Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

I, Y GWEITHIWR AMAETH-I IYDDOL.

I Ar y Twr yn Aberdar.I

I IPwnc y Tir yng Nghymru.

News
Cite
Share

I Pwnc y Tir yng Nghymru. Nid oes orfodaeth arnat: dod dv) fwthyn yno, neu ynte paid a gwneyd ond, os dewisi wneyd, rhaid iti dalu rhent i mi, a rhaid imi gael dy fwthyn ym mhen deugain mlynedd. Ond mae'r wlad yn dechreu canfod na ddylid rhoddi'r fath awdurdod i ddwylaw neb. Rhaid yw i bob gwr gwareiddiedig gael bwthyn neu dy i fyw ynddo: nis gellir codi ty ond ar dir: rhaid felly gyfyngu ar allu tirfeddianwr i wneyd a fyno a'i eiddo ei hun." Mewn gair gwelir erbyn hyn fod y gyfundrefn newydd, yr hon a grewyd yn ystod y pum canrif diweddaf gan dirfeddianwyr a chyfreithwyr yn y Senedd, yn hollol anghymwys i anghen- rheidiau dynolryw. Rhaid codi'r hen wlad yn ei hoi," a dysgu'r hen, hen wers sydd mor hyned a gwareiddiad, nad da i neb pwy bynag fod yn berchen di- amadol ar dir, sydd yn anghenrhaid bywyd i bawb o bobl y byd. Cyn tynu y nodiadau anniben hyn i derfyn, dymunwn dynu sylw at dri pheth arall sydd, i'm tyb i, yn gwneyd Pwnc y Tir yng Nghymru yn arbenig. Yn Lloegr mae'r tirfeddianwyr yn Saeson o waed ac iaith, ac, i raddau helaeth, y maent o'r un grefydd a.'u: deiliaid. Mae felly ryw gymaint o gyd- ymdeinilad yn ffynu rhyngddynt hwy a'u tenantiaid,âyn gymaint fel ag y mae'r ffermwyr yn Lloegr bron i gyd yn Doriaid, fel eu meistri tir. Mor W(1- hanol yw bonedd Cymru! Nid ydynt yn siarad iaith y werin; ni chymerant ddyddordeb ym mhleserau y werin, yn yr Eisteddfod, na'r cwrdd cystadleuol; dibrisiant Anghydffurfiaeth a thra mai Rhyddfrydwyr selog yw'r ffermwyr bron yn llwyr, Toriaid rhonc yw'r tirfeddian- wyr yn agos i gyd. Cofiaf glywed Tom Ellis, yr anwylaf o feib y Dadeni, yn dweyd peth mor wrthyn oedd gwel'd cartrefi cenedl o Ymneillduwyr a Rhyddfrydwyr CYJlI- reig dan lywodraeth ac awdurdod rhyw ychydig o estroniaid na feddent ddim gwybodaeth am fywyd y genedl, nac ychwaith gydymdeimlad a hi. Peth arall yw hyn. Pan wesgir y llafurwr o'i bentref yn Lloegr, mae 1111 o ddau beth yn canlyn: un ai fod Sais arall yn c-ymeryd ei le, neu ynte mae ei le yn fllus yn wag. Ond yng Nghymru. pan ymfuda'r IlafurNvr 'i'r "gweith feydd" neu yn groes i'r mor, cymerir ei le, nid gan Gymro arall, nac hyd yn oed gan Sais neu Sgotyn neu Wyddel o'r un radd, ond gan wehilion a sorrod cym- deithas yn Llundain a'r cylch. Xid ar y ffermwyr mae'r bai: maent yn foddlon talu llawer rhagor o gyflog i'r gweith- wyr nag a geir.yn y siroedd deheuol yn Lloegr; ond nis gallant gystadlu a'r gwaith glo a'r gwaith alcan yr ochr arall i'r Mynydd Du.âW. Llewelyn Williams, A.S., yn y "Geninen" am Ionawr.

|Aberteifi a'r Cylch.I

Advertising