Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I

Cymry Cymreig AbertridwrI

News
Cite
Share

Cymry Cymreig Abertridwr I Cyfarfu'r Cymry hyn nos Sadwrn, Rhaf. 27ain. Cafwyd amser diddan gyda'r delyn, a'r telynor Eli Davies, Nantgarw, a'i fysedd ar ei thannau. Yr oedd y berdoneg hefyd mewn hwyl, a chyda'r telynor bu B. Williams, Heol- y-brenin, a Morris Lewis, Bryn Gelli, yn trin yr offer cerdd. Y gwr yn y gadair oedd E. G. Davies, gweinidog Eglwys Abertridwr; efe yw Esgob y Cymry Cymreig, ac y mae yn aiddgar dros ei iaith, ei genedl, a'i wlad. Cafwyd am- rywiaeth mewn canu penhillion ac un- awdau. Rees Thomas, yr Aber; Bryn- alaw, Caerffili; a T. Griffiths, Aber- tridwr, a swynent y cyfarfod gyda'r pethau hyn. Papur cynhwysfawr gafwyd gan G. Roberts, Salem, ar Senghenydd Hynafol." Cynhulliad o lowyr gan mwyaf wrandawent arno, ond yr oedd yn deilwng o gynhulliad o ddysgedigion. Yn ystod" y cwrdd siaradodd Miss Ilda James, Senghenydd, un o Gymry gwladgar yr ysgol ddyddiol, a sel dros ei hiaith yn fflam. Daw ein hysgolion yn y man yn feithrinfa gwladgarwch pur. Codwn ein calon, mae'r Gym- raeg i gael ei lie. Cerdd ymlaen wlad- garol dan, cymer yma feddiant glan- hyn, ni a gredwn, oedd arwyddair y cyf- arfod. Cafwyd gair hefyd gan Tom Day, Morgan Davies, Dan Davies, a Mrs. Margam, Abertridwr. Dyma'r ffordd i godi'n hen wlad. Gwran- dawer beth ddywed yr Archdderwydd am y delyn Dychwelwch hen delyn fy ngwlad yn 01, I ddysgu caniadau angylion Paham y bu gwladgar awenau mor ffol A'i gollwng i grwydro'n afradlon ? Dychwelwch y delyn i fri a mawrhad, Gwaherddwch i neb ei bychanu, Dychwelwch hi'n ol i aelwydydd y gwlad A dysgwch y plant i'w chanu." DEWI AUR. I

Soar, Aberdar.I I- I

Advertising

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant.

ILlythyrra Sion Sana.I

Bethesda, Abercwmboi.

Bethlehem, M.C.j Mountain…

Advertising