Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Beirniadaeth.: I

Bedlinog.I

Advertising

IEisteddfod Bodringallt INadolig,…

News
Cite
Share

Eisteddfod Bodringallt Nadolig, 1913. BEIRNIADAETH BODFAN. (Parhad.) I YR ENGLYNION. I I Daeth ugain o englynion i law, a diau eu bod oil yn well na dim a allwn i fy hun ei wneuthur ar yr un testyn! An- ffodus braidd fu camsillejbu'r gair Gwn- Yadur ar y rhaglen. Benywol yw'r gair gan fwyafrif yr ymgeiswyr, yn ol dull y Deheudir, ond er y swnia yn chwithig i mifel Gogleddwr, ni ddielir ar neb am ei arfer. Rhaid i Cwm Elan ofyn i ryw un ddangos y cyganeddion iddo. Rhaid i Stitch in Time edrych at ei orffwysiadau. Y mae Dilledydd wedi difetha ei englyn cyntaf wrth sillebu "wniad" yn iawn! "Wniad diwenwyn" a ofyn yr hyd a'r gynghan- edd, er mai'r cyntaf sydd gywiraf. Eto prin y dyfarnwn y wobr i nwn na'r un o'r ddau arall sydd ganddo ar yr un lien, er eu bod, fel mwyafrif mawr yr englyn- ion yn y gystadleuaeth hon, yn burion englynion. Ni charwn ddywedyd gair bach ych- waith am englynion Liw Nos, Clyttwr, Pwyth Pur. Hopcyn y Teiliwr, a'r Siswrn. Buasai'r olaf yn uwch yn y gystadleuaeth onibai am y llinell gyn- taf. Lied debyg yw englyn Alun r Mabon, a thebyg yw'r sylw arno. Rhaid i englyn unigol fod yn bur dda i fedru goddef cynghanedd lusg. Gwelais salach englynion lawer gwaith nag eiddo Xeedle-driver, Ar y Bwrdd, a Phwythwr Pethau. Y mae rhyw ddiffyg ar gys- trawon englyn Shon y Teiliwr (neu ar ddeall ei feirniad), felly, er ei fod yn burion englyn, cyll ei siawns am y wobr hon. Bellach y mae'n galed i ddewis y buddugol. Y maent oil yn deilwng o'r wobr, a hawsaf peth yn y byd yw gwneu- thur cam a rhywun. Dyna Deio'r Teil- iwr dros y bwrdd am ei fod yn torri'r ail linell ar ei thraws a'i siswrn, bai digon ibychan, ond pa beth a wneir wrth feirn- iadu ond chwilio'r bai a aller ? Caras- wn ei wobrwyo am yr hen air Cymraeg "hydr. Dichon mai Marchog y Nod- wydd ddylai ennill, ond ymddengys i mi fod mwy o swn nag o synnwyr yn y llinell "A Ilidiog frath dilladaeth." Annaturiol yw "bys noddydd" gan Idris-rhy debyg i"Hydref ddail" prif- fardd arall. Eto ni omeddwn y wobr i hwn. Bum yn lied feddwl gwobrwyo Gwen. Englyn campus ydyw. Ond y mae ynddo rai ymadroddion gweinion. Gresyn fu gorfod troi "gwniadyddes" yn "wn'yddes," er mai "gwenyddes" y gelwir hi tua Chaerfyrddin. Boddloned Gwen gan hynny ar wybod iddi wneu- thur yn dda. Pawb at ei chwaeth, ond dyma'r englyn sydd oreu gennyf fi o'r ewbl: A'r gwyniadur y nodwydd-frau wthir Drwy frethyn heb aflwydd; Drwy'i gwthiad rhad, byd yn rhwydd Wisgir o i droed i'w ysgwydd. Gwobrwyer ei awdwr gan hynny, sef Gwniedydd egwan vdwyf. Y DARN ADRODDIADOL I I Rai Dan Un ar Bymtheg Oed. I Dyma, fe ddichon, y gamp fwyaf yn yr eisteddfod. Cynhygiodd chwech ar hugain, a chymharol brin fu'r llwydd- iant, er y cafwyd goreuon da iawn. Anodd dywedyd beth sy'n adroddiad cymwys i blentyn. Syniad llawer o'r ymgeiswyr yw fod unrhyw gan fach ddel, svvynoi yn gymwys. Y mae rhagor mawr, hefyd rhwng plant o'r deu- ddeg i'r un ar bymtheg, a phlant o'r dim i'r deuddeg. Tybiwn fod yn rhaid i'r darn buddugol weddu i bob math o blentyn. Beth a barodd i Judas nid yr Iscariot dy.bied y talai ei benhillion "Ac yr oedd hi yn nos" yn adroddiad i blant, nis gwn. Prin yr ystyriaf "Y Bregeth Gyn- taf gan "Hwnw" yn gyfaddas. Purion yw Yr Amddifad a Darlun ei Mam gan "Alltud," eithr lleddf iawn, a'r mydr braidd yn gloff mewn mannau. Y mae mesur eithaf dymunol i blant yng Xghvngor Gwen" gan Dechreu Canu." ond dof yw'r penhillion, a nodir y wers ar eu diwedd. Y mae addysg dda yin Mreuddwyd y Plentyn gan 'Alltud Arfon." Can addysg ddymunol sydd gan "Cymro" ar "Ddweyd y Gwir i Gyd." Gweddol yw'r "Cybydd" gan If or Hael. Y mae'r penhillion, Mi Garwn fod yn Dderwen," gap Abiah Bach, yn Aveddol gymwys, ond nid oes dim llawer ynddynt. Ni thai "Ymson ei Gweddi Joseph yn y Carchar gan Asgre Lan i blant dan un ar bymtheg jed. Ni ddylent wybod dim o gyfrinion pechod yn yr oed yna. Methodd Gwilym Cynon a gweithio allan ei syn- iad Gwna a Ddylit, Doed a Ddelo." Dichon y talai'r Ddeilen ar y Llyn," gan Drylliog, i'r Gobeithlu, pe bai yn llai amrwd. Y mae ailican lied dda gan Hywel yn ei ddarn John Tomos a'r Parrot," eithr y mae braidd yn glogyrn- aidd. Y mae purion penhillion gan Go- beithiol ar Obaith yr Ieuanc," ond prin y cyfrifwn i hwynt yn adroddiad. Can addysg hen-ffasiwn sydd gan Ufudd ar Ddiystyru Cyngor Mam." Y mae mesur priodol iawn i Jblant gan Eco'r Dydd yn ei benhillion i'r Saboth," a dyna'r cyfan. Wele bellach gennym ganeuon gan ddwylo cyfarwydd. Os mai darnau i'w dysgu yn awr, ac i fod yn addysg ac ys- brydiaeth i'r plentyn wedi iddo dyfu i fyny, a ofynnir, ofnaf fy mod yn gwneu- thur cam a rhai o'r beirdd teilwng hyn. Tri phennill campus, a bendithiol eu cjylanwad, sydd gan Gwynnant, dan y pennawd Dros fy Ngwlad." Ond prin y cyfrifai cynulleidfa hwynt yn adrodd- iad. Carol melys sydd gan Ephratewr i Ddydd Nadolig." Cerdd dda sydd gan Pet y Teulu ar O Bydd yn Blen- tyn Da." Can swynol iawn sydd gan Johnny Bach, a phob un o'i bedwar pen- nill yn dechreu gyda'r geiriau, O! na bawn i yn awel.' Gwnai Awn i Chwar- ae, o waith Plentyn Natur, gytgan ar- dderchog i blant ei chanu. Un o'r goreuon yw Mi wnaf yr hyn a allaf," gan Idwal, ond y mae yn anghyfartal ei deilyngdod. Digon da, ond Ileddf iawn I yw'r Amddifad gan Eiddill. Tyr Crynedig dir newydd gyda'i Deimlad Cystadleuydd wrth Wrando'r Feirniad- aeth." Disgrifia'r teimlad yn fyw a chyffrous iawn. Teimlaf nad oes iddo yr un siawn yn y gystadleuaeth hon, a buaswn wedi ei drosglwyddo i'r un dros un ar bymtheg oed pe buasai iddo well siawns yn honno. Ni chawsom nemor drafferth, fel y gwelir, hyd yn hyn, eithr saif tri ar y blaen o ran cymhwyster. Darn ofn- adwy sydd gan Gerallt ar "Wrthod Gwneuthur Drwg. Y mae'n son am ryw dad drygionus a chreulon yh ceisio- gan ei fab fyned i'r dafarn i ymofyn cwrw iddo. Y tad wrth weld y llanc mewn siom Ar unwaith aeth i dymer gas; Fe'i curodd a gwialen drom Nes oedd ei gorff yn ddu a glas. Os rhydd buddugwr y darn i rai mewn I oed fenthyg ei ffon, awn i chwilio am y tad hwnnw, a chymhwyswn hi yn egniol ato, eithr prin y doluriwn deimladau plentyn Jbach drwy ei osod i adrodd am y fath erchyllterau. Darn rhagorol yw'r darn, serch hynny. Y mae'r Gwron Bach," gan Edmyg- wr, yn ddiddramgwydd ymhob ystyr, ac yn ddarn gwir dda a chymwys. Ar fin y ffordd i'r orsaf draw Y ceid darluniau cain, Ac yn eu plith y gwelid Crist, Y groes, a'r goron ddrain. Pa sut y daethant i'r fath le ? Byddai plentyn ddeallus yn sicr o holi hyn. Ni erys yn awr ond un, sef Y Robin I yn yr Eira," gan Acen Plentyn. Fe I dal yr adroddiad swynol hwn i blant o bob oed o'r pump i'r cant. Cyffyrdda a thannau tyneraf pob natur iach. Y mae yn hawdd ei ddeall, yn hawdd ei ddysgu, yn hawdd ei gofio, ac yn ddifyr i wrando arno. Ac nid oes ynddo ddim o'r Ileddfdra afiach yna a geir yn rhy fynych mewn darnau a fwriedir i blant. Gwobrwyer gan hynny Acen Plentyn. (I barhau.) =====^^

Advertising

Dosbarthwyr y 'Darian.'

ARGRAFFWAITH.