ο»Ώ I Nodiadau'r Golygydd.I i|1914-01-08|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

I Nodiadau'r Golygydd.I i

News
Cite
Share

I Nodiadau'r Golygydd. I Dyma flwyddyn newydd eto wedi gwawrio arnom. Pwy a wyr beth a'i erys cyn ei diwedd? Dyma dymor yr addunedau a'r penderfyniadau—llawer o honynt i'w hanghofio'n fuan. Ein perygl efallai yw mesur ein hamser yn flynyddoedd ac nid yn ddyddiau ac yn oriau. Nid beth a wnawn yn ystod blwyddyn ddylasai fod yn gwestiwn i ni, ond beth a wnawn yn ystod y dydd—yn awr. Y mae'r flwyddyn yn hir i edrych ymlaen ati, ac yn ein tueddu i oedi, gan gysuro ein hunain fod gennym ddigon o amser at ein gwasanaetli. Bydd,oedi a diogi yn golled, yn ein hanghymwyso i ddal ar gyfleusderau, ac yn peri ein { bod ar ddiwedd y flwyddyn yn siomedig. Priodol ar ddechreu blwyddyn fyddai troi i'r Hen Lyfr ac at ddameg y gweis- ion a chofio tynged y gwas drwg a ddy- wedai yn ei galon—Y mae fy Arglwydd yn oedi dyfod. j Diolchwn am y llongyfarchiadau a gawsom ar ymddangosiad ein rhifyn cyntaf o'r Darian. Y mae arnom angen cynorthwy yn ogystal a llongyfarchiad- au. Y mae rhai eisioes wedi gwneud yn rhagorol, ac yr ydym yn diolch o galon iddynt. Amcanwn at wneud y Darian yn Bapur yr Aelwyd Gymreig-yn bapur i'r plant a'r bobl ieuainc. Ar gyfrif hyn gwelir ein bod yn ceisio tawelu'r ystormydd a'r ymrafaelion. Ymdrecher ar i bob dadleuaeth fod yn foneddig- aidd ac yn adeiladol. Ymdrecher am y I gwir ac nid y gair ola mewn dadl. j Blwyddyn gofiadwy fu'r un a'n gadawodd am ei haneswythdra, ei rhyfeloedd a'i thrychinebau. Y peth goreu, yn ddiau, ynglyn a'r amseroedd diweddaf yw anesmwythdra'r bobl. Yn hyn v mae gobaith y byd. Nid da yw fod y bobl yn cysgu yn en darostyngiad. Pe cysgent. cysgu gaent, a rhywrai yn effro iawn yn manteisio ar eu difater- wch. Dichon y gwnant gamgymeriadau wrth ddeffro a pheri anghyfleustra i lawer a chodi rhagfarn. Ond cofier eu bod wedi cael cam yn eu cwsg. Deffro- ant i sylweddoli eu bod yn bur dlawd ac eraill wedi manteisio yn annheg arnynt. Edrychwn yn ojbeithiol ar ddeffroad y werin am y credwn mai crefydd, addysg, a diwylliant sydd yn ei achosi. Am- mhosibl yw i ddylanwad y pethau hyn fod er drwg. Crefydd yn bennaf—meddwl Iesu o Nazareth sy'n deffro'r bobloedd. Nid yw addysg a diwylliant ond ffrwyth y Deyrnas sydd megis lefain yn y blawd. Gwyddom fod addysg a diwylliant uchel ymysg cenhedloedd nas clywsant am Grist, ond y mae'r addysg a'r diwylliant a ffynnant lie mae adnabyddiaeth o hono Ef o nodwedd uwch a gwahanol i'r addysg a'r diwylliant a gynhyrcha, unrhyw grefydd arall. Diddorol i ni yw perthynas eglwysi'r wlad a deffroad cymdeithasol y bobl- oedd. Gwyddis fod condemnio lawer wedi bod arnynt ar y naill du, ac am- ddiffyn dewr o'r tu arall. Yn mwg a than y frwydr methai llawer a dirnad beth oedd yn digwydd. Proffwydai rhai fod dyddiau'r eglwysi wedi eu rhifo; daliai eraill fod oes euraidd eu dylanwad a'u llwyddiant eto ymlaen, ac yr oeddem ninnau o nifer y rhai hyn. Bydd raid i'r byd wrth eglwys. Gall yr eglwys ddirywio a mynd yn anheilwng o'i galwedigaeth, ond nis gellir gwneud i ffwrdd a hi. Ymhob chwalfa ar yr hen, eglwys newydd gyfyd, a honno ryw raddau yn uwch ar Iwybr cynnydd, ac y mae yr hen hefyd yn well o'r chwalfa. Nid oes dim arall fedr gymeryd lie eglwys. Y mae ymlyniad y bobloedd wrthi yn broffwydoliaeth mai o'r y&- brydol a'r anweledig y daw'r gallu a wna ddynion yn un frawdoliaeth fawr. Er mor fendithiol waith yr Undebau Celf, ni wnant yn lie eglwys. Nid hir y Jboddlona dynion heb addoli, a thyn addoli hwynt 6 angenrheidrwydd ynghyd. Ar y tir hwn yr adwaenant eu gilydd yn frodyr a chyfyd eglwys. Ein barn yw fod yr eglwysi wedi gwneud mwy nag a dybiasant a'u bod yn hwyrfrydig i adnabod, i arddel nac i weled posiblrwydd eu gwaith a'u llafur eu hunain. Pwy fu mor egniol o blaid addysg, diwylliant, a thegwch a chyf- iawnder a hen bregethwyr Cymru? Pwy gyhoeddodd mor groew urddas ddynoliaeth? Bu llawer, ysywaeth, yn hwyrfrydig i adnabod ffrwyth eu Ilafur yn y deffroad. Diau i gyndynrwydd ac arafweh rhai eglwysi suro a digio llawer. Erbyn heddyw y duedd yw cydnabod llafur yr eglwysi ac apelio atynt. Y mae yr eglwysi eu hunain hefyd ar y cyfan yn .cael eu traed o danynt. Ymddengys y bydd llu o'n gweinidogion ieuainc yn y man yn olynwyr teilwng i'r tadau gynt mewn brwydrau o blaid rhyddid y werin a'i dyrchafiad.

Bwrdd y Golygydd.

iHWNT AC YMA. !

IAt Gymry'r Cyngrair.

Nodiadau am y Sydd.