Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Nodion o Frynamman.

jY Stori.I

Taith i Lydaw.1

News
Cite
Share

Taith i Lydaw. (Parhad.) Cychwynais o Gymru ar fore Llun braf yn Awst, a chyrhaeddais Saint Malo tua deg o'r gloch bore dydd Mawrth, wedi cysgu'n esmwyth a thawel yn y llong drwy'r nos. Morwr gwael ydwyf fel rheol, ond gan i mi gau peryglon y mor allan wrth fynd i freichiau Meistr Cwsg y nos, cawd mor- daith ddymunol. Gwelwyd Yachts afrifed yn y Southampton Waters wrth fynd allan, wedi eu goleuo a'u pryd- ferthu'n drwsiadus, ac yn eu plith yr oedd y Royal Yacht a'r Teulu Bren- hinol arni, a Llong Frenhinol Rwssia yn ymyl, a llu llongau man gyda'u hwyl- iau gwyn o'u cwmpas, a'r llongau rhyfel fel gwarcheidwaid gofalus ar yr oil, wedi eu goleuo'n dra phrydferth a goleuni trydanol nes troi'r nos yn ddydd neu yn bertach fyth ei throi fel gwlad y tythyth teg. Noson cyn y Cowes Re- gatta ydoedd. Nis anghofiaf yr olygfa. Bydd fyw fel hud a lledrith yn fy nghof. Aethom heibio i'r cyfan yn nistaw- rwydd a thywyllwch y nos, a'n hwyn- ejbau ar y mor mawr, a disgynasom ninnau i'n caban i gysgu'r nos. Pan ddeffrowyd yn y bore yr oeddem yng ngolwg Llydaw. Yr 'Alderney race' wedi ei rhedeg lie mae'r tonnau trochionog fel meirch porthiannus yn gweryru, wedi eu gorchfygu, creigiau Jersey wedi eu gadael ar ol a ninnau yng ngolwg y wlad y clywyd llawer am dani-gwlad saint ac offeiriaid, gwlad pysgod ac winwyn, gwlad hud a lledrith, gwlad gynnar i orphwys a bore godi. Gwlad anwyl i Gymru. Gwlad Carnhu- anawc a Jenkins Hengoed. Gwlad y mae Bedyddwyr a Methodistiaid Cymru wedi anfon eu cenhadon iddi i geisio ei deffro i bethau uchaf, a buddiannau godidocaf teyrnas Dduw. Dyma ni yn ei golwg ac ar osod ein traed arni ar fore teg hafaidd, a'r haul yn tywynu ar y llu ynysoedd man sydd o gwmpas nes gwneyd iddynt ymddangos fel cyn- nifer o berlau teg yr olwg. Gweddiem am i'n mynediad i'r hafan nefol i fod yn debyg mewn dysgleirdeb goleuni haf- aidd a thesog gyda'r hyfrydwch fod wyneb Tad i'n croesawu ar y lan. Rhaid peidio aros i syllu, breuddwydio, na gweddio, onide nis gellir mynd i mewn i'r hafan. Tidal Harbour ydyw St. Malo. Mae'r porthladd yn sych a'i laid cas yn y golwg pan fo'r llanw allan. Rhaid manteisio felly arno fel llawer peth arall yn y byd pan fyddo i mewn, a phan fyddo felly edrycha porthladd yn hyfryd fel llyn llonydd. Glaniwyd heb adnabod neb ar y llong nag ar y lan, a'r iaith yn gymharol ddieithr i mi. Ni theimlais mor unig erioed fe ddichon a'r bore hwn os na theimlais felly yn Llundain yng nghanol ei phoblogaeth aruthrol dro neu ddau. Ni fum unig erioed yn fy ngwlad fy hun er i mi grwydro dros ei mynyddau moelion a'u bryniau rnân (I barhau.)

ICaerfyrddin.I

Llwynybrwydrau. I

Advertising