Colofn y Plant. I|1914-01-01|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

10 articles on this Page

Colofn y Plant. I

News
Cite
Share

Colofn y Plant. I Mae arnom eisiau plant i ddarllen y "Darian." Y mae dynion da wedi addaw ysgrifennu i chwi yn y golofn hon. Rhown gyfle i chwithau hefyd i arfer ysgrifennu eich hunain. Cofiwch mai papur Cymraeg yw'r "Darian," ac mai cadw ein hiaith an- wyl yn fyw yw un amcan sydd iddi. Yr ydym am i blant y Darian garu eu hiaith, ac am eu dysgu i'w darllen a'i hysgrifennu. Dylai Cymry bychain fod yn fwy hoff o'r Gymraeg nag o unrhyw iaith arall. Trueni fvddai iddi farw, a chwi vn unig all ei chadw yn fyw. Nis gallwch chwithau ei chadw'n fyw heb ei siarad bob cyfle gewch. Yr wyf yn siwr nad ydych yn hoffi gweled dim sydd yn hardd yn marw. Os digwydd i chwi weled coed neu flodau yn yr ardd yn gwywo, yr ydych ar unwaith yn teimlo drostynt ac yn gwneud popeth a allwch i'w cadw n fyw. laith bert yw'r Gymraeg. Nid oes bertach iaith yn y byd na hi. Eich iaith chwi ydyw a iaith eich gwlad- iaith brenhinoedd a phregethwyr a beirdd o fri. Ond nid yw eich iaith chwi yn cael chware teg heddyw yn ei gardd ei hun. Y mae llawrer yn ei anghofio, ac yn gadael iddi wywo a marw, a ieithoedd pobl eraill yn mynd a' i lie yn yr ardd. Mynnwch ei chadw'n fyw. Dyma i chwi gan fach wedi ei chymeryd o'r "Gemau i Blant." Dysgwch hi a gwnewch hi: — Y Gymraeg yw iaith fy mam, Mi ofalaf na chaiff gam. Iaith fy chwareu gyda'r plant, Iaith addoli gyda'r sant. Y Gymraeg i mi a fydd, Iaith yr heol wedi'r dydd. Hon fydd iaith fy ngweddi dlos, Wrth fy ngwely wedi'r nos. A phan dyfaf fel scolaeg, Nis anghofiaf y Gymraeg." —Mafonwy. Fel cymhelliad i chwi i ddechreu meithrin eich iaith, cynhygiwn y gwobrau canlynol i chwi y tro hwn:- (I) Rhoddir llyfr Eluned, Ar Dir a Mor," i'r un dan 15 oed a ysgrifenno oreu ar lythyr gerdyn (post card) ddisgrifiad o'r modd y treuliodd y Nadolig. (2) Rhoddir llyfr Moelona, "Teulu Bach Nantoer i'r un dan ddeuddeg oed a ysgrifenno oreu ryw bennill Cymraeg wyth llinell ar lythyr gerdyn. Rhoddwch enw'r gan neu'r llyfr y cymerir y pennill o honynt. Anfoner hwynt i'r Golygydd, Swyddfa'r "Darian," Aberdar, erbyn lonawr Isfed. Rhodded pob un hefyd ei enw, ei oed, a'i gyfeiriad ar y cerdyn. Cvhoeddir y goreuon vn y Darian. Cofiwch wneud y gwaith eich hun- ain. Ni ddaw lies i chwi os gwna rhywun arall y gwaith yn eich lie. "TWCYD FALA." Stori 'Newyrth Sion am dano'i hun. Fel hyn y dywedai'n Ewyrth Sion "Os ydwyf fi'n well mewn rhyw beth na'i gilydd, mewn gonestrwydd yr wyf oreu. Nis gallai dim fy nhemtio i gymeryd dim sy'n eiddo i rywun arall. Eampl fy rhieni sydd yn cyfrif am hyn. Yr oeddent hwy yn dlawd ond yn onest. Un waith dysgasant i mi wers nad anghofiaf byth mo honi. (Gwrandewch chwithau mhlant i ar 'Newyrth Sion). Un noswaith yr oeddwn yn dod adref wedi bod ar neges, ac yr oedd wedi tywyllu. Ar y ffordd cwrddais a bachgen oedd yn henach na mi. Tom oedd ei enw. Yr oedd perllan ag afalau ynddi ar ochr y ffordd yn ein hymyl. Ceisiodd Tom gennyf ddod i nol rhai o'r afalau. Dywedais innau na wnawn am y byddai hynny yn lladrad. Na,' ebai Tom, 'nid oes ar Mr. Dafis eisiau'r afalau, y mae wedi dweyd eu bod yn rhydd i bwy bynnag a'u cymero.' Yna, aethum gydag ef a llenwais fy mhocedi. Wedi mynd adref dangosais yr afalau i'm rhieni, a dywedais wrth- ynt pwy fu gyda mi. Yng ngolwg fy rhieni yr oeddwn yn Ileidr, ac wedi dwyn yr hyn nad oedd yn eiddo i mi. Cefais fy newis ganddynt o ddau beth, sef, naill ai eitha crasfa a'r wialen fedw ar fy nghefn noeth, neu fynd a'r afalau yn ol i'w perchen, a dweyd wrtho i mi eu dwyn a gofyn ei bardwn. Mynd a'r afalau yn ol a wnes, ac yn wir bu Mr Dafis yn garedig iawn i mi. Dywedodd wrthyf am beidio dwgyd a*a yto, a rhoddodd dair ceiniog i mi HofF°^n ei bardwn. Nid oedd dim a hoffai ef n fwy na rhywun yn gofyn ardw, i y rt^d T'11 iddo. Yr oedd bob amser yn Tom? ??? phleser. Ond, beth am cistedrf Yr oedd Tom druan yn methu c'stedd ??annoeth. Cafodd ei dad wybc,d arn yr afalau, ac ni chafodd Tom dd,is rhwng dwy ?osb fel y arno a 13U S?'-ymau'r wialen fedw ?oei r^, r3il dyddiau. Mae'n debyg un I hae4 yn waeth am iddo hudo uri arall °?hu gydag ef. Mae Tom a minnau yn awr ymlaen I mewn dyddiau. Cwrddasom yn ddi- weddar am y tro cyntaf er pan oeddem yn blant. Yr oeddem yn falch iawn i weled ein gilydd, ac un o'r pethau cyntaf ofynnodd Tom i mi oedd, Wyti ti'n cofio am danom yn dwyn fale ers llawer "Ydwyf," ebwn innau. "Ddwges i ddim byd byth wedi'n, ebai Tom. "N a finne, chwaith," cbwn innau, "mi ges i wers na anghofia i byth mo honi." "Mi ges inne, ebai Tom, "wialen! fedw ncwydd fflam ar y 'nghefen, a mi nath les mawr i fi. Barnai 'Newyrth Sion fod Cymru mewn dyled fawr i'r "hen wialen fedw," ac na wnelai tipyn rhagor o honi ddrwg yn y dvddiau hvn. Ond efallai nad ydych chwi o'r un farn ag ef. Beth bynnag am hynny, ef. Bcth bvnn:w am hvnnv, gadawodd yr hen wialen fedw ?i hl ar lawer, a hynny cr daioni.

! "Y Darian " mewn Cylch j…

Advertising

Siop Dafydd Ap Huw. I

Y diweddar Mr Thomas | Roderick,…

Seven Sisters.I

Advertising

Gohebiaethan. I

Marwolaeth Americanaidd.

Advertising