ILlythyrra Sion Sana.I|1914-01-08|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I

Cymry Cymreig AbertridwrI

Soar, Aberdar.I I- I

Advertising

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant.

ILlythyrra Sion Sana.I

News
Cite
Share

Llythyrra Sion Sana. 01 Trad yn yr Eira. Mishdir Golycudd,— Mi ges i achos i gofio bora dydd Llun diwetha nag on i ddim wedi ewnni'n fora ys blynydda. Cofiwch chi, wi ddim yn un o rheiny sy'n ddicon digwiddyl i aros yn y gwely hyd hannar dydd. 'Dyw wyth o'r gloch byth yn dala Sion yn i wely. Wi ddim yn cal bias ar y gwely ar ol saith o'r gloch, a ddylsa neb arall sy'n iach gal bias arno chwaith. Fyswn i'n cwnni'n gynt, ond fysa fa ddim dipan i fi waeddi "Sana" lawer cyn deg o'r gloch. A wir, golwg ddicon comon sy ar amball un yn dwad i'r hewl yr amsar hynny. Wi'n cretu bysa rhai yn achwyn llai ar yr hen fyd yma tysan nhw yn gwpod shwd i neud gwell defnydd o'r bora. Odd raid i fi gwni'n fora dydd Llun i fynd i daith bell. Pan agoras i'r drws am bump o'r gloch, rodd y byd yn wyn gan eira! WPn hoff o eira er pan on i'n blentyn, a rodd yn dda gen i weld e unwaith yto. Ma fa'n dod ag adgofion melus i fi am y dyddia gynt-dyddia diniweidrwydd a whara. Ma atgof am gyfnod ar fywyd sy mor wyn a fynta yn dwad gyda'r eira. Alia i ddim pido meddwl am dano fa fel rhyw gennad dros yr hyn sy'n bur a glan. Tra ma fa'n ein cofio ni am baratws dechra'r daith ma fa'n cwnni awydd ynon ni am baratws ar i diwadd hi hefyd. Ma fa'n broffwydoliath o wlad sy'n wen a glan i gyd-gwlad sy'n wyn- nach a glanach na'r eira. Otich chi wedi sylwi mor hardd yw'r coed, a'r rhetin a'r glaswallt a phopath mwn gwisg o eira. Ma nhw fel rhyw ffurfia ar farmor, ond u bod nhw'n wynnach na'r marmor ag yn geinach Ita dim alia llaw dyn i gerfio. Wi ddim hejb gofio nag yw pawb ddim yn gallu croesawu eira fel fi. Ma fa'n peri oerni ag anghysur i lawar. Nid ar yr eira ma'r bai am hynny. Fe ofynnir i rywrai ryw ddydd-Pam oech chi'n i gneud hi'n amhosib i'ch brotyr i fwyn- hau eira? Fe wetir hefyd wrth rai- bysach chi wedi gofalu am danoch ych hunen yn well, fysa arnoch chi ddim of an eira. Pan es i mas i'r eira, on i'n meddwl taw fi fyse'r cynta i fynd trwyddo fa, ond wir odd llawar wedi bod o mlaen i. Ma rhai'n mynd a dod pan fydd y lleill yn cysgu. Odd crots wedi mynd i'r gwaith, a ol u trad nhw'n gwed u bod nhw'n ifanc a chwareus. Odd lot o stori u bywyd nhw yn yr eira. Dysgwch wers, mechgyn i, orwth i wyndra fa. Pidwch a gatal i ddrwg y byd lych- wino'ch cymeriata chi fel bydd yr eira wedi i dduo gan lwch a llaid yn fuan iawn. On i'n gweld of trad un odd yn gryf a hoyw'i gamra; gobitho fod i fywyd a'n wyn yn gystal ag yn gryf, a bydd a'n leico gweld eira pan fydd a wedi mynd yn hen fel fi. Odd un dyn cloff wedi cered trw'r eira. Odd y byd ddim wedi bod yn wyn i gyd iddo fe dan anfantas fawr odd a wedi cerad trwyddo. Gobitho fod yr eira yn gneud iddo ddishgwl ymlan am fyd lie gall ynta gerad heb gloffi. On i'n gweld ol trad arall, wi'n suwr fod perchan y trad hyn yn hen ag yn diodda orwth ddiffyg anal hefyd. Odd i gam a'n fyr, a rodd a'n sefyll witha i gal i wynt. On i'n timlo'n flin fod yn rhaid iddo fa fynd mas i'r eira am whech o'r gloch y bora. Mae'n rhyfadd gen i os na fydd yr eira wedi helpu hwn i ben i daith yn gynt. Gobitho fod gwyndra'r eira yn cwnni gobeithion gwyn yn i fyn- was ynta. Alia i ddim llai na meddwl fod yr eira wynnodd ddiwadd a dechra blwyddyn yn arwydd er daioni. Blwyddyn wen fo'r flwyddyn newydd, a'r Darian yn loeyw a glan ar i hyd.—Yr eiddoch yn gywir, I SION SANA. j

Bethesda, Abercwmboi.

Bethlehem, M.C.j Mountain…

Advertising