Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
TONYPANDY.
TONYPANDY. Drwg iawn gennym orfod cofnddi marwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy y brawd ieuanc Morris Lewis. Cyfar- fyddydd a damwain angeuol yng nglofa Clydach Vale, ddydd Iau, Mai 10. Mab ydoedd i Mrs Lewis, Glanaber, Cwm Penmachno- Yr oedd ei fam weddw yn dibynnu bron yn gyfangwbl arno, ond torwyd ef i lawr yn gynnar iawn. Yr oadd yn fachgen ieuanc hyn- aws a siriol, ac yn ffyddlon iawn gyda'r achos yn Tonypandy. Teimlwn golled fawr ar ei ol. Pasiodd yr eglwys bleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r teulu. trwy i bawb godi ar eu traei, nos Sabotb eanlynol i'w farwolaeth. Daeth torf eithriadol o fawr i heb- rwng ei weddillioB i ors&f Penygraig, i fyaed i Gwm Pemachno i'w gladdu. Yr oodd y dorf fawr yn ei angladd yn profi edmygedd yr ardal ohono Gwasan- aethwyd yn y ty a'r orsaf gan y Parch D. Creigfryn Jenes. Duw a ddyddano ac a gysgodo dros y fam weddw a'r teulu oil. GOH.
CARNO. I
CARNO. Drwg gennym orfod cofnodi marwol aeth sydyn un o aelodau ffyddlonaf eglwys Carne, Mr Thomas Morgan, Dolwen. Bu farw Ebrill 13eg, o'r Pneamonia, ar ol poenau aruthrol am tuag wytm awr a deugain. Colled fawr i'r eglwys yn y dreflan. Yr oedd ya gymeriad ar ben ei hun. Meddai wyb odaeth eang, yr oedd yn ddarllenwr mawr. Yr oedd yn hyddysg iawn yn ei Feibl, a dadleuodd lawer ar bynciau mawr ein henwad. Yr oedd ei barch yn fawr gan bawb yn yr ardal, fel y danghoswyd ddydd ei gladdedigaeth. Brawd iddo oedd y diweddar Mr E. Carno Morgan, fu yn bregethwr cymer adwy am flynyddau yn y Deheudir, a Mr Richard Morgan, yr hwn sydd yn un o fiaenoriaid eglwys Carno. Claddwyd gweddillion ein diweddar frawd ym Mynwent y Llan. G wasan aethwyd wrtli y ty ddydd Mawrtb, Ebrill 17, gan y Parch J. Hopkin Morgan, Caersws, ac yn yr e.iwys gan y Parchn Richards (Vicar), a Hopkin Morgan. Bedyddied yr Ar glwydd dros y meirw.
[No title]
Yn eu cyfarfod chwarterol diweddaf pasiodd Annibynwyr Maldwyn eu bod fel Cynhadledd, ar ol rhoddi ystyriaeth briodol i'r 1 mater, yn wrthwynebol i sefydlu Cadair Ddiwinyddol ar hyn o bryd, ond o'r farrkfod safle Diwinydd- iaeth yng Nghyrnru, ac yn arben- nig yn y Brifysgol, yn anfoddhaol, ac y dylid sicrhau rhyddid i un- rhyw Goleg Oi winyddol a ddewiso aros yn ei safle bresenno), heb golli dim o'r breintiau a ganiateir iddo ac y dylai'r adran hon yn y siarter gael ei rhyddhau, ond na fyddo dim yn y siarter i atal hynny pan y bydd Cymru yn ffafr hynny. Dyma baragraff allan o ysgrif ragorol Mr E. K. Jones yn Y Deyrnas" ar y gwrthwynebwr cydwybodol Daw cyfrol ar gyfrol allan yn y man i adrodd hanes oedfeuon y carcharau. Melys fydd darllen hanes yr oedfa hynod honno ar brynhawn Saboth yn Wormood Scrubs pan bregethodd gwr ieuanc dieithr i fil o gynulleid- fa, ac wyth gant a hanner ohonynt yn Wrthwynebwyr Cydwybodol. Dewisiodd yn destun y weledigaeth yn Daniel x., a thraethodd yn hyawdl a dwys ar fethiant llywod- raethau y ddaear, ac ar Grist a'i gariad mawr fel unig obaith dynol- iaeth. Alltudiai hwn bob casineb barai i dywallt gwaed beidio. Rhoddai derfyn ar ryfeloedd, a chanai glychau gwawr Brawdol- iaeth dyn.' Nid aeth ymhellach cyn i Amen" ddwys ac unol godi o 850 o galonnau. Digwyddiad cyffrous a rhamantus ydoedd, a saif ar ei ben ei hun." Nid oes amheuaeth na addurnir eto feddau y rhai cyfiawn hyn.
Advertising
ATHBOFA ABERYSTWYTH (Un o'r Celegau ym Mhrifyegol Cymru). Prifathraw: T. F. ROBERTS, M.A., U.D. DECHREUA'R TYMOR NESAF 1-7 HYDREF 3ydd, 1917. Paratojr /r efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Yggoloriaethau (am- ryw o honynt yn gyfyugedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 18fed o fis Medi, 1917. Am fanylion pellach, ymofyner A— J. H. DA VIES, M.A., Cofrestrydd. RHIWMATIC ANHWYLDEB Y KIDNEY. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytui.a pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg gralel, a dropsy. Mae ilwyddiarit Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwiod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o liono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthif am brisiau sydd allan o gyrraedd paw b orid y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonylit-meddygin- iaeth onest am bris gonest-lj3 y blch o 40 dabledi, neu chwe blychiad am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhobman, neu'n rhad trv^y'r post, am y prisiau hyn oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. M E R C H E D. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff eu bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrth- wyneb y mae i'w briodoli i'r elwod (kid- neys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu llwyr adferu! 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddwch a llwyddiant rnerch ar hyd ei hoes yn dibyn- nu yn holiol ar ei hiechyd. Fflint Agent, Walter Topping, Pharma- cist. Blaenau Festiniog Agent—Hugh Jones, Medical Hall. BRIGHTEN YOUR HOME BY GETTING YOUR Electroplated Articles Silver plated as new at small cost. Write for Free Price List to- TOWNSHENDS LIMITED, Ernest Street, Birmingham. Yr Epistol at y Philifiaid. J & him. ESBONIAD DIGURO. LjiJiliiim XTSBONIAD diguro ar yr Epistol at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du- dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i'r Parch. EDWIN JONES, Barmouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS FOR LISTS OF Patent 66 Ideal Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the Makers— i Townshends, Ltd., Birmingham
N A RWOLAETHAU.I
N A RWOLAETHAU. PROFIT.—After a long illness, Georg e Profit, born at Coed, Gwespyr, Flintshire, Jane, 1838. died on May 19th, 1917, at 128. Mirkat Street Earlestown, Lanes.
SHILOH, TREG AIRTH.I
SHILOH, TREG AIRTH. Parwyd eyffro yn yr ardal dawel hon pan dderbyniwyd y newydd trist fod Pte. Thomas Richards Jones, Tyddyn Dicwm, wedi'i ladd ym mrwydr Arras, yn Ffrainc. Digwyddodd hyn arddvdd Llup y Pasg, tra nad oedd ond dyn ieuanc hardd, 24 mlwydd oed. Gadaw- odd gartref yn 1908 am fasnachdy Allanson's, Birkenhead, ac yn 1912 symudodd i Cook and Townsbends, Liverpool, lIe yr oedd pan ymunodd a chatrawd y Liverpool Scottish yn Rbagfyr, 1915. Aeth drosodd i Ffrainc yng Ngorffennaf, 1916. Ymhlith y llythyrau at y teulu, daeth un oddiwrth Capt. Hunter, i'r hwn yr oedd y milwr ieuanc yn "orderly." Dug dj stiolaeth uchel iddo fel milwr ac fel gwr ieuanc o gymeriad ardderchog yr oedd bob amser yn dyner, eiriol a gob- eithiol; yn y ffosydd a'r maes agored yr oedd yn wrol a hyderus. Dywed iddo farw marwolaeth y milwr dewr dros ei wlad, ac iddo gael ei gladdu yn agos i Tilloy, mewn llecyn lie y cleddir y rhai a syrtkiodd yn y gatrawd. Mae'n amlwg oddiwrth y modd yr ysgrifenna fod "Tom wedi myned yn ddwfn iawn i serch y Capten gofidia am ei golled o'i gymdeithas yn bersonol. Gair uchel iawn roddir i'w gymeriad gan Mr Jackson, ei hen ysgelfeistr, a chan reolwr masnachdy Cook and Townshends *'—" He was liked and respected by all; you have lost a dear son and we have lost 11 really good assistant, who would have done well had he been spared." Dyma farn yr ardal hon am dano, ac yn arbennig Eglwys Shiloh. Yr oedd yn ddyn ieuanc deallus, bonheddig ei foes, pur ei gymeriad, a glan iawn ei galon a'i fywyd. Yr oedd ganddo ffordd enillgar i ddyfod yn agos iawn at bawb. Gwnai hyn ef yn ffafryn gan y rhai a'i hadwaenai; gellir dweyd am dano—"To know him was to love him." Nos Sul, Mai 13eg, eafwyd gwasan aeth coffa iddo yn Shiloh; gwnaed cyfeiriadau at rinweddau'i fywyd yn y brageth gan y Parch R. Mon Hughes; detholwyd emynau pwrpasol i'w canu gan y cor gan yr arweinydd, Mr 0. R. Thomas, a chwareuwyd y Dead March'' gan Mr R. D. Pritchard. Gofynwyd i'r gynulleidfa godi ar eu traed fel arwydd o gydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod. Daetb cwmwl du iawn dros ffurfafen bywyd y teulu gwerthfawr a charedig yma yn bur annisgwyliadwy. Daliant y brofedigaeth fawr yn ysbryd yr Efeng- yl yn wrol a ffyddiog. Daeth y newydd drwg pan yr oedd Mr Jones yn bur wan ei iechyd; da gennym weled iddo gael nerth i ymgynnal ac fod ei iechyd yn cryfhau. Dymuna y teulu trwy gyfrwng y 41 Gwyliedydd Newydd," ddatgan eu diolchgarwch puraf i'r llu cyfeillion anfonasant lythyrau i gydymdeimlo a hwy, ac a ddaetbant i'w gweled yn eu trallod. Bu y cwbl yn help mawr iddynt ddal eu profedigaeth chwerw.
LEIGH.
LEIGH. Bu farw y chwaer ffyddlon Mrs Thomas Jones, 10, Lilford Street, ddydd Mawrth, Mai 8fed. Cafodd gystudd maith a phoenus, ond dioddef odd yn dawel a dirwgnach. Bu yn aelod o'r eglwys yma bron er yr adeg y sefydlwyd yr acbos, a bu yn bynod ffyddlon tra y gallodd i holl gyfarfodydd y Ty. Yr oedd yn wraig egwyddorol, ac yn Gristion trwyadJ, a theimiir cjlled ar ei bol mewn llawer cylch, Tystiai yn y diwedd wrth Mr David Evans, ysgrifennydd ein heglwys, fod y dyfodol yn oleu, a'i gobaitb yn Nuw yn s.cr. Daeth tyrfa barchus i'w hangladd y prydnawn Sadwrn dilynol, pryd y gwasaniethwyd wrth y ty ac ym Myn went Atherton, gan y Parch J. Meirion Jones. Gorchuddid yr aich a wreaths prydferth anfonwyd gan gyfeillion yn arwydd o'u parch. Y nos Saboth dilynol eynhaliwyd gwasanaeth coffa, pryd y pregethwyd gan y Parch J. Meirion Jones. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd. Cydymdeimlir a'i phriod, Mr Thomas Jones, ac hefyd a'r ddwy ferch a'r ddau fab vn cu colled Vu hiraeth. GOH.
.COLWYN BAY.I
COLWYN BAY. Dydd Llun, Mai 14, yn 77 mlwydd oed, bu farw yr hen frawd Samuel Jones, E ian House, aelod hynaf ein beglwys. Tarawyd ef ychydig wyth- nosau yn ol gan ergyd o'r parlys, a dioddefodd yn dawel L, yd nes yr ehedodd ei ysbryd at Dduw. Yr oedd yn un o hen frodorion mwyaf adnabyddus Colwyn Bay, Le yn ei'farwolaeth bydd hwlch mawr yn y cartref a'r eglwys. Hannai o Lanfairtalhaiarn, a daeth i drigo i Colwyn By rhyw 43 mlynedd yn 01. Y r oedd yma pan ddechreuwyd yr achos Wesleaidd gyn t J, mown ystafell u webben siop yn Station Road, ac oddi no i'r hen shed" fel ei gelwid yn Sea View, ac yn ddilynol i'r hen gapel yn Greenfield Road. Bu yn chapel keeper yn yr hen gapel am flynydcau lawer, ae Elian House y pryd hwnnw oedd y man cyfarfod i weinidogion, pregethwyr a brodyr. Yn y cyfnod yma ni bu terfyn ar ofal a llafur cariad teulu Elian House, ynglyn ag achos Duw, a pbery yr ysbryd rhagorol hwn yn y plant hyd beddyw. Ni fedrai yr hen gyfaill ymadawedig wneud digon i'r achos. Yr oedd ei dlyddordeb a'i ffyddlondeb i foddion y cysegr yn ddiball, a thrwy lawer o anhawsterau yn ami. Bu yn Oruch wyliwr y Tlodion am 28ain mlynedd, ac yn un o'r Ymddiriedolwyr er y dechreu, ac yn aelod diball o'r Ysgol Sul; pery dylanwyd ei weddiau grymus a gafaelgar yn fyw dros hir amser arnom fel eglwys. Lediodd" lawer ar yr emynau eanlynol—rhai o'i hoff rai:— Disgwyl 'rwyf ar. hyd yr hirnos," Bydd myrdd o ryfeddodau," 0 Dduw rho i'm dy hedd." Nid oodd ganddo rhyw lawer o hoffter at y tonau diweddaraf, a mynyeh clywsom ef pan yn rhoi ei emyn allan, yn dewis ei don hefyd. Yr oodd yr hen don Cather- ine'' yn un o'i rai dewisol. Cydym- deimlir yn fawr a'r teulu yn eu profed igaeth Derbyniwyd nifer o lythyrau yn datgan cydymdeimlad a hwy yn eu trallod. Hebrvcgwyd ei weddillion marwol i'w hir gartref gan dorf barchus. Gwas- anaethwyd wrth y ty gan y Parchn. Hugh Hugbes a Morton Roberts, ac wrth y bedd gan y Parchn. D. Angel Richards a T. C. Roberts. Gwnaed cyfeiriadau at y brofedigaeth gan Mr Richard Williams nos Sul. Bydd pregeth goffa nos Sul nesaf. Collasom o'n mysg hen Gristion gloyw. GOH
YSTUMIUEN.
YSTUMIUEN. Gwywodd un o flodau Ysgol Sul Ys- tumtuen yn yr oedran cynnar o ddeng mlwydd a hanner oed. Mab ydoedd Evan Meredith i Mr a Mrs William ac Anne Meredith, Ty'nyfron. Cafodd ei daraw gan afiechyd blin ym mis Chwef- ror diweddaf, a bu yn dioddef yn dawel ac amyneddgar hyd Mai 13eg cjfisol, pan yr ehedodd ei eoaid bychan at Dduw. Yr oedd ym meddu ar rinwedd- au prydferth iawn, y rhai sydd yn bwysig er magu cymerisd da. Yr oedd yn eirwir ac yn ofalus i ddweyd y gwir bob amser, ac o dan bob anagylchiad. Yr oedd o dymer hynod o addfwyn, ac o ganlyniad yr oedd yn hoff iawn gan ei gyfoedion yn yr ysgol ddyddiol ac yn yr ysgol Sul. Yr oedd yn medda ar natur eitbriadol o garedig, ac yr oedd hyn i'w weld yn amlwg yn y modd y byddai yn ymddwyn at y plant lleiaf yn yr ysgol ddyddiol. Bydd ei le yn wag iawn ymhlith y plant, ond beth am yr aelwyd gartref ? Cymerodd yr angladd le y dydd Gveier canlynol yn Ystumtuen, pan y gwasanaethwyd ar yr acblysur gan y Parchn G. Bedford Roberts, Thomas Morris, a Charles Evans, Yspyty Cyn- fyn. Blaenorid yr angladd gan blant yr ysgol ddyddiol, a thystiau y wreaths roed ar ei arch beth oedd serch y plant tuag ato. Chwythed yr awel I a dyner dros fan fechan ei fedd hyd y dydd mawr pan y caiff adgyfodi. Duw a ddiddano y teulu yn eu profedigaeth lem a chwerw. M. H. I