Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I

Horeb, Pump Heol.

News
Cite
Share

Horeb, Pump Heol. Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus yma Rhag 26ain. Mr J. M. Jones, ys- gol feistr, oedd yn y gadair, a Myfyr Hefin yn llywyddu. Eurwedd feirn- iadai'r amrywiaeth a'r adrodd; Mr J. W. Williams, L. T.S.C., y canu; a Mrs. D. Bowen, Horeb, feirniadai'r llaw- ysgrif. Miss A. Thomas, Gelli Hir oedd wrth yr offeryn; Mr. W. Davies, Brynhoulog, yn ysgrifenydd, a Mr. T. Jenkins, Tir Deri, yn drysorydd. reiydrog, Dafen, aeth a'r fedal am delyneg-" DiFgwyl gair o gartref." Madog Fychan, Aberhonddu, gipiodd y wobr am yr englyn i Gapel Horeb. Gwobrwpnvyd Hiss Hanna Richards am adrodd Y Ffoadur," a Miss Irene Davies, Dafen, a Walter J. Jones, Pump Heol, am adrodd "Gwrones Abergarw" (Myfyr Hefin). Am adrodd Gad i'r Eos Ganu (Ben Bowen), rhannwvd v wobr rhwng tri o'r plant, sef S. J Lloyd, Trimsaran; Violet Griffiths a Mary Harris, Troed Sylen. Y pen campwyr yn adran can oedd:- Unawdau: M. H. Jones, Agnes Jones Jack Daniels, Gwladys M. Rowlands Myfanwy Bowen, Lizzie M. Dymmock, M. J. Rowlands, Arthur Jones, Lizzie Rowlands, Idwal Howells. Pedwar- awd, D. Williams a'i gyfeillion. Llaw- ysgrif: laf, S. Williams, Hendy; 2il, cydradd, Sarah A. Harris a Bessie Jen- kins. Cor Plant: Pump Heol. Yr oedd y capel yn orlawn, a gwnaed elw da at godi ty i'r gweinidog. Y Cymdeithas Siom i ni oedd i Gwili fethu cyrraedd yma i ddarlithio ar Fywyd Penhillion Telyn." Daw eto yn nes ymlaen. Llannwyd y bwlch gan Fyfyr Hefin gyda darlith ar Feirdd anghofiedig fy enwad." GOH.

ARQRAFFWAITH.

IAdolygiaeth.I

Treharris ar Cylch. I

I I Bethania, Aberdar.I

Advertising

! Trefforest a'r Cylch.