Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
BLAENAU FFESTINIOG. I
BLAENAU FFESTINIOG. I MR WILLIAM JWJLLIAMSIonawr 12fed, yn 72 mlwydd oed, bu farw y brawd Wil- liam Williams, Bowydd Street. Ni fu Cristion diniweitach a glanach ei galon yn sangu ein heolydd. Ni feddai wybod- aeth ddofn; ond 'roedd yn nyfnder ei ymwybyddiaeth brofiad o'r pethe mawr" chwedl mam Rhys Lewis Gwasanaeth- wyd yn ei angladd gan y Parch D. Egwys Jones.
ABERMAW. I.
ABERMAW. I. Y CHWAER E. PUGII.—Cawsom fel eg- lwys golled drwy symudiad i'r tu fewn i'r Hen y chwaer, neu yn hytrach, y fam annwyl yn Israel—Eliza Pugh.—un y I mentraf ddweyd, na ysgrifennwyd ei henw erioed i unryw bapur, wythnosolyn na misolyn na chylchgrawn, ond un deilynga I i'w henw gael ei gerfio yn ddwfn mewn hanes, ar gyfer ei haberth ynglyn ac achos Iesu Grist. Yr wyf yn falch o gof- ¡ nodi hyn am dani. Yr oedd ei chyfraniad- au at y Weinidogaeth yn rheolaidd a chyson, ei harian am yr eisteddleoedd, ac at y Genha daeth Dramor yn cael eu talu yn brydlon a chyson, cyfanswm o wyth j swyllt a thair ceiniog y flwyddyn oedd yr oil. Swm ac ol gwaed yr aberth ar bob I dimai. Claddwyd ei gweddillion marwol¡ dan y drefn newydd yn mynwent Llanaber y dydd olaf o'r hen fiwyddyn. Claddedig- j aeth anghyhoedd. Gwasanaethwyd gan < y Parch Edward J. Parry yn y ty, ac ar Ian y bedd. Cynrychiolid yr eglwys gan Capt. i William Morris, Capt. Edward Roberts, I Mri Robert Griffith (ei blaenor), Thomas Owen, William Jones, Gwynfa, a William I Jones, Cambrian Place, a David Roberts, Telynor Mawddwy. j Pregethwyd pregeth anghladdol ar ol y I diweddar fam gan y Parch E. J. Parry bore Sul diweddaf, i gynulleidfa ragorol. Gwnaeth gyfeiriadau at ei chymeriad pur, a'i gwasanaeth distadl i'r achos.
[No title]
Y mae Pwyllgor Amaethyddol Rhyfel Sir Caerhirfryri yn awgrymu bridio geifr arraddfa helaeth. Deallwn fod yr aw. grymiad yn cael cefnogaeth gyffredinol. Gadawodd y diweddar Mr. Keir Har- die £ 426 10s lie ar ei ol. Gallsai fod yn gyfoethog,:ond dewisodd fod yn dlawd er mwyn gwasanaethu yr- adfydus a'r gorthrymedig. Prin yw dynion tebig iddo mewn unrhyw gylch.
BETHEL, DEGANWY.I
BETHEL, DEGANWY. Y DIWEDDAR MR HUGH PARRY.—Boreu dydd Mawrth diweddaf, bu farw Mr Hugh Parry, y pregethwr cynorthwyol cryf gwreiddiol ac ymroddol. Cafwyd ergyd o'r Palsy ryw wythnos yn ol, a hynny a fu yn angau iddo. Claddwyd ef yn Llanrhos dydd Sadwrn diweddaf Cynhaliwyd gwasanaeth yng nghapel Bethel ddau o'r gloch y pryd- nawn. Ceir manylion pellach yn ein rhifyn nesaf.
ARTHOG. CYLCHDAITH DOLGELLAU…
ARTHOG. CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABERMAW. MR EDWARD JONEs.-Chwitli gennym orfod hysbysu am farwolaeth disyfyd y brawd annwyl Edward Jones, Wesley Terrace, Arthog. Cyfarfyddodd a'i ddi weddtra yn dilyn ei oruchwyliaeth ar linell ffordd haearn y Cambrian yn ymyl gorsaf yr Abermaw, nos Sadwrn, Ionawr laf. Yr oedd yn noson ystormus ac erwinol, ac yntau a thri eraill wedi eu galw yn gynnar y prydnawn i glirio'r tywod ac i gadw'r llinell yn glir. Oddeutu 8 o'r gloch daeth y gerbydres o gyfeiriad Dol- gellau, yn ddiarwybod iddo, a lladdwyd ef yn y fan. Y mae y ddamwain alaethus hon wedi creu bwlch llydan yn eglwys fechan ffydd- Ion Arthog. Yr oedd y diweddar travvdl, Edward Jones yn un o'r rhai mwyaf def- nyddiol yn yr Eglwys. Brawd tawel, yn caru'r encilion oedd efe, ond bob amser yn barod ac ufudd i wneud unrhyw beth a phopeth er mwyn yr achos. Yr oedd yn gaffaeliad mawr i'r achos yno. Efe yd- oedd y codwr canu. Bu yn Arolygw: yr Ysgol Sul, a rhoddai gynorthwy sylwedd- ol i mi gyda'r Gobeithlu. Un o'r dyaion mwyaf defnyddiol fu mewn unryw eg- lwys oedd y diweddar frawd. Meddai gymeriad cryf a chadarn. Cawsom ami i ymddiddan ddatguddiai ochr i'w gymeriad nad oedd yn amlwg ond i'r rhai elent i'w gyfrinach. Bu ei symudiad yn ddychryn i'r ardal. Difrifolwyd yr ardal drwyddi a siaradai pawb yn barchus, ac yn edmygol Ohonno. Tystiai Gorsaf-feistr yr Abermaw a phrif swyddogion y rheilffordd yn uchel i'w gymeriad a'i ddiwydrwydd. Colled fawr i'r eglwys, ac i gymdeithas yn y cylch yw ei farwolaeth, ond pwy all draethH faint y golled yn y cartref ? Llan- wai ei gylch fel priod ffyddlawn, a thad tyner gyda'g urddas ac anrhydedd. Ni ofalai neb yn fwy am ei deulu nag ef. "Ni iwytaodd fara seguryd." Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Yr ieuengaf yn ddwy a hanner mlwydd oed,—diddanydd y teulu bellach. Y mae Hefyn Pugh bach megis seren fore eglur yn sirioli pawb ynghanol y dymestl a'r dirgelwch i gyd. Byèded i'r weddw ieuanc a'r plant gael cysgod a nerth y Goruchaf, ac ymostwng yn dawel i'r ewyllys ddwyfol. Cymerodd yr angladd le y dydd Mawrth 8anlynol yn Llwyngwril, dan y drefn newydd. Claddedigaeth anghyhoedd. Trefnwyd i gynrychiolwyr o gwmni y rheilffordd i fed yn bresennol. Aethpwyd ar corff i Gapel y Wesleaid yn Llwyngwril, a chynhaliwyd gwasanaeth byr yno, dan lywyddiaeth y Parch Edward J. Parry. Wedi canu emyn darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr gan y Parch Griffith R. Owen, Coleg Handsworth. Yna cafwyd annerch- iad grymus a gwerthfawr, llawn cysur a diddanwch i'r teulu a'r perthynasau oedd ya bresennol. Yna gweddiwyd yn effeithiol gan y Parch W. R. Jones, Harlech. Gwasan- aethwyd ar lan y bedd gan y Parch E. J. Parry. Y mae ein cydymdeimlad yn ddwfn iawn a'r teulu hwn yn eu trallod mawr. Y nefoedd fyddo yn nodded iddynt oil as i'r perthynasau oll-Mrs Hughes, Ty'n Celyn, Coedpoeth, a'i frodyr o'r Bwlch- gwyn, yn eu hiraeth. Pregeth anghladdoL-Traddodwyd pre- geth angladdol ar ol dwv fam annwyl yn Israel ymadawodd a'r fuchedd hon yn ddiweddar o Arthog, sef Mrs Williams, Tvddyn Mawr, a Mrs Evans, Hafod Luaden, ac hefyd ar ol y brawd Edward Jones. Cafwyd cynulleidfa fawr a phreg- ethwyd ar y testun canlynol, Rhufeiniaid xvi., 16. Y mater Gwrthddrychau parch, annWyldeb, ac edmygedd yr eglwys." Yn ddios yr oeddy naill a'r llall yn uchel eu parch ac yn annwyl iawn gennym fel eglwys, Y mae'r eglwys hon wedi ei bylchu yn ddiweddar, ond y mae y fyddin fechan fel pe yn casglu ei hegnion at eu gilydd yn barod eto i wneud ei gwaith iros Grist yn y cylch. Onid oes yma lawer o wroniaeth edmygol yn eglwysi bychain gwledig Cymru, tellyngant fwy o gydymdeimlad oddiar law yr eglwysi inwv nag y maent yn ei gael yn fynych. E. J. P. I
BORTH. 1
BORTH. 1 MRS CAP TEN J. LEWIS, CAMBRIAN VILLA, -Er wedi cvri-aedd oedran yr addewid a ) throsodd, tarawyd yr aidal a syndod pan ddeaHwyd am faiwolaeth y chwaer dduwiolfrydig uchod. Cymerodd hyn le lonawr lied. Edrychai mor gadarn a chryf pan yn 73 mlwydd oed, fel na feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Cymerwyd hi oddiwrthym yn sydyn ac annisgwyliad- wy, heb wybod ddarfod ei symud bron Cymeriad oedd yr ymadawedig yn ogon- iant i Dduw, ac yn addurn i'w ras. Pryd- ferthwyd ei hysbryd llednais a'i iachaw- dwriaeth. Hannai o deulu parchus a chrefyddol. a dangoswyd iddi hithau ym moreuddydd bywyd werth crefydd lesu Grist; a bu ei hoes hirfaith o wasanaeth a defnyddioldeb gyda'r achos. Ei hawydd gwastadol oedd cael ei Hanw ag ysbryd Crist; a thystiolaetha ei hymarweddiad I fod ei enw Ef yn feddiant iddi—yn gyseg- J redig yn ei chalon. Dywedir na ddylasid I I mesur rhinweddau neb wrth ei ymdrechion arbennig, ond wrth eu gweithredoedd cyffredin. Os gwir hyn, mae rhinweddau y diweddar Mis Lewis o anghydmarol werth. Gweithredodd cyffredin, ie, o'r golwg y rhan fwyaf o honynt, ond gweith- redoedd er hynny ddyrchafwyd mewn coffawdwnaeth gerbron Duw, ac wedi ei chanlyn hithau bellach v tu fewn i'r lien. Torrodd lawer i flwch sy'n perarogli eto, a deuwyd i wybod peth o'u pwys a'u gwerth ddiwmod ei chladdedigaeth. Yn ei ffordd I dawel a dirodres-" Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth," Dichon yr ymgymera rhyw law mwy celfydd a'r gwaith o draetliu ei hoes yn llawnach, gan fod Coffawdwr- iaeth y cyfiawn yn fendigedig." Digon I yw i ni ddywedyd y teimlir chwithdod a choiled ar ol un cedd yn gwybod beth oedd hanfodion crefydd bur a dihaloged- ig gerbron Duw a'r Tad." Claddwyd ei gweddillion yn Cemetery Penygarn, Ionawr lleg—angladd anghy- hoedd. Cymerwyd rhan ynddo gan y I Parchn D. Morgan, LI. A. Jones, R. H. Pritchard, a Mr W. G. Humphreys. Gwnaed I sylwadau coffhaol am dani gan Mr Hum ¡ phreys, y Sabboth dilynol, a chafwyd gair I gan y Parch D. Morgan. Chwareuwyd y j Dead March gan Miss Vida E. Jones, ¡ A.L.C.M. Gadewir priod—Capt. John I Lewis, mab Capt. W. D. Lewis, a dwy ferch Mrs John Rowlands, a Mrs H. Meir- ion Davies, a pherthynasau agos a lliosog eraill i alaru eu colled. Cydymdeimlir yn fawr a hwy-yn arbennig a'i gweddw, sy'n flaenor ffyddlon a defnyddiol gyda ni, ac yn fawr ei barch. Bu y ddau yn briod am dros hanner can' mlynedd, a hynny yng nghwlwm tangnefedd. Iddo ef Nis gall y bedd tywyil byth dorri'r undeb I dilyth." Nawdd y nef fyddo dros y teulu i trallodedig, ac a'u cysuro i feddwl mai ?b r I Un ac rnae y cyfan yn ei law sydd yn I gyfrifol am yr holl fylchau a wneir yn ein muriau ni yn deuluaidd, ac yn eglwysig. I CYDNABOD CYDYMDEIMLAD. i Ar ran Capt. Lewis a'r teulu dymunaf gydnabod yn ddiolchgar y Uythyrau caredig o gydymdeimlad, anfonwyd iddynt yn y brofcdigaeth lem a sydyn a'u goddiweddodd. Buont yn gynorthwy nid bychan iddynt yn nydd eu trallod. Mae'r llythyrau yn rhy liosog i'w cydnabod yn bersonoL Derbynied y cyfeillion caredig yr arwydd hon o ddiolchgarwch. Ydwyf, ar ran y teulu, H. MEIRION DAVIES. I
Advertising
 pfflMSMIISMSMl m w* m If B? ? ? Y LLYF II ? s |P m p '= ) :) N 'Æ-I\Q.1i\j\¿'1 "I 'a'-11\¡@'\IIIQ."A\I"Allo.l:"IW"J"1Q."ItI"1it' S\I- i 'Jq.?I t'=" ,!J,"J1&P-I<'?,?I<?I'?I, '?J 1 ;:f J'i)Aj:,)Aj)),); ]')AÀ1\ ')j.¡)Å),;i),flJJ))1\)J,1) ')A '-«  ..(. t;Z \9:lt''i! Vr.y;qÇt"I'< 'LG\"J'(".#f.irr.¿  1 YN AWR YN BAROD. Y BYDOEDD UWCHBEN GAN CARADOC MILLS (Sigma), Awdur "Radium." Yr unig Lawlyfr ar Seryddiaeth yng Nghymraeg. Mewn llian hardd, yn cynn, wys nifer o Plates prydferth a llu o Ddarluniau. PRIS, 2 6 NET. POST FREE, 2/9. Dylai pob Cymro ddarllen y llyfr hwn.O. M. EDWARDS, M.A. Dyma lyfr a champ arno, yn sicr ddigon. Y syndod yw y gellir ei brvnu am hanner-coron.Ti-iOMAs HUGHES, Gol. Yr Eurgrawn." Y mae y llyfr wedi ei ysgrifenu yn dra swynol, ac wedi dechreu ei ddarllen nis gellir ei roddi heibio yn rhwydd iawn. Addurnir ef a nifer o luniau rhagorol, ac o ran argraffwaith y mae yn gampus."—" Y Faner." "Y mae'r llyfr yma gan Nli Mills, ar un o'r pyngciau mwyaf anodd a dyrus, yn berffaith glir. Yr oedd mawr angen cyfrol o'r fath."—" Y Goleuad." Maes Llafur 1915-16. YN A WR YN BAROD. RHUFEINIAID.—Cyfrol AIL gan y Parch W. O. Evans. Pris 1/6 post free. Dwsin am 15 swllt i Ysgolion Sul. Y DAMHEGION.—Rhan AIL gan y Parch R. W. Jones. Pris 4c. Dwsin am 3/3 i Ysgolion Sul. GOFYNIADAU MAES LLAFUR.—Ceiniog yr un. 5 swllt y cant. DETHOLIAD 0 EMYNAU. YN AWR YN BAROD. dros 200 o Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfer y Oynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Diswest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn Ilian ys- twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin am 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwym" Hanes Wesleyaeth Gymreig am swilt, post free. Cases llian destlus at rwymo "Yr Eurgrawn" am 10 ceiniog; "Y Winllan am 8 ceiniog., Rheolau y Trefn= yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn *destlus, o'r Rheolaa ddyiai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 am 6/6; 50 am 313 post free, Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferlh. Aiff i boced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. "Hanes Wesleyaeth Gymreig" GAN Y Parch. Hugh Jones, D.D. Pedair Cyfrol Hardd, 6s. 6c. yr un Rhoddwch eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. P Ceir y cyfan drwy ein Dosbarth\vyr Lleol. OJ YR OLL YN POST FREE. Anfonwch am ein CATALOGUE NEWYDD. II IP* \I- ? Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i:- I | P. JONES ROBERTS, | 1 Bookroom, Bangor. j| ?;.f& J \J g'J'!L¿,1 l?« Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r Gwyliedvdd New- ydd," Blaenau Ffestiniog.