Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNBWYSlAD.

Yn Fan ac yn Ami.

Plasmarl.

0119TEDDFODAU DYFODOL.

I __COLOFN LLAFUH. I

Glais. I

Ar Lannau'r Tawe.

News
Cite
Share

Ar Lannau'r Tawe. Cafodd aelodau Ysgol Sul Cangen Hebron; Ynystawe, eu cyfarfod blyn- yddol o wledd a chan nos Sadwrn diweddaf. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones y cyfarfod gynhaliwyd ar ol y wledd. Cymerodd y rhai canlynol ran ynddo: Hannah Williams, Gwladys Davies, Blodwen Thomas, Gwendo John, Nellie Davies, Sarah Dilys Davies, Ethel Williams, Sarah Morcam, a'r brodyr J. Lewis Jenkins, William D. Davies, Brynmor Evans, J. Edwin Jack- son, Albert Davies, a J. Bytheway. Cystadleuaeth Unawd i fechgyn Rhanwyd rhwng y brodyr W. D. Davies, J. E. Jackson ,a Tom Grove. Darllen cerddor aeth: Rhanwyd rhwng Brinley Lloyd a Emrys Thomas. Adroddiad: ¡ Rhanwyd rhwng Katie Grove a Gwenda John. Darllen ar y pryd: Rhanwyd rhwng David Evans a Tom P. Williams. Cymerodd y brawd Gwilym Grove rhan fel cyfeilydd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r brawd William Hill j am ei garedigrwydd arferol fuag at y j plant, ac i bawb a gynorthwyasent. Mewn cyfarfod o gynrychiolwyr dy- lanwadol y cylch gynhaliwyd yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos Fercher di- weddaf, penderfynodd y pwyllgor ddangos eu gwerthfawrogiad o wasan- aeth y chwaer Ann Davies, bydwraig ar- dystiedip (certified midwife), Rockfield House, Clydach, ar ei hymneillduad o'i galwedigaeth trwy gyflwyno iddi dysteb (testimoaial). Y mae y chwaer uchel ei pharch a phoblogedd hon wedi gwasan- aethu yn ei swydd dros dymhor o tua deugain mlynedd. Trysorydd y mudiad ydyw'r Parch. T. Valentine Evans, Clydach. a derbynnir gyda diolch un- rhyw gyfran tuag' at yr amcan mewn golwg. Mewn cyfarfod gynhaliwyd o dan nawdd I ;yrndeithas y Bojbl leuainc yn Ysgold; Moriah, Ynystawe, nos Fercher diwedu.* darllenwyd bapur da iawn gan y hr rtwd Daniel Phillips ar y testun eang, Iesu Grist." Llywyddodd y Parch. Thomas Thomas (gweinidog), a llefarodd y brodyr W. Aaron a D. H. Lewis ychydig eiriau cymhwys a phriodol ar y testun. Da ydyw gennyf weled Pwyllgor Heol- ydd a Phontydd y Cynghor Sir yn symud 1 wneud heolydd Cwmtawe—ac enwedig Clydach-yn gysurus i'r bobl. Ychydig iawn o fanteision a gwelliantau o'u cymharu a'r dreth a delir ddaw oddi- wrth y Cvnghor hwn i'r rhan hon o'r sir. Melus ydyw clywed sain y rholfaen ager (steam roller) yn chwythu yn ein invsg. Ychydig wythnosau yn ol appel- iodd Cynghor Plwyfol Rhyndwyclydach i'r Cylitihor Sirol i godi rhyw ddau neu dri o arwydd-byst perygl mewn mannau ar hyd prif ffordd y pentref er mwyn sicrhau diogelwch mwy i blant a phobl mewn oed rhag gorgyflymdra llawer o'r rnoduron sydd yn teithio trwy'r lie. Yr oedd yr Automobile Association wedi datgan eu parodrwydd i roddi'r arwydd- byst angenrheidiol ar yr amod fod y Cynghor Sir i'w gosod i fyny. Atebodd y Cynghor Sir nad oedd hawl ganddynt i wneud hynny. A glywyd erioed am ateb mor blentynaidd oddiwrth Gynghor cryf a chyfrifol? Dyma Gynghor sydd yn gyfrifol am brif-fyrdd sir yn cyfaddef nad oes ganddo hawl i chwario ychydig sylltau er sicrhau dio- gelwch y bojbl! Os nad oes hawl gan y Cynghor Sir ar y brif ffordd, pwy ynte sydd a'r hawl 1 Gobeithiaf nad budd, cysur a. phleser perchenogion cerbydau modur yn unig sydd yn peri i'r Cynghor beidio codi'r arwyddion perygl' Traddododd y myfyriwr ieuanc a dys- glaer, D. Emrys Evans, M.A. (Rhyd- ychen), ail fab i'r Parch. T. Valentine Evans, Clydach, ddarlith ragorol ar y testun, Teithiau Paul," i Gymdeithas y Bob] leuainc mewn cyfarfod a gynhal- iwyd yn Festri Calfaria, nos Fawrth di- weddaf. Y mae y brawd ieuanc yn llefarwr dymunol, eglur ac hyawdl, ac er mwyn gyru ei wers adre eglurodd deithiau Paul trwy dywys ei wrandawyr ar y darlunlen ar hyd taith yr Apostol. Dadblygodd yn ei ddarlith lawer o ffeithiau hanesyddol nas ca'r dyn cyffredin gyfle i wybod am danynt. I Cynnygiwyd pleidlais o ddiolch iddo gan y brawd D. Christopher Davies (cen- hadwr o Yalemba, ar lanau'r Congo) eiliwyd gan y brawd E. Owen Jones, a chefnogwyd gan y chwaer Elizabeth Roderick, a'r brodyr George Davies, ( Samuel Boundy, Samuel C. Jones, a Dd. Roderick. j Cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol diddorol iawn o dan nawdd y Gymdeith- as Diwylliadol yn Ysgoldy Carmel nos Fawrth diweddaf, pan a daeth gyn- ulleidfa luosog iawn ynghyd. Llywydd- odd y cyfarfod gan y Parch. J. M. Wil- liams (gweinidog). Gwasanaethodd y cyfaill ieuanc Llewelyn Davies (Man- chester House) fel cyfeilydd. Cafwyd noson o fwynhad o dan nawdd y Gobeithlu yn Ysgoldy Hebron, Clyd- ach, Mawrth diweddaf. Daeth tyrfa o blant bychain ynghyd, a diddorwyd hwy yn fawr wrth edrych ar nifer o ddarluniau prydferth dafhvyd ar y lien gan vr hud-lusern. LLEW.

t I ! Hirwaun.j

Advertising

pontycymmer.