Siop Dafydd Ap Huw. I|1914-01-01|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Plant. I

! "Y Darian " mewn Cylch j…

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

News
Cite
Share

Siop Dafydd Ap Huw. I GAN "GWILI. I I Newydd da o lawenydd mawr i mi I oedd fod lienor cyfarwydd a hen gyfaill i mi am gyfodi'r "Darian," a'i gloywi a'i thrin drachefn. Ni w nacth nemor i neb fwy yn y blyn- AcJdoedd diweddaf i gadw'r "Darian" rhag rhydu yn llwch a llaid ei dar- ostyngiad na'r (iolygydd presennol, a gweddus yw iddo bellach sefyll tu 01 iddi, ac arwain catrawd o lenorion glew a llygatgraff yn crbyn yr es- troniaid sy'n bygwth cin gwlad a'n cenedl. A'r meddyliau hyn yn fy mhen, a'r llawenydd newydd yn Jy nghalon, brysiais am orig, y nos o'r blaen, i Siop Dafydd ap Huw y Crydd ymhen uchaf Pont Dawel. Nid yw'r hen siop mwyach yn yr un fan a chynt, ond y mac'r scnedd eto'n cwrdd unwaith bob wythnos, a phrif-weinidog y "lapstone" yn cadw'I awdurdod yn ddisyfl, a'i arfau yn loyw a Ilym. Hen Gymro trwyadl yw Dafyd ap Huw, ac nid yw'r pentwr esgidiau odid byth heb Geninen" las yn eu canol na'r fainc yr un wythnos heb y Darian." Y nos Fercher diweddaf yr oedd y Seneddwyr yno oil o'm blaen, gyda'r cithriad o Paul Jones. Ni thorrodd yntau mo'i gyhoeddiad, cr na chlybu ddcchreu'r ymddiddan. "Newydd da iawn, onide?" e" e Rhys Dafydd wrthyf, gyda'm bod ai fy sedd yn sil y ffenestr. Beth yw hynny ?" meddwn innau "Ond y newydd fod y 'Darian > wisgo'i hen fri, ac i ddangos annyw- iaeth gogoneddus, fel tarian Achilles gynt." Hen ddarllenwr ar gyhoeddiadau fel Golud yr Oes," Taliesin, a Brython Alltud o Eifion yw Rhys Dafydd, a gall gadw dyn ar lwybrau awen a 116n v Cymry am ddyddiau bwygilvdd, os gwrandewir arno. Llawer gwaith y bu raid i mi wrando arno'ii adrodd ei ddewis ddarnau, flwyddyn ar ol blwyddyn, a rh) feelri yw meddwl am dano, ac yntau'n derbyn coron Llvvvd Sior, yn dal i adrodd gydag afiaith "Gwel'd brawd ar ddelw 'N ghre- awdwr, A delw Duw ar dyIawd wr, A chofio 'nhlawd lachawdwr, Fu un dydd yn gofyn dwr, A enynna yn uniawn Fy nhymer dyner a'm dawn. Hanner fy eiddo yn awr a roddwn, Ac heb ail wrtheb, y cwbl a werthwn; I roi yn hael er enw Hwn—teyrnas- oedd, Llawnder y bydoedd oil nid arbedwn." "Tipyn o waith fydd i'r 'Darian fyw," ebe Ehedydd Hendy. "Y mae'r Saesneg yn rhwym o feddiannu'r De ar fyr, yn ol pob arwydd. Nid yw Ehedydd Hendy heb gariad at ei wlad a'i iaith, ond Cymro gwan- galon ydyw, a Saesneg sydd ers mcityn ar ei aelwyd. "Paid di a chamgymeryd, Ehed- ydd," ebe Tomos Glanyrafon. Fe fydd pluf dy adenydd di'n lied lwyd cyn bydd farw'r Gymraeg. Fe broff- wydwyd am ei thranc ganrifoedd cyn dy eni di a minnau, ac fe broffwydir eto, hwyrach, ymhen mil o flvnydd- oedd; ond dal i fyw y mae'r hen iaith, ac er cryfed llanw'r Saesneg y mae mwy yn ei siarad, ac yn sicr fwy yn darllen ei llcnyddiaeth nag a fu erioed yn ei hanes. Hwyrach hynny," ebe'r Ehedydd, "ond y mae'r to sy'n codi yn troi cefn yn llwyr arni." "Byddai'ii gywirach," ebe Tomos Glanyrafon, iti ddywedyd fod llu yn troi cefn arni, llu o'r Cymry ysgafnaf; ond yn lle'u balchter hwy, y mae balchter newydd o plaid yr iaith yn dangos ei ben erbyn hyn, ac wedi i ienctyd Cymru dderbyn cystal man- tais i ddysgu eu hiaith ag a feddant i wybod Saesneg, bydd yma'n fuan iawn newid mawr ar bethau. Yn wir, o weld arwyddion o gyfeiriad yr ys- golion elfennol a chanolradd, ac o gyfeiriadau eraill, yr wyf yn gryf o'r farn fod oes aur y Gymraeg ymlaen. Bydd Cymru eto'n fwy Cymreigaidd nag y bu ers dwy neu dair canrif. Nid wyf am roi iti'r holl resymau heno, ond y macnt gennyf wrth law, er hynny. Na, gwell i chwi dorri'r ddadl yn y fan yna," ebe Dafydd ap Huw. "Peth sicr yw," ebe'r Prif-weinidog, "y gall miloedd Cymry'r De gadw'n fyw un papur wythnosol. Nid oes gcnnym ar hyn o bryd yr un wyth- nosolyn a dim ond Cymraeg ynddo oddigerth y Darian" (ac eithrio'r papurau enwadol), ac ond dangos ar wvneb y "Darian" lun meddwl llenor- ion goreu'r De, mcntraf broffwydo y gwelir hi eto, megis yn y dyddiau gynt, yn anhebor miloedd o ddar- llenwyr, o Gaerdydd hyd Aberys- twyth, ac o Ferthyr hyd Dyddewi." "Eitha da," doe Paul Jones, "y mae gennyf finnau, fel sydd gennych chwithau oil, g6f am dani fel prif hysbysydd Eisteddfodau, a chronicl- vdd beirniadaethau, fel ncwyddiadur arbennig y glovvr a'r alcanwr, ac fel maes dadleuon y cedyrn ar brif bynciau crefydd a maes a gwladwr- iaeth. "Fe fydd eto, os ca Tywi iechyd a chwarae teg," meddwn innau, "ac mi hoffwn glywed fod Morgannwg weithfaol yn deffro drachefn i'w gwerth, ac fod Cymry Cymreig Caer- fyrddin, a Phemfro, ac Aberteifi yn svlweddoli nad oes yn oed Crist 19^14 bapur ncwydd cyffelyb i 'Darian y Ciweithiwr.' Bu materion pwysig eraill o dan sylw, ond gyda galwadau'r gwyliau ni ellais aros i wrando'r doethion mwyn yn eu dadrys. Gobeithiaf allu croniclo o bryd i bryd bethau pwysicaf Senedd Pont Dawel. Yn awr, ni ychwancgaf ond-Blwyddyn Newydd Ddedwydd Dda i holl ddarllenwyr y j Darian."

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

Seven Sisters.I

Advertising

Gohebiaethan. I

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising