Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Nodiadau'r Golygydd.-I

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Y Barri—Y Cymrodorion, &c.

News
Cite
Share

Y BarriâY Cymrodorion, &c. Gair Caredig. Nid wyf yn rhy ddiweddar, gobeithir, i ddatgan fy nymuniadau da am lwydd- iant y Darian yn nwylo ei harweinydd- ion newydd. Yn ddilys ddigon y mae i bapur Cymraeg wythnosol ei le a'i gen- nad ymysg Cymry'r De. Cofied pawb o honom sy baroted i ddymuno'n dda nad ar ddymuno'n unig y bydd wythnosolyn j byw. Rhaid wrth gynhorthwy sylwedd- ol. Gosoder pin ar bapur a gyrrer pwt o ysgrif yn awr ac yn y man. Dyma gyfle braf i lenorion ieuainc i ymarfer eu dawn, canys onid yw Dyfnallt megis tadwaith iddynt, a Moelona hithau yn famaeth dirion at eu gwasanaeth? Di- esgus mwyach a fydd ein plant a'n pobl ieuainc. "0 na baent ddoethion, na ddeallent hyn." Symbyled rhieni, ac athrawon ysgol, y plant i fagu dyddor- deb mewn newyddiaduron Cymraeg. Gwelir newyddiaduron Saesneg yn ein hysgolion yn ami. Darllenir ac arferir hwynt. Paham lai ein wythnosolion Cymraeg 7 r Y Cymdeithasau Cymraeg. Diolch am air caredig y Golygydd parthed drws agored i draethu helynt y Cymdeithasau hyn. Y mae angen 'tarian' arnynt canys ant allan yn llu banerog y dyddiau nesaf hyn yn erbyn Die Shon Dafyddiaeth. Cyn y gwel yr ychydig linellau hyn oleuni'r 'Darian,' bydd Cyfarfod Adran Dyfed ymysg y pethau a fu. Os na chamgymerwn, fe geir gryn hwyl yn hen dref Caerfyrddin ddydd Sadwrn nesaf. Dyfal odiaeth a fu Dyfnallt y Cadeirydd a Mr. John Hughes, B.A., Abergwaun, ynglyn a'r trefniadau. Sicrhasant wenau ae haelioni Maer y Dref. Nid oes dim fel cwpanaid o de i osod pobl mewn ystad briodol i weithio. Gwn na dderfydd Cyfarfod Caerfyrddin yn ei effeithiau gyda diwedd Cwrdd yr Adran, o herwydd dechreuad gwaith ydyw'r cwrdd hwn. Gwaith mawr Adran Dyfed fydd cadw Cymru wledig yn Cymru Gymreig. Gwir yw y gair yr anwesir hen ysbryd digon annheyrn- garol i ddefion Gwalia mewn llawer i bentref a thref hyd yn oed yn Nyfed. Rhaid gosod troed ar y duedd i barablu Saesneg bratiog yn lie Cymraeg persain. Dysged y plant a'r bcvbl ieuainc siarad fel y sieryd ami i werinwr. Sylwer ar ei Gymraeg dilediaith ac ar y priod- ddulliau tlysion a'r diarhebion cynhwys- fawr a fritha ei ymadroddion. Gesyd y Cymdeithasau'r peth hwn yn nod iddynt, sef yw honno adfer iaith gwerin Cymru i'w hen burdeb. Cy- mysgedd afler ydyw iaith llawer o honom ni a fagwyd yn swn llenyddiaeth Lloegrâllenyddiaeth na ddeallem ond y nesaf peth i ddim o honi o ran e i geir- iau, a Had fyth o'i hysbryd. Diolch y caiff Ceiriog, Islwyn ao eraill 'dra- gwyddol heol' heddyw i luaws o'n hys- golion, ond er hynny ein can yw, "Eto mae lie." Gwyddom nad bob amser y caiff y Gymraeg ei lie hyd yn oed heddyw mewn rhannau o Gymru Gym- reig. Gwaith yr Undeb newydd fydd sicrhau ei lie i'n heniaeth fel na wireddir geiriau Ben Bowen mwyach "Mae dy fryniau'n sathrfa Saeson erbyn hyn, I'th Gymraeg mae claddfa oer mewn llawer glyn." Pwysleisiwn yn hytrach o lawer y gwir- ionedd hwn ag sydd yn "Williams Pant- ycelyn" yr un awdwr hyglod: Dysga Cymru fechan heddyw iaith y byd: Nac anghofied yngan iaith y nef 'run pryd!" Dyweded pob Cymro yr hyn a ddywedai meibion y gaethglud gynt: Os anghof- iaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu. Y Cymrodorion. Mr. T. Gwynn Jones, y bardd a'r llenor medrus a fu'n ein hannerch Ion. 6. Soniai am Y Cymry a'r Oes Bres." Y mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a Chymry'r Oes Bres." Y mae'r naill yn fyw heddyw tra nad erys o'r llall ond rhai o'u hoffer cywrain. Os mynn neb wybod nodwedd ysbryd y darlith- iwr, ystyried yr ymadrodd canlynol allan o'i orchestgampâun o Iawer-sef Cof- iant Thomas Gee." Son y mae Mr. Jones am wrthwynebiad y Faner i apwyntiad Sais uniaith ryw dro fel dar- lithydd ar amaethyddiaeth yng Ngholeg Bangor. ac am eglurhad yr awdurdodau ar yr hyn a wnaed: Yr eglurhad hwnnw ydoedd fod dau is-ddarlithydd yn abl i siarad Cymraegâneu, mewn geiriau ereill, fod Cymro yn eithaf creadur i ganu'r ail ffidl yn ei wlad ei hun, serch cydnabod fod ganddo un tant yn rhagor arni." Cyfeiriodd Mr. Jones at ogoniant ac ysblander y perlau a gloddir yn hen len- yddiaeth ein gwlad. Yr oedd ein beirdd yn athronwyr o'r radd flaenaf. Pwy fel hwynt-hwy am ganfod i dirgelion y natur ddynol ac am portreadau eu dyfn- ion ddyheadau mewn cwpledau cywrain ? Nid oes ond eisiau enwi Bedo Brwyn- llys, Gutyn Owain, a Thudur Aled. Cymharer eu hiaith ddillyn hwy a Chymraeg llipa llawer o Gymry dysged- ig yr "oes bres" hon. Y mae'n bryd adfer y Gymraeg i'w hen gynefin. Nod y rhan fwyaf o werinwyr Cym- reig ydyw sicrhau iddynt eu hunain nid elw ond bywioliaeth o'u galwedigaeth- au. Dyna paham y boddlona ami i ffermwr ar weitbredu fel ag y gwnaeth ei deidiau o'i flaen. Os daw dau ben y llinyn ynghyd, popeth yn dda. Aed y byd lle'r hoffo. Tyrr ambell Gymro allan o'r hen lwybrau a daw yn "ddyn pres," sef dyn yn berchen aur ac arian. Ei brif orchwyl wedyn ydyw chwilio i'r hen bethau hynny a ddyddorai ei daid pan ydoedd yn llafurwr gweddol dda ei fyd ond nid mewn un modd yn arianog. Casglwyd llu o hen achau a chopiwyd hwynt yn ddestlus odiaeth gan wyr a ddilyhai eu gorchwylion wrth yr eingion neu rhwng dau gorn yr aradr. Pan gyll Cymru ei hiaith, cyll ryw- beth na ddaw cyfwerth byth am dano. Aiff enwau lleoedd yn rhai diystyr i'r preswylwyr. Collir gogoniant yr hen draddodiau a'r ystraeon. Syrth hanes, can, cerdd, a diwylliant i ebargofiant. Colli heb ennill fydd v ewbl. Bu gwerin Cymru ymhojb cyfnod yn ei hanes yn wybodusach ae yn fwy diwvll- iedig na gwerin Lloegr. Diwylliant aristocrataidd ydyw eiddo Lloegr, tra. mai diwylliant gwerinol ydyw eiddc Cymru. Ni wawriodd dydd y cenedl- oedd bychain hyd eto. Fe ddaw hwnw maes o law. Parhaed pob cenedl fechan i anwesu ei hiaith, ei harferion a'i thra- ddodiad, canys pan ddel ei hawr fe welir gwerth y peChau hyn. Cofied Cymru hithau air un o'r rhiaB-" edd hynny a roddodd gyngor i Bedwyr druan: Bid iti dewi. ni ddaeth y diwedd; Arthur byth ni syrth i'r bedd; tithau, dos, Y mae'n d'aros waith cyn mynd i orwedd." Ac fel Bedwyr, fe awn ninnau "eto draw at y drin." ARTHEN.

Bwrdd y Golygydd.

1 I Cymry Cymraeg, Abertridwr

Advertising