Gogledd 8 Colofn y Beirdd 8 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 8
Ar y Twr yn Aberdar.I
Ar y Twr yn Aberdar. I Ymgyrch Purdeb a Moes." Cynhal- iwyd cynhadledd o gynrychiolwyr Eg- lwysi'r Cwm i'r diben uchod yn Siloa, Mawrth 17eg. Peth newydd yn hanes cynadleddau yn y cylch yw cynrychiol- aeth gvmysg. Yr oedd presenoldeb cynhifer o chwiorydd yn gwella golwg y cyfarfod, ac yn eyinhedroli'i yspryd. Gallant wneud gymaint os nad mwy i buro a. gwella moes na neb ond dodi eu bryd ar hynny. 0 hyn allan ni ryfedd- em weled y cynadleddau t-ymysg yn dy- fod yn fwy cyffredin. Paham na fydd- ai'r cynadleddau crefyddol ac enwadol felly ? Cadeirydd y gynhadledd oedd y Parch. J. Griffiths, Calfaria. Fel ar- ferol, cyfrannai'i sirioldeb i'r gweithred- iadau, a phrofodd y cyfarfod yn hynod ddyniunol ac adeiladol. Ysgrifennydd diflino Cyngor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion oedd prif siaradwr y gynhad- ledd, 8e£ y Pa?ch James Evans, B.A. ?.???m?h.?)'-?? ??..X??i? 9.th iti d.. Yn y rhyddymddiddan a gododd oddiar gynnwys anerchiad y Parch. J. Evans, sylwodd un siaradwr mai un peth ellid wneud oedd cael llenyddiaeth leol. Sylwodd nad oedd newyddiadur yng Kghwm Aberdar yn cynrychioli bywyd crefyddol yr eglwysi. Nis gwn beth gynrychiolir gan eich newyddiadur chwi, Mr. Got, os yw hynny yn wir. Cyn- rychiolir Fm tyb, ore'r eglwys, a phob symudiad da sydd yn y wlad heddyw gan eich papur, oddieithr eu rhagfarn a'u rhagrith. Bwriedir cyhoeddi araith y siaradwr a'i gwasgaru trwy'r eglwysi. Xis gwn paham yr anwybyddwyd yr awgrym i'w gynnyg i'r papurau Ileol i'w gyhoeddi. Gellid ychwanegu hynny i fantais yr achos, oblegid nis gellir byth sicrhal1 gormod o gyhoeddusrwydd iddo. Hy- derwn y gwel y siaradwr ei ffordd yn glir i'w yrru i'r wasg newyddiadurol. Awgrym ardderchog oedd gweithredu ar linellau fyddo'n cymeradwyo'i hunain i fywyd Cymru. Y mae symudiadau da ym marw yng Nghymru am na chymerir y nodweddion cenedlaethol i ystyriaeth. Nid ffordd y Sais yw eiddo'r Cymro. Rhaid gwisgo pethau mewn dillad car- tref, ac yna, y mae gobaith iddynt fyw yng Nghymru. Dywedwyd yn y cyfarfod fod y Gym- raeg ym marw yng nghanol Aberdar, er fod y Cymrodorion yn flodeuog yn y lie. Nid y Gymraeg sydd yn marw, ond y Cymry yn yr adran honno sydd yn farw. Feallai y cawn ddychwelyd at y mater eto. Boddlqnwn ar nodi yma y gwerir arian Cymry i gadw personau mewn swyddi o ddylanwad yng nghanol Aber- dar i ddirmygu'r iaith a diystyrru'r gen- edl. Yspryd yw cenedl, ebe Gwili ym mhregeth y 'Darian,' a thra fo'r yspryd hwnnw'n fyw ni cha'r iaith farw. Atol- wg, onid yw yn adeg bellach iddo godi'i ben yma! Sylw arall a wnaed oedd y rhagora merched yr Iwerddon ar eiddo Cymru mewn purdeb. Dywedodd ymweled ohono a'r Iwerddon a'i swyno gan len- did y Gwyddelesau. Lie mae awdur "Merched Glan Meiriollydd 1" Bu reIll yn yr Iwerddon, rhai ddegau o Weithiau, ac ni phetrusant dystio fod I merched Cymru yn tra rhagori ar y Gwyddelesau mewn glanweithdra, j SWeddeidd-dra, a moesoldeb cyhoeddus. Paham y rhaid codi cenedl, arall ar draul gwneud cam a'n heiddo ein hunain. Credaf fod tystiolaeth Cymro wyr lawer rwy na'r cyffredin am werin Gorllewin Wrob yn nes i'r gwirfonedd, sef mai Swerin Cymru a l'agwyd wrth yr allor i'w'r gore awelodd hyd yma ymhob ystyr rhInweddol. I Yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn dylid cofio fod y dylanwad Gwyddelig, Seisnig, a dylanwadau ereill o'r tuallan yn dylifo i'r wlad a thrwyddynt y daw'r dirywiad y cwynir o'i blegid. Y Cymro yw y cymhwysaf i ddysgu yn y peth I hwn, er dued ydyw yn y camwedd. Gwaseidd-dra etifeddol sydd yn cyfrif ei fod mor chwannog i efelychu yr estron a ddaw i drigo i'w ymyl yn hytrach na'i ddysgu a'i ddiwygio i barchu cydwybod a sefydiadau ein cene dl. I I.. Beth am ffigyrrau 1 Dywedir fod an niweirdeb ar gynnydd cyflym, ond dis- gyn y mae'r ffigyrrau. Yn 1905 yr oedd y ffigyrfau am anghyfreithlondeb yn 50 y cant yn is nag yn 1870 yng Nghymru I a Lloegr. Mae'r Iwerddon, mae'n wir, yn lanach o lawer o ran ffigyrrau. Ond cofier yn ol y safon hon fod y trefi yn ami yn lanach na'r wlad; a bod Gogledd Cymru yn 1905 nid cynddrwg a Llun- dain, ond gwaeth o'r hanner na Babi- Ion Fawr. ¡ Nid ein hamcan yw gwyngalchu ein cenedl. Croesawn yr ymgyrch presen- nol yn galonnog, a bendith fyddo arno. Ond gwylier feithrin hen bla oesol ein cenedl, a'i chadw byth fel plentyn llys- fam i golli pob ymddiried ynddi ei hun, ac i gymeryd ei harwain gan ei gwaeth. Rhaid ein dysgu i barchu ein hunain ac i ragori ymha beth bynnag sydd uchel; er hynny nid trwy gredu yn wael am ein hunain na, thrwy ddibynnu ar ereill y mae i ni wneud hyn; ond trwy weith- io allan ein hiachawdwriaeth ein hun- ain ar Iwybrau sydd yn unol a'n hanian- awd. Priodolai Mrs. D. M. Richards ym mwrdd y Gwarcheidwaid y cynnydd yn nhal y plwyf yn Aberaman i ddylifiad Saeson, Gwyddelod, ac Ysgotiaid yno. Dywedai am danynt pan ddigwyddai aflwydd yn y teulu y dibynnent ar un- waith ar y plwyf. Yng nghyfarfod mawr. Siloa ynglyn ag, a Moe*r:>y Siaradw^r oeddynt y Parchn. Chas. Davies, James Evans, B.A., Caerdydd; a Dr. Arthur T. Jones, Aberpennar. Cadeiriwyd gan y Cynghorwr G. Powell. Dywedai y Parch. E. T. Evans, High- land Place, Sul neu ddau'n ol, nad oedd digon o ysprydolrwydd yn y cri 'Cymru i'r Cymry' i ddatblygu enaid yr anifail distadlaf." Beth am enaid y Cymro ? Yn Aberdar heddyw nid oes gobaith i hwnnw fyw heb son am ddat- blygu. Ei ran yw chwysu mer ei esgyrn dan y ddaear a'r estron tufewn i'r pyrth yn ymbesgu ar ei fywyd ef. Deffro di, yr hwn wyt yn cysgu Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd i groesawi'r Parch. T. Edmunds, B.A., yn weinidog ar Carmel, eglwys y Bedydd- wyr Saesneg. Nos Fercher, Mawrth 18, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus. a'r Parch. J. Griffiths, Calfaria, yn llyw- yddu. Gorlenwid yr addoldy, a siarad- wyd gan amryw yn cynrychioli gwahanol enwadan'r lie. Daw Mr Edmunds i faes eang, ac oddiwrth yr arwyddion presen- nol ymddengys ei fod yn dyn iawn yn y lie iawn. Prynhawn Iau, y dydd canlynol, pre- gethai cyfaill a chydfyfyriwr y gweinid- og, y Parch. Herbert Morgan, M.A., Bryste. CynortRwyid ef gan gydfyfyr- iwr arall, sef y Parch. Waldo Lewis, B.A., Caerfyrddin, yr hwn a ddechreu- odd y gwasanaeth. Odfa eneiniedig oedd hon., a phregeth benigamp gan un o bregethwyr gore'n gwlad. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus, pan siaradwyd gan y Parch. H. Morgan a'r Athro D. Williams, M.A., Aberystwyth, ar "Gristionogaeth a Bywyd Heddyw." Cynrychiolai yr Athro Williams weinidogion A berys- twyth, a gwnaeth hynny yn urddasol. Yn bennaf, yr oedd yno fel cyfaill Mr. Edmunds. Mewn anerchiad grymus sylwodd fod dydd athrawiaeth ysprydol- iaeth geiriau'r Ysgrythyrau ar ben. Ys- pryd gwyddonol yr oes sydd yn cyfrif I am hyn, a'r un yspryd sydd yn gyrru gwahanol rannau yr eglwys at eu gilydd mewn un deb. Y GWYLIEDYDD. I
[No title]
Testyn darlilh a fwynhavvyd yn fawr yng Nghapel v Dyffryn, M.C., Ystrad, nos un, Mawrth 16eg, oedd "0 For i For:" Y darlithydd oedd y Parch. Phillip Jones, Llandeilo. Llanwyd y gadair gan Dr. Edward Hughes, Gelli. Mae cyfres gyfarfodydd yng nglyn a'r I Lamb Mission, Ystrad, drosodd oddiar ¡ nos Iau diweddaf. Cafwyd bias neill- ) duol arnynt gan y rhai fu ynddynt. Ar- weiniwyd hwynt yn bwrpasol gan y Parch. R. B. Jones, Ynyshir. Cafodd sylwadau rhagorol y gwr parchedig ddylanwad nas anghofir yn fuan. Cym- rodd ereill ran, ac yn eu plith y. boneddigesau, Misses Price a Lloyd. Mao y genliadaeth leol hon yn gwneud gwasanaeth da.
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I GAN "PEREDrR." I Snowden yn y Ty. I Cafodd Plaid Llafur ac achos j werin yn gyffredinol drwy y wlad achos i lawenhau yr wythnos ddiweddaf. Prof odd Mr Philip Snowden ei hun yn gawr o ymos- odydd yn Nhy y Cyffredin ar y gwastraff ofnadwy ar gyfoeth a llafur i ycnwanegn at lynges y wlad. Tystiolaeth y lliaw, yw na chafwyd erioed yn y Ty araith o nod- wedd uwch a mwy effeithiol ei hergydion yn erbyn yr ysfa ddamniol i bentyrru ar- fogaeth ddinystriol ar y mor. t A Oes Heddwch! I Yn ei araith ar ddechreu y Senedd I dymor presenol, dywedodd y Brenin fod ei i berthynas a'r holl wledydd tramor yn heddychol. Er hynny cawn y paratoadau a'r gwario ar cyfryngau rhyfel yn fwy nag erioed o'r blaen, a chawn y First Lord, Mr Winstone Churchill, yn gofyn am R51,550,000 ar gyfer y gwasanaeth llynges- ol y flwyddyn ddyfodol. Golyga hyn tua miliwn o bunoedd bob wythnos. Y mae maint y swn yn syfrdanol. Ymosodiad Snowden. I Yn hytrach na bod yn ddiogelwch, dy- wedodd Mr Snowden fod y sefyllfa y gosod- ai Gweinidog y LIynges ei hunan a'r wlad ynddi yn peryglu hedd- weh y byd a'n diogelwch. dell- id tybied ei fod yn gweled gwelcdig- aethau o longau rhyfel Prydain ar bob ton o'r pedwar mor, ac awyr longau yn yr awyr mor ami a locustiaid yr Aifft gvnt. Ffolinob mawr oedd mynd ymlaen i adeil- adu fel hyn. A pha bryd y ceid atalfa? 360 o Filiwnau. I Yr oedd y Llywodraeth Rhyddfrydol wedi gwario t360,000,000 ar y Llynges oddiar pan ddaethant i awdurdod, ac am hanner y swm yna, gallem fod wedi sefydlu gwladwriaeth ddelfrydol yn Mhry- dain. Ni ddigonir ni a dreadnoughts y i 113 gwelliantau cymdeithasol. Clymblaid Cyfsfiafol. I r- Conriemmodd ytl ddiarbed y GlynlW?fjt! I Rvngwladwriaethol berchnoga weithfeydd Hongau rhyfel, ac a ymbesga ar v dividends a ddeillia oddiwrth y gweithfeydd hyn. Pan yn crybwyll am berthynas Iluaws o aelodau y Ty a'r Gweithfeydd Llyngesol, dywedodd y byddai yn anawdd iddo daflu carreg at seddau y blaid wrthwynebol hell daro ar shareholders mewn gwaith sydd yn gwneyd arfau rhyfel. 0 herwydd chwerthiniad rhai o aelodau y Blaid Rhyddfrydig, trodd Snowden atynt hwyth- all a dywedodd ei fod yn flin am i,.i chwerthiniad, oblegid nid oedd y Blaid Rvddfrydig yn rhydd o'r cyhuddiad. Yna aeth yn mlaen ac enwodd amryw oedd yn perchnogi cannoedd a miloedd o shares yng ngweithfeydd arfal rhyfel. Yn eu plith yr oedd Esgobion, ac aelodau blaen- llaw o'r Llywodraeth. Enwodd yn neill- duol y Rhyddfrydwr selog, a'r aelod gweithgar a brwdfrydig yng nghyngor yr Eglwysi Rhyddion, Syr J. Camp ton Rick- ett, ei fod yn perchenogi 3,200 o shares mown un gwaith, a 2,100 mewn un arall. Llongyfarchodd of, hefyd, yn wawdlvd feddyliwn—ar ei benodiad i gadair lywydd- ol Undeb Eglwysi Rhyddion Prydain. Pel hyn, yn eithaf boneddigaid(I a hyawdl v dinoethodd y rhai sydd yn elwa ar ddychrvn a rhagfarn cenedlaethol y werin. Cyfiawnder a Heddwch. I Yng ngwyneb y sefyllfa dinoethwyd gan Mr Snowden, beth am honiadau v Blaid Ryddfrydol, eu bod yn cefnogi heddwch a ohynhildeb ? Both am ddistawrwydd y I gwladgarwyr mawr Cymreig, a'u goddefiad digyffro o'r ychwanegiad mawr hwn yng nghostau y gyfundrefn ryfelgar. A ydyw rhinwedd ac effeithioldeb efengyl heddweli wedi pallil ? A ydyw yspryd y Crist wedi ymadael o'r byd? 0 ddyfnderoedd rhag- rithiol; cenhadon Tywysog heddweli yn ym- gyfoethogi a balchio yn llwyddi-ant y gyfun- drefn sydd orffwysedig ar ddigasedd a gelvniaeth dvnion tuag at eu gilydd. Dnw nertlio fraich Snowden, fel ag i fod yn Uwyddiannus yn y peth hwn. Ffederashwn y Clowyr. I Bu cyfarfod pwysig o gynrychiolwyr y glowvr yn Llundain yr wythnos ddiweddaf. Ymdrafodwyd ag amryw gwestiynati pwys- ig, fel acitos gweithwyr pen y pyllau, cvn- Hun a thai cynrvchiolaeth Jafmol Senedd- ol. Yng nghwrs ei anerchiad agoriadol, siaradodd Mr Robert Sniillie, y llvMydd, yn ga?l f? a d yii gryf iawn ar y priodoldeb o gael baddon- au i weithwyr ar ben y pyllau. Dywedai ei fod yn ffafr cael baddonau yn v tai ac ar hen y pyllau, ac y dylid cymervd mesur- au gorfodol er cael y cynllun ar unwaith i benau y pyllau. Cwledydd Tramor ar y Btaen. I Gofidvis yw meddwl fod trefniadau o'r natur hyn yn mhell ar ol yn y wlad hon i'r hyn ydynt ar y Cyfandir. Sicr yw, y diogelid moesoldeb, ac y ceid llawer mwy o syberwyd yn y cartrefi, ac hamdden i'r mamau" pe inabwysiedid y haddonau ar hen y pyllau. Weithwyr Cymru, myn- n%N-(- I ? eie b haw l iaii nwch eich hawliau yn y pethau hyn, fel y byddo hyw yn hawddach ac yn felusach. Sicr yw y cewch ganmoliaeth oesoedd yn y dyfodol am ddechreu ar y gwaith da.
[No title]
Perfformiwyd y gymysg-gan, "Jan of Windmill Land gan Obeithlu Bodring- allt nos Iau diweddaf, a hynny o flaen cynhulliad lluosog iawn. Mr Aneuriu Oule, Ystrad, lywyddodd yn ei ddull hapus arferol. Canwyd y piano gall Mis M. H. Jones a Mr Willie Harries. Mr Myrddin Watkins oedd yn arwain. Olywais lafurio'n galed o'r rhai gym- erodd ran yn y gwaith deniadol.
HWNT AC YMA.'j I
HWNT AC YMA. GAN LYWELYN. Y mae Undebwyr Gorllewin Caer- fyrddin wedi llwyddo i gael ymgeisydd Seneddol anghyffredin. Bu'n ddi- weddar yn annerch cyfarfod yng Nghas- tell-newydd-Emlyn, a'r Ficer yn y gadair. Un Mr Alfred Stephens yw'r ymgeisydd. Dywedai ei fod yn wrth- wynebol i ffeiradon a phregethwyr i ymyrraeth a gwleidyddiaeth, am eu bod trwy hynny yn cynhyrchu teimladau drwg. Yn yr hanes a welsom yr oedd Clywch, clywch," yn y fan yma rhwng cromfachau. Beth oedd diben y clywch, clywch 1 Tybed ai condemnio ffwdan yr Esgob- ion ac eraill i geisio rhwystro Dadgy- sylltiad'? Yr oedd hyn yn rhy ddrwg, a'r Ficer yn y gadair hefyd. A phaham y gwrthwynebir i unrhyw ddinesydd gy- meryd rhan ym materion ei wlad gan nad beth fyddo'i waith Aeth Mr Alfred Stephens yn ei flaen i son am gyllideb fawr y Canghellor yn 1909 gyda'r bwriad o'i chondemnio, ond daeth clywch, clywch, eto i'w chyfiawn- hau. Yna dechreuodd gwynfan fod Lloyd George yn llawdrwm ar y land- lordiaia, ond na feiddiai ddod i Gastell- newydd-Emlyn i ddweyd yr hyn a ddy- wedasai mewn lleoed eraill! Dyma'r gore eto o ddigon. Rhaid fod Castell- newydd-Emlyn yn lie rhyfedd iawn i fod yn gymaint dychryn i'r Canghellor! Engraifft arall o ddoethineb Mr Alfred Stephens oedd dweyd mai polisi'r Undebwyr, sef ad-drefniant tollawl, oedd yr unig bolisi a gadwai'r wlad hon yn llwyddiannus. Gresyn i'r papurau gofnodi cyn lleied o'i araeth. Y mae'n iechyd darllen stwff o'r fath y dyddiau hyn, ac yr ydym yn ddiolchgar i'r Un- (Iebwyr am ddwyn dynion ÜtF fath i amlygrwydd. Beth sydd ar fy hen gyfaill \V. J. Gruffydd? Yng Nghinio'r Northmyn yng Nghaerdydd dywedai fod Diwyll- iant Gogledd Cymru wedi ffynnu yng nghanol tlodi mawr y bobl, ac mai dyma'r diwylliant yr oedd mwyaf o angen ei impio ar gyfoeth y Deheu- barth. Ni oedd diwylliant Seisnig wedi gwneud nemor ddim dros Ddeheudir Cymru. Cawsai gyfle am ddeng mlyn- edd ar hugain, ond methasai bob tro, ac yr oedd diwylliant Saesneg yn is yn Neheudir Cymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain Fawr." Wel yr argian fawr! Tydach chi, Mr Gruffydd, ddim yn gwybod digon am y De eto i ddeud eich barn am danon ni. 'Toes gynnon ni ddim gwrthwynebiad i chi'r North- myn feddwl yn uchal iawn o honoch eich hunen. Mae hynny\n naturiol iawn i lawar o honoch chi, ond tydan ni ddim yn lecio'ch clywad chi'n deud mor uchal eich bod chi gymin yn well na phobol erill. Rydach chi'n mynd yn rhy debyg i'r bobol hynny ma son am danyn nhw yn y Testamant Newydd. Os ydach chi'n meddwl eich bod gan' milldir o'n blaen, peidiwch a deud hynny wrth bawb. Roedd yn dda gennym i Mr Ellis Griffith roi ergyd llawchwith i Mr Gruffydd am siarad y fath ddwli dialw am dano. Gobeithio y gwna les mawr iddo. Araith dda oedd eiddo'r gwr o Fon. Ni fynnai efe wahaniaethu rhwng Gogledd a De. Priodol iawn oedd ei sylwadau ar ddyled Cymru i'w hen bre- gethwyr. Hwy ddysgasant Gymru i addoli yn ei hiaith ei hun, ac a addysg- asant y bohl. Iddynt hwy yr ydym yn ddyledus genedlaetholdeb Cymreig fel yr adweinir ef gennym heddyw. Ni phryderai Ellis Griffith am y dy- fodol. Gwelai ar bob llaw arwyddion cynnydd a thyfiant, a'r bobl yn barod i aberthu ar allor cenedlaetholdeb, yr hon er ei bod yn wyn a disglaer, ddygai o hyd olion gwaed y rhai aberthasant eu hunain dros eu gwlad. Hanner can' mlynedd yn ol yr oeddent yn bryderus a digalon, er hynny gwelid arwyddion bywyd a chlywid llais distaw main oddi- fewn. Yn awr aethai'r tewynion yn dan cryf, a daethai'r llais yn floedd gref cenedl nad oedd dim a'i distewai, hyd oni fyddai Cymru wedi cymeryd ei lie priodol ymhlith cenhedloedd blaenaf Ewrop. Y mae'r pleidlais y Glowyr yn argoeli mynd yn erbyn codi 6c. y mis yn eu cyfran at yr Undeh gyda'r amcan o ddarpar try- sorfa yniladd. Y mae'r mwyafrif yn er- hvn hynny eisioes yn 27,303. Nid ydym yn syiinu at hyn wrth glustfeinio ar yr aehwynion a glywir wrth fynd a dod ymhlith y glowyr. Anfoddlon iawn yw llawer ar y modd y gwariwyd llawer o'n harian yn y gorffennol. Yn ystod y streic fawr ddiweddaf, elywsom nifer o hon weithwyr yn siarad a'u gilydd. Talasai y rhai hyn at yr Undeb o'r cychwyn hob dderbyn tal allan gymaint ag unwaith. Pan ddaeth angen, yehydig sylltau un- waith neu ddwy yn unig a gawsant, a tlieimient yn flin ac yn chwerw, ac yn fwy blin a chwerw o herwydd fod miloedd o bunnoedd wedi eu gwario i geisio gwneud aelodau Seneddol o ddynion nad oeddent yn credu dim yn eu cymhwysder. Teimlir yn bur gyffredinol fod tuedd yn arweinwyr gwleidyddol y gweithwyr i dywys drachefn i gaethiwed. Yn sicr nid am nad ydynt mor barod i gyfrannu at eu Hundeb ag yw'r Saeson yr a'r bleidlais yn erbyn y ¡ codiad yng Nghymru, ond teimlant fod yr I elfen estronol yn rhy gref yn yr arwein- yddiaeth, ac ni fynnant ei chefnogi. Daw y duedd hon eto yn fwy amlwg. Y mae'r Cymry yn dod i gredu mwy ynddynt eu hunain, ac nid yw y symudiadau ynglyn a gwieidyddiaeth LIafur yn ystod y blynydd- oedd diweddaf wedi bod yn rhyw barchus iawn tuag at fechgyn Cymru. Nerth i Undeb y Glowyr fyddai vchydig mwy o ryddfrydigrwydd, a llai o ymdrech i gys- twyo'r gweithwyr i fewn i ryw blaid neill- duol. Miri mawr sydd ynghylch Ulster o hyd, ac anawdd gwybod sut y try pethau allan. Bydd i'r helynt hwn ei ganlyniadau nad yw y rhai sydd gyfrifol yn breuddwyd- io am danynt. Gwylia'r bobl y cwbl gyda diddordeb, ac y mae pob symudiad yn ar- wyddocaol iddynt. Ni fydd y fyddin yr hyn oedd iddynt ar ol hyn. Gwelant hefyd awyddfryd angherddol y Toriaid i gadw'r gallu yn eu llaw eu hunain. Y mae ym- ddygiadau'r Toriaid yn chwerthinllyd i'r eithaf. Priodol iawn y dywedai Mr Lloyd George fod Ulster yn spoilt boy, ac y mae y gefnogaeth rydd y Toriaid i'r hogyn drwg hyn yn destyn gwawd i bob dyn sydd a gronyn o synwyr cyffredin ynddo. Y gwir yw nid ydynt yn malio dim am Ulster, ewtogiad eu gallu gan y "Parliament Act" sydd yn eu blino. Dichon y byddant ryw- bryd mown swydd eu hunain ac fe gofir am danynt y pryd hwnnw.
I Briwsion o Aberpennar (Mountain…
Briwsion o Aberpennar (Mountain Ash). Cyn hanner dydd, Sadwrn, Mawrth y 14egj eyfarfu Dafydd Owen a'i ddiwedd trwy syrthio dan siwrna o ddrams yng nglofa Pwll Cwm Cynon. Hewlwr yd- oedfl, ac wrth symud o fan i fan i wneyd ei ddiwrnod gwaith collodd ei oleu, neu ryw- beth. Yr oedd wedi ei ddarnjo yn fawr. Yehydig lisoedd yn 01 claddodd ei wraig. Mtoe y plant felly heb dad ac heb fam i deimlo diddordeb ynddynt, ond y mae tad a mam yr amddifad ar Ei Orsedd. Go- beithio y gwasgant ato yn eu gofid a'u galar. Brodor o Ogledd Cymru oedd ein eyfaill, a chlywais ef yn dweyd ei fod yn gefnder i'r Parch. Madog Roberts. Yr oedd yn aelod yng nghapel Bryn Seion. Cafodd gladdedigaeth barchus. Gwasan- aethwyd yn y ty ac ar Ian y bedd gan v Parch. Dafydd Morgan. Clywais fod y Parch. J. Phillips, gwein- idog Bethania, wedi cael amser hapus iawn yn mhwlpud Tabernacl, Treforris, y Sul o'r blaen; ac fo ddywedir fod y weddi a offrym- wyd ganddo nos Sul ar ran ei hen weinidog parchus, "Emlyn Jones," yn disgyn fel dafnau gwlaw mawr ar galonnau y can- noedd oedd yno; ac yr oedd adlais eu calonnau yn tori allan mewn Amenal1 cyn- nes ar ran y prophwyd a'r gwr anwyl hwn. Hyderwn yr attebir y deisyfiadau ac y cawn ei weld ef eto wrth ei hoff waith. Gresyn na chawsid un o'r areithiau yn yr hen Cymraeg yn y cyfarfod fu yma'r wyth- nos ddiweddaf ynglyn ag ymgyrch Purdeb a Moes. Y r wyf yn sicr fod yma yn y dref hon dri chymaint o aelodau yn y capelau Cymraeg ag sydd yn y capelau Saesneg, ac eto dim Cymraeg yn y cwrdd cyntaf i ymosod ar y gelvii ofnadwy hwn. Ble mae y diffyg? Mae yn bleser genym fod ein meddyg phoblogaidd, Dr. Arthur Jones, mor fyw gyda'r ymgyrch hon. Taflwyd y gymydogaeth i gyffro pryd- nawn dydd Iau trwy y neA vdd pruddaidd fod Mr D. Tucker, Fox Street, wedi syrthio yn farw yn rihv cyfaill iddo yn Heol y Coed. Yr oedd wedi bod yn ei waith ac wedi gwneyd turn caled, ond yr oedd ei gyfaill yn lladd mochyn y prynhawn hwnnw, ac yr oedd wedi addaw rhoi tipyn o help iddo, ac fe ddywedir ar ol codi y mochyn i hongian yn non y ty iddo ddweyd wrth rhai oedd yn agos ato ei fod am eis- tedd yn y gadair, a dymunodd am i'w gyfaill aros gydag ef, ond mewn eiliad yr oedd oi enaid wedi diangc. Mae yma weddw a phlant mewn hiraeth dwys. Ni eh a fod d plant erioed well tad, na gwraig well gwr. MAB Y WAWR. I
Cwmni Yswiro'r Prudential.…
Cwmni Yswiro'r Prudential. I Boddhaol iawn yw sylwi ar y cynnydd wnaeth y Cwmni hwn yn Aberdar a'r cylch yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd cynnydd yn y dei-byniadait (xidini-rth premiums o -ti,loo o leiaf ar y flwyddyn cyn hynny. Dengys hyn yr ymddiriedaeth sydd gan bobl y cylch yn y Prudential. Y mae cynydd mawr wedi ei wneud yn ystod y pedair blynedd y mae Mr D. Hammond, Arolygydd y Doshartli, wedi bod wrth y llyw. Gwna'i sirioldeb ef yn boblogaidd gyda'i ddynion. Cynnydd y flwyddyn ddi- weddaf yw y mwyaf a wnaed yn Nosbarth Aberdar, er pan wahanwyd y Dosbarth oddiwrth Mountain Ash yn 1901. Talwyd allan yn ymyl E8,000 mewn hawliau yn ystod 1913. Nifer yr hawliau hyn yn y Dosbarth oedd 3Sd. 1 Hwn yw y Cwmni Yswirio mwyaf yn y Deyrnas, a dengys ei adroddiad blynyddol ei fod yn cadw y safle hon a'i drafodaeth eangfawr yn oynhyddu yn gyflym. Yr oedd cyfanswm ei incwm yn ystod 1913 yn £ 16,567,600, yr hyn oedd yn gynnydd o ddim llai na £ 549,670 wrth gymharn a'r flwyddyn o'r blaen. Dengys hyn ymddir- iedaeth y wlad yn y Cwmni, ac ni raid ond taflu golwg ar y crynhodeb o'r adroddiad geir ar dudalen arall i weled fod buddian- nan y rhai sydd yn talu i fewn iddo yn hollol ddiogel.
Advertising
CROEN. CN A WD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y IIMAI HYN. Eageuluadod o unrhyw Hiwetf I rbot hyn drwy ddamwaiit neu glefyd aN achoai Blood Poisoning a Manwolaeth. Meddyginiaath Efeithiol. Er mwyn ysgol Paryfl rhaid al ynarfar mawn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUI A fliON A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydnafeatf gan liloedd fel y meddyglin mwysf tier a diogei a ddarganfyddwyi erioed at iaahaii Clwyfau, Archollion, Tardd- iantau y Cnawd, Eczema, Craoh a Nodd yn Mhenau Plant, Llosglad. au, Ysgal. d a n a u S o u r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Gout, Cymalau Poenus, Rheumat- tog, P eell- Cefn, Puss! Hynod a effeithiol at CL WYFAU ar COESAU. Yr oedd pen fy MISS- mewn stat schryows. Gwellhaodd Gomer's Balm hi yn bur luau." Miloedd yn tystfo llw Effetthlau Rhyfeddoi. RHODDWCH BRAWF ARNO Gwelihad sydd slor, Ar werth gan bob Chemilt a Stores am l/li. Gofyner am Comer's Balm. Myi* wch weled enw Jacob Hugnea ar bob blweh. Heb hyn nid yw gywir. Nea danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamps) at Jacob Hughes, Manufacturing Chaw- ist, M.P.B., L.D.B., Panarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. 1 I Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tren prynwyr yma ac yn ol on iddynt enwi Tarian y Gwkithiwb. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 183 Pages 1/- net; Post Free 1/3. Addresses delivered at the United School of Social Service for Wales." A book every Patriot ehbuld read. Send without delay to the Publisher! MORGAN & HIGGS, Publish* Ppinterso Ac., 18 Heathfleltf Street, Swansea.