Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL

I, Y GWEITHIWR AMAETH-I IYDDOL.

News
Cite
Share

I, Y GWEITHIWR AMAETH- I YDDOL. Cyn dechreu ysgrifenu dan y pen- awd uchod dymunaf ddiolch i'r Parch. Gwilym Davies, Caerfyrddin, am ei 'i erthyglau addysgiadol yn y "South Wales Daily News." Dywed galon y gwir. Nid oes un dosbarth o weith- wyr yn y wlad yn dioddef mor dost yn herwydd iselder cyflogau a'r rhai sydd yn trin y tir. Y ddaear ydyw car- trefle gwreiddiol pob cyfoeth, ac eto y rhai sydd yn ei thrin yw y rhai a orthrymir galetaf a mwyaf didostur. Nid llefaru drwy y niwl ydwyf, ond rhoddi mynegiad i'r hyn sydd tu fewn i gylch fy ngwybodaeth. Cefais fy magu mewn amaethdy ac yn mysg amaethwyr, a dylaswn wybod rhyw- beth. Myn y tirfeddianwr ei gyfran llwged a lwgo. Rhaid i'r amaethwr gael ei ran drwy deg neu annheg, ond am y gweithiwr a'r gwas, cynyrchwyr gwirionedd yr oil, rhaid iddo ef fodd- loni ar ryw ychydig bach, bach, "just" digon i gadw corph ac enaid wrth eu gilydd, rywsut. Beth yw'r gyflog? Er wedi treulio ei oes yn y gwaith amaethyddol prin y gall neb ddisgwyl am fwy na deu- ddeg swllt yr wythnos ynghyd a'i fwyd a'i lety, neu ddeunaw swllt yr wythnos a thalu am ei fwyd a'i lety ei hun. A ydyw tal o'r fath yn ddigon- ol am chwe diwrnod caled o waith? Dadleua llawer fod ein cyndadau wedi byw yn gysurus ar gyflog lai, ac wedi llwvddo i gasglu llawer "o dda y byd hwn." Digon posibl, and hyn wyf am ddal, tra mai gwerth pob peth yn y wlad a'r pentref yn codi, saif gwerth llafur dynol yn yr un fan. Yr oedd yn bosibl i berson fyw ar y gyflog hyny haner can' mlynedd yn ol, ie, yn llawer haws na byw ar ei dwbl heddyw. Dadleua eraill ei bod yn amhosibl i'r amaethwr dalu mwy, oherwydd fod v tirfeddianwr yn llyncu y cwbl. Mae llawer i amaethwr yn berchen ar ci dir ei hun, ond ni thalant hwythau yn well am lafur. Amddiffyniad gwan iawn ydyw amddiffyniad o'r agwedd yna. Mae amaethwyr fel dosbarth yn ddosbarth cyfoethog. Ni threulia un allan o bob mil ei ddiwedd yn y tlotdy. Na yn hytrach fforddia i gael ty ei hun i dreulio prydnawnddydd ei oes, ond deuir o hyd i'r cwbl drwy chwys a gwaed y llafurwr. Mae trefn felly yn anghristionogol. Y mhcllach mae y bwyd ga llu mawr o'n gweithwyr amaethyddol yn hol!olt anaddas i gadw corph mewn cyflwr iachus. Gwn am ganoedd o weision ffermydd na wyddant beth yw bias "cig fresh o'r naill flwyddyn i'r llall. Ceir tc a bara chaws i frecwast ben boreu oddeutu chwech o'r gloch, a bydd rhaid gweithio hyd ganol dydd heb fymryn yn ychwaneg. Ceir cawl a thatws a chig moch ar giniaw, a bydd rhaid gweithio hyd saith o'r gloch heb ond ryw haner pryd yn v cyfamser. Wedyn daw swper, ac o'r fath amaethun. Ceir y cawl cinio wedi ei ail-dwymo. Dyna ei fwyd o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, ac eto dywedir fod y dosbarth yma yn cael eu talu yn dda. Gwn am lawer i was fferm na wyr beth yw lliw llaeth vn ei de am wythnosau ar ei hyd. Gwerthir yr holl laeth yn y pentref cyfagos er chwyddo elw personol. Eto, mae amodau o dan rai y cysga llawer o'n gweithwyr amaethyddol yn flotyn du ar wareiddiad. Llawer gysgant mewn gwely gwellt yn y beudy uwchben y gwartheg. Dadleuir fod yna le cynes. Digon posibl, ond a oes yna unrhyw awdurdod feddygol yn y deyrnas heddyw faentumia fod anadliadau yr anifeiliaid yn iachus. Na, dywed rheswm fod yr amodau afiach hyn yn drosedd a'r deddfau iechyd. Beth ydyw effaith y fath gyfun- drefn? Gadawa y gweithwyr goreu ein gwlad am wiedydd eraill. Am- ddifadir llu mawr o blarit o addysg angenrheidiol, a thynir gweithwyr i'r canolfanau gweithfaol i sathru ar draed eu gilydd. Yn y fan hono drwy fesur gwerth eu llafur yn ngoleuni yr hyn a dderbynient tra yn gweithio ar y tir, boddlonant ar weithio am hur bychan. Y canlyniad yw creu tlodi mewn cylchoedd eraill, ac amddifadu eu cydweithwyr o gyflog byw a chreu streics. Mae adnoddau y tir yn ddigon cyfoethog i dalu tal sylweddol i'r saw l sydd yn gweithio arno. Ond ar yr un pryd amaethwyr ein gwlad ydyw y dynion mwyaf blaenllaw ar ein cynghorau ac yn ein heglwysi. Hawdd iddynt weddio mewn cyfarfod gweddi, "Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol," a llond y cwpbwrdd o fwyd. Yr ydym ni yn berffaith sicr yn ein barn y byddai mwy o grefydd mewn ceisio gwella ychydig ar amodau byw eu gweithwyr. Gwnai cenedlaetholi v ddaear a dymchwel tirfeddianiaeth, i ffwrdd a'r gorthrwm hwn, ond dan yr amgylch- iadau ni all dosbarth gweithiol amaethyddol Cymru wneyd dim yn well na ffurfio undeb yn mysg eu hunain er ymladd y gelyn yma sydd yn gadwyn ar eu bywyd. Hynyna am y tro. Cewch ragor eto. Ni fynegwyd mo'r haner. I ARONFA GRIFFITHS. I Grove House, Abercrave.

I Ar y Twr yn Aberdar.I

I IPwnc y Tir yng Nghymru.

|Aberteifi a'r Cylch.I

Advertising