Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Colofn y Beirdd.I
Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu I cynyrchion i'r Hendre, Pontypridd. I
[No title]
Y Crwydryn.—Diolch am y gwelliant hwn ar y Crwydryn a anfonwyd i'r Swyddfa yr wythnos ddiweddaf. Mae ei wisg yn fwy taclus nag oedd yn flaen- orol. Caiff y Hall ei daflu i gil y drws yn y Swyddfa. Y Pwll Glo.-Englynion o gelfyddyd digon da, ond lied lipa yw y desgrifiad. Rhaid gadaef yr englyn olaf allan. Mae ynddo eiriau rhy anarferedig, megys "rhagwn" a "'cwthwn." Nid ydym yn byw ar lan y Fenai. Dwr Wedi'i Ferwi, &c.-Can ag ynddi addysg a moes-wersi da. Diolch am eich darganfyddiad o destyn newydd. Y Gareg Filidir.-Paladr yr englyn yn ddigon cymeradwy. Mae y syniad syw" yn un lied bendwp, hyd yn oed am garreg filldir. Oni wyddoch fod y drydedd linell yn proestio yn llafarog: I reidiau'r dieithr ydyw." Newidiwyd hi. Y Llaethwerthwr.-Ar y glasaf yw llaeth hwn. Mae gormod o ymgais am gynghanedd gywrain yn y llinell olaf. Newidiwyd ychydig ar yr englyn—er gwell, neu er gwaeth, cewch chwi farnu. Can y Bryniau.—Methaf weled perth- ynas agos rhwng y testyn a'r gan; ond nid yw y gan yn waeth oherwydd hyny. Cymerwch fwy o ofal gyda'r ansodd- eiriau. Alltudiwch y gair "dwyf" am byth. Gall y gair "odiaeth" fynd gydag ef hefyd. Mae wedi gwasanaethu ei genedlaeth gyda'r "blodau blydd," &c. Wedi y cwbl, mae y gan yn werth yr ychydig o gyfnewidiadau a wnaed yn- ddi. Er Cof.—Lied ddof yw yr englynion hyn. Mae y syniadau yn benllwyd iawn. Nid yw y llinell flaenaf i'r ail englyn yn gywir • Caredig a chywir ydoedd." Caredig, cywir ydoedd. Neu- Caredig gywir ydoedd, ofynai y gynghanedd. Dicshon na fyddai yn gam a chwi i mi gynneu fy mhibell a'r ddalen. Yr Hydref. Pennillion addawol. Peidiwch a bod mor brin ar eich papyr y tro nesaf. Gadewir y pedwerydd pen- nill allan. Nid yw y gan yn galw am dano. t'r Swyddfa.—Murmurvdd, Dewi Aur, J. Hughes.
PWLL GLO. 1
PWLL GLO. 1 Pwll afiach, un pell hefyd-o fwyniant, 'Does fynyd o wennyd; 0 fewn i hwn ofn o hyd Ddaw drostoch a'i ddu dristyd. Pwll nwyawl, palla'n hawydd,—nid dyddan Myn'd iddo ef beunydd; Duwch a'i ran a'i dawch rydd Nodau o'r erch sugnedydd. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli. CWYN ADERYN. I Un boreu yn yr hafddydd Mi godais gyda'r wawr, Er gweled lloni meusydd Dan nawdd adfywiol awr A thra yn dal i syllu Mi welais hwyrol len Yn araf dori o'r neilldu Er mwyn cael disglaer nen. f Mi deimlas awydd llamu Fel oenig ar y Jbryn, Fy mod fel hyn yn meddu Amserol lewyrch gwyn; Ond tra yn lion fy nghalon Daeth heibio awel groes, Nes collais fri y swynion Drwy lymder chwerw loes. Hyn barodd i mi'n sydyn I edrych at y berth, Lie gwelais brudd aderyn Yn raddol golli nerth Drwy archoll dan ei galon A gafodd, meddai ef, Tra'n pyncio ei alawon 0 glod am wenau'r net. Deallais wrth ei gwynfan Mai ergyd gafodd ef, Am teimlai yn rhy egwan I gwyno drwy ei lef; Wrth gau ei lygaid bychain Dywedodd, "Gwelaf draw Y dydd bydd gwae ac ochain Yn aros cruelon law." EOS HAFOD. Ystrad, Rhondda. J< DWFR WEDI'I FERWI REWA'N GYNT." Hen wlad y mwyn alawon I mi yw Cymru fad, Gwlad sydd a'i diarebion Mewn bri ar lafar gwlad; Hen wireb wyf yn hoffi A glywais ar fy hynt, Yw "Dwr fo wedi'i ferwi A rewa'n llawer cynt." Mae rhai cyfeillion rhyfedd I'w canfod ar ein taith, Rhai'n orlawn o frwdfrydedd A chariant ruddiau llaith; Ond oerant wrth eu croesi Mor gyflym bron a'r gwynt, Mae dwr fo wedi'i ferwi Yn rhewi'n llawer cynt." Ceir ereill tra gwahanol, Mwy didwyll yn eu ffyrdd, Fel gwanwyn ir, parhaol, A'u dail o hyd yn wyrdd; Yn graddol iawn gynhesu Byth-gynes fydd eu hynt. Rhai hyn sydd heb eu berwi, A phell o rewi y'nt." Brwdfrydedd un di-alw Os digwydd ddod i'ch cwrdd, 0 hyd gochelwch hwnw, Gwnewch frys i'w anfon ffwrdd; Can's gellwch benderfynu Arogli brad drwy'r gwynt. Mae dwr fo wedi'i ferwi Yn rhewi'n Ilawer cynt." Boed i ni oil wneyd ymgais Wrth ddewis cyfaill cun, Amcanu am y llednais A'r addfwyn, dyma'r dyn; Ni rewa hwn y gauaf, Un cydnaws fydd yr haf, Fe fydd 'run fath mewn aelaf A phan mewn tywydd braf. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli. LLONGYFARCHIAD I I I'r Marchog Newydd, Syr William James Thomas, Ynyshir. Mae engyl edmygedd yn dawnsio drwy'r tir I ddathlu dyrchafiad gwr hael Ynyshir Tra'r awen sy'n llawen yn trwsio ei chan A geiriau priodol a'i mynwes ar dan; Mae tlodion yr ardal yn gwenu yn lion, A'u hiaith yw-hawddamor i'r urddas fawr hon; Wrth weled dyngarwr dan goron gwir fri, A hwnw yn Gymro sy'n caru'n gwlad ni, Trigolion y Rhondda a floeddiant yn wir, Hir oes i Syr William—gwr hael Ynys- hir. Nid oes eisiau clychau i seinio ei glod, Mae tine ei haelioni o hyd o'r iawn nod; Yn well nag hyawdledd, ac awen y bardd, Mae'i rhoddion sylweddol yn fythol- wyrdd hardd; Mae anian ddyngarol Syr William yn llawn 0 ffrwythau ardderchog, godidog ei dawn; O'i doraeth bendithion cyfrana i'w wlad Ei filoedd ar filoedd yn rhwydd ac yn rhad, A gweithwyr y Rhondda a floeddiant yn wir, Byw byth fo hael Farchog yr hen Ynys- hir. Fel angel trugarog mae'n rhoddi o hyd, Ei olud ar alwad anghenus y byd Ei weithwyr a'i cara, a'i enw sy'n fel Yn ngenau'r trigolion gan gymaint eu sel; Nid rhyfedd i'r Brenin i gofio'r fath un Sy'n deilwng o'r enw ac urddas y dyn I fyny aed eto hyd risiau mawrhad Nes cyrhaedd anrhydedd goruchaf ei wlad; A'r werin adseinia yn groew a chlir, Hir oes i Syr William, gwr hael Ynyshir. AP LEWIS. 44 Merthyr Road, Pontypridd.
Penderyn.
Penderyn. Blin genym gofnodi marwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy y chwaer Mrs. Emily Lewis, anwyl briod Mr. William Lewis, 12 Pontpren, ar enedigaeth plentyn. Gwanaidd oedd iechyd y chwaer ers tipyn, ac ofnai y meddyg y canlyniadau, ac er galar dwys i'w phriod a'r perthnasau, an- adlodd ei holaf yn mhen rhai oriau. Mae'r baban yn fyw, a'r fam wedi myned yn yr oedran cynar o 33 mlwydd oed. Rhagluniaeth lor fyddo'n dyner wrth y tad ieuanc a'r plant bychain (pump mewn nifer) yn y cyfrwng tywyll presenol. Yr unig gysur iddo ef a phawb eraill o gyffelyb brofiad ydyw fod Tad yr amddifaid yn fyw, ac y gall Ef wneud i fyny am golled mam a thad. Yr oedd Mrs. Lewis yn aelod o Eglwys St. Cynog, Penderyn, ac yn aelod ffyddlon o'r cor, ac amlygwyd hyny ddydd ei hangladd prydnawn Sadwrn, y 3ydd cyfisol, pryd yr oedd y cantorion yn eu lleoedd ar waith yr angladd yn dyfod i fewn. Canasant rai tbnau yn hynod ddymunol yn y gwasanaeth claddu, a'r Rheithor, y Parch. LI. Jenkins, yn gwasanaethu. Yr oedd tyrfa o bobi barchus o bell ac agos yn bresenol. Gorphwysed hithau yn dawel hyd y bore Bydd dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd." Nos Sadwrn nesaf, Ionawr iofed, yn Nghapel Siloa (B.), bydd y Proff. Joseph Jones, o Aberhonddu, yn rhoddi anerchiad i etholwyr y plwyf ar un o gwestiynau y dydd, Addysg, feallai, a gobeithio y daw cynulliad lluosog yn nghyd i wrando arno, oblegyd mae'n hysbys bellach fod yr Athro yn un o brif ddynion cyhoeddus ein cenedl. Croesaw i bawb. DEWI CYNON. I
CIBTEDOFODAU DYFODOL.-I
CIBTEDOFODAU DYFODOL. -I Sadwrn, Chwef. 28, 1914.—Eisteddfod Gadeiriol Cymmer, Porth. Mawrthgwyn Mehefin 2, 1914.— Eisteddfod Fforestfach. Dydd Sadwrn, Mehefin 20, 1914.— Eisteddfod Gadeiriol Pontardawe.
I Gohebiaethau. i I
Gohebiaethau. UNDEB Y CYMDEITHASAU CYMRAEG. Syr,—Caniatewch i mi yn ol eich car- edigrwydd arferol alw sylw'r Eglwysi at yr Undeb uchod. Gwahoddir pob Cym- deithas Gymraeg i ymuno. Nid Cym- deithasau Cymrodorol ac eraill yn unig a wahoddir, eithr y gwahanol fan Gym- deithasau a gynhelir dan nawdd Eg- lwysi Cymraeg. Bwriedir uno'r holl luoedd o blaid ein hiaith. Os gofyn neb pa fudd a fydd o ymuno, I boddloned ar yr hen air Mewn Undeb mae Nerth." Os ewyllysia unrhyw Gymdeithas ymuno, anfoner ataf am I bob inanylion. Cynhelir Cyfarfodydd yr Undeb fel y canlyn:— 1. Dyfed, Ion. 10, am 1.30, yng Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin. 2. GorlIewinbarth Morgannwg: Guild Hall, Abertawe, Ion. 31, am 2.30. Croeso gan Faer y Dref. 3. Gwent a Mynwy yn y Tabernacl, Caerdydd, am 2.30, Ion. 24. Croeso gan Undeb Cymdeithasau Cymraeg y Ddinas. 4. Canolbarth Cymru. Ymofynner a Mr. Roland Thomas, B.A., Aberhonddu. 5. Gwynedd. Golygydd y Brython, Lerpwl, yw'r Pen Capten. Os tery'r gair hwn lygad y neb a garo ei wlad, anfoned ataf am gopi o raglen gyflawn y cyfarfodydd uchod. Nid oes angen i neb fod ar ol. Y mae'r gwersyll Cymreig yn symud. Cafwyd digon ar Seisnigeiddio Cymru. Y r eiddoch yn w ladgar, D. ARTHEX EVANS. 15 Somerset Road, Barry. CYFARCHIAD I'R "DARIAN." I Mr. Gol.Goddefwch i mi ddweyd gair bach gyda bod y "Darian" yn newid dwylaw, fel hen ddarllenwr a derbyniwr cyson o bedwar newyddiadur a gychwynwyd yn Aberdar. Dichon fod canoedd o ddarllenwyr yn bresenol na wyddant fod cynifer a hyny o newydd- iaduron wedi eu cychwyn yn hen dref enwog y "Darian." Gallaf eu sicrhau fod saith newyddiadur wedi eu cychwyn yma yn ystod y 60 mlynedd diweddaf. Gwell i mi eu henwi, fel y gallo'r dar- llenwyr ieuainc presenol wybod am dan- ynt. Wele hwy Y Gwron Cymreig," "Y GwIadgarwr" (a dderbyniais yn gyson hyd eu marwolaeth), "Tarian y Gweithiwr," sydd yn dyfod i'r ty er's agos i 40 mlynedd. Nid. oes achos i mi i fyn'd i glawr y "Darian" er gwybod pa flwyddyn y cychwynwyd hi, gan fod y flwyddyn yn fythgofus fel blwyddyn y strike fawr, 1875. Gwn yn burion yr achos o gychwyniad y tri newyddiadur uchod. Y mae dau o honynt wedi tewi er's blyhyddau, ond deil y Hall yn ei fri, ac y mae yn debyg o ddal am fiynyddau, fel prif newyddiadur cenedlaethol y De- heudir. A dyma y pedwar arall: Yr "Aberdare Times" y "Gweithiwr Cym- reig," yr "Aberdare Leader," a'r "Aberdare and Mountain Ash Post." Dim ond tri sydd yn cael eu hargraphu yma yn bresenol, sef y "Darian," yr "Aberdare Leader," a'r "Aberdare and Mountain Ash Post." Mae'r "Aberdare Times" yn awr yn un a'r "Aberdare Leader." Felly gwelwch, Mr. Gol., nad drwg i gyd fu Sweet 'Berdar yn ystod y blynyddau fu. Nid wyf yn cofio fod un Golygydd wedi hod ar lenyddiaeth y "Darian" o flaen y Parch. D. Silyn Evans. Ond gwn yn burion fod hen berchenog y "Darian" (yr hwn sydd yn awr yn fyw), yn nghyd a'r perchenogion presenol, yn eitha' galluog at y gwaith. Blin genyf fod y Golygydd parchus yn ymddiswyddo o olygiaeth y "Darian." Yr oedd ei lithiau bob amser yn dderbyniol iawn genym, gan eu bod ar destynau newydd- ion, yn dal cysylltiad a'r werin, ac a Chymru hefyd. Gwyddom yn dda mai un Silyn Evans sydd genym yn Aberdar, a Sir Forganwg, ac yn Nghymru hefyd, oherwydd saif yn y rhes flaenaf fel meddyliwr a gweinidog, saif yn mhliteh cewri enwocaf Cymru. Ond er ymddi- swyddo o hono fel Golygydd y 'Darian,' nid yw yn ein gadael. Bydd yn Aber- dar fel cygt. A gobeithiaf y cawn weled ffrwyth ei ysgrifell doreithiog eto ar faes y "Darian." Gair bach yng nghlust y Golygydd newydd, pan y daw i'w swydd. Llai o drafodaeth ar bynciau sychlyd fel y Dduwinyddiaeth Newydd, os gwelwch fod yn dda. Pa ddiben trafod pynciau na ddeuwn i gyd weled arnynt o hyn i'r Mil Blynyddau. Yr oeddem wedi meddwl fy mod yn mynd i gael goleuni ar y pwnc. Ond yn lie hyny yr wyf mewn cymaint o dywyllwch ag erioed. Son am ddiwedd y byd 1 Pwy roddodd y gyfrinach iddynt 1 Nid Duw yn ddiau, oblegid ni rydd Duw Ei gyfrinach i neb, mwy na'r hyn ydym wedi ei gael yn y Bibl. Felly, myfyriwn ar y pethau da a geir ynddo, fel y byddom yn fwy parod pan y daw yr amgylchiad sobr i'n cyf- arfod. Da chwi, gyfeillion, dadleuwch y materion pwysig yna yn y Cyhoedd- iadau Crefyddol. Dyna le pethau o'r fath, ac nid ar faes newyddiadur. Gwelaf yn awr fod Brynfab yn dod am yr ail waith i eistedd yn Nghadair Farddonol y "Darian." A diau ei fod wedi taflu yr hen Gadair Wellt i ryw gongl o'r Ysgubor. Mi wn y caiff groeso cynes gan y beirdd, gan ei fod wedi bod mor dirion o honynt pan yn eu pwyso flynyddau yn 01. Y r eiddoch, Aberdar. GWILYM NEDD. I
Dalier Sylw.I
Dalier Sylw. I Anfoned y beirdd eu cynhyrchion I o hyn allan i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd.
Aberteifi a'r Cylch. I
Aberteifi a'r Cylch. I Yr ydym yn ostyngedig yn syrthio i fewn i gyfarwyddyd y Gol. newydd i ddod allan o'r "Ystorm," er ei bod yn anhawdd, gan ein bod wedi darparu ysgrifau ar gyfer y ddau frawd sydd yn ymosod. Awgryma y Gol. fod rhyddid gan Williams a Havard i ysgrifenu erthyglau byrion ar eu credo, felly gwn y ceir yr un chwareuteg i wyntyllu yr erthyglau hyny, a bydd yn bleser genym wneud hyny yn yr ysbryd goreu. Wel, mae 1914 wedi gwawrio, a'r "Darian" wedi cael dillad newydd, ac y mae yn ymddangos yn brydferth iawn. Ilyde.rwn y parha i gyfarfod ag angen- ion Cymru Fydd. Treuliwyd noson cyn dechreu 1914 mewn gwahanol ffyrdd yn y dref. Caf- wyd yn Hope Chapel gyfarfod crefydd- ol. Rhoddwyd anerchiad pwrpasol gan y gweinidog, Mr. Whittington, a ffarwel- iwyd a'r hen flwyddyn mewn teimlad pruddaidd, gan ddymuno am flwyddyn newydd dda i bob un o'r gwyddfodolion. Cafwyd cyfarfod o natur wahanol yn y "Pavilion," ac yr oedd lliaws wedi dyfod ynghyd i weled y darluniau, y rhai oeddynt o nodwedd ddyrchafedig. Dyma adeg i edrych yn ol i'r gorphen- ol a chanfod llawer o ddiffygion yn ein hanes personol, cymdeithasol, a chref- yddol, ac edrychwn mewn dychymyg i'r dyfodol gan addaw diwygio. Mae genym hefyd i gofio am lawer o drychinebau ar dir a mor. Canoedd o deuluoedd oedd yn gyfain yn nechreu 1913 erbyn hyn wedi eu rhwygo gan angeu mewn gwahanol foddau. Credwn hefyd y gallwn weled arwydd- ion pethau gwell yn y rhagolygon sydd wedi cychwyn yn nghorph 1913. Medd- ylier am y Ddeddf Yswiriol ddechreuodd gyfranu tuag at ddynion afiach a men- ywod tuag at gynhaliaeth ar enedigaeth plant. Meddylier eto am y daioni gyfrenir i ddynion dros dri ugain a deg oed. Cyfranwyd 2449,630 drwy Gyrnru, a phwy all ddyweud faint o heulwen mae y swm yma wedi ddwyn i deulu- oedd y wlad, a gellir disgwyl yn mlaen eto at gyfnod pan y bydd ein tlottai yn wag, a chyflogau swyddogion yn di- ddymu, ac wrth hyny yn syrthio yn ol er lleihau y trethi ar y trethdalwyr. Mae argoelion hefyd y daw cyflog y gweithiwr yn uwch yn fuan. Disgwylia labrwyr y wlad yn mlaen at fesur dyfod- ol y tir er rhoddi gwell cynhaliaeth i'r gweithwyr, a hawl sicrach i'w ffermdai. Hyderwn y cawn flwyddyn newydd dda yn grefyddol am 1914. Mae per- sonau drwy y wlad yn barod iawn i daflu y bai ar farweidd-dra yr eglwysi ar aelodau crefyddol a'u harweinwyr, ond dylem ddiolch fod sefyllfa yr eglwysi fel y maent, pan y cofiwn am y llifogydd dylanwadau sydd yn rhuthro yn eu her- byn. Mae yr achos goreu yn sicr o fyned yn y blaen ar waethaf pob gwrth- wynejbiad, ac os na chymer yr eglwysi fantais ar yr hyn sydd yn ffafriol iddi a deffro fel llu banerog i ymosod ar gyfeiliornadau yr oes, fe gyfyd "ym- wared eto o le arall." Yn hytrach na dangos goleu goch diffygion, ac eglwysi gwag, dylem ddangos goleu gwyn go- beithion y dyfodol, a'r modd goreu i lanw capelau ac eglwysi y wlad a dynion yn fyw i angenion cymdeithas, ac yn teimlo dros gyflwr ysbrydol yr aelodau sydd oddifewn i'r eglwys yn ogystal a'r miloedd sydd y tu allan. Yr ydym o galon yn dymuno pob llwyddiant i gwmni newydd y "Darian," ac hir oes i'r Gol. newydd i'n harwain fel darllenwyr ar hyd meusydd eang- fawr gwybodaeth yn wleidyddol a chref- yddol.—Yr eiddoch yn gywir, I Aberteifi. D. JONES. I
INodion Min y Ffordd. I
I Nodion Min y Ffordd. I GAN" EOS HAFOD." I Cynhaliodd Eglwysi Sefydledig y cylch hwn eu gwasanaethau arferol dydd Nadolig. Canwyd emyn-donau, anthcmau, a salm-donau yn wresog. Gwasanaethodd y Parch. W. Lewis, Ficer Ystradyfodwg, ac offeiriaid gweithgar ereill y cylch ar yr achlysur dymunol o ddathlu mawl ar gan a gweddi am Waredwr y byd. Ar y dydd nodedig enwyd trodd y tywydd yn weddol ffafriol i fynychu lleoedd atyniadol creill. Y noson I flaenorol canwyd carolau pwrpasol gan feib cerdd-leisiol ac offerynol. Mwynhawyd y seiniau melus y rhai barotodd y meddwl i dreulio prif wyl y flwyddyn yn llawen. Diolch am yr amrywiaeth glywid gan gynnifer o leiswyr da ac offerynwyr cerdd medrus. Tua dechreu yr wythnos daeth yr eira a'r rhew, nes i fynyddau a glyn- oedd wisgo mantell wen. Caed golwg, fel cynt bron, ar y dyffryn hwn, ac nid anymunol oedd ei gael gan yr hoffir sylwi ar bethau o fath halen y ddaear a rhewllyd lyn ac afon. Medd- yliodd yr ieuanc yn gryf y rhoddid cyfle iddo lithro ar ysgafn droed dros yr ia, ond fei siomwyd am i wlaw ddyfod nes diddymu y rhew o'i gader- nid. Hyfrydwch cynulliad deallgar fu gwrando Syr Edward Anwyl, M.A., yn traddodi anerchiad o flaen Cym- deithas Ddiwylliadol Pobl leuainc Eglwys Gynulleidfaol Bodringallt. Cymerodd hyn le nos Lun, Rhagfyr 2gain, a dewisodd y Proffeswr dysged- ig yn destyn, Hanes Gwareiddiad Ewrop." Clywais ganmol neillduol ar yr hyn wrandawid. Llywyddwyd yn hapus gan Mr John Isaac (loan ap Daniel). Cynaliodd cyfeillion gweithgar per- thynol i Gapel Horeb (W.), Ystrad, eu swper arferol nos olaf y flwyddyn. Daeth nifer luosog yn nghyd i gym- eryd o'r danteithion blasus barotowyd ar yr achlysur. Clywais fod yr amryw- iaeth yn flasus iawn, a gwnaeth serchowgrwydd y boneddigesau oedd wrth y byrddau ychwanegu at y wledd derbyniol o de a theisen, etc. Boreu y flwyddyn newydd ymwelodd y plant fel arfer a bwthynau i ddymuno gwenau y flwyddyn hon i ni. 'Roedd dweyd Blwyddyn Newydd Dda i chwi" yn awgrvmu hefyd y hyddai eeiniog neu fwy yn dderbvniol yn ol yr hen arferiad. Gwnaed a fedi wyd i foddloni y llu ieuanc a thyner, ond y gofid deirr.lwyd oedd i gynnifer ddyfod yr un pryd nes nad oedd modd diwallu dymuniad yr oil o honynt. Yr wyf am ddiolch i'r cyfeillion fu mor garedig a danfon llythyr-gerdynau gynwysodd eu deisyfiadau i mi gael gwyliau llawen a Blwyddyn Newydd Dda. Yr oeddent yn dderbyniol, fel un rheswm, am nad allaswn fynd tu- allan i'm tyddyn i newid geiriau a brodyr yn herwydd anhwylder corph- orol. Gwnaethant ychwanegu fy llond- er am fod nifer o honynt yn Gymraeg eu cynwys. Mae hyn yn arwydd fod ein hiaith i fyw, a ffyddloniaid o'r fath a nodwyd wna help iddi ddangos ei gwerth fwy-fwy fel y rhai ysgrifena mor fedrus dros ei pharhad. Fel mil- oedd ereill yr wyf yn falch o burdeb yr iaith wnaeth ein mamau a'n tadau gymaint pwys o honi mewn gweddi a mawl.
Eisteddfod Gadeiriol Minny…
Eisteddfod Gadeiriol Minny Street, Caerdydd. Cynaliwyd yr uchod y Boxing Day dan nawdd Cymdeithas Gyd-ddiwyll- iadol yr eglwys. Llywyddwyd gan Mr. W. H. James, Penylan. Arweinydd, Parch. R. E. Salmon, Roath Park. Beirniaid: Cerddoriaeth, Mri. Wil- liam John Evans, Aberdar, a J. W. Howells, L.T.S.C., Porth; barddon- iaeth, Mr Rees Rees (Teifi), Caer- dydd. Cyfeiliwyd gan Proffeswr D.. Tawe Jones, Caerdydd, a Miss Jones, Rhymni. Enillwyd y gwahanol wo- brwyon fel y canlyn:- Unawd ar y berdoneg, Sam Griffiths, Caerdydd. Adroddiad i rai dan 18 oed, Cecilia Mary Evans, Pontyrhyl; 2il, Henry Morgan, Treforest; 3ydd, May Wil- liams, Caerdydd. Adroddiad i blant dan ddeg oed, laf, Jessie Evans, Pontyrhyl; 2il, Ellen Owen, Caerdydd. Prif adroddiad, "Y Ffoadur," rhan- wyd rhwng Edwin Parry, Gilfach Goch, ac Elias Hughes, Llanelly. Deuddeg o gynghorion tad i'w fab, Idwal. Deuddeg o gynghorion mam i'w merch, Mary Morris, Abertridwr. Cyfieithu darn ar y pryd, Pollie Davies, Caerdydd. Ysgrif Ddesgrifiadol o Sianel Bryste, Gwaunfa, Caerdydd. Pedwar penill i'r Delyn Gymreig, Mr. Valentine Jones, Llangadog. Englyn, Ymyl y Bedd. Enillwyd y gadair am y bryddest oreu i'r "Aelwyd Gymreig" gan Madog Fechan, Aberhonddu. Y darlun goreu o long hwyliau yd- oedd eiddo Mr Ernie Phillips, Caer- dydd. Ton i blant, Mr W. H. James, A.C., Clydach-ar-Dawe. Canu penillion, rhanwyd rhwng Edgar Phillips, Caerdydd, a T. Evans, Caerdydd. Deuawd ar y berdoneg, Enid Rich- ards a Essie Thomas, Caerdydd. Unawd i blant (mab neu ferch), Emlyn Thomas, Aberaman. Unawd Soprano, Miss Getta Thomas, Caerdydd. Unawd Alto, rhanwyd rhwng Madame Ellis, Porth, a Miss C. Davies, Aberaman. Unawd Bass, Mr. J. Haydn Wil- liams, Porth. Her Unawd, Mr Morgan Morgan, Trealaw. Enillwyd ar y prif ddarn i Gorau Meibion, "Cwmwl a Storm" (D. Tawe Jones) gan Barti Williamstown, y rhai a ganasant y darn desgrifiadol hwn yn rhagorol. Cafwyd Eisteddfod ragorol, ac v mae gair o ganmoliaeth yn ddyledus i'r ysgrifenyddion, Mri J. M. Evans a T. O. Thomas, am gyflawnu eu dyled- swyddau i foddlonrwydd.
Advertising
Tarian y Advertising Gweithiwr an Medium FOR Eisteddfodau, Concerts, &0. We have received the following unsolicited testimonial: i It would interest you very much to understand that the advertisements you have inserted for us have been the means of obtaining numerous competi- tors for our Eisteddfod, especially the compositions, which have undoubtedly proved to be a RECORD. Many, many thanks for such a powerful ad- vertising medium as the TABIAN. The Original may be seen in the Office. THE ABERDARE LEADER GUARANTEED LARGEST CIRCULATION IN THE ABERDARE VALLEY. Beat Budget of Home News. The Reader's Favourite, The Advertiser's Friend. PUBLISHED EVERY THURSDAY MORNING. PRICE: ONE PENNY. OFFICES: — — — 19 CARDIFF STREET, ABERDARE. Darlienir yr ADRAN GYMREIG yn y LEADER yn awchaa. Printed and Published for the Proprietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at th6ir Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of Glamorgan.