Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

■I MOUNTAIN ASH. I

News
Cite
Share

■ MOUNTAIN ASH. Ar ei ymneulltuad o'i swydd fel Arolyg- wi Cwmnf Yswiriol y Pearl yn y cylch yma, daliodd ei gyfeillion a'i gydweithwyr ar y cyfle i'w anrhydeddu, trwy gyflwyno iddo ef a Mrs Howells anrhegion gwerth- fawr, sef, Canteen of Cutlery in Case, Set o Fish Knives and Forks, a Set of Carvers, Prjidnawn Sadwrn diweddaf, wedi clirio y bwffld, cymerodd y Parch W. Hughes, Casteilnedd. cydwas ya y Cwrnlll am flyn- yddoedd, at lywyddiaeth y cyfarfod, a siaradwyd yn dyner ac yn ganmoladwy am wasanaeth hir a dytchafedig ein arwr gan Mri Thomas Bevan, Tredegar; P. Rees, Abercwmboi (a'i olynydd teilwng) S. Thomas, Trecynon; Fred. Hughes, Merthyr; a Henry Williams, Mountain Ash. Canmolwyd Mr9 Howells yn fawt- gan bob un o'r siaradwyr. Dechreuodd Mr Howells ei yrfa fel Canvasser oddeutu SO mlynedd yn ol ar Hirwain ar gais yr hen Gwmni urddasol London, Edinburgh, and Glasgow. Cymerodd ofal o ddosbaith Mountain Ash, yr hon oedd yn ei baban- dod, ond tyfodd a datblygodd dan ei ofal. Ar gais y C'wmni symudwyd ef i gymeryd gofal Dosbarth Castellnedd, pa un oedd yn cynnwys Dyffryn ><cdd, a Dyffryn Dulais, Skiwen, Briton Ferry, Port Talbot, a Chwmafon, a Ilv ufodd yn ei waith yn dda yn y eylch hwn. Symudodd y Cwrnni ef yn ol ymhen saith mlynedd i gymferyd gofal Cwrn Aberdar. ac yr oedd y dosbarth yn mynd mor bell ac Ynysybwl a Ghiliyn- ydd, a.llwyddodd y gwaith dan ei law- gellir rhoi ffigyrrau. Ar briodas y ddau Gwmni—y Pearl a'r L. E. e- G,—apwynt- iwyd ef i gymeryd gofal o'r dosbarth hwn, ac yn ystod ei arolygiaeth ef daeth y Cwmni yn air teuluol yn y cylch. Gweith- iodd yn galed mewn amser ac allan o amser. Nawnddydd teg gaffo ef a Mrs Howells i fwynhau y pensiwn mae y GWrlmi yn anrhydedckis wedi rhoi iddo. Un da, ac ymneílJtl.lwr-o'i awydd Yw Hy wells, Yswirwr; Efo'r g6d boed fyw y gwr Ar ei eiddo mwy'n rhyddwr. Ceunantydp, I

CYLCHDAITH YR WYDDGRUG. I

MANCHESTER.

I LLANBERIS.

I BRYMBO.

I MYNYDD SEION. LERPWf.

FFYNNONGROYW. I

BETHESDA, BWLCHGWYN. I

NODION 0 DDOLGELLAU. -I

[No title]

Advertising