Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Nodion o Frynamman.

News
Cite
Share

Nodion o Frynamman. GAN "WALCH HYDREF." CYRDDAU EFENGYLU. Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, lau, a Gwener, Rhag. 22, 23, 24, 25* a 26, cynhaliwyd cyfarfodydd pre- gethu yn y "Gospel Hall." Gwasan- aethwyd gan y Parch. W. S. Jones, Llwynypia. Cafwyd cyrddau rhagor- ol a chynnulliadau lluosog. SILOAM. Dydd Sadwrn, Rhagfyr 27, un- wyd mewn glan briodas gan y Parch. J. Lee Davies, gweinidog yr eglwys, Mr. George Griffiths, mab Mr. a Mrs. Tom Griffiths, Glyn Road, a Miss Annie May Morgans, Dryslwyn House, Llandilo Road, merch Mr. a Mrs. David Morgan. Bendith ar eu huniad. LLWYDDIANT EISTEDDFODOL. Dydd Nadolig, ennillwyd y gwo- brwyon canlynol yn Eisteddfod Bryn Seion, Glanamman :— Unawd So- prano, yn nghyd ar her unawd, gan Miss Mary Davies; ennillodd her unawd yr un dydd mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghalfaria, Garnant. Haner y wobr cafodd Mr. Garfield Roberts ar yr unawd Tenor y tro hwn yn Eisteddfod Gwynfe. Yn yr un Eisteddfod ennillodd Mr. David Elias Evans, Park Street, dwy wobr, un am y draethawd, a'r llall am y llythyr caru. Felly hefyd gyda Mr. D. B. Thomas, Brownhill House; cafwyd yntau haner y wobr ar y pennillion a'r wobr flaenaf ar yr araeth ar y pryd, a'r ail am draethawd yn Llansadwrn. Cafodd Miss Rachel Davies y wobr flaenaf yn nghyd a'r ail yn y Garnant. Dyna hanes y Bryn mewn Eisteddfodau a gynhaliwyd .,dydd Nadolig. Credaf y gallwn fod yn llawen yn llwvddiant plant y Bryn.

jY Stori.I

Taith i Lydaw.1

ICaerfyrddin.I

Llwynybrwydrau. I

Advertising