Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. Blwyddyn Newydd Dda i ddarllen- wyr ieuainc y "Darian?" A ydych yn cofio am danoch yn yr ysgol un di- wrnod yn ysgrifennu, ac wrth nesu at waelod y ddalen yn rhyw hanner <leimlo nad oeddech wedi gwneud eich goreu? Wrth edrych dros eich gwaith gwelech ami i lythyren wedi ei hysgrifennu yn ddiofal, ambell i air heb ei sillebu yn gywir, ac ambell i ysmotyn o inc yn anurddo'r cyfan. Mor dda oedd gennych gael dechreu dalen newydd wen a glan! Mor dda cael cyfle newydd i wneud yn well Mae symud o un flwyddyn i un arall yn debyg iawn i droi dalen mewn llyfr ysgol. Wele'r flwyddyn 1914 ar ddyfod atom yn wen a glan-heb air allan o'i le ynddi, na'r un ysmotyn <lu. Ni sydd i ysgrifennu arni-yn dda neu yn wael. Dyma gyfle newydd i ni i dreio ein goreu. Hoffwn awgrymu i blant Cymru un ffordd i wneud y flwyddyn hon yn well na'r un o'r rhai blaenorol. 'Rwyf am i chwi-yn enwedig chwi blant y trefi a'r gweithfeydd-siarad mwy o Gymraeg nag a wnaethoch erioed o'r blaen; ei siarad ar yr aelwyd, wrth gwrs, a'i siarad hefyd bob cyfle gewch wrth eich cymdeithion ar yr heol ac ym maes chwareu yr ysgol. Dyna beth hyfryd yw clywed plant a phobl ieuainc yn medru dwy iaith yn dda! Nid pawb all wneud hynny. 'Rwy'n adnabod llawer o bobl mewn oed na fedrant, er treio eu goreu, ac er dysgu am flynyddau, siarad mwy nag un iaith yn groew a chywir. Mae clywed un gair o'r iaith newydd o'u genau yn ddigon i brofi nad honno yw eu mamiaith. O'r ochr arall, mae Ilawer i Gymro a Chymraes ieuanc yn ein hysgolion yn gallu siarad Cymraeg fel Cymry a Saesneg fel Saeson. Nid peth bach yw hynny. Nid peth dibwys chwaith yw hynny i Gymru fel y danghosaf rywbryd eto. Eto 'rwyf am i chwi ddarllen mwy o lyfrau ac o bapyrau Cymraeg. Ceisiwch gan eich tad a'ch mam roi y rhai hyn yn eich cyrraedd, rhai gaw- sant hwy rywbryd yn ddiddorol, neu rai ereill wyddant am danynt. Byddaf am i chwi ateb cwestiwn ynglyn a hyn cyn hir. Mae Dydd Calan wedi mynd. I blant y wlad, hwn yw dydd mawr y flwyddyn. Ant o dy i dy, o un ffarm i'r Hall i ofyn am galennig, rhai a gwir angen arnynt, eraill heb ond angen difyrrwch. Gwna plant Sir Forgan- wg rywbeth tebyg gyda'u carolau cyn y Nadolig. Wele i chwi bennill adroddir weithau o flaen y drysau gan blant Sir Aberteifi "Dydd Calan yw hi heddyw I ddyfod ar eich traws I mofyn am y geiniog Neu doc o fara chaws; 0, peidiwch bod yn sarug Na newid dim o'ch gwedd, Pan ddaw dydd Calan nesaf Bydd llawer yn y bedd." Gwelaf yn rhai o'r almanaciau mai ar Ddydd Calan yn y flwyddyn 1722 y ganed Cymro o'r enw Goronwy Owen. A wyddoch rywbeth am dano? Os na, holwch eich rhieni. Os na fedrant hwy ddweyd dim, holwch eich athrawon. Yna ysgrifennwch lythyr i mi yn rhoi yn fyr ei hanes. Ca'r llythyr goreu ymddangos yn y Golofn hon. Cyfeiriwch eich llythyr- au i "M. Colofn y Plant, Swyddfa'r Darian," Aberdar.

Nodion o Frynamman.

jY Stori.I

Taith i Lydaw.1

ICaerfyrddin.I

Llwynybrwydrau. I

Advertising