Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Plant. I

! "Y Darian " mewn Cylch j…

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

News
Cite
Share

Y diweddar Mr Thomas | Roderick, Aberdar. Gwelaf er gofid "ddarlun olaf o'r I gwr da uchod yn y T5.W.D. News am heddyw. Ymgomias lawer ag ef wrth fynd a dod i'm bwthyn yn yr un I "street" ag ef, pan yn byw yn Nhref y "Darian." Bedyddiwr selog oedd ein brawd ond nid oedd yn gul-  parchai grefydd bur vm mhob enwad. Nid oes amheuaeth nad oedd ganddo I wreiddyn y mater a hwnw wedi gwreiddio vn ddwfn. Yr oedd yn ddyn mawr cadarn fel y dderwen Gym- reig. Chwythodd y stormydd arno I droion ac ambell i Eiroclydon sydyn, ond gwreiddio vn ddyfnach a wnai bob tro. Collodd Eglwys Calfaria weithiwr egniol-un oedd a'i galon yn ei waith, ac y mae graen ar, waith I calon vn mhob man. Bu yn llywydd yr Ysgol Sabbathol droion; yn athraw I llafurus, ac mewn serch dwfn gyda'i ddosbarth. Yr oedd yn feddianol ar dalent i fynd i mewn i ffordd euraidd calon, a thrwy hyny wneyd gwaith nad allai neb arall ei wneyd, a bydd hwnw yn ei ganlyn, "a'i gweithred- oedd sydd yn eu canlvn hwynt." Bu yn aelod byw o blaid Dirwest; yr wyf 1-n meddwl ei fod yn Nazaread o'r groth, ac nid aelod distaw oedd chwaeth, na, codai lef fel y daran, a gallai fynd at y truan ar lawr "yn y lief ddistaw fain, ac actio y Samaritan trugarog. Dywedodd lawer gair yn llawn tynerwch wrth grwydriaid oedd yn gweithio diwrnod, a ffwrdd wedyn wrth y gwahanoI. adeiladau. Caiff caniadaeth y cysegr golled. Yr oedd yn ffyddlawn gyda'r rhan hon, mewn gair yr oedd ef a'i blant a'i wraig yn hoeliedig wrth waith y cysegr. Er yn fychan o gorpholaeth, dyn bach mawr iawn ydoedd; yn wir, profodd hyny tuhwnt i amheuaeth gyda pethau y byd hwn. Gallwn ddweyd llawer am dano fel cynllunydd a saerniwr, ysgrifenydd ac arolygydd, a'i waith yn y ffirm a'i. llwyddiant, ond gadawaf hwnw i eraill. Ond goddefwch i mi ddtveyd ei fod vn ffrynd mawr i'w weinidog. Dyn ydyw y gweinidog wedi'r cwbl, a gwn fod eisiau rhai i ddal y breichiau ambell waith, ac ni chafodd unrhyw weinidog ddyn mwy selog, dewr, a thanbaid o'i blaid na Mr Griffiths. Clywais Dr. Gomer Lewis yn dweyd ar bregeth fod ganddo ef ddiacon a lofalai am bob peth o'i eiddo ond ei gamol. Canmolai Mr Roderick yn ddibendraw ei weinidog, nid yn ei w,Vneb ond yn ei gefn ac yn y nos, pan y mae gair tyner fel Seren Beth- lehem yn arwain y doeth a'r annoeth at Iachavvdwr y byd Mac Stuart Street wedi colli un parod i wneyd cymhwynas tref Aber- dar allu moesol a chrefyddol cryf; Eglwys Calfaria weithiwr difefl a chymeriad gloew, ond a'i briod car- edig a'i deulu man ac ami sydd wedi colli fwyaf. Nid oes neb all lanw y bwlch llydan ond y gwr a'i gwnaeth. HYWEL NEDD. I

Seven Sisters.I

Advertising

Gohebiaethan. I

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising