Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
OAKFIElp, LIRPWL.
OAKFIElp, LIRPWL. Ynglynag arholiadau y London College of Music, a gynhaliwyd yn y Philhar- monic Hall,' llwyddodd Eileen Roberts (10 oed), merch fach Mr J. E. Roberts, Ap Heli, i ehnill y Junior Certificate Musical Theory gyda 98 o farciau allan o 100. Hefyd gwnaeth enw iddi ei hun drwy en- nill 7,6 a Certificate hardd, gwobr gyntaf am ganu Suo Gan," i enethod dan 12 oed yn Eisteddfod Had y Cymry, Birkenhead; 16 yn cystadlu. Byddwn ar unwaith yn ffendio colli F-ileeia 'o'r gwasanaeth yn Oakfleld, oherwydd pan yno bydd yn canu tel yr eos. Cynhaliwyd ein gwyl bregethu flynydd- ol y Sadwrn a'r Saboth diweddaf, Hydref 5 a'r 6. Pregethwyd no$Sadwrn, ac am 2.30 a 6 y Sul gan y Parch 'Evan Roberts, Croesoswallt, a boreu Sul cawsom bregeth Saesneg gan y Parch J. Roger Jones, B.A. Cynhuiliadau rhagoroi, ac arddeliad ar y weinidogaeth a phawb yn canmol. Gwnaed casglia.d arbennig at y Trust, a sylweddolwyd y swm anrhydeddus iawn o £6. X.Y.Z.
IRELOGAN.
IRELOGAN. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion Undebol yn y lie uchod. i, y dref 6ed, o dan lywydd. laeth Mr John Blythin, Axton, a chyiir cli. iolaeth lied dda o'r gwahanol ysgolion, Y plant a'r ieueactyd gymerodd y rhan fwyaf o'r gyfarfod, ac yn wir gwnaetliant eu rhan yn garitxlpladwy iawn, yn sicr y triae g-olvtg dyfodot disglair yn Trelogan. Cafwyd gair buddiol ac amserol ar yi Ysgol Sul gan y biawd Williams, o ysgol Mostyn. Gwasgai y Llywydd ar i'r eyn- rychiolwyr fod yn ffyddlon i'r cyfarfodydd errawyn llwyddiant yr Ysgol Sul. Cyn helir y cyfarfod nesaf yn Newmarket. Cyfarf-id gwir dda oedd hwn. YSG.
NODION 0 DDOLGELLAU.
NODION 0 DDOLGELLAU. Gydagofidyryrnfeleglwyswedigorfud ffarwelio a Mrs Thomas Ellis, Sarn Road, a'r mab, a'r ferch y maent wedi ymadael am Lerpwl lie mae y gwr yn gweithio er's llawer o amser. Bydd yn chwith gen ym ar eu hoi, am eu bod yn ffyddlon iawn gyd.-L'r actios. » Dewiswyd Mr Rufus Roberts yn arwein- ydd y pn, ar ol ei ddiweddar frawd Mr Morris Roberts. Mae Mr Roberfs yn un o ddynioa mwyaf gweithgar a ffyadlon yr o iwys. Diolchwyd yn gynnes i Mr D. R. Meredith am ei wasanaeth maith a fÏydd- Ion gyda'r organ, ac fod Mrs Hughie Roberts, a Mrs A. M. Meredith fol Cynorth- j wywyr iddo. c ko.
.BOLYHEAD^PENMAENMAWR. I
BOLYHEAD^PENMAENMAWR. Boreu dydd Sadwrh, Hydref 12fed, yng nzhapel y Wesleaid, Penmaenmawr, ym nahresenoldeb y cofr^strydd, unwyd roewn glan priodas Mr John James Roberts, mab y diweddar Mr Robert Roberts, Chief Engineer, Hibernia, a Mrs Roberts, 61, Newry Street, HoJyhead, a Miss Hannah M. Jones, unig blentyn Mr a Mis Jones, eynnan View. Penmaenmawr. Gwein- yddwyd y briodas gan y Parch R. Garrett Roberts, Llanfairfechain, yn cael ei gyn- orthwyo gan V Parch R. Einion Jones. Y forwyn briodas o«dd Miss Myfanwy Oweti, Aoalesea House, Holyhead, a'r gwas Mr (Srlmfh Evans, Cwaencaergurwen, South Wales, cefnder y priodfab. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei thad. Can fod yn anodd disgrifio ei gwis^oedd yri vr iaith Gymraeg rhaid ei disgriho ynyr iaith fain. "The bride wore a saxè blae Tafi- étia silk dress, and a black vefouz hat, The bridesmaid wore a niggar brown coat frock and a hat to match," Mwynhawyd- gwltdd; .yng"nghartref y briodasfeich, ac wedi i hawb gael eu gwalai a'i weddill caf vvyd aiierchiadau yn dymuno'n dda i'r par 'icuant, a darllenwyd nifer o bellebrau oddiwrth gyfeillion absennol. Yniadaw- odd ivlr a Mrs Roberes am Gaer i dreulio eu nlis mel cyn i Mr Roberts ymuno a'i long yn Dover. Dymuniad pawb a'i hadwaen- ai yw iddynt gael gyria hapus, llwyddian nus a Ilawn o fendithiori.
-EGLWYSBACH. II
EGLWYSBACH. Bore Marcher, Hydrefl 2il, yn Ebenezer, Eglwvsbacf), priodwyd Corpl. Abel foues, Bryndderwen, Colwyn Bay, a Miss M. E. Jones, Conwy Cottage, Talycafn. Y gwas priodM oedd Mr Owen Jones, brawd y y priÐdfab. a'r fOrWyn oedd Miss Gwladys Profit, Wellington Road, Rhyl. Gwas- anaeth wyd gan y Parchn O. A. Richards, Colwyn Bay, a E. I. Humphreys, B.A. B.D., Eglwysbach. Rhoddwyd y briodferch gan fiithad, Mr Isaac Jones. Ymhlith y cer- bydau gwelwyd uu o Bodnant Hall a roddwyd at wasanaeth y briodferch, ac ar 01 y gwasanaeth cawsom rhyddid i fynd i garuef y briodasferch trwy grounds Bod- nant. Dengys hyn mor uchel yw Mrs Jones yn serch y teulu. Wedi cyrraedd cartref y bnodasferch tynwyd llun y Uu o wahoddedigion, ac yna aed i'r ty i fwyn- hau gwledd ddiguro. LlongyfarchWyd Mr a Mrs Jones gan y ddau we'.ninog a Mr Robert Jones,, tad y priodfab, a chaed at- ebion pwrpasoi gan y priodfab. Yrnad- odd y par ieuanc ar ol hynny ynghanol "fconfetti" a áce a dymuniadau da eu Gyftillion, Cawsant nifer o anrhegion ayverthfawr, Dilyned en bywyd gan fen- dith Duw. Da iawn gennym ddyweyd fod eut. R. G. Lloyd, London House, yn gwefIa. 0 1 glwyfau. Y mae ar hyn o bryd yn Ysbyty yn Bristol. Nos Iau, Hydref 17, cafwyd darlith ar Cwmni" gan Mr W. O. Jones, Aber, Bangor. Cafwyd noson ffaftiol a chyn- uUiad da. Cafwyd dariith dda, addysgiad- ol, a byw, y goreu yn sicr o gyfres aarlith- iau W. O. Cadwodd y gynulleidfa i wrando yn astud am ddwy awr. Cadeir- iwyd yn ddeheuig a doeth gan R. E. Hughes, Ysw., Eglwysbach, a chofiodd yn haelionus am y arysorfa. A.P.C.L.
BEDLINOG.
BEDLINOG. Ychydig amser yn ol derbyniwyd dwsin o blant yr eglwys hon i gyflawn aelodaeth eglwysig. Cyflwynodd y Parch E. Isaac dros yr eglwys Feibl i bob un o honynt ar yr achlysur. Gwnaeth y brawd Richard Evans wasanaeth werthfawr trwy eu par- atoi ar gyfer yr amgylchiad. Dibynna cynnydd yr eglwys ar ei phlant. Nos Fawrth, yr 8fed cyfisol, cawsom ddarlith ragorol gan y Parch Gwynfryn Jones, ur "Trannoeth y Rhyfel." Llan- wyd y capel, a chafodd Mr Jones un o'i adegau goreu. Y cadeirydd dewisedig ydoedd Mr G. M. Evans, Goruchwyliwr y Lofa, yr hwn a fethodd a bed yn bregen- nol, ond fe artfonodd rodd deil-wng i'r drysorfa. Teimla'r eglwys yn ddiolcngar iddo. Can fod Cadeirydd y Dalaith yn bresennol, llanwodd efi y bwlch. Cafodd pawb cu boddhau yn fawr yn y ddarlith. Wedi bod yn gwrando am dros ddwy awr nid oedd neb yn awyddus i fynd allan. m Nos Sul, yr EOfed cyflsol, rhoddodd Cor Merched yr eglwys ddatganiad o'r llyfr "Mebyd bamuel,' dan arweiniad Mr E. Pierce. Gwnaeth pawb eu gwaith yn ganmoladwy fel arfer, a chafwyd casgliad da ar y terfyn. Darllenwyd y darlleniad- au yn glir gan Mr Richard Evans yn lie Mrs E. Pierce, yr hon sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty. Dymunir iddi adfcdad buan, oblegid mae hi yn ei helfen yn gwneud daioni.. Gwnaeth Mr Plenydd Edwards, ein horganydd, un o fetched Meirion yn wraig iddo ei hun. Cymerodd eglwys Soar fantais ar hynny i'w anrhegu gyda ckadwen aur. Mae Mr Edwards bob aroser yn ufudd i wasanaethu, nid yn unig gyda'r organ, ond gyda holi waith yr eglwys. Dytriumt. wn hir ddyddiau iddo ef a'i briod, a'r gad- wen, I. B. I
BETHEL, YNYSBIR.I
BETHEL, YNYSBIR. I Nos Iau, Hydref 3, cynhafiwyd gyfaifod cy-stadleuol yn yr eglwys uchod. llyw- yddwyd gan D. J. William's- Cafwyd cyfarfod rhagorol, a chysfaleiiaethau da gan y plant. Gwobrw-ywÿd j- Canû, i rhai dan 9 oed, 1, L. M. Livings; 2, Jennie Lewis. I fechgyn dan 12 oed, 1, J. H. William's 2, Idris Kaac. I ferclted dan 12 oed, 1, A. M.Pavies; 2, L. 'd M. Livings. I rhai dan J6 oed, (hamvydy wobr gyntaf rhwng Idris Isaac a S. G, Isaac 2, Jennie Davies. I rai mewnoed, D. J. Livings. Adrodd: I rai dan 12 oed) 1, Jennie Lewis; 2, Annie Bray, I rai dan 18 octi, S. M. Hopkins. Am y Wit oreli, Annie Bray. Am yr araeth ar y pryd, D. J. Livings. Am y ddtLdlar v pivd, rhanwyd y wobr l'hwng J. M. Evans a D. J. Williams, a E. Wiiliams a D. J. Livings. Cynhelir y cyfarfodydd hyn er mwyn arfer dawn gyhoeddus yn y plant. Hyderwn ga.el cyfarfodydd o'r fath ar hyd y glaeaf. Dydd lau canlynol cafwyd gwledd -ar- dderchog. Mae p?wb yn ddiolchgar i'r chwiorydd, ac hefyd i'r brawd 0. T. Powell am gasglu mof dda ati. Ar ol y tc cafwyd cyfartod o ganu ag adrodd. Mae'r plant wedi ei mwynhau yn ardderchog. 'Roeddyn dda gan bawb weled Pte T. Powell, R.A.M.C., yn y te, ar ol bod yn Ffraine ag Itali, mae yn ddrwg gennym ci fod wcdi ei glwyfo. J. I
FONTRHXDYGROE8, YSTUMIUEN.…
FONTRHXDYGROE8, YSTUMIUEN. I Cyfarfod Cre^awu.—Nos Fefcher, Hyd- ref 9fed, 1918, cynhaliwyd cyfarfed x gfoe"^ awu y Parclm Thomas Jones a G IR, Owen a Miss Jones, merch y Parch T. Jones, i'r Gylchdaith. Llywyddvvyd gan Mr Edward Jones, Ponterwvd, blaenor yo Ygtumtuen, i Pregethwr a Cyn-oruchwyliwr y cylcli- daiMi, a tad»ynghy £ raith i'r Caplan r. ffiabriel Hughes, B A. Dechreuwyd yn afaelgariawngan Mr Arthur Jones, Preg- ethwr a Swyddog yn Ystumtuen. Myneg- odd y Llywydd ei groesawiad meWn geiriau dewisol, a theimlai hi yn fraist gael Ilywyddu. Noson lawen ydyw i fod, ef y gailai ef a llawer fod yn drist, gan iddo golli dau fab yn y Rhyfel yn ystod y t flwyddyn. Credai mai Rhagluniaeth ar- weiniodd y ddau wcinidog i'r Gylchdaith. Edmygai y trydan oedd yn Mr Janas. Credai ei fod ynddo er Diwygiad '59, ac yn aros hyd heddyw. Yn ol yn ei Hen Bwlpiud," medd un papnr am Dr Jowett y dydd o'r blaen, yn y Gwyliedydd Newydd wythnos ne^af ceir y Parch Thomas Jones yn ol yn ei Hdfi Gylchdaith." Anögai Mr Owen i bregethu yn syth i galonau y bob I a tbrwy hynny broti yn iachawdwriaqth i lawer. Edrychai ymJaen átù amser ded- wydd a baridithiol dan weinidogactit y ddau. Yna siaradwyd gan Mr W. S. l Davies, Mynydd Bach, a chan Mri S. 1 Edwards, E. Jones, Jonathan Davies a D. I. Davies, blaenoiiaid a swyddogion Pontrhydygroes. Elent yn ol yn hanes Mr Jones at yr amser y cychwyuodd fel preg- ethwr yn y Gylchdaith, ac yna ei hanes yu y Weinidogaeth am dros ddwy flynedd a deugain, fel Sant a Gweinidog da i lesu Grist, un llawn o dan, set a syched am achub pechaduriaid, ac heddyw wedi cytn- aint llafui, yr oedd mor frwdfrydig ac erioed. Gyda chalonau llawn croesaw y derbynient ef i'r Gylchdaith i dreulio nawnddydd ei oes, a hyderant y byddai yn un helaeth a bendithiol. Teimlent hi yn fraint ei gael yma i fyw. Am Mr Owenjyr oedd wedi dechreu yn ardderchog fel pre- gethwr grymus a ffyddlon yn ei holi waith, a hyderant y byddai iddo barhau felly. Edrychent ymlaen am amser da dan ei weinidogaeth. 'Roedd diwygiad eisioes yn Pontrhydygroes, o dan ddylanwad y y brodyr hyn. Am Miss Jones gwelai pawb ei rhagoriaethau, yr oedd eisioes wedi dechreu yn rhagdrol yn yr Ysgol Sul a rhoddid croesaw cynnes iddi i'n plith. Ar eu hoi hwy siaradodd y Parch G. Bedford Roberts, Arolygwr y Gylchdaith, Dywed odd mae Mr Jones oeddi Efengylydd y De. Mae un o'i nodweddion pennaf ydoedd ei fod bob amser yn arwain y bobl ymhob man at y pethau ysbrydoi. Credai mae Cyfarfod Stifydlu oedd hwn i Mr Jenes. Nid dod i aros blwyddyn, dwy, neu dair yr oedd, ond hyderai flwyddi maith. Dactli yma i weithio ond dylid colio mae Worn Out Minister" ydoedd, ac ua ddylid disg- wyl gonnod oddiwrtho yntau. Gallai yn hydcrus ddisgwyl gwaith lawer gan Miss Jones. 'Roedd wedi gweithio ar hyd y blynyddaedd. Yr oedd yn fraint i'r Gylch- daith ei chael hithau. Yria gahvyd a'r Parch G. R. Owen i ateb. Diolchodd i'r cyfeillioii err) eu geiriau caredig o groes aw iddo, ond yn hytrach na son am yr hyn garai wneud, credai mae uno gyda ni i groesawu y Parch Thomas Jones a ddylai. Teimlai hi yn fraint i gael bod yn Pontrhydygroes gyda Mr Jones, am yn laf fod cymaint o wahaniaeth rhyngddynt.|j(a) Mewn oed, a phrofiad. (b) Perthynas a phebl yr ardai, pawb yn perthyn i Mr Jones, ef yn ddieithrddyu. (c) Profiad yn y Weinidogaeth, Mr Jones wedi gorffen ".12 years Active Service." Yntau dim ond dechreu, gyda dwy flynedd o brofiad. (d) Profrad o ymwneud a dynion. Tucdd yr iéuaac yw yagroerf, ond daw'r hen i gadw'r heddweh. (e; Syniadau a credo. Perygi yr ieuanc yw myad ar 01 y pethau gwyiltiaa." Oua daw'r hen gyda'r Efengyl yn oleu ar y dyfroedd cythryblus. Credai y deuai llawer bendith o'r gwahaniaethau gan y ceid y nodau gwahanol i wneud un i" liarmony cyfoethog, Er y gwalian- taethad 'roeddynt yn Un mewn ymgais a dymuniad i Iwyddo y Deyrnas Drag- wydclol yn ei holi adranau. Yn ail, cym- aiot o ragorraethau yn Mr Jones. Ategai yr oil a nodwyd, ond carai nodi eraill, sef (a) g^rr Ifawn o "hamour a wit," difyr i fod yn ex gwmni. (b) GWr xeiianc ei ysbryd, ac y irrae dylanwad ei ysbryd ar ei gorff yn ei wneud trior heiflyf ag erioed. (c), Ei gèfllogaeth ai gydymdeinilad a'r ieuainc, ni fu'u brln 6'i garimol ef fel pregetlnvr, ac o'i gefnogi fel2ewe'inidog, ac f-ef- un hawdd i bregethu yr ETengyl iddo 'roedd yn gym- ortli mawr. Am Miss Jones, 'roedd o'r un fern yn holiol a'r brodyr. Bu yn llawer o gymorth i'w thad ynJ y cyIchdeithiau, a credai y byddai yr un eto, ac y eaiff Eglwys Pontrhydygroes fraiflt fawr o'i diael i'w plith. Terfynodd gydapeiinill o eiddo y diweddar Etias Elias, Wesley Tee., gyfan- soddodd wrth weld Mr Jones yn mynd i'w blau a' Gylchdaith hon rhyw 38 mlynedd yn ol. Marc'hogai a'r farch gwyn yr adcg hptino. Rhdddodd hi yu genadwri i'r Eglwysi eto Mae'r Efengyl ar larch gwyn liedow'ii c!ycliwyn, Gwell i Saian wneud ei Bac A rriynd yn sypyh O'r Gnwcb. Coch a'r Mynydd Bach Cyn Cetel curfa, Gan y gwf argeffyl gwyn Haleluwia." Yna atebodd y Parch Thomas Jones drosto ef a Miss Jones. Credai fod rhti, fel y beirdd, wedi rnynd dros derfynau y gwiryneu croesaw. Yr oedd y croesaw goreu a gafodd yd Nhalaeth y Do, ac hid oedd yn ail i groesaw Llundain, ag eithrio bod yno wlcÇld i'w mwynhau. Diddorol oedd gwmRdo arno yrn rnynd dros ei hanes o'r cychwyu hyd yr awrhon (carem weld ei hanej mewn ysgrifj. Ar y dechreu pallai ei nerth a'i ieahyd. Calodd gyng- hor gan y Meddyg i gymeryd Stout a Bara Gnaws," ond ei wanhau wilaetb hwnnw a rhoddodd i fyny ar ol dwy botel, a chredai mae gwraig y llety orffenodd y Stout," ond Cryfhaodd nerth Mr Jones hebddo, ac heddyw yr oedd cyn gryfed ag erioed. Hyderai y gallai ef a Mr Owen wneud llawer o waith yn Pontrhydygroes a'r gylchdaith oil. Diolchodd i'rcyfeillion oil dresto ef a Miss Jones am eu croesaw cynnes. Yn ystod y cyfarfod cyfeiliwyd gan Mrs Davies, Post Office, a chaed uaawdau gan Misses Irfonwy Jones, a Lizzie Clara Baugh, Deuawd gan Misses Peg a Lizzie Davies, ac adroddiad gan Mr John Morgan, At y diwedd gofynodd y Cadeirydd i Mr Jones a oedd gwahaniaeth rhwng Stout a Porter, gan iddo yntau gael y cynghor i gymeryd yr olaf, ond gwrthododd. Ni chaed goleuni ar y mater, tybed a all rhai o ddarllenwj r y G.N. cu cynortljjwyo ? Ymadawyd yn swn gweddi y P £ x<"h Thos. Jones, a phawb yn teirolo iddyntgael cyfarfod arddefchogl (Son, J
I HIRWAIN, ABERDAR.
I HIRWAIN, ABERDAR. Nos Fawrth, yn Soar (W.), agorwyd Gymdeithas Gyinraeg gyda dariith gan y Parch D. Gwynfryn Jones, Fflint, ar Daniel Owen a'i Gymeriadau." Clywsom Gwynfryn dair gwaith o'r blaen gyda'r un pethau, a gallorri ei wrando dair gwaitll eto heb tlino. Llywyddwyd gan Mr W. Jones. Siatadwyd gan y Parchn J. H. •Williams, Cetni Jones, ac E. Wern Wil- liams.
I HJSLYGAIN.
I HJSLYGAIN. Yn ystod y Sabothau diweddaf cawsom ym Moriah ddau Gyngherdd Cysegredig. Llywyddwyd yu y cyntaf gan Mr Isaac Grrffiths.Contractor, St. Helens (un o fech- gyn Moiiah) a chawsom araith gampus ganddo at haelioni. Cafwyd caneuon cysegredig gan Miss Megan Evans, Mr D. Ashton, Mr J. L. Foulkes, a Chor Plant o dan arweiniad Mr W. Jones. Yn yr ail gyfarfod y llywydd ydoedd Mr R. C. Jones, Ysgeifiog, a gwnaeth ei ran yn feèrus iawn. Cawsom wasanaeth y cantorion canlynol, Misses Owen, NVvddgrug, F. B. Jones, Mr Peters, Buckley, Mr J. O. Williams, Tre- ifynnon, a'r Cor Plant (W. Jones). Cyfran- odd pawb yn haelionus yn y casgliad gwyn, a bu hynny yn foddion i roi y Trys- orydd yn ei hwyliau goreu, Pasiwyd yn y Cyfarfod Chwarter gyda rnwyafrif fud yr ail weinidog i ddod i fyw i Heligain y flwyddyn nesaf. Dymunwn longyfarch Mis$ F. B. Jones ar ei llwyddiant yn Eisteddfod Treffynnon, Y Milwr Clwyfedig" ydoedd y test piece, a chafodd ganmoliaeth uchel gan y bcirniaid. Y mae Miss Jones yn ddisgybl l Mr Wilfred Jones, ac y mae yn meddu flais Contralto cyfoethog. I GOB.
I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT.-
I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. Sul y Plant.—Hydref 20fed, cafwyd Sul neilltuol i'r plant a'r bobl ieuanc. Yn y bore cynhaliwyd cyfarfod gweddio, a chafwyd anerchiad ddoeth a phwrpasol gan Pte D. Ernest Rowlands. Yn y pryd- nawn c¡¡,fwyd cylarfod arbennig dan lyw- yddiaeth Mr Charles LL Hughes, Is-ly wydd yr Ysgol Sul. Siaradwyd yn dejiddoroi ac addysgiadol gan y brodyr MTi It. D. Wil- liams, Bryn Seion, Ed. Ernest Jones, Bootle, a William Powell, Henfache Mill. Darllenwyd papur ardderchog hefyd gan Miss Hilda Jones, Rock House, ar Pwys- igrwydd|tymor ieuenctyd, a'i gyfleusterau i wasanaethu Crist." Cafwyd pedwarawd gan Misses P. Morris, Gwladys Owen, Mri J. H. Davies, a Charles LI. Hughes. Dat- ganodd y plant hefyd anii-y w weithiau yn swynol dros ben, dan arweiniad Mr J. H. Davies. Yn yr hwyr traddododd y Parch Tegia Davies bregeth i'r plant a'r bobl ieuanc. Yr oedd y gwrandawiad aatud yn dangos eu bod yn gwerthfawogi y bregeth, ond fe wyr pawb sydd vn adnab- od Mr Davies fel y gall ef fyned i "fyd" plentyn. Yroeddym yu falch iawn o weled y brodyr Ptes. Evan Williams, D. Ernest Rowlands gartref ar leave," hefyd Captain Fred Vaughan. Da gcnuym ddeall ei fod wedi gwella yn bur dda erbyii hyn. BERWYNFJERCH.
YSTUMTUEN.
YSTUMTUEN. Cafodd yr ardal hon ei breintio yn ddiweddar a dariith ardderchog ar Sef- yllfa bresennol y Rhyfel," gan Dr. Jonss, o University Sheffield. Brodor o'r Ile,- rnab i Mrs Jones, New Row, Cwmbrwyno, ywy Doctor. Bu am fiynyddau ynnghol- egau. Germani a gwyr yn dda ain dani. Er yn darlithio yn ddyddiol ym mhrif ysgorSheflield yn Saesneg cadwodd ni yn ddifyrus ac adeiladof am dros ddwy awr yn y Cymraeg. Daeth torf dda o'i hen gyfeillion a'i edmygwyr i'w glywed, a thystiolaeth pawb ydoedd i ni gael gwledd eithriadoi a hir gofir. Brysied yn fuan eto. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan ei ewyrthr, Mr Jonathan Richards, Blaen- brwyno, ac arweinydd y gan yn Horeb er's llawer blwyddyn, a rhoddodd rodd werth fawr i'r drysorfa, Nid yr unig dariithiai Dr. Jones yn rhad, ond anlonodd Mrs Jotie.-s-sydcl rnewn swydd bwysig dan y Llywodraet-h yn Ffrainc rodd garedig i'n cynorthwyo. Y Meistr Mawr a dalo iddynt. YSG.
.CEFN MAWR.-.
CEFN MAWR. Yr oe^d cyfarfod Salem, Acrefair, yn gyfarfod da a phobiogaidd ei fod y tywydd yn dra anffafriol. Hefyd fe siomwyd ein cyfeillion o wasaii-telli y pregethwr dew- isiedig. Ond fe lanwyd y bwlch yn an- rhydeddus iawn gan Mr William Edwards (B.), yngliyda'r Parch W. G. Williams, Arolygwr newydd y Gylchdaith. Cafwyd pregethau coeth ac eneiniedig iawn. Yn sydyn iawn y trefnwyd i'r Parch W. G, Williams i ddod i Gefn Mawr, er hynny credwn fod y cyfan er daioni o bosibl. Y mae Mr Williams erbyn hyn wedi cael pregethu ymhob lie yn y Gylchdaith, ac wedi cael derbyniad siriol a gwresog iawn. Y mae yn barod wedi rhoi ei hunan at y gwaith oedd yn rhaid ei wneud, ac wedi ei orfien mewn modd doeth a medrus iawn, (irm, I