Hide Articles List

6 articles on this Page

I Y Golofn Amaethyddol. I

I IDatganiadau Dinesydd o…

[No title]

I Taith i Lydaw.

News
Cite
Share

I Taith i Lydaw. (Sef gwlad y bechgyn sy'n dod a winwns i Gymru). I CAN "GANLLYW." Llydaw ydyw'r enw rown ni ar y wlad a eilw'r Ffrancwr Bretagne, a'r Llydawr 'arfor' neu 'Bretan Vihan.' Ni wyr y preswylwyr am y gair 'Llydaw,' a sicr ddigon nis galwant eu hunain Llydaw- wyr. Dywed Owen Rhoscomyl mai ardal yn Sir aGernarfon o gwmpas Llyn Llydaw ydoedd Llydaw, ond iddo gael ei roi ar Brydain Fechan mewn cam- argraff a cham-wybodaeth o'i safle bri- odol. Modd bynag, gwyddom heddyw beth a olygwn wrth yr enw, y wlad a orwedd ar Orllewin Ffrainc ydyw, a phreswylir hi gan y Brythoniaid, pobl o'r un cyff a gwaed ac o gyffelyb iaith a ninnau. Rhennir y wlad i bump adran: Ill-et-Vilaine, Loire Inferieur. Cotes-du-Nord, Morvihan a Finisterre. Ychydig iawn o bobl yn y ddwy adran sy'n ffinio a Ffrainc, Ille V"I Loire Inferieur, fedr siarad y Frython- eg, ac y mae llawer yn Cotes-du-Nord a Morvihan na fedrant chwaith, ond y mae bron yr holl o'r preswylwyr yn Finisterre yn fedrus arni. Mae poblog- aeth y wlad i gyd dros dair miliwn, ych- ydig yn fwy na phoblogaeth Cymru, ac y mae dros filiwn a hanner yn medru'r Frythoneg, a miloedd lawer na fedrant siarad yr un iaith arall, hyd yn oed y Ffrangeg. Ychydig iawn, iawn o'r Ffrangeg wyr y bobl hyn a ddeuant o flwyddyn i flwyddyn i werthu winwyn i'n gwlad. Daw'r mwyafrif o honynt o'r rhan honno o'r wlad a elwir "lan pagan" a orwedd rhwng Roscoff a Brest, y rhan fwyaf Frythonaidd o'r wlad. Siaredir pedair tafodiaith wahanol o'r Frythoneg, sef yw rheiny, Vannetais, Cornouaillais, Trecorrais, a Leonais. Dywedir fod llawer mwy o wahaniaeth rhwng y tafodieithoedd hyn nag sydd rhwng Cymraeg y Gogledd a Chymraeg y De. Diau fod llawer o'r gwahan- iaeth hwn i'w briodoli i'r wlad gael ei gwladychu a'i sefydlu gan ymfudwyr o wahanol rhanbarthau o'r ynys hon. Dywedir mai'r Cernywiaid ymsefydlodd yn Cornouaille neu ern, ac i'r Gwydd- elod a'r Gogleddwyr ymsefydlu yn Treguer, ac i bobl Gwent a Morgan- wg ddyfod i Leon. Sut a phryd y daethant sydd anhysbys. Ceir llawer traddodiad. Dywedir ym Mreuddwyd Macsen Wledig mai'r milwyr Prydeinig aeth drosodd i'r Cyfandir i gynorthwyo a sicrhau gosod Macsen ar ei orsedd ymherodrol yn Rhufain gafodd y wlad fel gwobr am eu gwaith, ac i rhan o hon- ynt o dan arweiniad Gynan Meiriadog aros a chartrefu yno. Tristddifyr yw'r modd y cawsant wragedd iddynt eu hunain. Lladdwyd gwyr y wlad gan- ddynt, yn ol arfer y dyddiau hynny, a chymerasant hwythau y merched a'r gwragedd yn wragedd priod ond yn hytrach na gadael i'r rhiannod lygru eu hiaith drwy ddysgu iaith eu mam i'r plant, torrasant eu tafodau, yr hyn yw'r gosb drymaf ellir roi ar ferch neu wraig, oblegid wedi colli'r tafod beth wnant wedyn; o'r hyn y tarddodd y gair Llydaw, medd y Chwedleuydd Cym- raeg. Ceir stori brydferth brudd arall yn y Brest. Dywedir i Vronla gasglu un fil a'r ddeg o foneddigesau a deugain mil o forwynion eraill, ac iddynt gy- meryd llongau ar fwriad mynd dros- odd i Llydaw fel gwragedd, ond ni fu'r mor yn foddlon i'w neges. Boddwyd y mwyafrif, a merthyrwyd y lleill gan Bafoniaid. Modd bynag, cafodd y gwyr eu gwragedd, a chadwasant eu hiaith hyd heddyw ai trwy dorri tafodau neu gadael fddynt droi a throelli nid oes wahaniaeth. Dywedir ymhellach yn y trioedd mai o Dir Meiriadawc, o Dir Seissyllyg ac o Dir Gwyr a Gorwennydd y daeth y llu a arweiniodd Gynan. Enw ar gantrefi Ceredigion ac Ystrad Tywi ydyw Seissyllwg. Yn Sir Dinbych mae Meiriadawc, a'r hyn elwir yn Browyr heddyw ydyw Gwyr, gyda hyn o wahan- iaeth yr arferai Gwyr gynnwys plwyfi Llangyfelach, Llandilo, Talbont, Llan- giwc a Llansamlet, a diau mai y Gron- eath bresenol ydyw Gorwennydd a ym- estyn ymlaen o Gilfai drwy Gwm Nedd. Felly cynrychielir y Northman, y Cardi, y Sirgar a'r Morganwciaid yn Llydaw. Rywle tua'r chweched ganrif yr ym- sefydlodd yr ymfudwyr hyn, ac yno maent wedi aros. Bu cyfathrach agos rhyngddynt a'r Cymry am ganrifoedd, ond darfu'r gyfathrach am lawer canrif wedi hynny, fel yr amgylchwyd hwy gan ddylanwadau gwahanol i'r eiddom iii, fel nad ryfedd, er eu bod yn gnawd o'n cnawd ni ac yn asgwrn o'n asgwrn ni, ac yn siarad iaith debyg i ninnau, y gwahaniaethant gymaint oddiwrthym. "Meddyliais, cyn cychwyn i Lydaw," meddai Mr. O. M. Edwards, "y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad, fy hun. Ail Gymru ydyw Llydaw, ie, ond gyda gwahaniaeth mawr. Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Cymru heb ei Ysgol Sul ydyw. Cymru wedi sefyll tua dechreu'r ddeunawfed ganrif ydyw, mewn crefydd, mewn moesoldeb, mewn gwybodaeth. Wrth fynd i Lydaw y mae'r Cymro'n mynd ymhellach na thros for, y mae'n mynd ddwy ganrif yn ol." Dywedwn ninnau, ydyw, os nad tair canrif mewn rhai ystyriaethau. Gymru cyn cyfodiad Anghydffurfiaeth ydyw yn grefyddol. Dyma'r wlad y cefais gyfleusdra i ymweled a hi Haf 1909. (I barhau.)

I Llythyrra Sion Sana.

Advertising