Hide Articles List

7 articles on this Page

Jiwbili yn Nhabernacl, | Treforis.!…

News
Cite
Share

Jiwbili yn Nhabernacl, Treforis. Cyfarfod i'w Gofio.. Eglwys Annibynwyr sydd yn y Taber- nacl, ond y mae yn Eglwys Ymneilldu- wyr hefyd. Fel y cyfryw y mae ei llwyddiant, ei phwysigrwydd, a'i dylan- wad yn destun llawenydd a diddordeJb, nid i'r Annibynwyr yn unig, ond i Eglwysi Rhyddion eraill yn ogystal. Cyfrifir y Tabemacl y capel goreu yng Nghyraru. Y mae ei dwr pigfain, uchel, yn weledig o bell, ac yn ein hadgofio fod crefydd ysbrydol yn allu yn nhref y simneiau a'r mwg. Dichon y cawn air gan rywun am y cyfarfodydd eraill; y cyfarfod y cefais i'r fraint o fod yn- ddo oedd yr un nos Wener. Y mae mynd trwy ddrws y Tibernael yn ysbrydiaeth. Teimlir fod popeth yno fel y dylai fod. Yn ddiau pen saer celfydd a'i cynlluniodd. Ei odidowg- rwydd yw symldra gweddus a chwaeth dda. Ceir ynddo le eistedd i 1,800 o bobl, a dywedir fod cynifer a 3.000 ar adegau wedi cael lie ynddo. Yr oedd yn llawn y noson hon, a llu o ddynion o nod a gweinidogion y cylch yn bresen- nol. Y gweinidog presennol yw'r Parch. W. Emlyn Jones. Golwg dywys- ogaidd oedd arno ef yn dod i fewn. fel y gweddai i un ar ol deugain mlynedd a lafur yn yr un lie mewn eglwys bwys- ig. Hardd oedd merched y cor yn eu gwisgoedd gwynion wedi dod yno i ganu uwch bedd y ddyled. Llvwydd- wyd y cyfarfod gan y boneddwr rhadlon Mr. T. J. Davies, U.H., Llawenychai ef wrth weled cynifer o wyr o nod wedi dod ynghyd. Talai deyrnged uchel i'r gweinidog. Clywsent yno ddynion en- wog o bryd i'w gilydd, ond neb a hoffent ei glywed yn fwy na'r Parch. W. Emlyn Jones. Breintiesid y Tabernacl a gweinidogion a wnaent yr eglwys yn ffynhonell o allu a dylanwad yn yr ar- dal. Y cyntaf oedd Thomas Jones, an- farwol ei goffa, a thad Brynmor, Vir- iamu, Irfonwy a Lief Jones. Ar ei ol ef daeth "Herber" fawr ei ddawn-gwr fu'n Gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru. Yn 1869 daeth y Parch. W. Emlyn Jones atynt, a chawsent ef yn fugail tyner ac yn dywysog ymhlith pregethwyr. Safai y Tabernacl yn golofn goffa i'w lafur a'i ymroddiad ef. Crybwyllwyd am John Humphreys, archadeiladydd, a'r Taber- nacl oedd yr esboniad goreu ar ei chwaeth a'i fedr yntau. Rhyw ddau o'r hen bererinion oedd yn aros gyda hwynt, yn wir yr oedd yr ail-genhedl- aeth yn cyflym ddiflannu. Chwenych- asai llawer o honynt weled Jiwbili'r TaJoernacl, ond ni welsant. Cawsent hwy oedd yno fyw i weled y Tabernacl hardd yn glir o ddyled. Llawenychent hefyd wrth gadw jiwbili yng nghyflwr llewyrchus yr eglwys. Ceid yno dorf o bobl ieuaine. Yr oedd eu cor cystal ag yn nyddiati D. Francis ac Eos Morlais. Yn enw Ymneillduaeth dywedai y myn- nent gydraddoldeb crefyddol a phob eglwys yn y wlad yn eglwys rydd. Y nesaf i siarad oedd Arglwydd Pontypridd. Bu efe fel arfer yn ffydd- Ion i'r Gymraeg. Y mae'n ddiddorol sylwi fel y mae dynion fel* hyn yn cael cymeradwyaeth y dorf pan ddeallir mai yn yr hen iaith y maent yn mynd i siarad. Nid yw calon y bobl wedi gwyro yn y mater hwn. Teimlai Ar- glwydd Pontypridd y byddai yn werth dod yno o Gaerdydd pe i ddim ond i glywed y cor yn canu. Llonder i'w galon oedd gweled yno deml mor dlos a honno bellach yn rhydd o ddyled. Ond er hardded y lie yr oedd angen rhyw- beth mwy. Nid oedd yr adeiladau gweledig ond megis pyrth i'r deml ys- brydol. Yn yr eglwys o'i mewn yr oedd gogoniant y deml. Cadernid gwlad oedd ei chrefydd. Nis gellid dirnad gwerth yr eglwysi i'r wlad. Nid oedd allu tebyg i'r eglwysi i gadw trefn a heddwch. Ceisiai ddychmygu weithiau am gyflwr y wlad hebddynt. Llanwent le mawr ym mywyd cymdeithas, ac ni charai feddwl am y aefyllfa pe tynnid yr eglwysi allan o'n bywyd. Llongyfarch- ai Eglwys y Tabernacl ar y cewri a gawsent i'w gwasanaethu-pregethwyr mwyaf Cymru. Cyfeiriodd yn garedig, at Syr D. Brynmor Jones, a dywedai nad oedd wedi cael y gydnabyddiaeth a haeddai oddiar law y Llywodraeth Yr oedd Mr. Willianf Jones A.S., Arfon, yn ei afiaith. Un o ddvnion hoffusaf Cymru yw efe, ac yn Gymro a gwennwr 01 wadn i'w gorryn. Fel ar- weiniad i fewn i'w araith cyfeiriodd yn chwareus at y ddau gyn-gadeirydd i'r Blaid Gymreig oeddent un ar boJb tu iddo, sef Arglwydd Pontypridd a Syr Brynmor. Nid yn ami, meddai Mr. Jones, y ceid Arglwydd yn medru siarad Cymraeg, ac nid llawer o Ar- glwyddi oedd yn Ymneillduwyr. A chyda golwg ar Syr Brynmor, nid mab i'w dad yn unig oedd efe; yr oedd yn wleidydd, hanesydd, a deddfwr o fri. Yr oedd yn dda ganddo fod yn y Taber- nacl ar y diwrnod mawr, a'u gweled wedi "prifio" ar y ddyled. Aethent yn basgedig wrth dalu llog. Cawsent bre- geth rymua yn y prynhawn gan y Parch. J. Morgan Gibbon, Cymro arall lanwas- ai Gadair Undeb Lloegr a Chymru. Yr oeddent yn falch o hono, ac yn falch o gyrhaeddiadau Cymry ymhob cylch. Cofiwch, er hynny, ebai Wm. Jones gyda phwyslais, ein bod yn falch o'n Cymraeg. Cyfeiriodd at gychwyniad Ymneillduaeth y cylch yn y Mynydd Bach, a llafur y tadau. Rhybuddiai bobl ieuainc Cymru nad anghofient lafur eu hynafiaid. Dechreuasent hwy eu gwath cyn bod Treforis, pan nad Odd dun ond ?" ambell betrisen i'w  yn y maes a bref dafad gyfeil- liiorr. ;,Chynh«ta- Dylai pob? ieu- ne wyha mL"⢠ hynafiaid-y d«wrioâ wnaX gymaint dros Gym- ru. fan yJn hogyn yn Sir Fon elai yn llaw ei fam i wrando ar Gwilym Hir- aethog, Dr. John Thomas, a John Grif- fith, y Gohebydd. Bu'r Gohebydd yn dathlu gwyl talu dyled Libanus, capel cyntaf Eglwys y Tabernacl, gyda Herber Evans. Cawsom ddesgrifiad doniol o'r Gohebydd fel siaradwrâCymraeg a pheswch a gair Saesneg bob yn all- Rydach chi wedi gwneud tremendws o waith yma, &c." Aeth y peswch ag ef adref yn rhy gynnar. Darllenner ei gofiant fel y gwybydder am waith a brwydrau'r tadau. Darllenner Hanes Cymru nid i aros gyda'r pethau fu, ond er eich mwydo a'r ysbryd. Yr oedd ganddynt orffennol godidog yn y Tabernacl. Yr Annibynwyr gych- wynasent Ymneillduaeth y cylch, a byddai galw arnynt i fod yn fwy unol yn y man fel y rhyddhaer Crefydd Cymru. Yr oedd Dadgysylltiad a Dadwaddoliad ar eu symud o diriogaeth dadlu a siarad i diriogaeth ffaith. Dyma'r mater y bu Herber, John Thomas, S.R., Lewis Edwards, Jones Felinfoel, Thomas Gee, a llu ereill yn llafurio o'i blaid. Nis gellid darllen hanes Cymru heb ddarllen hanes Ymneillduaeth. Saeson ac es- troniaid arferent ysgrifennu ein hanes. Nis gallent wneud cyfiawnder a ni, ac nis gwnaethant. Bu Cymru yn hwy na'r un wlad arall cyn cael ei dynion ei hun i ysgrifennu ei hanes. Bellach gwneir y diffyg hwn i fyny. Rhaid mynd i lygad y ffynnon cyn y gellir gwneud tegwch a hanes gwlad. Dar- llenner cofiaonau pregethwyr mawr Cymru. Nid pobl anwybodus ac an- llythyrennog oeddent. (Nis gwyddent yr hyn wyr dysgedigion ein hoes ni, ond mynnent wybod popetb oedd ddichon- adwy ei wybod yn eu hoes eu hunain. Meddylier am Christmas Evans yn dysgu Groeg yn ei hen ddyddiau, ac ym- drechion tebyg o eiddo John Elias ac eraill o'r cedyrn. Aeth y bobl hyn a Rhamant, a Drama, a Barddoniaeth Cymru i'r pwlpud a'r oil wedi eu mwydo yng nghrefydd Crist. Dynion fel y rhai hyn wnaeth Gymru. Yr ydym yn ddy- ledus i Ymneillduaeth am ein canu; ni fu llun ar ganu cyn ei chyfodiad hi. Daethai rhai o dermau goreu y Gym- raeg o gerddoriaeth. Daeth "cywair" yn ddefnyddiol mewn llawer cylch- cyweirio ty, cyweirio gwair, a ieir v mynydd, medd Ceiriog. yn cyweirio menyn. Engraifft arall oedd yr erwydd," darn o ystyllen oedd hwn wedi ei lyfnhau, a phum llinell arno a nodau ar y llinellau a rhyngddynt. Yn I ol hwn y cenid i fyny ac i lawr "yn ol yr erwydd." Tra'r elai'r Saeson i chwilio ieithoedd eraill am pro rata, in proportion, etc., gwnai'r Cymro bopeth yn hwylus yn "ol yr herwydd." Pregethid "o her- wydd, &c." Gwnaethai Ymneillduaeth lawer dros ddiwylliant y werin. Clywsai fod yma ddarllenwyr a llenorionâdyn- ion yn arfer trin pynciau. Tuedd ych- wanegai at nerth a chymeriad cenedl oedd hon. Nid, oes dim fel trin. pync- iau. Gwawdid Germani un adeg am fod y bobl yno'n gwastraffu eu hamser i drin pynciau, ond hyp wnaeth y wlad honno'n fawr-" The philosophers of Germany became great practical edu- cationists." Nid dyn dwl wna fas- nachwr mawr, neu beiriannwr mawr. Darllennwch Gymraeg. Darllennwch Saesneg a ieithoedd eraill, ond nac anghofiwch ddarllen Cymraeg. Dar- Ilennwch awduron goreu'r Saeson, ond darllenwch hefyd weithiau Daniel Owen a Llewelyn Williams. Yr oedd dynion ieuainc yn hoff o chwareu a'u chwareu- on yn gyfreithlon, ond dylasent ofalu am y meddwl. Ysbryd a meddwl ddylasai lywodraethu'r cnawd, a difyn- nodd frawddeg-" Boed i'r ysbryd serio'r cnawd, fel bo byw y cnawd." Hatling y wraig weddw, yn bennaf, sydd yn talu dyledion. Eiddo'r bobl yw yr eglwys. Peidiwch ofni beirniad- aeth. Yr ydym ar waelod ddeil storm pob beirniadaethâDemocrataeth Crist. Y mae her y byd i grefydd yn deyrnged i'w gwerth. Gall y byd godi cywilydd ar grefyddwyr gwael, ond byth ar y gwir Gristion. Ni fedr beirniadaeth ddileu ffaith. Peidiwch bobl ieuainc a throi ar anwybodaeth ambell hen wr sydd a'i brofiad yn fwy na'ch gwybod- aeth chwi. Gwaith gweinidog yw cynorthwyo meddyliau gonest i fynd trwy'r cwmwl. Nac ofnwch y beirniaid anfoddog (cynics). Y mae mynyddoedd daflent allan dan unwaith erbyn hyn yn taBu allan ddim ond baw. Rhai felly yw'r beirniaid anfoddog. Poerant ar bo- peth. Eweh yn ol er mwyn mynd ymlaen. Ni raid ofni y bydd chwerwder ysbryd pan wneler holl Eglwysi Cymru yn rhyddion. Hawlia ysbryd aflonydd yr oes nid goddefiad yn unig, ond Ilawn gydraddoldeb a rhyddid. Ar ffeithiau crefydd y deuai't byd i ymorffwys. Pan gyfarfyddai ef ddynion ieuainc mewn anhawsder, cyfeiriai hwy yn y lie cyntaf, nid at grefyddwyr mawr, ond at ddynion mawr o'r byd-dynion oeddent alluoedd elfennol yn y byd. Ceisia gan amheuwyr ieuainc wrando ar yr hyn ddywedant hwy am grefydd. Adgofia hwy o'r ymddiddan rhwng Napoleon a'i swyddogion-y swyddog- ion yn gwawdio Cristionogaeth a Napo- -leon yn ateb-iddo ef ac eraill sylfaenu teyrnasoedd i fyned heibio, ond fod y dyn hwn-Iesu o Nazareth-wedi syl- faenu teyrnas, nid ar bethau materol ond yng nghalonnau dynion. Gallai gyfeirio eto at Goethe yn un o'i weithiau wedi benthyca'n helaeth o lyfr Job. Dywedai Goethe ei fod wedi dar- llen llawer o lyfrau, ond mai'r Beibl oedd yr unig lyfr a'i darllennai ef. Awgrym buddiol iawn oedd am i bobl ieuainc beidio darllen y Beibl gydag eshoniad arno ar y dechreu. Darllenner y llyfr ei hun. Llyfr eneid- iau byw ydyw, yn ein dwyn i wyddfod yr anweledig. Dod i'r gyfrinach yma wnaeth Hiraethog a John Elias yn nerthol. Am y miloedd dan weinidog- aeth yr olaf y dywedai Hwfa Mon: Trwyddynt 'roedd nerth yn treiddiaw, j Wedi'i ddwyn o'r byd a ddaw." Gofalai Ymneillduaeth am fyd y corff yn costal a byd enaid. Hi god- odd ein hysgolion a'n colegau. Cref- ydd rydd sydd eto i benderfynu cwestiynnau cymdeithasol, ac i wneud dynion yn un frawdoliaeth fawr. Un o'r golygfeydd harddaf a gofiai mewn ¡ eglwys oedd hen saer yn disgyblu y bon- eddwr mwyaf oedd yno, a hwnnw yn ei ddagrau dan yr oruchwyliaeth. Nid oedd galluoedd o'r tu allan i lesteirio egwyddorion bywyd ysbrydol yr eglwys. Y mae yr eglwys i lefeinio'r wlad fel y byddo dyn fyw er mwyn cymdeithas.â Cedwch eich ffydd. Dyna grynhodeb amherffaith o rai o'r areithiau. Rhoddwn yn y rhifyn nesaf grynhodeb o areithiau Brynmor a Llewelyn Williams. Addawodd y cyfaill Treforfab anfon i ni grynhodeb o'r cyf- arfodydd eraill. Hyderwn y deuent i law mewn pryd i'r rhifyn hwn. (I barhau.)

IAr y Twr yn Aberdar.

Ferndale.

?*?"?**''? ' .....  Mountain…

Gwahannod Llyfroniaeth yI…

————————I…

Advertising