Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Plant. I

! "Y Darian " mewn Cylch j…

News
Cite
Share

"Y Darian mewn Cylch j Newydd. Hawddammor, hawddammor i'r "Darian" i ddod i fewn i'r cylch newydd. Ac eto nid newydd spon yn ■ ol ystyr bendant y gair, oblegid y mae rhai o'r, cylch wedi bod yn ei chysgod mewn hedd ac ysgarmesau er y blyn- yddoedd pell, pan oedd ei thine, fel tine Tarian Arthur, ac yn frawychdod fel bwyell Cadwgan i orthrwm a thwyll yn y Deheubarth. Ac i'r Darian yn y gorphenol y gellir cydnabod am y dosbarth hwnw o feirdd a llenorion yn y De sydd yn dal yn Nghatecism yr Hen Ysgol, ac heb gael digon o ddatguddiad eto i gwympo i fewn i'r Ysgol Newydd, a chredu yn nghronicl Hen a barddas yr Athro J. Morris Jones. Gwelwn, er hvnny, fod y ddysg newydd yn dangos ci gwyneb ar len y "Darian." Hwyr- ach y cawn gymorth rhai o'i hath- rawon i wybod yn well am dani. A nid prinder gwladgarwch i'w chadw y mlaen fu i'r perchenogion diweddaf i'w rhoi o'u llaw, ond y pryder i gadw papyr Cymraeg a phapyr Saes- neg" i gydredeg. Y mae y cwmni newydd wedi cae1 eu fframo o rai o waedoliaeth uchel- j ryw mewn dysg, a chrefydd, a gwlad-) garwch glanaf y Celt yn codi o fer j greddfau eu meddwl. A disgwylir i, rai o broffwydi y genedl i ysgrifenu ymadroddion eu gwybodaeth a'u barn hwynt yn ngholofnau y Darian 0 faryd i bryd ar rai o byngciau eangaf a llosgedig yn y diweddaf hyn. Ac yn eu plith ceir Gwili, Rhys J. Hughes, Sarnicol, y Fonesig Eluned Morgan, Parch. W. R. Watkin, M.A., Ifano, Parch. D. Hopkin, B.A., Parch. D. Bowen (Myfyr! Hefin), Ap Gwalia, Defynog, Lewis Davies, Cymmer, a chnwd o feddyl- wyr dihafal eraill. Bydd mantell olygyddol lien yn glymedig ar dabernacl Tywi Jones y i Glais, y dramodwr cain a'r lienor j ysol dros y Gymraeg. A mantell olygyddol cylch cyfrin y beirdd yn i glymedig ar dabernacl Brynfab, yr hwn sydd wedi arfer magu beirdd fel magu wyn ar lechwedd yr Hendre, ac wedi cario llawer iawn o'i ysgubau p'r Sgubor i f ac-s y Darian yn y j blynyddoedd diweddaf. Gyda y Golygvddion newydd caiff y I I llawr dyrnu ei gadw fel yr arian, a ¡ gwn y gomedd pob un ohonynt i neb ddod yn agos a llawer o us yn ei I gwdyn, neu os daw o dan y wyntyll caiff fyn'd yn offrwm i'r fflamiau gyda I rhyw ffarwel boenus. Ond lie y gwelir deall wedi cael ei fraenaru yn ddwfn, I a gwybodaeth, a chwaeth, a barn yn J cynyg eu cynyrch iddynt, gfrn na II cheir neb parotach na hwynt i'w dderbyn a rhoi gair da a diolch am dano. I Yn swn y deff road i gyfanu Cymru drwy y Cymdeithasau Cymreig a'r bywyd newydd sydd yn agor fel egin maes gwenith yngIyn a'r ddramod, disgwylir i'r "Darian" i ddod a nerth bywyd annherfynol yn ei llen- yddiaeth, ac yn rhan i gadw crefydd, a gwladgarwch, ac iaith y Genedl yn bur dros byth. RHYS EMRYS RHYS. II Pontllanfraith.

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

Seven Sisters.I

Advertising

Gohebiaethan. I

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising