Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I

Horeb, Pump Heol.

ARQRAFFWAITH.

IAdolygiaeth.I

News
Cite
Share

I Adolygiaeth. I I YR YSTORM "-GAN D. JEN- I KINS, ABERYSTWYTH. Mae Cymru yn ddyledus iawn i Mr. David Jenkins am lawer o wasanaeth gwerthfawr ar hyd y blynyddau o blaid cerddoriaeth, ond yn ddibetrus dyma ei ymgais fwyaf orchestrol ac aruchel. Saif enw Mr. Jenkins yn y rheng flaenaf-gydag eiddo Tany- marian, Dr. Parry, Emlyn Evans, ac ereill-fel Cymro sydd wedi cyfoeth- ogi ei wlad a'i genedl a thoraeth o weithiau cerddorol fyddant byw am flwyddi lawer yn gofgolofnau i'w ddiwydrwydd, ei allu a'i genedlgar- wch. Mae amryw o weithiau cerddorol Mr. Jenkins yn dra adnabyddus, megys v cantawdau, "Dafydd a Goliath," "Salm Bywyd," a'r "ora- torios," "Dewi Sant" a "Job," etc. Hir gofir am y perfformiad o'r olaf, sef "Job," roddwyd yn Rhyl yn 1904; ond yn y gwaith presenol, "Yr Ystorm," y mae wedi esgyn i dir uwch nag yn un o'i weithiau blaen- orol. Mae y gwaith presenol yn sylfaen- edig ar "Ystorm y Bardd-bregeth- wr Islwyn, ac at bwrpas y gwaith yma mae y geiriau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg gan y Parch. E. O. Jones, M.A., Vicar Llanidloes. Hawdd i'r cyfarwydd ag "Y storm" Islwyn syl- weddoli yr anhawsder o gyfieithu y geiriau i'r iaith fain at wasanaeth y cerddor, ac y mae y Parch. E. O. Jones i'w longyfarch yn galonog iawn ar y modd deheuig a meistrol- gar y mae wedi cyflawni hyn o orch- wyl. Ychydig, os dim, o arucheledd y syniadau sydd wedi ei golli yn y trosiad. I roddi y perfformiad cyntaf o waith mor aruchel, anhawdd fuasai sicrhau gwell cyfrwng na Chymdeith- as Gorawl Castellnedd, o dan ar- weiniad medrus Mr. T. Hopkin Evans. Mae y Gymdeithas yma eisioes wedi rhoddi perfformiadau o rai o brif weithiau cerddorol y dydd. Digon yw enwi y "Messiah," yr "Elijah," "St. Paul," "Song of Destiny" (Barhms), Dream of Gerontius (Elgar), ac Omar Khayyam (Bantock), i brofi eu medr a'i gallu i wneud perffaith gyfiawn- der a'r gwaith yma-campwaith yr awdwr yn ddiddadl. Cynorthwyid y Cor ar yr achlysur presenol gan gerddorfa linynol ar- dderchog, yn cael eu cynorthwyo gan Seindorf y 1st Life Guards. Yr un- awdes oedd Miss Jennie Ellis. Ni raid iddi hi wrth ganmoliaeth. Rhenir y gwaith i bum rhan:- (1) Byd heb Storm; (2) Storm Pechod; 1(3)Storm Enaid; (4) Storm Natur; (5) Y Storm Olaf. j (1) Byd heb Storm.—Yma y dar- lunia y bardd greadigaeth y byd, a thrwy gyfri a threfniad cywrain yr offerynau, awgrymir a chanfyddir trefn yn ymddadblygu allan o'r annhrefn-cosmos o'r chaos. Effeith- iol iawn ydyw y rhanau unseiniol y Cor, ynghyd a'r unawdau dyddorol yma a thraw gan yr unawdes. Gorphenir y rhan yn y ppp ar y geiriau, Blagurai, ymagorai, medd- wl dyn," etc.—yr oil yn cyfleu y syn- iad o dangnefedd, hapusrwydd, a diniweidrwydd perffaith ein rhieni cyntaf yn Mharadwys. Ond yn sydyn clywir sain anhyfryd. Mae yna anghydsain y gynghanedd. Mae pechod wedi dyfod i mewn ac wedi newid y cyweirnod, ac i unwaith cyflwynir i'n sylw Rhan 2, "Storm Pechod."—I osod allan hagrwch ac erchylldra yr annhrefn a achoswyd gan bechod, gwna yr awdwr lawer o ddefnydd o'r hyn a adnabyddir gan gerddorion fel y 7fed lleiaf, a dwyseiddir yr effaith gan brudd-der poenus yr offerynau, yn neillduol y trombone a'r symbal. Ond yng nghanol y tryblith a'r cythrwfl a achoswyd gan hen elyn y ddynoliaeth, wele gwawr gobaith pethau gwell yn tori gyda'r geiriau, "Ymostyngodd Duw, Fe ruddodd y melldigaid bren a'i waed ("God came down from Heaven, His blood was shed upon the cursed tree"). Dwys ac effeithiol iawn yw y rhan yma, ac arweinia i ddiwedd- glo gorfoleddus ar y geiriau, "Digon yw." Terfyna y symudiad yn swn banllefau gorfoleddus ac aruchel, Yn unig cred (" Believe in God "). Rhan 3: "Storm Enaid."—Mae y rhan yma wedi ei hysgrifennu i'r soloist yn unig a'r gerddorfa. Mae y gerddoriaeth yn dyner ac arddunol iawn. Dygir i gof weddiau arteithiol y Gwaredwr anwyl ar lechweddau y mynyddoedd; ei waith yn "tawel huno jar -<• mor, a'r mor yn huno yn dawel gydag Ef"; yr Olewydd a'i hadgofion cysegredig, a therfyna yn ymyl Cedron, "Cofiedydd hawddgar ei ddiweddaf ing." Tlws a barddonol ydyw saerniaeth y symudiad tyner yma, a rhoddodd Miss Ellis ddat- ganiad hvnOO o effeithiol o hono. Rhan 4, "Storm Natur."—Fel y gellid disgwyl, dramatic" iawn I ydyw nodwedd yr ymdriniad yn yr adran yma o'r gwaith. Dibyna yr i awdwr bron yn llwyr ar ei adnoddau dramayddol i gyfleu ei syniadau. Egyr gydag unawd ar y geiriau, J "Fry chwith y gwynt yr udgorn lond y Nef, gan alw y bryniau i'w addoli Ef." Yna daw y Cor i fewn gyda brawddegau nodweddiadol o'r "staccato" ar Yt geiriau, "Gyrrwcb wyntoedd, ar eich hyntoedd, dros y llyn, dros y glyn, dros y bryn, a thros Alp-for gwyn." Yn raddol cynhyrfa'r elfenau, chwydda'r gwynt a'r storm, cynddeirioga'r tonnau, a rhua'r taranau. "Berwed moroedd, brynied byd Lie mae'r tonnau llawna'u Hid." Yn y berw dychrynllyd mae y Cor a'r gerddorfa yn annibynol ar eu gilydd ond defnyddia yr awdwr holl adnoddau y naill a'r llall o honynt i roddi portread byw a chyffrous o ddychrynfeydd dinystyriol y Storm ddifaol. Cyrhaedda ei chlimax mewn symudiad offerynol sydd fel corwynt ysgubol, ac yna pan ym- ddengys holl bwerau natur fel pe wedi eu dihysbyddu, gostega yr el- fenau, a cheir tawelwch. Melus, ar ol y dwndwr cynhyrfiol ac ofnadwy, ydyw yr unawd ar y geiriau- "Yn nyfnder nos, y lleuad dlos Dan wylo fyth yn welw ei gwawr Dramvvya yr eangder mawr I geisio gloewach nen," etc. Rhan 5, "Y Storm Olaf." Y ma y cyrhaedda y bardd uchafnod ei am- gyffrediaeth. Ceir yma y syniadau a'r drychfeddyliau mwyaf gwreiddioI. a beiddgar, ac y mae y cerddor wedi ei ysprydoli i gymaint graddau a'r bardd. Yn araf, araf, canfyddir Gorsedd Barn yn ymgodi, yn cael ei hamgylchyni gan "y gosgorddawg lu." Arafa olwynion amser, a'r jhaul a gyfyd fel pe i farw. Mae y byd yn parotoi i "derbyn lor i'r farn," a'r bryniau yn cenhedlu yn eu bri elfenau eu dymchweliad." A phan dyr y "dymhestl olaf"; y fflam las yn dringo pileri y byd," a "seiliau'r mynyddoedd tragwvddol yn llaesu"; lor a ysgydwa yng ngwynt ei ddigofaint, y bydoedd fel cawod o eira drwy'r Nen." Ac yn ddiwedd- glo i'r alanas "taniwvd y byd i oleuo yr eglwys, trwy wagle'r greadigaeth i mewn i Baradwys." Terfyna y rhan yma mewn climax aruchel a mawreddog ar eiriau yr hen emyn Cymreig- "Fe welir Seion fel y wawr Er saled yw ei gwedd," etc. Nid ydym yn cofio ein bod erioed wedi cyfarfod a'r awdwr mewn awyrgylch fel hwn o'r blaen. Gellir gyda phriodoldeb gymharu gweledi- gaethau a drychfeddyliau rhyfeddol y bardd yn y rhanau yma i eiddo Milton a Dante, ac mae y cerddor wedi ym- golli yn llwyr yng nghyfaredd ac ysplander y golygfeydd. Mae yr awdwr yma wedi cyrhaedd uchafnod ei fywyd, ac y mae'r dylanwad yn ysgubol; yn enwedig pan y darlunir pangfeydd gwallgofus yr hen fyd yn y rhyferthwy olaf, a mynediad buddu- goliaethus "Merch yr Amoriad" i'r trigfanau fry. Dyna, yn fyr ac amherffaith iawn, fraslun o'r gwaith. Edrychid ymlaen gyda llawer o hyder am wledd, gerdd- orol o ardd uchel, ac yr oedd y ban- llefau cymeradwyaethol ar derfyn y perfformiad yn profi yn ddiamheuol na siomwyd neb. Rhoddodd y cor, y gerddorfa ardderchog, a'r unawdes o'u goreu, a choronwyd eu hym- drechion a llwyddiant perffaith. Caf- wyd perfformiad a fydd byw yn hir yn ein cof. Er hyny, geilw tegwch arnom i gydnabod mae i'r arweinydd medrus y rhaid priodoli yn benaf llwyddiant yr anturiaeth. Mae Mr. T. Hopkin Evans yn adnabyddus fel cerddor o fri, ac yn un o arweinydd- ion corawl goreu y genedl. Ar yr achlysur presenol hawdd oedd canfod ei feistrolaeth perffaith ar y cor a'r gerddorfa. Mae clod mawr yn ddyl. edus iddo am ei ymdrechion diflino i godi safon cerddoriaeth ein gwlad. Bwriedir yn mis Ebrill nesaf roddi perfformiad eto o'r Veil gan Syr Frederick Cowen. Ar gynig Maer y dref, yr Henadur W. B. Trick, penderfynwyd anfon pellebyr o longyfarchiad i Mr. David Jenkins ar lwyddiant y gwaith. Ffolineb fyddai ceisio dweud nad oedd brychau i'w canfod, ond gymaint ein llawenydd yn ymddangosiad llwydd- ianus cyntaf waith o safon mor glas- urol-a hyny gan un o'n cyd wlad- wyr-fel nad oes ynom awydd na ,chalon ar hyn o bryd i sylwi arnynt. Eiddunwn i Mr. Jenkins adferiad buan i'w iechyd, a blwyddi lawer eto i wasanaethu y genedl a gar mor fawr. THOS. POWELL. Clairwood, Castellnedd, Rhagfyr 2ofed, 1913.

Treharris ar Cylch. I

I I Bethania, Aberdar.I

Advertising

! Trefforest a'r Cylch.