Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
You can Save Five Pounds per Minute by Reading this Advertisement, and by thep placing your order for a Pianoforte or Organ in the hands of this well-known old-established Firm, for as they are not solely dependent upon the Sale of Musical Instruments, they can supply you far and away below the usual music-warehouse prices! Every Piano is warranted Ten Years Hundreds of Testimonials Cash or generous arrangements for Credit! Delivery Free 200 miles! Catalogues gratis & post free BEVAN & Co., Ltd., Pontypridd, Cardiff, Swansea, &c.  99  King, 40 Guineas. "The Marvel ? ?n.? ?ThePrincipatity??? ?heBr!ghton/'????? "The King, u8e'gjae,n^ Case, 15 GUineas. 28 GUineas. Piano. 35 GUineas. 40 GUineas. Furniture for the Million at rock-bottom prices! BEVAJI & Co., Ltd., Wales Largest Furnishers, Pianoforte & Organ tyercfonts.
Bwrdd y Golygydd. I
Bwrdd y Golygydd. I Y Beirdd Ni thybiais fod cynifer o honoch yn y wlad. Trosglwyddwyd i mi bentwr o'ch cynhyrchion oeddent yn y swyddfa yn "aros eu tro." Ni feiddiwn gyffwrdd a chymaint ag un o honynt. Anfonais. hwynt yn ofalus i Sgubor yr Hendre at Brynfab, hen Olygydd Barddoniaeth y "Darian." a diau y cewch ei farn am danynt yn eu tro. Anfoner pob math ar farddoniaeth iddo ef o hyn allan. W. Williams, Llanelli: Cawsom yn y swyddfa adroddiad Saesneg maith- chwe tudalen foolscap, o weithrediadau Llys Ysgar yn yr America. Ceir ynddo rai brawddegau na charem lychwino tudalennau'r "Darian" a hwynt. Credwn yn onest y gwnai yr adroddiad hwn fwy o ddrwg i'ch achos nag o les. Rhaid tawelu'r Ystorm DdiwirijrTdol bellach, y mae wedi rhuo yn ddigon hir. Wrth gwrs bydd colofnau'r "Darian" o hyd yn agored i chwi, neu i'm cyfaill W. Havard. os ewyllysiw ch anfon llithiau byrion, diddorol, ar faterion yn perthyn i'ch credo. D. Jones, Aberteifi: Cawsom ysgrif o'r eiddoch chwithau ar "Russelliaeth," wedi ei gadael allan o ddiffyg gofod yr wythno6 ddiweddaf. Credwn, er mwyn i ni gael dechreu'r gyrfa olygyddol a'r flwyddyn Aewydd mewn tawelwch gweddol, mai gwell fydd gadael hon o'r neilldu, yn arbennig gan y bydd ein gofod yn brin yr wythnos hon eto. Gadewch i ni gael eich gohebiaeth ar- ferol a byddwn ddiolchgar. Un 0 Goaen: Mae yr eiddoch chwith- au braidd yn faith. Hefyd, gwnai yn well/el pregeth nag fel ysgrif i -'ew;ydd- iadur. Gwallu's yw eich sillebiaeth. j Pan yn difynnu o awduron eraill, gofal- wch am gywirdeb. Yr ydych wedi gwneud bafog ar Can di bennill mwyn i'th oain," etc. Beth bynnag y mac pethau da yn eieh ysgrif, a chadwn hi; gallwn fod yn brin o ddefnyddiau pregeth rywbryd. 0. Ff. Oatis: Dyma ddwy ysgi-;f o'r eiddoch chwithau a'r papurau yn rhvdd- ion ac wedi cymysgu a'u gilydd. Y mae yr ysgrifau ar ddarnau man o am- lenni newyddiadur, papur "invalid stout," papur "lottery," a "registration form," etc., a'r oil o amryw liwiau. Mynnwn weld beth ellir wneud o hon- ynt. Karl: Mae eich ysgrif chwi yn hen yn dod i'n llaw a'i chynnwys yn hysbys. Drwg gennym am hyn oblegid ei bod yn ysgrif mor dda, a charetn gael pethau tebyg oddiwrthych yn y dyfodol. I Cwlad Myrddin: Nid ydych yn rhoi dyddiad cymaint ag un o'r pethau a gofnodwch, ond yn unig ei bod wedi I digwydd "ychydig amser yn ol," neu "ychydig Suliau yn ol. Byddwn ddiolchgar i chwithau am y newyddion diweddaraf. a'r dates os gwelwch fod j yn dda. J Glan Mellte: Protestia ef yn erbyn cais "Pencerdd Melltet" am gael enwau y cyfranwyr at dysteb wedi eu darllen yn y c-wrdd cyflwyno. Ofna y byddai hynny yn angharedig a rhai nas gallent roi ond ychydtg. Hyderwn yr ystyria'r "Pencerdd" y mater ymhellach. Carwr yr Ysgol Sul: Adolygiad ar es- boniad y Dr D. M. Phillips ar yr Epistol at yr Hebreaid. Y mae'r esboniad yn sicr o fod cystal ar y dywedir ei fod, ond y mae yr adolygiad yn rhy faith i'w gyhoeddi. Dyma hyn o hvsbysiad iddo'n rhad. Gweler rheol ar y mater hwn mewn lie arall. Brython: Gwell fydd rhoi llonydd i'r "Gole Coch" bellaeh. Ofnwn y cych- wvnai eich sylwadau ar yr Eisteddfod ystorm waeth na dim a fu er y diluw. Rhowch i ni rywbeth a llai o ddefnydd ffrwydriadau ynddo. J ffrwydi,iadau vnddo. W.G.: Desgrifiad o Berfformiad "Y Storm." A ddarfu i chwi sylw fod gen- nych dros ddwy ddalen gyfan heb gym- aint ag un atalnod llawn. y ewbl o'r dechreu i'r diwedd wedi ei linynnu gydag "ac" a hefyd." Arferwch ys- grifennu braddegau byrion. Yr ydym vn ofni anturio ei ailysgrifennu am mai desgrifiad o waith cerddorol ydyw. a gallem wneud lianas arno. Dafydd William Dafydd: Gwnawn rywbeth o'r ysgrif sydd ynia i chwi pan gawn hamdden i'w hail ysgrifennu. Y mae eich llaw-ysgrif yn hynod o dlos a chywrain, ond y mae coesau a ehynffon- nau y llythrennau yn bachu yn eu gil- ydd o'r naill linell i'r Hall nes y mae yn anodd ei ddarllen. Tybiodd yr hogen yma pan welodd yr ysgrif yn fy Haw mai patrwn 6 crochet work vd- oedd. Dylasech, i wneud chware teg a'ch llawysgrif. adael mwy o le rhwng y llinellau. Dalier Sylw: Mae gan y cysodwyr hawl i wrthod unrhyw law-ysgrif a roddir iddynt oni fydd yn ddealladwy heb lawer o drafferth. Felly, er mwyn hwylusdod carem i'n gohebwyr ysgrif- ennu yn ddealladwy. Arbeda hynny gost a thrafferth i ni, a dichon yr ar- beda ryesiwns, chwedl Sion Sana, yn y swyddfa yma. W. Havard Wedi c l irio'r bwrdd un- I waith dyma ysgrif faith o'r eiddoch chwithau i law. Gwelwch ein hateb i W. Willams a D. Jones. Xs gallwn fforddio hanner v "Darian" i'r Ystorm, neu ddaw hi byth yn fil flwyddiant ar- nom yn y "Darian." T. Hopkin Evans: Rhaid talfyrru yr eiddoch chwithau.
Soar, Aberdar.I
Soar, Aberdar. I EISTEDDFOD Y NADOLIG. I Cynaliwyd yr wythfed Eisteddfod flynyddol yn yr eglwys uchod ddydd Nadolig. Llywyddwyd gan Mr R. R. Davies, M. E. (un o ddiaconiaid yr eglwys). Y beirniaid oeddynt Cerddoriaeth, Mr. John Rhys, Hopkinstown; bardd- oniaeth ac adroddiadau, Parch. Ben Vaughan, Cwmdar. Cyfeilvvyr, Mri. jW. M. Lewis, A.V.C.M., ac E. T. Edwards, A.L.C.M., Aberdar. Ar- weinydd y dydd oedd y Parch. T. Eli Evans, gweinidog yr eglwys. DYFARNIADAU. Adroddiad i blant dan 16, "Beth sy'n hardd (i) Nellie Roberts, Llwydcoed; 1(2) Maggie Thomas, Glynnedd. Unawd ar y berdoneg i blant dan 16. "By the Old Sundial (I) Cath- erine Teague, Penrhiwceibr; (2) Idris Owen, Aberpennar. Unawd ar y berdoneg i blant dan 13, "Regoletto": Hilda Bassett, Gad- lys, Aberdar. Unawd i blant dan 16, "Save me, 0 God (I) Claudia Jones, Penrhiw- ceibr; (2) Amy Jenkins, Penrhiw- ceibr. Dwy Delyneg-(a) "Tan yr Uchel- wydd (b) Y Gelynen dan yr eira Mr. Recs Rees (Teifi), Caerdydd. Unawd ar y crwth i blant dan 16, "A Little Story" (I) Gertrude Mul- vey, Aberpennar; (2) Myfanwy Wyn Williams, Aberdar. Unawd Bass, "Arm, arm, ye brave" Mr. D. Pennar Williams, Aberpennar. Unawd ar y berdoneg (agored), Paquarettes Miss Annie Mulvey, Aberpennar. Unawd Soprano, Llythyr fy Mam." Rhanwyd rhwng Miss Maggie Williams, Aberdar, a Miss Amy Jenkins, Penrhiwceibr. Englyn, "Y Cyfrinwr," rhanwyd rhwng Mri R. Rees (Teifi) a J. Davies (Gwinau Emlyn), Abercwmboi. Her adroddiad. Daeth pedwar i'r liwyfan o'r rhagbrawf. Goreu, Mr. James Rees, Hirwaun. Adroddodd "Arwerthiant y Caethwas." Wythawd, "Tanymarian": Parti Mr. Gwilym Evans. Her Unawd. "Gates of Eternal Dawn Mr John Williams, Aber- pennar. Cor, Jerusalem, fy nghartref gvviw Choristers, Aberaman, dan arweinyddiaeth Mr. Frank Leach. Gwnaeth y cadeirydd gyfeiriadau at yr hen Eisteddfodau, ac yr oedd yr hanes yn ddyddorol iawn. Carai ef weled yr araeth yn cael lie mwy am- lwg ar ragleni Eisteddfodau. Hefyd dylid rhoddi lie i'r ddrama yn yr hen wyl. Da oedd ganddo weled y bobl ieuainc yn cymeryd y ddrama i fyny. Cafwyd araeth fer hefyd gan yr ar- weinydd. Da ganddo weled cynifer o'r bobl ieuainc yn cystadlu yn ystod y dydd. Dim ond cael yr ieuainc i gymeryd dyddordeb yn yr Eisteddfod, nid oedd berygl iddi hi na'r hen Omeraeg farw. Cadeirydd y pwyllgor oedd Mr R. W. Gray, a'r ysgrifenyddion, Mri. Joseph 0 Rees a John Lewis. LLWYD. I
Advertising
FOR PRICE N LIST. ? MEMBtHa BELTS a<td HtM)ESS UND BIFURCATED RIVETS. N USE BtPURMTEO MVt:T& No need topunchholes. Simply the prongs. Neat and strong. Of all local Iron- mongers, or send 1'- Hi for box (assorted) to— ■ ifurcatod and juliular
Beirniadaeth.! .-.-.-)
Beirniadaeth. ) EISTEDDFOD Y DDRAMA YM MERTHYR. Can y Parch. D. Bassett, Aberdar. Gydag hoffder un yn caru ei w lad, ei iaith, a'i genedl, y teimlwn yn llawen fod y Ddrama Gymreig yn dod i fewn i'n bywyd cenedlaethol. Mae i'r ddra- ma ei lie. Deffry ymwybyddiaeth y genedl i'w phethau gore. Dylai'r ddrama ddysgu yn ogystal a diddori. Rhaid i'w phlot fod yn amlwg a'i moeseg yn bur. Nid yr ysgafn a'r chwareus o hyd, ond yr anhawdd hefyd. Nid adloni yn unig, ond tynnu allan eg- nion serch ac enaid y chwareuwyr. Mae'n fwy nag adloni, ac yn ddyfnach na diddori—mae'n dysgu ac argyhoeddi. Dylid cadw golwg ar lafur ac anhaws- der, heb golli'r chwareus a'r ysgubol ar rai adegau. Awn at y Cwmniau ddaeth i'r ymgyrch "Jack y Bachgen Drwg," Rhag. 15. PARTI TYLORSTOWN. I Pennod I. I Mae'r ystafell yn brydferth a threfn- us. Egyr yn dda. Yr oedd Henry a Maria yn syml a naturiol. Dichon fod gwisg John a Jane yn fwy nodweddiadol o'r oes hon nag o hanner canrif yn ol; eto yr oedd pob ystum, a goslef. a symudiad yn eitha naturiol. Doniol oedd ymddangosiad y Bardd newydd, a chanu'r emyn. Gallasai'r Parti wneud ei ymddangosiad yn naturiolach, a clreu mwy o frwdfrydedd. Gwnai Ann a Sian eu gwaith yn eithriadol dda. Difyr oedd golygfeuon cyflogi, a Lod- wick yn chwareu ei bart yn dda, ond ystumiau "John Bach" oedd coron y cwbl. Gallesid gwneud golygfa "Bore'r Sabbath" a "Marw'r Tad" yn ddwysach I pe gwesgid mwy o riddfan i'r llais a dagrau i'r amgylchiadau. Hoffasem i Henry gael llonydd i farw, heb nodau lleddf y piano. Ond Act dda yw hon. Pennod II. I Collodd John yn yr ymson agoriadol. Aeth i adrodd vn lie ymddyddan, ac ym- son ar farw ei dad ai gynghor ola iddo. a meddwl am y dyfodol. Yr oedd John yn gwella ym mhresenoldeb ei fam ond gallasai'r ddau daflu mwy o'u calonau i amgylchiadau'r vmdawiad. Tueddent i frysio. nes colli yr effaith ellid wneud. Daeth Mari Ty Isaf i fewn at Maria, a gwnaeth ei gwaith yn naturiol. Hoffas- em i John fod yn ddoniolach gyda'r heddgeidwad, a dangos mwy o ddiniw- eidrwydd a thact y cymeriad gwledig. Daeth i fewn i dy Jane yn eitha naturiol, ond gallasai fod yn ddoniolach. Gwnaeth Jane ac Arthur eu gwaith yn rhagorol, ac nid ffol i gyd oedd John a'i fasin mawr yn yfed te, a bwyta. Methai'r gweinidog wneud ei waith i'r fantais ore. Gwell iddo fuasai ym- ddyddan yn rhydd a naturiol, a throi ei don o'r neilldu, gan wasgu'r neges adre. Curai Mrs. Peregrin ef yn hyn. Yr oedd ei llafar a'i brawddegiad hi yn wir dda trwy ei holl waith. Dichon niai gwell fuasai i John dynnu ei gap yn y ty, yn ar.bennig gan ei fod yn gaffer, a bod disgwyl am foesau da, fel bachgen o gymeriad gwledig. Teimlem fod gor- mod o'r art a rhy fach o naturioldeb yn ystum a llafar Thos. Jones. Yr oedd Maria yn well felly. Pennod III. I Eitha naturiol ond tueddu i bregethu ac adrodd yn hytrach hag ymddiddan, a chadw'r sgwrs yn "true to nature" i'r diwedd. Gellid gwneud y temtiad yn well. Gwan oedd yr holl gymeriadau gyda'r temtio. Dysgwyliem wel'd mwy o hudoliaeth y sarph yn cylchu John, er fod ei edrychiad yn rhagorol. Peth gore'r tafarnwr oedd ei wisg a'i ym- ddangosiad. Godidog oedd Billy Ponto yn ei actions, ei ystum, a'i oslef, a Twm Carver a Dai o'r Stag yn bob jeth ellid ddvmuno. Awgrymiadol iawn oedd Jack ar y stryd, wedi ei droi allan o'r dafarn, a thyner oedd ei erfyniadau cyn syrthio. Pennod IV. I Dyma dro naturiola Dafydd a Mor- gan, a Ponto yn tynnu'r ty am ei ben wrth ddiosg ei got i'w rhoi tan ben' Jack, a rhoi tamaid iddo ar lawr. Wel done, Ponto. Dyma bwynt gore'r ddrama, ac yntau bia'r clod. Yr oedd y ddau etto gyda Mr. Jones, y gweinidog, yn rhagorol, ond hawdd gallai'r gweinidog wneud yn well. Cwrddodd y fam a Jane a'u gilydd yn dda iawn, ond hoffem angerddolach teimladau, yn arbennig pan gofiom yr amgylchiadau. Yr oedd yr ymddyddan yn dda, ond dim digon yspryd y ddrama. Gallasai'r fam ddangos mwy o'i theimladau yn nhy Jane. Da fuas- ai iddi roi vent i'w theimlad. Yr oedd yn gwella fel oedd yn dangos ei ffydd, ac yn adrodd ei stori, a Jane ac Arthur yn rhagorol wrth ddal ffrwyn yr am- gylchiadau. Dylasai'r cyfarfyddiad rhwng John a'i fam fod yn angherddolach. 'Rwy'n sicr y taflasai'r fam iawn ei breichiau am wddf ei bachgen, a'r bachgen am wddf ei fam wedi deall amgylchiadau'r adferiad. Mae hwn yn berfformiad iawn, a llawer o raen saerni- aeth daå arno. Parti'r Glyn," Trecynon, Aberdar, Nos Fawrth, Rhag. 16. GRUFFYDD O'R GLYN." Rhan I. Golygfa 1: Cegin Gwesty'r Dafarn. Golygfa'r Dafarn yw hon. Mae'r Cwmni'n llawen a byw. Torant ar draws eu gilydd yn naturiol. Mae Gruff yn rhagorol-ei wisg, is osgo, ei ystum, ei frawddegiad, a'i gan yn byw a desgrifiadol, a daw Will o'r Felin a'i gan a'i bill, ei osgo a'i actions yn gyn- hyrfus. Rhagorol fechgyn. Golygfa 2: Cegin y Glyn. Gwen yn agor yn dda, ac yn taflu ei henaid i'r gwaith. Mae ei hystum, ei symudiad, a'i brawddegiad yn ardderch- og. Newidia ei gwedd gyda'r prudd a'r lion, a thry at waith y ty, ei gweill a'i chan yn rhagorol. Nid oedd Arthur cystal a'i fam, ond yr oedd yn gwella bob ergyd. Arianwen a Blodwen yn fyw o gyfaredd. Ymadawiad y fam yn ddwys, a phenderfyniad Arthur a'i ddwy chwaer yn eithriadol dda. Rhan II. Golygfa 1. Cryf a desgrifiadol drwyddi—pob cy- meriad yn fyw. Golygfa'r 2. Pwynt hon yw Arthur yn penderfynu amddiffyn ei fam, a bod yn deyrngar i'r gwir, a gwna hynny yn llwyddiannus. Gwan iawn yw Mr. Prys, yr Ynad. Er i Gwen ac Arthur geisio ei dynnu allan, erys yn fwy o bwysau nag o hwyl i'r gwaith. Daliai Arthur ei bwynt yn ardderchog i'r diwedd, fel cefn ei fam, a diogelydd y gwir. Golygfa'r 3. Yr oedd Arthur yn rhagorol drwy hon, a'r fam a'r merched yn dda. Rhy ddifater, ac heb ddigon o ddwysder oedd ystum a llafar y gweinidog. Yr oedd ei gyfle yn ardderchog, ond meth- odd a dal arno. Ni ddaeth i fewn i'r ysgarmes gyda'r awdurdod ellid ddys- gwyl gan ddyn o'i safle, pan ddywedai wrth Gruff am beidio neEU atto, "Rhag i'r nef ei darro," tra'r oedd Gruff yn taro pwynt penna'r drama yn ei ystum, ei lef a'i osgo wrth ddianc rhag y "tan oedd yn ei lygaid." Ardderchog Gruff, j Rhan III. I Golygfa 1. 1 Tyner a desg rifiadol, a'r meddyg yn I urddasol. Plygodd Gruff ar ei liniau o flaen Gwen naturioled nes gwelem y pechadur yn yr amgylchiadau. j Golygfa 2. I Pob gwisg ac ystum yn addas i'r am- gylchiadau. Yr oedd Gruff yn brudd, a Gwen yn lion. Awgrymiadol iawn oedd gwedd ac ystum Gwen ar ddyfodiad Ifan a Huw i'r ty i ofyn helynt Gruff. Gwelid yr of nus, y prudd, a'r Hon yn chwareu yn ei llygad bob yn ail, nes gwelodd fod yr Hwn a garai, ac a wnaeth ei gore i'w achub yn ddiogel, yna daeth heulwen i'r amgylchiadau, a nefoedd i'r aelwyd. Gwan oedd y gweinidog eto. Methodd yn deg a thaflu ei enaid i'r amgylchiadau,, tra'r lleill yn odidog ym mhob pwynt. Gydag eithrio "Prys" a "Rhys," per- fformiad ardderchog yw hwn o ddrama ferr. Gydag ychydig ymarferiad gallai'r rhai hyn wneud yn well. (I'w barhau.) I 1 1 1
Advertising
I The Welshman's Favourite. MABON Sauce j I- t*?? Ab good aa it* Name. I DON'T FAIL TO GET H Af 0,4UgWrf-t-DLAWCU*S. k P-tW I
Dosbarthwyr y' Darian.'
Dosbarthwyr y' Darian.' Wele restr o "newsagents" ydynt yn gwerthu y "Darian" yn rheolaidd. Os bydd yn anghyfleus i un o'r darllenwyr gael y "Darian" oddiwrth ddosbarthwr gellir ei chael o'r Swyddfa, Aberdar, am lic. yr wythnos, 6ch. am fis, 1/7, y chwarter, 3/3 am haner blwyddyn, a 6/6 am flwyddyn drwy'r post. Aberdare Valley. Mr. Ed. Parr, Canon Street, Aberdare. Mr. T. W. Thomas, Cardiff Street, Aberdare. Mr. W. Cable,. Canon Street, Aberdare. Messrs. W. H. Smith & Son, Duke St., Aberdare. Mr. Gwyddonwy Evans, Gadlys. Mr. Evan Hopkins, Trecynon. Mr. Peter Davies, Cwmdare. Mr. David Evans, Llwydcoed. Mr. E. M. Evans, Abernant. Mrs. Norman, Aberaman. Mrs. Williams, Aberaman. Mr. M. Lewis, Aberaman. Mr. Joseph Griffiths, Cwmaman. Mr. W. R. Griffiths, 38 Bronallt, Aber- cwmboi. Mr. W. Peters, Mountain Ash. Mrs. Grier, Mountain Ash. Mrs. Davies, Mountain Ash. Mr. W. Badham, Mountain Ash. Mr. Chris. Evans, Mountain Ash. Mr. W. Magor, Penrhiwcelber. Mr. J. Powell, Penrhiwceiber. Mr. Ed. James, Penrhiwceiber. Mrs. Davies, Ynysboeth, Penrhiwceiber Mrs. Field, Abercynon. Mr E. R. James, Abercynon. Mr. D. Edmund s* Abercynon. Mr. D. T. Theophilus, Abercynon. Ammanford—Mr. J. John. Birchgrove, Llansamlet- Mrs. M. A. Richards. Burry Port-Mr. C. Snook, Station Rd. Brynamman-Mr. D. W. Lewns. Blaengarw-Mrs. Clements. Bridgend-Messrs. Wyman & Sons, G.W.R. Bookstall. Messrs. W. H. Smith & Son. Barry Dock-Mr. D. Jones, Pyke Street Post Office. Blaengwynfi—Mr. W. Edwards. Bodlirtog-Mr. S. Williams. Cilfynydd-Mrs. Lewis, Richard Street. Cwmllynfell-Mr. D. Williams, Goleu- fryn House. Cockett-Mr. D. Mainwaring, Fforest- fach Mr. W. Davies, Fforestfach. Cardigan: Messrs. T. C. Roberts and Son, 10 High Street. Carmarthen- Mr. W. G. Lewis, Jackson's Lane. Mr. W. Picton Davies, King Street. Messrs. Wyman and Sons, G.W.R. Bookstall. Cross Hands-Mr. Richard Jones. Mr. D. Roderick. Caerau-Mr. G. Thomas. Clydach on Tawe-Mr. W. J. Davies. Clydach Yale-Mr. T. C. Davies. Caerphilly-Mr. R. J. Price. tiardift- Messrs. W. H. Smith & Son, Penarth Road. Messrs. Joyce & Co., The Hayes. Mr. Dyer, 95 Queen Street. Messrs. Wyman and Sons, St. Mary Street. Crynant-Mr. Thomas Jeffreys. Oowlais- Mr. Howells. Mr. T. Jones, Gellifaelog. Mr. M. Jones, Burry Square. Deri-Mr. W. Jones. Ebbw Vale-Mr. W. H. Prole. Ferndale- Mr. D. Davies. Mr. Burrell. Clyn-Neath- Mr. A. G. Price, High Street. Mr. T. Hazell, Cwmgwrach. Gorseinon-Mr. W. Llewelyn. Gwaencaegurwen—Mr. M. Thom&a. Carnant-Mr. Dl. Williams. Cilfachgoch-Mr. W. Rosser. Glais— Mr. G. JenkinB. Hirwain- Mr. H. Jones, High Street. Mr John Davies, Bethel Place. Mrs. Tweeny Mrs. Davies, High Street. Trehafod-Mrs. Edwards. Liansily- Mr. Brinley R. Jones. Mr. Meudwy Davies. Mr. T. Eurwedd Williams. Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstall. Mr. J. Thomas, 38 Thomas Street. Morriston- Mr. R. Roberts. Mr. Hughes. Mr. D. Thomas. Merthyr- Mr. Ll. Davies, High Street. Mr. D. Bowen, High Street. Mardy-Mr. E. E. Jeremiah. Hantyftyllon-Mr. J. C. Jones. Heath- Mr. w. Rosser Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstall. Newport—Messrs. E. Joyce and Co. Newcastle Emlyn-Mr. Joshua Eynon. New Tredegar-Mr. Maurice Jones. Pantyffynon-D. Lewis, Fron Haul, Tycroes. Patagonia-Campania Mercantile, Tre. lew, Chubut. Penygraig— Mrs. Williams, Tylaoelyn Shop. Miss L. M. Evans. Port Talbot-Messrs. Wyman & SOBS, G.W.R. Bookstall. Pontardulaia- Mr. J. Thomas. Mr. D. Thomas. Pontycymmer-Mr. J. Fox. Pontardawe— Mr. J. L. Williams, Gwalia Houm Mr. D. J. Phillips, Alltwen. Mr. W. Jones, Alltwen. Mr. Owen Jenkins, Herbert Street. Mr. Emlyn Thomas, Trebanos. Pontlottyn-Mrs. Jordan. Pontypridd-Messrs. Morgan Bros. Pentrebach-Mr. B. Jenkins. Porth- Mr. W. Thomas. Mr. W. Fudge. Rhymney-Mr. W. W. Davies. Senghanydd *Mr. D. Williams. Swaftsea- Messrs. W. H. Smith and Son. Messrs. Wyman and Sona, I.. W a.. Bookstall. Mr. G. Williams, High Street. Skewen— Mr. E. Evans. Mr. Lloyd. Sirhowy-Mr. Gartwright. St. Clears: Mr. T. H. Thomas, Pleasant View. Seven Sisters: Miss E. Harris. Treboeth, Landore: D. Roberts, Port Office. Treharrit- Mr. James Jones. Miss Jones. Tredegar—Mr. E. G. Bowen Treforelt-Mr. Hill. Treherbert— Mr. David Evans. Mr. Ed. Lewis. Treorchy— Mr. Prothero, High Street. Mr. L. Morgan, Bute Street. Mr. M. Williams, High Street- Miss Davies, High Street- Tonypandy- Mr. J. Howells. Mr. Richards, The Square. Mrs. Williams, Post Office. Tylorstown- Mr. T. Thomas. Mr. C. Powell. Ynyshir—Mr. D. B. Davies. Ynysy-bwl-Mr. D. Rogers. Vstalyfera-Mr. S. Baker Yetrad Rhondda- Mr. David Jones, William Street. Mr. Ll. Phillips, Ton. Mr. T. Thomas. Mr. W. Davies. Os oea rhyw ddosbarthwr o'r Dar- ian heb fod yn y rhestr uchod, bydded) cystal a'n hysbysu, er mwyn dodi 8t enw i mewn. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specially low rates: One week 4 wka. 13 wtl. s. d. a. d. I. d. 20 words 0 6 1 6 » » 28 0 9 51 3 ft t 36 If 1 0 3 0 7 • These charges apply only to the follow- ing classes of advertisements :-Apart- ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, and Miscellaneous Wants. Remittances may be made by Postist Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b* charged. Advertising and Publishing Ofieai, Cardiff Street, Aberdare.
Advertising
ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r LEADER a'r DARIAN, CardiffStreet, Aberdar.