Gohebiaethan. I|1914-01-01|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Plant. I

! "Y Darian " mewn Cylch j…

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

Seven Sisters.I

Advertising

Gohebiaethan. I

News
Cite
Share

Gohebiaethan. I COLE COCH YR INNERDDON. I Mr Got.Ceisiaf yn awr yn fyr i brofi pwy ydyw y genedl arall sydd vn Neheu yr Iwerddon—y Pabvddion. Mae Moore ac haneswyr ereill yn cydolygu fod y bobl hyn wedi dyfod i Werddon o'r Y sbaen. Sylfaenwyr Carthage oeddent bobl Tyrus a Sidon, oherwydd yn ystod goresgyn- iad Tyrus anfonwyd yr henafgwyr, y gwragedd, a'r plant er mwyn diogel- wch i Carthage. Yn mhob lie y darfu i'r bobl hyn ymsefydlu gwelwyd yr un arferion creulon, gan fod gwastadedd vn, vr hvn a adwaenir yn awr fel Tal- aeth Leitrim a elwid "Maes y Lladd- fa," "Maghglcaeth," ac yma yr offrymwvd i fyny yr un deyrnged ddychrynllyd ag oedd arfer pobl Carthage. Mae Diodorus Siculus yn rhoddi hanes am ddau cant o blant yn cael eu llosgi i farwolaeth; arferiad hefyd o eiddo pobl Tyrus, ac wrth gwrs yn mhlith eu holynwyr, cenhedloedd Canaan (Deut. xii. 31). Pc bae amser a gofod yn caniatau, gallwn brofi tuhwnt i amheuaeth fod y Canaaneaid wedi dyfod i'w hadnabod fel Phoeniciaid. Mae y wraig o Ganaan (Matt xv. 22) yn cael ei galw yn Phooniciad (Marc vii. 26). Pan gafodd Tyrus a Sidon eu dinystrio darfu i'r oil o'r rhai a ddiangasant ffoi i Carthage. 0 Carthage daethant drosodd yn finteioedd i Werddon—i'r rhan ddeheuol o'r Ynys. Yn awr, yn ol tystiolaeth bendant y Beibl, pa le bynag mae Israel heddyw rhaid fod y bobl hyn-y Canaaneaid-yno hefyd i'w poeni. A dvma un o'r nodau pwy ydym ni- Israel. 'Rwyf wedi dangos y gwa- haniaeth rhwng Israel a'r Iuddewon (Judah) mewn llvthyr blaenorol, ac ni fuaswn yn cyfeirio at y gwahan- iaeth hwn yn y fan hon, onibae am yr anwybodaeth dirfawr sydd ar y pen hwn hyd yn nod yn mhlith pregeth- Ewyllys Duw ydqtdd pan oedd Israel yn eu gwlad eu hunain, eu bod i yru allan y Canaaneaid. Israel—yn caru esmwythdra, a'r gwaith o'u gyru allan yn lied anhawdd—a an- ufuddhasant i'r gorchymyn, ac a oddefasant iddynt i drigo yn eu plith. Darfu i hyn anfoddloni yr Arglwydd, vr hwn a osododd y byddent o hyn allan," fel cosb am eu hanufudd-dod, i aros gyda hwy fel eu poenwyr, gan fynegu y byddai y Canaaneaid hyn yn "gethri yn eu llygaid ac yn ddrain yn eu hystlysau yn y tir y trigent yn- ddo." (Num. xxxii. 55). "Bvddant i chwi yn fagl ac yn dram^Aydd, ac yn ffrewyll yn eich hystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid." (J os. xxiii. 13). Maent hwy eu hunain yn ym- ffrostio eu bod yn ddisgynyddion yr hen Ganaaneaid. Hwy, ac hwy yn unig, sydd yn "ddrain yn ein hystlysau fel Feniaid, ac fel Home Rulers—yr hyn o'i ddehongli ydyw Rome Rule. Rome Rule neu unrhyw Ymreolaeth heblaw Llywodraethiad Prydeinig, a cheisiant hyn trwy ddagr, dynameit, a llaw-ddryll, y rhai unwaith a wnaethant ymgais i symud y maen o Gadair y Coroniad, ond darfu i rywun droi yn hysbyswr, a darfu i'r cydfrad fethu. Nod arall sydd yn profi pwy ydyw y Gwvddelod hyn ydyw yr iaith. Mae yr iaith Wyddelig yr un a'r iaith Phoenicaidd, yn cynhwys yr un llythvren ar bymtheg union. Yn mhellach, mae yn ddiddorol i sylwi fod yn ihaid fod y Gwyddelod yn y Deheu yn Genhedloedd (Gentiles), oherwydd mae yn ffaith o eiddo y "census" diweddar eu bod wedi llei- hau y nifer fawr o un filiwn yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a hyn ar ol pob cyfartaledd tegr tuag at ymfud- iaeth; tra mae pob adran arall o'r Genedl Brydeinig wedi cynyddu yn fawr yn ystod y cyfnod hwn. Ni chaniata gofod i mi i drin y pwnc hwn yn mhellach. 'Rwvf wedi troi y gole coch ar y cwestiwn, ac y mae myned yn mlaen i osod y mesur halo- gedig presennol mewn gweithrediad yn golygu trychineb alaethus. "Y doethion a ddeallant. "—Yr eiddoch yn gywir, D. E. EVANS. Gwernogle. BETH YW RUSSELLIAETH. Syr,—Dywed Russelliaeth fod yr lesu ar ol ei adgyfodiad wedi dod un- waith eto yn Fod Ysbrydol. Yn Vol. 1, page 231, dywedir Jesus at, and after His resurrection was a spirit-a spirit being, and no longer a human being in any sense." Gwelir nad yw ein gosodiad yn anghywir. Onid yw brawddeg felly yn gwadu adgyfodiad corph Crist? Dywed Russell fod corph yr lesu groeshoeliwyd, ac a gladdwyd yn medd newydd Joseph wedi adgyfodi. Beth ddaeth o gorph yr lesu ynte, oblegid bedd gwag oedd t bedd i loan a Pedr, y gwragedd, a'r angylion—"Nid yw Efe yma, wele y man y dodasant Ef." Dyma esboniad Russelliaeth, Vol. II., page 129, "We know nothing what became of it. It was supernaturally removed from the tomb, because if it had remained there it would have been an obstacle to the faith of the disciples." Vol. II., page 129, "Supernaturally slipped away." Onid yw hyn yn debyg i gabledd ar air y gwirionedd? Beth wnaeth y "supernatural" a'r corph-ei wasgaru mewn nwyau, neu gadw y corph mewn rhywle o'r gol- wg? Nid yw Russell yn methu esbonio y dirgelwch. Dyma ei eiriau, Whether it (sef y corph) was dis- solved into gases or whether it is stilt preserved somewhere as the grand memorial of God's love, no one knows, and some dav God is to pro duce this corpse and expose it to the world-put it on exhibition It will not urprise us (medd Russell) if this be true." Beth ddywed Crist- ioaogion uniongred am y fath syniad- au anysgrythyrol? A fydd Russell a'i ganlynwyr cystal a darllen loan ii. 19, 22, sef geiriau yr lesu ei hun. Edrycher eto ar Act i. 3, I'r rhai yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef trwy lawer o arwydd- ion sicr, gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthyncnt i deyrnas Dduw." Onid yw cywrcinrwydd Pedr i fyned i mewn i'r bedd, dagrau Mair, a phresenoldeb yr angylion yn brawfion nad oedd y corph yn y bedd ? Gwelodd v ddau ddisgybl mai yr lesu ydoedd ar doriad y bara yn Emmaus. Mae ei eiriau grasusol, "Tangnefedd i chwi," yn mhlith y disgyblion; cais yr Iesu at Thomas i estyn ei fys a gosod ei law yn ei ystlys friw, a llawer o arwyddion ercill yn ol loan xx. 30 yn brawfion fod yr Iesu yn fyw wedi ei adgyfodi. Dywedir yn loan xxi. i, "Y r Iesu a ymddangosodd drachefn wrth for Tiberias pan oedd amryw o'r dis- gyblion vn bresennol." Oni ddywedir Ei fod wedi "cymeryd Ei ddisgyblion hyd yn Bethania, ac a gododd Ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt. Ac fe ddarfu tra yr oedd Efe yn eu bendithio hwynt, ymadael o hono Ef oddiwrthynt, ac Efe a ddygwyd 1 fynu i'r nef." Ni wvr neb beth ddaeth o gorph yr Iesu wedi ei adgyfodiad, meddai Russell. Nid oedd yn y bedd, meddai Pedr, loan, Mair, a'r lleill. Gwelodd y ddau ddisgybl ef, y dis- gyblion pan oedd Thomas yn ab- senol a phan oedd Thomas yn bres- enol, ac yn ngwyneb y fath brawf nis gallasai Thomas anghrediniol lai na dywed, "Fy Arglwydd a'm Duw." Gwelwyd Ef gan fwy na phum can brodvr ar unwaith, meddai Paul, a gwelodd y disgyblion Ef yn esgyn i'r nef. Lie mae Russell a'i ddisgyblion yn ngwyneb hyn? Cynghor yr Arch- offeiriaid a'r henuriaid i'r milwyr wedi eu llwgr wobrwyo ag arian ydoedd, "Dvwedwch Ei ddisgyblion a ddaeth- ant o hyd nos ac a'i Uadratasant Ef a nvni yn cysgu." Chwareu teg i'r mil- wyr, ni cheisiasant esbonio na gwadu nad oedd y corph wedi mynd o'r bedd, ond am Russell nis gwyr beth ddaeth o hono! Oni fyddai yn well. credu y tystiolaethau ydym wedi ei ddwyn ger bron y darllenydd? Wrth gwrs, wrth gvfaddef fod Crist yn farw yn rhywle yn llywodraeth Duw, mae vna unffurfiaeth yn cael ei ddiogelu, sef yr athrawiaeth ddysga Russell, fod yr holl hil ddynol o Adda hyd heddyw, heb eithrio Crist, yn feirw yn eu beddau, ac er mwyn dal yr athraw- iaeth i fyny rhaid ceisio esbonio yr anmhosibl, sef esbonio nad yw ein Gwaredwr wedi adgyfodi.—Yr ydwyf, D. JONES. Aberteifi. [NODIAD: Gohebiaeth arall o eiddo, D. Jones yw hon, ac oherwydd ein habsenoldeb o'r Swyddfa adeg y Nadolig, llithrodd i ddwylaw yr argraffydd wedi i ni ysgrifenu ein nodiad ym Mwrdd y Gol. Gan ein bod yn credu ei bod yn amcanu at fod yn hollol deg, ca ymddangos. Trefned y cyfeillion W. Williams a W. Havard i un o honynt yn unig i vsgrifennu llith o tua'r un hyd mewn atebiad. -Got.] n r

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising