Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Colofn y Beirdd.I
Colofn y Beirdd. I Anfoned ein cyfeillion barddol eu -eynyrehion i'r Hendre, Pontypridd. AT Y FRAWDOLIAETH FARDDOL. Gyf eillion,- Dyma fi unwaith eto yn ymgymeryd a Golygyddiaeth y Golofn sydd wedi ei neilltuo i chwi o dan yr oruchwyliaeth newydd. Mae yr hen ddiareb yn dweyd mai hawdd yw cynneu tan mewn hen aelwyd." Mae yn y golofn hon "hen aelwyd" i mi, ac nid yw lludw ei than wedi oeri, er fod llawer blwyddyn wedi myn'd heibio er pan y rhoddais y procer ddiweddaf o dan yr alch. Bum yn golygu Barddoniaeth y Darian am dros chwarter canrif, ae nid fy mai i ydoedd am na fuaswn wrth y gwaith hyd y dyddiau diweddaf hyn. Dim ond Dafydd Morganwg a minnau sydd wedi bod yn eistedd yn swyddogol yng Nghadair Farddol y Darian. Dafydd gychwynodd ar y gwaith gyda'r rhifyn cyntaf, a'i ddisgybl a'i dilynodd hyd nes gollyngwyd y beirdd yn wyllt i'r anial- wch. Bum yn ymffrostio fy mod wedi codi cenedlaeth o feirdd yn ystod yr amser y bum a gofal y Golofn Farddol arnaf. Adeg doreithiog am feirdd ieu- ainc oedd hi pan ymgymerais a'r gorchwyl gyntaf. Yr oedd pob cwm- mwd o Ddeheudir Cymru yn tyfu beirdd, ac ambell ardal yn eu tyfu "ar -eu canfed." Mae rhai o fy nisgyblion cyntaf, erbyn heddyw, yn feirdd cenedl- aethol, a chadeiriau a choronau yn llanw eu hystafelloedd, ac yn pwyso yn drwm ar eu pennau. Hoffus gennyf fod rhai o'm die- gyblion gynt wedi esgyn i safleoedd uchel yn y byd barddol; onl hoffusach gennyf fod cynnifer o honynt wedi ennill safleoedd anrhydeddus, wrth draed yr arweinyddion cenedlaethol. Yn y mwyafrif y mae ymffrostio, gall y lleiafrif fyw wrth i mi ymfalchio yn- .ddynt. Pan yn ymgymeryd a'r gwaith y tro hwn, dichon y dylwn roi ychydig o aw- grymiadau i'n cyfeillion barddol. Nid wyf yn sicr y bydd y porth mor Ilydan ag y bu yn ddiweddar. Lies y Darian a lies y beirdd fydd mewn golwg os y cul- .heir ef. Rhaid yw gwyntyllu os am gael y grawn o blith yr us. Rhaid i feirdd gripian cyn cerdded, fel pob cen- edlaeth arall. Rhoi help Haw i'r rhai fydda yn cripian fydd fy mleser mwyaf, ac os bydd ambell un yn teimlo ei fys .awenyddol yn briwio o dan yr oruchwyl- iaeth hono, gallaf sicrhau mai mewn cariad at y gwaith y gwneir hynny. Dymunaf nodi y byddaf yn disgwyl ar y testynau yn ogystal a'r farddas. Gocheler testynau lleol, eyn belled ag y byddo yn bosibl. Bydd y porth yn gyfryngach i'r cyfryw nag i un math arall. Ni fydd y ddor yn gwbl gauedig i'r rhai hynny, ond byddaf yn hawlio mwy o deilyngdod ynddynt, nag mewn un ansawdd arall. Hoffwn gael ein beirdd ieuainc i dalu sylw arbennig i'r odlau. Nid oes un esgus dros barchu rhai llinellau yn fwy na'u gilydd mewn odl. Dysgodd Daf- ydd Morganwg ei oes ef i odli yn drefnus, a bum innau yn ceisio ei ddilyn; ac nid wyf am newid y drefn a ddysgwyd gennym ein dau. Mae yn wir fod llawer o'n beirdd goreu wedi mynd yn druenus o esgeulus gyda'r odlau mewn mesurau rhyddion, ac nid yw yn rhyfedd fod beirdd ieuengach a llai profiadol wedi mynd ar gyfeiliorn wrth eu hefelychu. Ni chwareuir ys- tranciau felly gyda'r odlau yn y Mesur- au Caethion, a phaham ynte y eymerir y fath benrhyddid gyda'r mesurau thyddion? Gwisger y farddas mor ddillyn ag y medrir: mae digon o ad- noddau yn yr Iaith Gymraeg i wneud hynny. Dyna ni yn awr mewn ffordd i ddeall ein gilydd. Dymunaf grybwyll i mi gael yr holl gnawd barddol oedd yn y Swyddfa o dan yr hen oruchwyliaeth i'm llaw, a chan mai y "cyntaf i'r felin gaiff falu" yw y drefn, ysgubau y cnwd hwnw, gaiff sylw yr wythnos hon. A gaf fi ofyn i'm holl gyfeillion bardd- ol ar hyd y wlad am gefnogaeth i wneud y golofn hon cystal, os nad gwell nag un arall yng Nghymru. Fe ellir gwneud hynny gydag ychydig ymdrech. Feallai na byddai yn ormod i mi ofyn i rai o'm hen ddisgyblion anfon ambell bill er mwyn yr amser gynt." Byddai eu cyfarch unwaith eto yn fwynhad mawr i mi. Anfoned y dechreuwyr, a'r rhai "doff o glun" eu cynyrchion yma yn hyderus. Os na ddaw eu gwaith i fyny a'r safon, ni ollyngaf hwynt heb eu bendithio a gwersi. Os y gwelaf y gwael a'r gwych yn glymedig mewn -englyn ymdrechaf eu gwneud yn berth- ynasau agosach. Os y gwelaf fardd ieuanc yn amcanu yn dda, ac yn methu, rhoddaf ef ar ben y ffordd i wneud gwell gwaith rhagllaw. Dyna ddigon o awgrymiadau bellach. Cyn agor y sypyn sydd o fy mlaen, dy- munaf flwyddyn newydd ddedwydd dda i holl feirdd y Darian, a derbynied pawb arall yr un dymuniad o galon. Yr eiddoch yn wladgar, Nos Nadolig. BRYNFAB. Byrder Einioes.-Cymeradwy ddigon. Bu rhaid newid ambell air a ffurf. Odlau gwallus yw Beibl a chwedl. Nid yw y pennill olaf cystal a'r lleill, pan y dylasai fod yn well. Y Teiliwr.—Englynion desgrifiadol. Yr oedd ychydig aneglurder yn aillinell yr englyn hlaenaf. Rhoddwyd pelydr newydd ami. Mynwent Blaenplwyf.-Pennillion ys- twyth ddigon, ond nid oes crefft ar yr odli. Cymered yr awdwr yr awgrym erbyn y tro nesaf. Yr Adnod a Ddysgodd fy Mam.Can ragorol. Rhagor o fath hon, gyfaill, gydag odliad gwell. Y Crwydryn.—Cywydd gwych. Gresyn ei fod yn diweddu mor ddiymadferth. Syllu'n Wahanol. Can sylweddol dros ben. Ond newidiwyd ambell air a llinell ynddi. Swyn yr Hydref.—Pennillion tlysion. Ar y Traeth.—Telyneg dlos, ond cof- ied yr awdwr na fuasai yr Athro o Fan- gor yn arbed ei fflangell ar y gair "mur- rauro," ac nad arbedaf finnau hi ar "gyfrinion cyfrinachol." Ceisiwyd os- goi y trychinebau hynny. Y Llwybr yn y Wiad.-Telyneg dlos eto. Cadw'n Hiaith yn Fyw.—Can a hwyl a "mynd'd yn iawn ynddi. Ond go- ddefer i mi ddweyd y dylech ochel am- bell air, megys "derch," ac un neu ddau arall oedd yn y gan. I'r Swyddfa :-Murmurydd, Tywi Evans, T. H. Lewis, Jason Jones, Aronfa Griffiths, Cilhiryn. Y TEILIWR. Y teiliwr sydd at alwad-N- werin, A'i harwr yw'n wastad; 'E drwsia lu dros y wlad, A dylai gael ei daliad. Hwn fratha lain o frethyn-a'i nod- wydd Dyn edau i'w chanlyn; Urddwyd hwn i harddu dyn, O'i garai hyd i'w goryn. Di-wallus gyda'i ellyn-ei linell, A'i lawnod a ddilyn; A dioed y daw wedyn Wisg go dda am wasg ei ddyn. Yn lledrwydd gwna ein llodrau,—a hugan 0 wegil i fferau; Di-ddiog, gwna gl6g yn glau, A beth wnaem heb ei bwythau ? J. JAMES (Cilheryn). Tylorstown. BYRDER EINIOES. I Einioes dyn sydd fel y cwmwl Welai'n teithio yn y nen; Pa le'r aeth 1 Nid yw o gwbwl « Yn ymdda-ngos uwch fy mhen. Beth yw einioes ? Tarth neu gaddug, Neu i gysgod tebyg yw; Hwy ddangosant mor ychydig Yw ein hamser yma i fyw. Beth yw einioes 1 LIong yn hwylio, Dacw hi, Ah! heibio aeth, Tra bum enyd yn ymgomio A hen gyfaill ar y traeth. Beth yw einioes? Teg flodeuyn, Yn y bore'n brydferth iawn Gwywo wna ar y glaswelltyn A bydd farw y prydnawn. Cyflym yw feI, gwenol gwehydd. Neu fel eryr ar ei hynt; Tebyg ydyw i redegydd, Neu fel awel chwim o wynt. Fel diwrnod, medd y Beibl, Yw yr einioes fwya'i hyd; Megys un yn adrodd chwedl Yw ein hoedl yn y byd. Cymhariaethau addas hynod,— "Byddwch barod" yw eu hiaith Gwir ddefnyddiwn bob diwrnod Trwy gyflawni buddiol waith. JASON JAMES. Tylorstown. CADW'N HIAITH YN FYW. I Gymry anwyl, os am gadw laith ein tadau'n fyw o hyd, Rhaid ei meithrin hi yn groew Yn mhob can wrth siglo'r cryd; Rhodder hi ar fant y baban, Ar y wefus bo'n parhau, Yn Gymraeg poed pob ymddyddan, Dyna'r modd i'w sicrhau. Peidier ag anghofio'r aelwyd, Prif fagwrfa'n hiaith yw hon, Mwyder hi o dan bob cronglwyd, Plether hi o gylch pob bron; Cadw'n fyw ein mwyn alawon, Telynogion swynion serch, Cerfier hwy yn argraff Brython Yng* nghalonau mab a merch. Peidier gwrando ar wag ddwndwr A phenboethni ffol y Sais, Poed pob Cymro yn drafnoddwr, Cadw'n hiaith a fyddo'i gais; Y Gymraeg fo'n su pob awel, Ar yr heol, yn y gwaith, Trwyther hi i'n gwaed yn ddiogel, A chawn ddweyd Byw fyth fo'n hiaith. Nid oes iaith o fewn i'r hollfyd Ddeil yn hafal i'n hiaith hen, Peri ei pharabliad hyfryd I wir Gymro wisgo gwen; Iaith Gymraeg, y nef wna'i hoffi, Engyl roddant arni fri, Iaith wna'r Sais i lwyr ddystewi 0 dan swyn ei chynghan hi. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli.
Advertising
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraftwaitb ymofyner yn Swyddfa'r "leader" a'r If Cardiff Street, Aberdar.
Nodion o Abertawe.
Nodion o Abertawe. Y Nadolig. Yn mhob tref o bwys a phoblogaeth fawr, treulir y Nadolig mewn llawer ffurf a llawer modd gan ei phreswyl- wyr, a thyrra llu o ymwelwyr iddi o'r cymoedd a phentrefi cyfagos. Felly y bu yn Abertawe eleni. Denodd campau y bel droed eu llu arferol o ganlynwyr, a phalasdai y Cinema eu miloedd yn ol yr hanes, ond pell oddiwrthynt oedd yr ysgrifenydd, gan fod ei ddelfrydau mewn pegwn hollol wahanol iddynt hwy. Y peth a'm synodd fwyaf ac a'n-i llanwodd a boddhad, oedd cyn lleied o'r bobl welwn dan effaith y diodydd meddwol, ac yn ol tystiolaeth yr awdur- dodau ni osodwyd dan glo ond tua thri o honynt. Tystia cyn brif Gwnstabl Abertawe fod dylanwad palasdai'r lluniau er daioni yn y cyfeiriad ymat gan eu bod yn cadw llawer o'u mynychwyr rhag treulio eu horiau hamddenol yn y tafarndai. Os gwir hyn, ni ddylid bod yn rhy barod i'w condemnio yn ddi- achos. t Torrodd tan allan yn nhy Dr. Sulli- van, Heol Alexandria, yn blygeiniol boreu dydd Gwener, ond yn ffodus gwel- wyd ef gan yr heddgeidwaid, ac nid heb ymdrech a pherygl y llwyddwyd i achub y teulu. Y prif ddigwyddiad ym myd mas- nachol y dref ydyw "streic" gweinydd- wyr maelfaoedd y Meistri Lewis Lewis a D. J. Meyler, Heol Fawr, a'r achos ydyw, na chydnabydda y boneddwyr hynny swyddogion Undeb y "Shop Assistants" yn y drafodaeth parth cwestiwn sydd yn cael cryn sylw yn y dref rhwng y masnachwyr a'u gweinwyr adnabyddir fel y "Living-in System." Hen arfepad ydyw ddylai gael ei ddi- fodi rhagllaw, fel y gall y bobl hyn fwynhau llawn freintiau dinasyddol, yr hyn ni allant dan yr arferiad presenol. Dyma anerchiad gwreiddiol cerdyn cyfarch Nadolig an fonwyd gan blentyn Mr. D. Hicks Morgan, Llyfrwerthwr Abertawe, i'w ffryndiau :— Daeth eto y Nadolig, Medd mami-yn ei dro, Ond wn i fawr am dano,— 'Rwyf newydd ddod i'r fro; Mae'n dweud daw "Dadi Xmas" A phethau neis i fi; Gobeithio daw e' hefyd A phethau neis i chwi; Mae'n son am roddion rhyfedd Sy,dd ganddo yn ei sach, Gobeithio gwnaiff eich cofio, A minnau,—Morwen Fach. Blwyddyn Newydd Dda i bawb. TALNANT. I
Nodion o Frynamman. I
Nodion o Frynamman. I GAN "WALCH HYDREF." I Wedi cyrhaedd gartref ar ol Nadolig cefais arddeall wrth ddarllen y Darian diweddaf fod y papur yn newid dwylo. Braint o wythnos i wythnos oedd ddar- llen "Pynciau'r Dydd" gan y Parch. D. Silyn Evans. MantaiB fawr i ni fel dynion ieuainc yw cael barn aeddfed ar bynciau felly. Chwith genym weld y gair "Ffarwel." Hyderaf y cawn etto ei weld ar y maes yn rhoi ambell ysgrif er gwybodaeth i'r do sydd yn codi, ac er cadw yr iaith yn fyw. Dymunaf iddo hir oes ac iechyd. Marwolaethau. J Blin genyf gofnodi marwolaeth marwolaeth Mr. William Williams, Banwen, yn 72 mlwydd oed. Yr oedd yn fwy adnabyddus i'r lie wrth yr enw William y Gof. Gyrwr peiriant Pwll y Maerdy ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ddyn o ymddiriedaeth bob amser. Yr oedd hefyd yn ddyn poblogaidd a pharchus yr ardal. Dydd Sadwrn, Rhag. 27, claddwyd ei weddillion yn fynwent newydd Gibea. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. H. 0. Jones, Eben- ezer; W. D. Thomas, GjJ:>ea, c erteill. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol. Boreu Nadolig bu farw plentyn pedair blwydd oed i Mr. a Mrs. Howell Jones, ) Cwmgarw Road. Claddwyd yntau yr un dydd yn fynwent Gibea. Gwasan- aethwyd gan y Parch. W. D. Thomas. Hermon. I os Sadwrn, Rhag. 27, traddodwyd darlith yn y lie uchod gan y Parch. J. Jenkins (Gwili), M.A., Ammanford, ar "Bywyd y Pennillion Telyn." Cafwyd darlith odidog, a chredwn mai yma y traddododd ef y ddarlith hon gyntaf er- I ioed. Cynorthwywyd ef yn y ddarlith hyn gan Master G. Davies, Bettws, ar I y delyn, a Mr. Richard Morgan, Cannon I' Street, yn canu pennillion. Yr oedd yr elw yn mynd i gynnorthwyo y chwaer Mrs. Jenkins, Brynamman Road, yn ei I, hafiechyd, ac hyderwn fod elw sylwedd- ol wedi ei wneuthur er ei chynorthwyo yn ei thrallod. Liwyddiant. I Cafodd Mr. Richard Morgan, Cannon Street, canwr pennillion cenedlaethol o'r lie hwn, dderbyniad tywysogaidd mewn cyngherdd yn Xeuadd Gyhoedd- us. Pontardawe, nos Nadolig. j I Siloam. I Nos Nadolig, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod. Cafwyd cys- tadleuaeth frwd a dyddorol ar yr holl destynau. Llywyddwyd y cyfarfod gan I Mr. Edward Phillips, Station Road. Beirniaid: Cerddoriaeth, Mr. Arthur Moses, A.L.C.M., Goldsmith College amrywiaeth, Mr. Dd. Harries, Glyn Villa, a Mr. Richard Morgan, Park St. C'yfeiliwyd gan Mr. Morgan Lewis, or- ganydd yr eglwys. Gwobrwywyd fel y canlyn Amrywiaeth—Adroddiad i blant dan 12eg: 1, D. Roderick, Xeuadd Road; 2, rhanwyd rhwng Bessie Roder ick a Lizzie Llewelyn. Adroddiad i blant dan 16eg: 1, Bessie Roderick 2, E. Beddoe. Adroddiad agored Bessie Roderick, Neuadd Road. Traethawd: Goreu, Mr. William Jones. Pennillion, "Caleb," nid attebodd yr enw. Araeth ar y pryd: Rhanwyd y wobr rhwng Mr Sydney Griffiths, Glyn Road, a John Hopkin, Gorsgoch Isaf. Cerddor- iaeth: Unawd i blant o dan 12 oed 1, Miss H. H. Thomas 2, rhanwyd rhwng Miss Blodwen Thomas a Danny Lloyd, Cwmgorse. Unawd i blant o dan 16 oed: 1, Mr. Denny Lloyd, Cwmgorse. a Miss A. H. Griffiths. Unawd agored Miss Cis&ic Thomas (Eos y Bryn), Bryn Road. Wythawd, Mr. William Davies, Glyn Road, a'i gyfeillion. Ysgrifenydd y mudiad hwn oedd Mr. Fred Morgans, Park Street.
- I Nodion Ynyshir a'r Cyleh.…
I Nodion Ynyshir a'r Cyleh. I GAN DAFYDD AP GWILYM. I Saron, Ynyshir. I Cynhaliwyd cyngherdd yn y capel uchod nos Nadolig. Rhoddwyd datgan- iad o "Daith y Pererinion" gan Gor Plant Saron, dan arweiniad Mr. Jenkyn Jones. Cyfranwyd at y darn yma gyd- ganau gan Gor Meibion Ynyshir, dan arweiniad Mr. D. Evans. Y cadeirydd oedd y gweinidog, y Parch. G. C. Davies. Salem. Porth. I Cafwyd gwledd o ganu dydd Nadolig a Boxing Day yn y capel uchod. Rhodd- wyd datganiad o'r oratorios, "Goleuni Bywyd (Syr Edward Elgar), a. "Salmau Moliant" (Dr. Christmas Wil- liams, Merthyr), gan Gor Salem, dan arweiniad Mr. Rhys Evans. Canwyd y gwahanol unawdau yn effeithiol iawn gan y cantorion canlynol: Soprano, Miss Blodwen Lloyd; contralto, Miss Elsie Chambers; tenor, Mr. Hughes, Machen; baritone, Mr. Dan Richards. Chwareuwyd ar yr organ gan Dr. T. D. Edwards, Mus. Doc., Treharris. Yr oedd y canu yn uwchraddol, ac mae clod yn ddyledus i'r arweinydd a'r cor am rhoddi y fath wledd o ganu bob flwyddyn. Cafwyd prydnawn Boxing Day gyngherdd amrywiol. Canodd y cantorion crybwylledig er boddlonrwydd i dyrfa fawr. Cadeiriwyd nos Nadolig gan Mr. Edgar Jones, A.S. prydnawn Boxing Day gan y Cynghorwr John Lewis, Abertawe; a nos Boxing Day gan y Cynghorwr T. Griffiths, M.E., Y. H. ag ystyried yr hin anffafriol, daeth cynhulliadau mawrion yn nghyd. Cafwyd cyngerddau yn capel yr Anni- bynwyr Cymraeg, Porth, nos Nadolig a nos Boxing gan gor y plant a chor y bobl mewn oed, dan arweiniad Mr. Joseph Bowen. Cynorthwywyd gan Miss Muriel Jones, Treforest, a Mr. M. M. Griffiths, Gilfach Goch. Cadeir- iwyd gan Mr. Kane, M.E., Wattstown, a Mr. W. J. Thomas, Brynawel, Ynys- hir. Un peth a fy synnodd yn ystod y gwyliau yw na chafwyd gwasanaeth grefyddol o gwbl yn eglwysi y cylch, oddieithr i gwrdd gweddi a gynhaliwyd yn Moriah (M.C.), Ynyshir, am 7 o'r gloch boreu Nadolig. Da iawn fyddai mewn cylch poblog fel hwn i gael cyrdd- au undebol pregethu neu o rhyw natur arall, a gwahodd doniau y gwahanol enwadau i draethu y genadwri am ein Ceidwad a roddodd fodolaeth i Nadolig. Y mae y byd ar y blaen yn hyn obeth- chwareuir bel droed a phethau cyffelyb ar y dydd hwn, a'r miloedd yn myned i edrych arnynt. Tybed ai hyn yw nod- wedd neu archwaeth yr oes hon 'I—y materol o flaen yr ysbrydol. Mawr hyderwn y cawn weled erbyn y Nadolig nesaf symudiad i gael gwasanaeth cref- yddol. Pregethu. I Gwasanaethwyd yn nghapel yr Allni- bynwyr Saesoneg, Porth, dydd Sul, Rhagfyr 21ain, gan y bardd bregethwr o Brynmawr, y Parch. Crwys Williams. Y mae yn bregethwr cryf yn yr iaith Saesoneg. Bwriada'r eglwys yma syni- mud i gael gweinidog yn fuan. Y mae llawern iawn o myfyrwyr a gweinidog- ion wedi bod yn llanw y pwlpud oddiar ymadawiad Mr. Salmon i Gaerdydd a phan dewisir ei olynydd hydei-wn y I syrth y goelbren ar y dyn iawn. Y mae eglwys heb weinidog fel defaid heb fugail. j Dymunwn i chwi,,Mr. Gol., a Chwm- < ni newydd y "Darian," "Flwyddyn Newydd Dda." Bydded cylchrediad y "Darian" yn 1914 yn fwy nag erioed.
Advertising
Ait) bob math o ARGRAFFWAITH YMOFYNER YN Swyddfa'r Leader," neu r Swyddfar Darian," 19 Cardiff Street, ABERDAR. Hysbysleni o bob maint, lliw a llun. Rhagleni Cymanfaoedd Canu ac Eisteddfodau, yn Gymraeg neu Seisnig. Argraffir Llyfrau yn y Ddwy Iaith. Siorheir Gwaith Glan, Dostlus a Chywti* am Bris Teg. Nofel Gymraeg. Cryd i'r Amdo' Gan Mr. Isaac Craigfryn Hughes. 172 o dudalenau. Pris cyhoeddedig 1/6. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, Aberdar, am 6ch. Drwy y post, 7c. Os dewiser rhodder archebion drwy lyfr-werthwyr neu ddosbarth- wyr y DARIAN yn unrhyw le. Tarian y as Advertising G I tb 8ft Medium Gweithiwr" Medium • > FOR Eisteddfodau, Concerts, &c. 0 We have received the following unsolicited testimonial: It would interest yott Very much to understand that the advertisements you have inserted for us have been the means of obtaining numerous competi- tors for our Eisteddfod, especially the compositions, which have undoubtedly proved to be a RECORD. Many, many thanks for such a powerful ad- vertising medium as the TARIAN. The Original may be seen in the Office. THE ABEQDARE LEADER GUARANTEED LARGEST CIRCULATION I IN THE ABERDARE VALLEY. Best Budget of Home News. The Reader's Favourite. The Advertiser's Friend. PUBLISHED EVERY THURSDAY MORNING. PRICE: ONE PENNY. OFFICES: — — — 19 CARDIFF STREET, ABERDARE. Darhenir yr ADRAN GYMREIG yn y LEADER yn awchop, Printed and Published for the Proprietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan.