Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

I, Y GWEITHIWR AMAETH-I IYDDOL.

I Ar y Twr yn Aberdar.I

News
Cite
Share

I Ar y Twr yn Aberdar. I Edgar Jones, A.S. I Ymwelir a'r etholaeth yn bresenol gan ei haelod Seneddol hynaf. Ymwelodd yn ddiweddar a'r Trefedigaethau dros y Senedd. Bu o amgylch y byd a diau y bydd y daith yn lies iddo. Er mai ieu- anc ydyw o ran oed, y mae ei wybodaeth a'i brofiad yn helaeth. Ni ryfeddem ei weled yn lanw lie anrhydeddus yn y Sen- edd yn y dyfodol. Llawenydd i'r gen- edl ydyw gweled ei meibion yn dringo, a'i braint ydyw eu eynorthwyo. Pwnc y Tir. I Dyry sylw neilltuol i bwnc y tir yn ei areithiau. Yn Aberpennar dangosodd y telir yn ol zC23 yr erw o dreth ar y tir yr adeiledir arno, ond lie. ar dir amaeth a mynydd-dir. Pan werthir y tir hwnnw i wasanaeth y lie codir crogbris am dano. Yn Cwmdar dangosodd y telir y swm anferth Y,73,872 at y trethi ar 1,218 o erwi, ond X980 ar y 13,965 o erwi sydd o'u hamgylch. Golyga hynny y cyfren- nir i'r trethi yn ol £ 60 13s. yr erw ar dir a ddefnyddir i ddibenion y lie, tra na thelir ar y gweddill rhagor na Is. 4c. yr erw. Dadleuai dros drethu y tir yn ol y pris a ofynnir am dano pan y'i gwerthir. Addawai y byddai y mesur tir ym myned dan wraidd yr anghyfiawnder presennol, a gellir proffwrdo y bydd y frwydr yn un boeth. Artemus Jones, K.C. I Daeth y gwr galluog uchod i'r maes yn ddiweddar ar wahoddiad y Rhydd- frydwr i gymeryd yr ail sedd oddiar Keir Hardie, A. S. Nid ydyw hyd yma yn arbed Mr. Hardie. Ni fwriada addef i Mr. Hardie siarad fel cynrychiolydd llafur a thwyllo y Rhyddfrydwyr y tro hwn, ac yna ar ol yr etholiad i hawlio'r fuddugoliaeth i Sosialaeth fel yn y blyn- yddoedd a fu. Y mae Mr. Edgar Jones ac yntau ar yr un llwyfan a bwriadant weithio dros eu gilydd er sicrhau y ddwy sedd i'r Rhyddfrydwyr. Y mae'r ddau Jones yn wyr arfog, wedi paratoi yn dda ar gyfer brwydr galed. I Keir Hardie, A.S. Gwneir cais yn enw adrannau Aberdar a Merthyr at Ffederasiwn Deheudir Cymru i fabwysiadu Keir Hardie, A.S., fel ei chYllrychiolydd awdurdodedig. Fel aelod annibynol y safai o'r blaen. Os llwyddir i sicrhau nawdd honno bydd mewn safle gryfach nag erioed. Ni ar- bedir nag arian na doniau i sicrhau ei ddychweliad. Gwr yn ei afiaeth mewn rhyfel ydyw, a gall daro yn drwm a chy- meryd ei daro cystal a hynny. Mae'n wir nad ydyw ei iechyd cystal ag y bu. ac nid ydyw ei oedran. yn caniatau cymaint o lafur a chynt; ond v mae ei yspryd yn ieuanc a'i galon yn ddewr. Yn ddibetrus, hon fydd y frwydr bwys- icaf yng Nghymru yn yr etholiad nesaf oddieithr i rywbeth ddigwydd na welir mohono heddyw. I Y Delyneg Gymraeg. I Bu'r Parch. Silyn Roberts, M.A., yn darlithio ar y testyn uchod nos Wener, Ion. 2il, i Gymrodorion Aberdar. Barnai mai Talhaearn, ac nid Ceiriog ,ydyw Burns Cymru. Telynegwyr gore'r De ydyw J.J. a Wil Evan. Cytunai a Syr Edward Anwyl i Gymru godi Telyn- egwyr gore Ewrop yn ystod y 15 mlyn- edd diweddaf, ac mai yn ystod yr amser hwn y cododd Telynegwyr gore Cymru. Edward Morus oedd y cyntaf i ganu ar fesur "Y Tri Thrawiad," ac naa oes neb yn fyw a all ganu yn feistrolgar yn y mesur oddigerth Brynfab, meistr Beirdd y "Darian." Cafodd "Silyn" hwyl ar ei ddarlith, a'r Cymrodorion hwyl i wrando. Nid ydyw "Gwyr Byr- dar" yn rhyw gymodlon iawn ag enw barddol Mr. Roberts, oblegid un 'Silyn' sydd, sef esgob poblogaidd Siloa. Cymraeg yn Anhebgorol. I Llongyfarchwn Mr Meth Davies yn sefyll dros wneud Cymraeg yn un cym- hwyster anhebgorol wrth wahodd ceis- iadau am y swydd o brif glerc cyn- orthwyol o dan Fwrdd y Gwarcheid- waid. Feallai nad ydyw'r amser ymhell pan y gwneir gwaith y Bwrdd yn Gym- raeg yn hytrach na Seisneg fel yn bres- ennol. Pleidleisiodd saith o'r a'elodau dros y cynnyg ac 21 yn erbyn. Pan etholir y swyddog gobeithiwn y dwisir Cymro gan y credwn gyda'r lleiafrif nas gall Sais unieithog lanw y swydd mewn cylch Cymraeg fel hwn. Esgob Tyddewi. I Ymwelodd yr Esgob ag Aberdar nos Iau, Ion. 8fed, pan yr anerchodd gyn- ulleidfa fawr o Eglwyswyr yn Neuadd y Farchnad. Y cadeirydd oedd Mr. John Sankey, K. C. Gan y cymerir rhai o bwyntiau'r araith i ystyriaeth yn y "Darian" yn y dyfodol, Jboddlonwn yma ar en nodi yn unig. Sylwodd ei fod yn gwerthfawrogi y modd y wyne bai Eg- lwyswyr Cymru yr ymosodiad ar yr Eglwys. Cyfeiriodd at yr helynt ynglyn ag Esgobion Affrica, a barnai na ddylid cwyno os llwyddir o'r herwydd i gryf- hau yr argyhoeddiad yn y ffaith syl- faenol fod yr Eglwys Sefydledig yn rhan gyfan o Eglwys Crist heddyw (an integral part). Gwrthwynebai'r syniad fod cenedlaetholdeb Cymru yn hawlio i'r mesur hwn i ddyfod yn ddeddf y wlad. Gwadai'r hawl o 31 o aelodau Seneddol i gynrychioli cenedlaetholdeb Cymru, yn ogystal a hawl y Senedd i basio'r mesur am fod mwyafrif cynrych- iolwyr y genedl yn ei ddymuno. Dy- wedai nad oedd aelodau Seneddol Cym- ru yn cynrychioli barn bwyllog a goleu- edig mwyrif yr etholwyr ar y mesur anheilwng hwn, ac na eglurwyd i'r wlad beth oedd sylwedd mesur y Dadgysyllt- iad na'r defnydd a wneir o'r arian gwaddol, sef eu troi i fudd personol. Trethdalwyr y Llywodraeth a'u rhydd- hau o lai na i y bunt yn nhreth yr in- rlwm I I Y GWYLIWR. I

I IPwnc y Tir yng Nghymru.

|Aberteifi a'r Cylch.I

Advertising