HWNT AC YMA. I|1914-01-01|Y Darian - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

10 articles on this Page

HWNT AC YMA. I

News
Cite
Share

HWNT AC YMA. I GAN LVWELYX." EISTEDDFOD PLANT Y PARCH. RHYS J. HUWS. Cymwynaswr gwir i blant Cymru yw y Parch. Rhys J. Huws, Glan- amman. Daeth a'i Eisteddfod plant gydag ef o'r Gogledd i'r De, a diau y gwna lawcr trwyddi i ddiogelu'r Gym- raeg, a meithrin diwylliant gwerinol Cymru mcwn ardal boblog a phwysig. Y mae gweled y rhaglen hon yn iechyd i galon pob Cymro sydd a rhyw- faint o dan Cymreig yn dal o hyd i losgi yn ei fynwes. Dvma raglen Gymreig hollol a theilwng o'n cenedl. Rhoddir cadair dderw, gerfiedig, gwerth pedair gini i'r un dan 21 oe d a ragoro mewn arholiad yng ngweith- iau rhai o'n llenorion a'n beirdd goreu, a choron o arian i'r un dan 18 oed a ragoro mewn cyffelyb gamp. Cynllun I da, ni a dybiwn, i gael gan ein beirdd ieuainc i ganu llai a gwybod mwy am glasuron lien a chan eu gwlad. Pan I genir llai odid na chemr yn well. Athrofa odidog fydd yr Eisteddfod hon i Gymry'r cylch. DEMOCRATAETH YR EGLVYYSI. 1 Dadl ddiddorol gafwyd yn y "Daily Leader," Aber lawe, yn ddi- weddar, ar y cwestiwn hwn rhwng y Golygydd a Mr. Neft, y deintydd o Lanelli. Honna Mr. Neft fod yr eglwysi wedi eu meddiannu gan yr I ysbryd cyfalafol. Dadleuai'r Gol. talentog fod yr eglwysi yn ddemocrat- aidd hoiioi, ac eglurodd ei safle yn ddeheuig. Arweiniodd hyn y ddadl i bwynt. Cydnabyddai Mr. Neft fod yr eglwysi Cymreig yn hollol ddemocrat- aidd eu llywodraeth. Ond felly, medd- ai, y mae Ty y Cyffredin. Etholir Arglwydd Hugh Cecil a Sir Crlstopher Furness mor ddemocrataidd a'r Mri, Hardie a Snowden. Er hynny, y mae Ty'r Cyffredin yn gyf alaiol iawn, am fod y werin o'r un yspryd. Tcyrnasa ysbryd cyfalaf yn yr eglwysi am yr un rheswm, sef fod y werin yn gyfalafol ei hysbryd. Ar gyfrif hyn dywed Mr Neft fod yr eglwysi wedi dewis gwasanaethu Mamon a chym- eryd plaid cyfalaf. Bendithia'r gynnau mawr, a bedyddia'r Dread- noughts, etc. Yn sicr y mae Mr Neft yn cymysgu pethau *a'u gilydd. Teimlem yn falch, er hynny, ei weled yn cydnabod democrataeth yr eglwysi Cymreig mor groew. Pan adnebydd hwynt yn well dichon y daw i synied yn uwch am eu hysbryd a'u gwaith. Nid oes gan yr Eglwysi Rhyddion law mewn amddiffyn milwriaeth na chyfal- af fel eglwysi. Y mae eu llais yn bar- haus yn erbyn milwriaeth ac yn erbyn gorthrwm cyfalaf. Dichon fod ynddynt rai yn credu mewn milwr- iaeth a rhai yn cefnogi cyfalaf. Ond, ag edrych arnynt o safbwynt cym- deithasol, y mae dylanwad yr eglwysi yn gryf o blaid cyfiawnder, heddwch, addysg, a'r rhan fwyaf o bethau sydd a'u tuedd i ddyrchafu safon bywyd. ) DRWS AGORED. I Y mae democrataeth gydnabyddedig I yr eglwysi yn ddrws agored i hyr- .J.vyddiant pob cynnydd a dadblygiad a fyddo er daioni. Gan eu bod yn ddemocrataidd gellir eu gvvella o'r tu fewn. Ofer yw curo arnynt o'r tu allan gan rai nad ydynt yn eu deall nac yn cydymdeimlo a'u llafur. Nid oes a fynno'r Eglwysi a chefnogi un- rhyw blaid Geidwadol, Ryddfrydol, na Llafurol fel y cyfryw, ond dylai aelodau pob plaid fod yn well o'u dylanwad. Ysbrydol yw dylanwad a neges eglwys; ceidw ddynion mewn ymwybyddiaeth o'r Anweledig. Nid yw Tadolaeth Duw, Brawdoliacth dynion, ac urddas y natur ddynol wedi eu dysgu yn effeithiolach mewn un- rhyw gylch nag yn yr eglwysi. Gall dynion da iawn gredu yn y drefn gyfalafol a chredu fod angen byddin a llynges. A chariiatau fod y rhai hyn yn cyfeiliorni, dyledswydd y rhai sydd yn credu yn wahanol iddynt nid ceisio eu gyrru allan neu bardduo yr eglwys o'u plegid, eithr yn hytrach yn ysbryd Crist geisio dylanwadu arnynt er gwell. Nid ydym eto wedi gweled neb yn gallu gosod i fvny ddim a ddaw i fynny a'r eglwysi yn eu dylanwad er daioni. Dynion wedi eu meithrin yn awyrgylch yr eglwys yw y rhai croewaf eu llais o blaid diwygiadau angenrheidiol. Y PETHAU SYDD A GWAHAN- j IAETH RHYNGDDYNT. I Y peth a dynn gryn anfri ar yr cglwysi yw y gall y sawl a fynn godi eglwys o'r nodwedd a fynno. Dar- Ilennir am Esgob neu Archesgob yn bedyddio ac yn bendithio llong ryfel, a bydd rhywrai yn codi eu dwylaw ^n synedigaeth ac yn dweydâ yma waith yr eglwysi, i hyn y maent t "?y yn bodoli! Ped elai y beirniaid hyn drafferth i holi ac i chwilio caent allan nad oes gan luaws aelodau'r na chyfran yn  eglwysi na rhan na chyfran yn y re<* ^onn°. Ped elai y rhai a P ,emniant yr eglwysi byth ac v 0 dan y dybiaeth nad ydynt mor  ag 5\ dylasent fod i ryw imudi '"duo1. i'r drafferth I  | eu iwaith a'u Ilaf ur, ??sen/?y?h eu gwa;th a'u llafur, c^-sen all-n yn fuan iawn fod gwa- ?"'aeth ^Uan *awn fod gwa- Caent fod 1 ng e^*wys ac eglwys. ng egl-3-s ae e g lA,y-s. ? a dybiant er* Jn &wneud mwy <??i?eth, a'u t"??ha6ad by?v? d dynotia4 th, au bod Yn deilwng o I ge f noga4etb yn bytracb na'u rhwystro. Y -ae yn ddia. 0 ^diffvgion yn yr eglwysi; o'r byd amherffaith y cant eu defnyddiau ac nid o blith yr angel- ion, ond yn eu hawyrgylch hwy y mae He goreu i ddynion ieuainc a hen hefyd. Ofnwn mai gelyniaeth afresym- I ol sydd wrth wraidd llawer o'r con- demnio sydd arnynt. Methodd ambell un a'u plygu i'w amcanion ei hun, ac o hynny allan nid oes drugaredd I iddynt. Yr eglwysi a'r wemidogaeth yn ddiau fu caredigion mwyaf Cymru yn y gorffennol. Os nad ydym yn camgymcryd y mae'r wlad eisioes yn dechreu agor eu llygaid ar werth eu llafur a'u dylanwad. Y maent yn ystod y blynyddoedd diweddaf wedi llafurio o dan gryn anfantais o herwydd y camliwio sydd wedi bod arnynt. Mantais fydd hyn iddynt yn y man. Dechreua'r cymylau glirio, deuant i ddeall lle'r ocddent yn wan, ac i ganfod eu llwybrau yn gliriach. "JOHN BULL A'R GYMRAEG. Papur cciniog wythnosol yw John Bull," a olygir gan Horatio Bottom- ley. Y mac efc'n adnabyddus fel un I sydd yn gallu gofalu am fusnes pawb ond ei fusnes ei hun, ac y mae yn un o'r engreifftiau goreu o'r Sais ym- erodrol y gwyddom am dano. Yn ei bapur am Ragfyr 27am gwawdia ym- gais Cymrodorion Aber Tawe i gael gan yr awdurdodau i wneud dysgu'r Gymraeg yn orfodol yn yr ysgolion elfennol. Dychryna'r Sion Darw hwn wrth feddwl am y fath beth. Ofna yr arweiniai hynny i ddysgu iaith yr Albanwr yn Glasgow, a iaith y Gwyddel yn Dublin. Hawlia synnwyr cyffredin, meddai ef, y dylid tros- glwyddo ieithoedd sydd ar ddarfod am danynt i dir hanner-angof i fod yn destynau myfyrdod hamdden y rhai a garant hynafiaethau llenyddol. Ych- wanega, Os oes gan blant amser i ddysgu dwy iaith yn yr ysgol, goreu oil, ond gadawer iddynt fod yn ieith- oedd byw." Gwyddom fod synnwyr cyffredin Sion Darw wedi methu lawer gwaith, ond nid oes byth ball ar ei haerllugrwydd. Gellid tybied oddiwrth ei ymfrost ar adegau ei fod Yn holl- wybodol, ond, wrth gwrs, ni raid i ni ei gymeryd ar ei air. Y mae mor ddiniwed a chredu nad oes ond un genedl yn y deyrnas hon, a honno yn genedl Sion Darw ei hun. Tipyn o chwydd yn y pen sydd yn cyfrif am dybiaeth fel hon. Efallai y daw yr Ymerodrwr hwn i wybod rywbrvd fod y Gymraeg yn iaith lyw, ac yn debyg o fyw; a bydd- ai dysgu ieithoedd sydd ar ddarfod am danynt yn yr ysgolion yn well gwaith na llawer o bethau y mae John Bull wedi wneud ar hvd ei o c- Nid e f el 'ii oes. Nid yw aelod o Sennedd P.rydil1" Fawr ers tro. I

Treforis..I

Penderyn.

Ferndale.I

IPontardulais.I

Eisteddfod Bodringallt.

-Treforis. I

Calfaria, Rhigos. I - i

[No title]

Advertising