Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Nodion o Frynamman.

jY Stori.I

Taith i Lydaw.1

ICaerfyrddin.I

News
Cite
Share

Caerfyrddin. I YSGOL YR HEN GOLEG. I Flwyddyn yn ol beiddiais ddweud y I gallai Llewelyn y Darian" lawen- hau. Dyhea ef am weled y Gymraeg yn cael ei lie yn ein hysgolion rhag- barotoawl a'n Colegau Duwinyddol, a'u hawyrgylch yn Gymreig. Y mae yr ysbryd Cymreig yn dyfod i fewn i Ysgol yr Hen Goleg. Cafwyd yn ei harwest flynyddol hi, y Nadolig, 1912, gystadleuaeth ym myd lien y Gymraeg. Stol gerfiedig oedd y wobr. Nid dyma'r tro olaf, goeliaf fi, y gwelir cystadleuaeth debyg yn I Ysgol yr Hen Goleg. Gwelaf yn y "Darian" ddiweddaf iddynt gynnyg Cadeirio a Choroni Bcirdd yno eleni. Ardderchog! Nid dyna'r oil chwaith -yr oedd y Delyn Gymreig yno. Llwyddais i gael penhillion y Bardd a gadeiriwyd, ynghyda'r rhai ail- I oreu, sef eiddo'r Bardd a goronwyd, Mr. George LambâSais ieuanc sydd a naws Eisteddfod y Cymro lond ei enaid. YMADAWIAD MR. HARRY. Hyfrydwch pur, a thangnef hen gor- lannau Duw, A mwyniant rhoi i'r praidd gysuron gras y Nef, Sydd wedi denu'r Athro mwyn,âa chlwyfus friw I galon yr Hen Goleg yw ci "ffarwel" ef; Ymedy'r gwron oedd a'r heulwen yn ei bryd, A goleu'r mabinogion yn ei lygad mawr, A'r Ysgol heddyw fel ar drothwy dieithr fyd Hiraetha am y llonder oedd mor bur a'r wawr. Yn swn y "ffarwel" deffry hen at- gofion lu 0 erwau y gorffennol megis engyl gl&nâ Atgofion am y medr a'r gwreiddioldeb cu Yng ngwyll anialwch dysg fu'n llachar "golofn dan,"â I Y sel, yr ynni, a'r eiddigedd tros y Gwir Fel gweyll huan loewent ei gymeriad ef:- Ac er ei encil, erys ei ddylanwad pur, A'i lwybrau cyfrin frithir fyth gan flodeu'r Nef. J. J. DAVIES. This School, born of thy noble enter- prise, Where oft thy presence charmed in guiding youth,â Where men did come-and taught- remained to rise In learning's holy cause, and way of truth-- This place, so fragrant with the memory past So free from care, from sorrow so aloof,â Where mirth, provoked by wit at random cast Found echo every day from floor to roof, bids thee Adieu Within these walls, without the glee of yore We meet, with sense of loss within our heart; For we must bid thee one, long, last adieu, For thou art going-we remain- and part. Where'er thy lot in future may be cast, On mountain peak, in quiet valley shade, Be sure of this, dear sir, while life shall last, Respect, and honour for thee shall not fade- Adieu G. LAMB. Beiddiaf broffwydo eto fod yr yspryd Cymreig wedi suddo mor ddwfn i galon yr Ysgol fel mai nod- wedd ei harwest yn y dyfodol fydd cadair deilwng o Eisteddfod, ac nid stol gerfiedig. Dymuned pob Cymro am fendith ar ymdrechion y Cymry ieuainc sydd yn yr Hen Goleg. A goddefed ein Colegau Duwinyddol i mi grefu arnynt beidio alltudio yr yspryd Cymreig o'u cyffiniau. Nid cyson yn rhai o athawon ein colegau yw perthyn i Gymrodorion a Chyngreiriau Cymreig, tra ar yr un pryd yn anghefnogi ymdrechion myfyrwyr ym myd y Gymraeg. AR Y MUR. I

Llwynybrwydrau. I

Advertising