Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ANNERCH I EGLWYSI EFENGYLAIDD…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

ANNERCH I EGLWYSI EFENGYLAIDD CYMRU. Ar ran Undeb Eglwysi Efengylaidd Cymru mentraf yn ostyngedig anfon gair o annerch atoch ar ddechreu y Flwyddyn Newydd, i ddymuno i chwi fendith gyf- oethog y GORUCHAF yn ei hystod, ac i dda tgan gobal: dyfnaf calon pob gwir ddisgybl i Grisr ar iddi fod yn un o flyn- yddoedd Ei dcieheulaw Ef yn ystyr lawnaf y, gair. Yn Slcr 'amser yvv i'r Arglwydd weithie,' a chredwn y rhydd Efe i'w bobl yn ystod 1910 gyfle mwyaf eu hoes i gyd- weithio ag Ef i sylwecldoli mai Crist yw eu hunig ymgeiedd, ac mai egwyddorion Ei Efengyl Et yw eu hunig obaith am weled barn a heddwch, gwirionedd a chariad, wedi eu sefydlu ar y ddaear. Daeth 1916 i fewn fel y flwyddyn o'i blaen ynghanol mwg a than y rhyfel greu- lonaf, ehangaf, flyrnicaf, a mwyaf dinistr- iol yn holl hanes y byd. Gobeithiem flwyddyn yn ol y buasarr diwedd wedi dod cyn hyn, a gwawr heddwch wedi tori ar fyd clwyfedig. eithr fel arall y mae. Sugnwyd mwy fyth o genhedloedd i'r llynclyn erchyll, ac nid yw'r beilchion gwaedlyd fu-am ddeugain mlynedd yn llunio'r llanastr hyd yn hyn wedi dadebru o'u gwallgofrwydd llofruddio. Eithr i Dduw y bo'r diolch, nid yw'r gelyn wedi sengi ar ein traethau, a chadd y pla ymhell oddiwrth cin pebyil. Mae yr Ar- glwydd wedi ein I hamgylcliynu a chan- iadau ymwared,' a dylem ninn'au eu seinio a llafar lef ymhob cartref a chapel a chwm a thref trwy ein bro. Dywedaf hyn er y gwn fod 11a wer aeiwyd wedi ei thywyilu am byth, a seiniau wedi distewi o ami i gartref ac eglwys na chly wir mwy mohonynt yr ochr hyn. Eithr mae yr atgof am eu gwrhydri 00 haberth, a'u hymdrech ddiofn a'u hangen buddugoliaethus, ynlliniarullawer ar yr ing, ac yn peri i ni oil sylweddoli fod rnwy o ysbryd Calfaria yn ein bechgyn nag oeddym yn barod i briodoli iddynt. Ac mae'r Did ianydd mawr wrth law o hyd i gysuro pob galarus, a gwyr miloedd erbyn hyn nad ffurf wag yw geiriau Ei addewid Ef. Mae ei gwmni a'i gymorth a'l gysur yn fwy byw iddynt na dim arall yn y byd. Ond syt yr ydym fel eglwysi yn mynd i wynebu'r flwyddyn hon a'i hamryfal agweddau o gyfrifoldebj a gwasanaeth? Dywedir yn lied hyf fod y rhyfel yn brawf fod Cristionogaeth y Testament Newydd wedi ei chymtivryso at broblemau mawr rhyngwladol y byd, ac Ysbryd y Ceidwad wedi cael ei le dyladwy yng nghynghorau a chalonnau teyrniaid ac uchelwyr, ya ogystal ac ym mywyd gwerinoedd y gwledydd, ni buasai'r fath drychineb ofa- adwy a'r rhyfel yn bosibl. Eithr gan mai un o arncaniort yr Eglwys yw corffori mewn cymeriadau personol a bywyd cym- deithasol egwyddorion yr Efengyl, a'u dwyn i arwedddu ar y byd mawr o'i chwm- pas, rhaid cydnabod ei bod wedi syrthio yn fyr iawn o gyflawni ei dyledswydd a sylweddoli ei hamoan am gyfnod maith cyn y rhyfel. A chredaf ei bod wedi dysgu'r wers erbyn hyn. Beth bynnag, yr hyn sydd wedi ei wneud mor oleu a'r haul trwy y rhyfel ydyw fod popeth ond Cristionogaeth wedi methu, ac mai hyhi yn unig yw gobaith y byd. A cheir cyfie peliach yn 1010 i br-ofi hynny, ond i'r Eglwys ddal arno a syl weddoli ei nerth. Beth ddylem. ac felly fedrwn, wneud ? (1) Oni ddylem arwain y wlad i fwy o ddifrifwch, ac i'w hargyhoeddl fod a fynno Duw a sicrhau buddugoliaeth i gyfiawnder a daioni ? Onid yw ein hyder yn ormodol ar ddyn ac ar haws llu, ac yn llawer rhy fach ar alluoedd anweledig Duw ? Tybed na fedrem fel eglwysi o wahanol enwadau ddod yn amlach yn gytun i'r un lie' i ymostwng ger bron yr Arglwydd a deisyf am Ei gyfryngiad buan, yn ogystal ag i eiriol am Ei nodded a'i nerth i'n bechgyn dewr a'u teuluoedd pryderus. (2) A beth am ein ffyddlondeb i Achos Crist yn yr argyfwng presennol ? A ydyw ein haelioni tuagato yr hyn ddylai fod ? Danghosir caredigrwydd mawr tuagat drysorfeydd y rhyfel, ond os gwncir hynny ar draul cadw* i fyny effeithiolrwydd ein trefniadau eglwysig a chrefyddol bydd y niwed a'r golled yn fawr, a pharlysir ein hymdrech i baratoi ar gyfer y dyfodol. Trueni fod y rhyfel yn cael ei gwneud yn esgusawd dros wasgu ar Achos Duw. Ac oni ddylem wneud gwasanaeth Ty Dduw yabrifalluyn hanes y genedl ar adeg fel hon ? (3) A ydym yn gwneud y safiad a ddylem yn erbyn drygau dinistriol sy'n dylifo i'n gwlad yng nghysgod y rhyfel ? (a) Er holl ymdrechion y Llywodraeth mae meddwdod ar gynnydd, ac nid yw trychinebau brawychus y rhyfel yn ddigon i sobri pobl. Oni ddylem fel eglwysi fynnu cael Deddf Llywodraethiad y Fasnach Feddwol wedi ei chymhwyso at Gymru i gyd, yn lie at barthau ohoni fel yn awr ? (b) Mae ein Sabboth yn cael ei sarnu, a'r papurau newydd yn ei fydoli a'i anghy- segru. Da oedd gennym weled Llys yr Apel yn cadarnhau dyfarniad ynadon Amanford i gosbi'r prynwr ar y SuI yn ogystal a'r gwerthwr. Ni falia'r gwerthwr ddim am ddirwy o 5, ond ymgroesa'r prynwr pan wel fod yn rhaid iddo ef dalu 5/- yn ychwanegol at bris ei fyglys os j pryn ef ar y Sul. Oni ddylem fanteisio ar hyn ? (c) Tybed na fedrem helpu cynildeb yn fwy effeithiol nag y gwnawn ? Mae'r chwareudai a'r darlundai yn orlawn, fel y tafarndai, ac arian gwerthfawr yn cael eu gwastraffu fel dwfr. Nid yw'r bobi yn dychmygu am y tlodi a'r cyni sydd i ddilyn y rhyfel, nac am y cymorth rodd- ant i'r gelyn i'n concro trwy eu gwastraff. (4) Ac wele orthrech filwrol wrth y drws onid oes gan yr eglwysi ddyledswy"Gdwd ae a chyfrifoldeb enfawr yn ei wyneb ? Gwae ni os daw Gorfodaeth Filwrol i mewn fel rhan barhaol o bolisi gyhoeddus Prydain. Nid yn unig newidia holl nodwedd bywyd ein hieuenctyd, ond gwna ryfel arall yn bosibl yn hwyr neu hwyrach. Mae ein holl draddodiadau ynglyn a rhydhid a chrefydd fel Eglwysi Rhyddion yn y glor- ian, ac os na ddeffrown dygir ein dinas- fraint oddiarnom. Ymhob gwlad lie mae Gorfodaeth mae awyr y barracks yn farwol i grefydd, a bydd felly ym Mhrydain. Yn aivr y mae i ni ofalu na bydd unrhyw fesur o'r fath yn ddim amgen na pheth dros amser, a buddiol fyddai i ni gofio mai blaen y cun yw'r mesur yngolwg y rhai sydd wedi gwaeddi fwyaf am dano. Yr oedd rhyddid yn annwyl i'n tadau, ac nid yn ddibris y dylem ei beryglu. (5) Gwna'r eglwysi fel rheol eu goreu ynglyn a'r mil wyr ieuaiac sydd wedi mynd allan o'u plith, a da gennym ddeall fod darpa-riadau rhagorol yn cael eu gwneud ar eu cyfer yn y gwersylloedd i'w diogelu yn foesol a chrefyddol; ac mae'r Cad- fridog Owen Thomas yn bwriadu ychwan- egu yn fawr atynt, ynglyn a'i gynllun godidog ar gyfer y catrodau Cymreig, yn y mlsoedd alyfodol. Ond synasom ddeall fod cannoedd o filwyr Cymreig wedi eu gadael i fyned allan o'u heglwysi heb gymaint a Thastament ganddynt. Diffyg meddwl oedd hyn yn daiau, ond hyderwn y gofala pob eglwys o hyn allan wneud y diffyg hwn i fyny. Gwerthfawrogir rhodd o Destament gan y milwr, ac mae hyn yn gymorth mawr i'r caplan hefyd. Geflir cael nn Cymraeg a Saesneg o'r Gym- deithas Feiblaidd, a phe tollid ar cigar- ettes i'w bwrcasu, ni byddai niwed yn y byd. Dywed un o brif feddygon milwrol Caerdydd fod llawer gormod o ysmygu ymysg y milwyr yn y ffrynt a gartref. Darparer hefyd bob cysuron' i'w cyn- hesu a'u civdu yn yr oerfel a'r gwlyban- aniaeth ond uwchlaw popeth ysgrifen- ner yr. ami atynt, a gweddier yn barhaus drostynt. (6) Hyderwn y gwel 1916 ddiwedd y rhyfel, a dylem baratoi ar gyfer dychwel- iad y milwyr. Gwyddant bellach beth yw gwerth crefydd, ac mai ei gwir sylwedd yw Crist Ei Hun. Ni bydd ganddynt flas nac amynedd at fan betheuach, ac ni bydd ffiniau enwadol mor bwysig ya eu golwg. Bydd eraill, mae'n wir, yn dod yn ol yn fwy anystyriol nag erioed, a gosodir treth drom arnom fel canlynwyr Crist i gwrdd a'r sefyllfa. Bydd raid wrth gydweithrediad ar ran yr holl enwadau, a chyd-drefnu yn weddigar a myfyrgar, ond gyda bendith y Nef diau y byddwn barod i'w hwynebu. Nis gall y bechgyn, na'r eglwysi, na t Chymru na Phrydain, fod yr un fath ar ol myned trwy bair y ffwrnes mor boeth a hyn. Hyderaf y ceir ni wedi ein puro oddiwrth bob materolrwydd a gwanc am ddifyrioH a phleser, ac y gwelir ni'wedi dychwelyd at v sylweddap mawr, i aros bellach ynddynt. Aethom i ryfel i achub y gwan ac i rwystro rhwysg a rhaib pobl wedi ymwerthu i hunangais, gan daflu ohonynt i'r gwynt bob ystyriaeth o iawn der a chywirdeb ac anrhydedd a rhyddid a dyngarwch, Teimlaf fod dydd y fuddug- oliaeth yn ymyl, a hyderaf na wel y dydd hwnnw ni yn waeth ein delfrydau a'n cyflwr nag oeddym pan aethom i mewn. Na ddifwyner y dydd gan ddialgarwch a chasineb fo'n peryglu yr heddwch a sicrheir, gan gofio mai yr Arglwydd bia dial a thalu, ac nid dyn. Ein hamcan bellach ddylai fod-gwylio na bo trych- ineb o'r fath byth eto yn gorddiwes y bvd. A'r unig ffordd effeithiol i ddiogelu hynny yw hyrwyddo dyfodiad Ei Deyrnas Ef ymhlith pob cenedl dan haul. Duw a drugarhao wrthym ac a'n ben- dithio a thywynned Ei wyneb arnom. i Duw a'n bendithia, a holl derfynau y J ddaear a'i hofnant Ef.' Yr eiddccb, yn rhwymau'r Efengyl, H. M. HUGHES. I Llywydd Undeb Cenedlaethol Eglwysi J Efengylaidd Cymru. Caerdvdd, lonawr 7fed, 1916.

[No title]

Advertising